Pronunciation Guide
In Welsh words the stress usually falls on the last but one syllable (a syllable is a unit of sound). Putting stress on a syllable means lengthening the sound with more emphasis in the voice.
For example, people with a Welsh accent would pronounce the surname Meredith as Mer-ed-ith, with the last sound but one ‘ed’ stressed. People with an English accent would tend to put equal weight on all three syllables – Mer-ed-ith.
If the stress falls on the last syllable of a Welsh word it is usually marked by an accent e.g. carafán. There are very few words like this in Welsh.
Try saying these words: – canol – canolfan. The stress moves on each time a unit of sound or syllable is added.
Abbreviations used
(adj) adjective- a describing word
(b) benywaidd – feminine (noun)
(col) colloquial– a word used in one area of Wales
(au) ….(s) plurals e.g. shop(s) – siop(au)
adre(f) (f) not pronounced
{rhed} root/stem of the verb e.g. rhedeg {rhed-}
(t.ll.) treiglad llaes – the word causes an aspirate mutation
(t.t.) treiglad trwynol – the word causes a nasal mutation
(t.m.) treiglad meddal – the word causes a soft mutation
(adj.) adjective
….(to) verb e.g. talk (to) – to talk
(tag) tags are short questions that we put on the end of sentences such as ‘…isn’t it?’
N.W. a word used in North Wales
S.W. a word used in South Wales
Further resources
For a complete learner’s dictionary I recommend Heini Gruffudd’s Welsh Learner’s Dictionary, and for a comprehensive online dictionary go to Geiriadur Prifysgol Cymru.
]]>Jump down to: Fiction / Translations and adaptions / Non-fiction / Grammar and dictionaries
| E-Ffrindiau Gan: Lois Arnold Pris: £7.99 Iaith: Cymraeg syml, with vocabulary at the bottom of each page Addas: Mynediad & Sylfaen Cyhoeddwr: Gomer | Disgrifiad Gwales: Stori am ddwy ffrind sy'n cyfnewid negeseuon e-bost ac yn dysgu Cymraeg. Athrawes Ymarfer Corff sy'n byw yn agos i Sydney yn Awstralia yw Ceri, ac mae Sara, ei e-ffrind, yn byw mewn pentref heb fod yn bell o Gaerdydd ac yn teithio i'r brifddinas bob dydd i weithio mewn swyddfa. Deunydd darllen i ddysgwyr Cymraeg ar lefel mynediad. A story about two friends exchanging e-mails and learning Welsh. Ceri is a PE teacher in a school near Sydney in Australia. Sara, her e-friend, lives in a village not far from Cardiff and commutes to the city every day to work in an office. Reading material for Welsh learners at entry level. | ![]() |
| Sgŵp! Gan: Lois Arnold Pris: £7.99 Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page Addas: Canolradd & Uwch Cyhoeddwr: Gomer | Disgrifiad Gwales: Nofel ysgafn a doniol ar gyfer Dysgwyr Lefel Sylfaen Dau a Lefel Canolradd am y newyddiadurwraig Lowri Glyn sy'n teimlo bod ei gwaith ar bapur newydd Post Pen-y-bae yn ddiflas iawn, hyd nes i bopeth newid un diwrnod! Geirfa ddefnyddiol ar bob tudalen. A humorous novel for Welsh Learners Foundation Level Two and Intermediate Level. Journalist Lowri Glyn feels that life on the newspaper Post Pen-y-bae is very dull, until everything changes one day! Useful vocabulary on each page. | ![]() |
| Bywyd Blodwen Jones Gan: Bethan Gwanas Pris: £3.99 Iaith: Cymraeg Addas: Canolradd Cyhoeddwr: Gomer Two other books follow in this series: Blodwen Jones A'r Aderyn Prin and Tri Chynnig I Blodwen Jones | Disgrifiad Gwales: Dyddiadur doniol Blodwen Jones, llyfrgellydd sy'n cadw gafr ac yn breuddwydio am briodi ei thiwtor Cymraeg, ynghyd â throednodiadau geirfaol ar gyfer dysgwyr. The amusing diary of librarian and goat owner Blodwen Jones who dreams of marrying her Welsh tutor, together with glossary footnotes for Welsh learners. Exclusive author insight: Bethan is interviewed by Elin Meek I’m an author- but a Welsh for Adults tutor as well! | ![]() |
| Fi, a Mr Huws Gan: Mared Lewis Pris: £7.99 Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page Addas: Uwch Cyhoeddwr: Y Lolfa Available as Kindle ebook ![]() | Mared Lewis: Er mod i wedi ysgrifennu llawer o lyfrau eraill, Fi, a Mr Huws ydy fy nofel gyntaf i ddysgwyr. Testun y nofel yn fras ydy syndrom y nyth gwag pan mae’r plentyn olaf yn gadael am y coleg gan adael y tŷ yn ddistaw- profiad sy’n gyfarwydd i sawl un ohonom, dwi’n siŵr! Pan mae unig fab y prif gymeriad Lena yn gadael am y Brifysgol, mae hithau yn dechrau cwestiynu ei pherthynas efo’i gŵr Ben. Ydy hi’n ei nabod o gwbl erbyn hyn? A be ydy’r celwyddau mae hi’n dechrau eu darganfod amdano? Er mwyn ceisio llenwi ei bywyd, ac i osgoi gorfod wynebu Dwynwen y gath yn rhy aml, mae hi’n taflu ei hun i sefyllfaoedd newydd. Daw ar draws nifer o gymeriadau gwahanol sy’n ymestyn gorwelion ei byd. Dyma ddechrau ar gyfres o anturiaethau a helyntion sy’n cadw bywyd Lena yn brysur ac yn arwain at tipyn o strach! Exclusive author insight: Interview with Mared Lewis | Mared Lewis: Although I have written lots of other books, Fi a Mr Huws is my first novel for learners. The broad theme of the novel is the empty nest when the last child leaves for college leaving the house quietly- a experience that is familiar to many of us, I'm sure! When the only child of the main character Lena leaves for University, she starts questioning her relationship with her husband Ben. Does she completely know him by now? And what are the lies that she is starting to discover about him? In order to try to fill her life, and to avoid facing Dynwen the cat too often, she throws herself into new situations. She comes across a number of different characters that extend the horizons of her world. This starts a series of adventures and troubles that keep Lena's life busy and lead to a bit of strife! |
| Budapest Gan: Elin Meek Pris: £3.95 Iaith: Cymraeg Addas: Sylfaen & Canolradd Cyhoeddwr: Y Lolfa | Disgrifiad Gwales: Nofel fer i ddysgwyr yng nghyfres y Golau Gwyrdd sy'n cynnwys geirfa wrth ymyl y dudalen. Wrth weld nad oes modd i'w perthynas weithio mae cwpwl ifanc sy'n cwrdd yn y coleg yn dilyn llwybrau gwahanol ... ond newidir popeth flynyddoedd yn ddiweddarach gyda chyfarfyddiad yn Budapest A short novel in the Golau Gwyrdd series, which includes on-page vocabulary. A young couple decide to break up after their college romance goes wrong. They follow different paths in life, but all this changes after a chance meeting in Budapest ... Exclusive author insight: Putting Wales on the Map | ![]() |
| Dysgu Byw Gan: Sarah Reynolds Pris: £7.99 Iaith: Cymraeg Addas: Uwch Cyhoeddwr: Gomer Exclusive author insight: Sarah introduces Dysgu Byw | Mae Siwan yn actores. Wel, mae hi’n ‘gorffwys’ ar hyn o bryd, ac yn y cyfamser, mae hi’n ennill ei thamaid fel tiwtor Cymraeg. Dyma’i hanes hi a’i grŵp hynod amrywiol o ddysgwyr; rhai’n dda a rhai... ychydig yn wahanol i’r arfer. Ond mae mwy na gwersi iaith yn y nofel hon. Siwan is an actress. Well, she is 'resting' at the moment, and in the meantime she is getting by as a Welsh tutor. Here is her story and a varied group of learners... some good and some ... a bit different from the usual. But there is more than language teaching in this novel. Mae Dysgu Byw yn nofel ddoniol, fyrlymus ac ychydig bach yn cheeky. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth difyr i'w ddarllen gyda diod fach a’ch traed i fyny, rydych chi wedi dod o hyd i’ch partner perffaith. Dysgu Byw is a novel that is funny, bubbly and a little bit cheeky. If you are looking for something entertaining to read with a little drink and your feet up, then you have found the perfect partner. | ![]() Adolgygiad gan Bethan Gwanas: “Chwa o awyr iach! Dwi wedi gwenu, gwingo a chwerthin yn uchel. Mae hon yn berl. "Breath of fresh air! I've smiled and laughed out loud. This is a pearl." |
Jump up to: Fiction / down to Translations and adaptions / Non-fiction / Grammar and dictionaries
| Harri Potter a Maen yr Athronydd Gan: JK Rowling Wedi'i gyfieithu gan: Emily Huws Pris: £13.49 (hardback) Iaith: Cymraeg Addas: Uwch Cyhoeddwr: Bloomsbury | Cyfieithiad Cymraeg o Harry Potter and the Philosopher's Stone, y llyfr cyntaf yng nghyfres hynod boblogaidd Harry Potter am flwyddyn gyntaf anturus bachgen un ar ddeg oed yn Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts. A Welsh translation of Harry Potter and the Philosopher's Stone, the first book in the highly popular Harry Potter series about a teenage boy's adventurous first year at Hogwarts School of Witchcraft and Wizardry. | |
| Roald Dahl books Wedi'i gyfieithu gan: Elin Meek Iaith: Cymraeg Addas: Canolradd & Uwch Cyhoeddwr: Rily | 14 of Roald Dahl's books have been translated by Elin Meek, and all contain Quentin Blake's illustrations: Y Bys Hyd (The Magic Finger) Cerddi Ffiaidd (Revolting Rhymes) Charlie a'r Ffatri Siocled Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr (Charlie and the Great Glass Elevator) Y CMM (The BFG) Y Crocodeil Anferthol (The Enormous Crocodile) Danny Pencampwr y Byd (Danny The Champion of the World) Y Gwrachod (The Witches) James a'r Eirinen Wlanog Enfawr (James and the Giant Peach) Jiraff a'r Pelican a Fi Matilda Mr Cadno Campus (Fantastic Mr Fox) Nab Wrc (Esio Trot) Pastai Odi (Rhyme Stew) Penillion Ach-a-fi! (Dirty Beasts) Y Twits Exclusive author insight: Elin Meek explains how she translated these works. | |
| Merch Ar-lein Gan: Zoe Sugg Wedi'i addasu gan: Eiry Miles Pris: £8.99 Iaith: Cymraeg Addas: Canolradd Cyhoeddwr: Rily | Mae cyfrinach gan Penny. Mae hi'n defnyddio ffugenw ar-lein i ysgrifennu blog sy'n gwbl agored am ei holl broblemau â ffrindiau, ysgol, ei theulu gwallgof a'r pyliau panig sy'n dechrau rheoli ei bywyd. Er mwyn ceisio helpu, mae'r teulu'n mynd â hi i Efrog Newydd, ac mae'n cwrdd â Noa, Americanwr ifanc, golygus, ac yn sydyn, mae'r blog yn llawn hanes Penny'n syrthio mewn cariad. Penny has a secret. She uses an online pseudonym to write a blog, in which she is completely open about all her problems with friends, school, her crazy family and the panic attacks that begin to take over her life. To try to help, the family take her to New York, where she meets Noa, a handsome young American, and suddenly the blog is full of how Penny falls in love. Exclusive translator's insight: Eiry Miles: Creating new courses for learning Welsh. | ![]() |
| Metamorffosis Gan: Franz Kafka Pris: £6.00 Iaith: Cymraeg Addas: Canolradd Cyhoeddwr: Iawn | Mae clasur Franz Kafka - Metamorffosis yn awr yn lyfr i ddysgwyr C ymraeg. Help gyda geiriau a gramadeg i bob paragraff i helpu dysgwyr Cymraeg gyda darllen. Mae gwaith Kafka wedi'i gyfieithu ac yn awr gyda geirfa a gramadeg syml. Stori fer sy'n ddelfrydol i ddysgwyr lefel canolradd. Franz Kafka's classic 'Metamorphosis' is now an easy reader book for intermediate level Welsh learners. Learner-friendly vocabulary and grammar tips for each paragraph to help open your path to better reading in Welsh. You think you have terrible mornings? Poor old Gregor wakes up to find that it has all gone horribly, horribly wrong! | ![]() |
Jump up to: Fiction / Translations and adaptions / down to Non-fiction / Grammar and dictionaries
| Ar Ben Ffordd Golygydd: Meleri Wyn James A series of 6 books Pris: £19.99 for all 6 or £4.99 each Iaith: Cymraeg syml Addas: Mynediad (x2), Syfaen (x2) a Canolradd (x2) Cyhoeddwr: Y Lolfa | Mae’r gyfres o 6 llyfr yn arwain dysgwyr ymlaen o’r amser maen nhw’n dechrau darllen (Lefel 1: Mynediad) at Lefel 2 (Sylfaen), i rai sy’n dysgu Cymraeg ers blwyddyn neu ddwy, a Lefel 3 (Canolradd), i rai sy’n fwy profiadol. Gobaith cyhoeddwyr y gyfres yw y bydd yn gymorth i baratoi dysgwyr Cymraeg ar gyfer darllen llyfrau Cymraeg i oedolion yn annibynnol. The series of 6 books leads learners from when they start reading (Level 1: Foundation) to Level 2 (Sylfaen), for those who have been learning Welsh for a year or two, and Level 3 (Intermediate), to those who are more proficient. The publishers of the series hope that it will help prepare Welsh learners to read Welsh books for adults independently. Casgliad o ddarnau darllen difyr ac amrywiol gyda geirfa ar bob tudalen yw cynnwys y cyfrolau, ac mae’r arlwy yn amrywio o straeon byrion i erthyglau, cyfweliadau, jôcs a phosau. Mae’r testunau wedi’u hysgrifennu gan arbenigwyr yn y maes dysgu Cymraeg, megis Heini Gruffudd ac Elwyn Hughes, ac awduron adnabyddus fel Bethan Gwanas, Lleucu Roberts a Geraint V Jones. The content of the volumes is a collection of entertaining and varied reading pieces with a glossary on each page, and the content varies from short stories to articles, interviews, jokes and puzzles. The texts have been written by experts in the field of Welsh learning, such as Heini Gruffudd and Elwyn Hughes, and well-known authors such as Bethan Gwanas, Lleucu Roberts and Geraint V Jones. “Pwrpas y llyfrau yw meithrin a datblygu sgiliau darllen dysgwyr ynghyd â gwella sgiliau ieithyddol mewn modd hwyliog a diddorol, a darparu deunydd darllen difyr ac addas fydd yn eu harwain ymlaen o un cam i’r nesaf,” meddai Meleri Wyn James, golygydd y gyfres. "The purpose of the books is to foster and develop learners' reading skills and improve language skills in a fun and interesting way, and provide entertaining and appropriate reading material that will lead them from one step to the next," said Meleri Wyn James, the series editor. | ![]() |
| Ble Mae'r Gair? Gan: Jo Knell Pris: £4.99 Iaith: Cymraeg Addas: Mynediad Cyhoeddwr: Gomer | Jo Knell: Ysgrifennais i ‘Ble Mae’r Gair?’ i roi ymarfer darllen i bobl sy’n dechrau dysgu Cymraeg. Yn y llyfr mae posau fel chwileiriau, nadredd geiriau, anagramau, codau ac atalnodi. Hefyd mae ychydig o ffeithiau diddorol a jôcs! Mae darllen Cymraeg yn help mawr wrth ddysgu Cymraeg ond ar y dechrau mae’n gallu bod yn anodd iawn i ddeall stori. Roedd Mair Rees, golygydd y llyfr, wedi cael y syniad am lyfr posau syml a gofynnodd hi i fi baratoi’r llyfr. Mae geirfa’r posau yn dilyn Cwrs Mynediad CBAC felly geiriau pob dydd ydyn nhw. Dyn ni’n gwerthu’r llyfr yn ein siop lyfrau, Cant a Mil Vintage yng Nghaerdydd ac mae’n ddiddorol gweld pwy sy’n prynu’r llyfr. Wrth gwrs weithiau mae dechreuwyr yn prynu’r llyfr ond hefyd mae rhieni yn prynu’r llyfr achos bod eu plant yn mwynhau chwileiriau. Hefyd mae pobl sy wedi dysgu mwy o Gymraeg yn prynu’r llyfr achos bod y posau’n hawdd iddyn nhw ac maen nhw’n gallu ymlacio gyda’r Gymraeg cyn mynd i gysgu! Gobeithio byddwch chi’n mwynhau’r posau. Os oes syniadau gyda chi am lyfrau eraill cysylltwch â fi, bydda i’n hapus iawn i glywed oddi wrthoch chi! I wrote ‘Ble Mae’r Gair?’ to give people starting to learn Welsh some reading practice. In the book there are wordsearches, word snakes, anagrams, codes and punctuation. There are also some interesting facts and jokes! Reading Welsh is a big help when learning Welsh but at the beginning it can be very difficult to understand a story. Mair Rees, the editor of the book, had the idea of a simple puzzles book and she asked me to prepare the book. The vocabularly of the puzzles follow the WJEC Cwrs Mynediad (Entry Course) so they are everyday words. We sell the book in our bookshop, Cant a Mil Vintage in Cardiff and it is interesting to see who buys the book. Of course beginners do buy the book but also parents buy the book because their children enjoy wordsearches. People who have learnt more Welsh also buy the book because the puzzles are easy for them and they can relax in Welsh before going to sleep! I hope you enjoy the puzzles. If you have ideas for any other books please get in touch with me, I will be very glad to hear from you! Jo Knell, jo@cantamilvintage.com. | ![]() |
| Cant y Cant Gan: R Alun Charles Pris: £7.99 Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page Addas: Canolradd & Uwch Cyhoeddwr: Gomer | A set of 100 articles, each of around 100 words. The articles are grouped into 10 themes, with vocabulary available at the bottom of the page. | ![]() |
| Speak Welsh Outside Class- You Can Do It Gan: Lynda Pritchard Newcombe Pris: £5.99 Iaith: Saesneg Addas: Mynediad, Sylfaen & Canolradd Cyhoeddwr: Y Lolfa | Lynda Pritchard Newcombe: Mae'r llyfr hwn yn disgrifio sut i oresgyn pryder ac ennill hyder pan mae dysgwyr yn defnyddio Cymraeg. Mae llawer o lyfrau a CDs ar gael i helpu dysgu ond does dim llawer o lyfrau wedi cael eu cyhoeddi i roi cyngor i ddysgwyr ar sut i ddefnyddio’r iaith yn y gymuned. Nod y llyfr yw calonogi dysgwyr i sgwrsio gyda’r bobl ro’n nhw’n arfer osgoi. Dw i’n cynnig cyngor ar ddod dros bryder, cynnal cymhelliant a rheoli amser, dysgu geirfa, ynganu a goslef, amharu ar y diwylliant, defnyddio’r rhyngrwyd ac adnoddau’r cyfryngau, cadw cyfnodolyn a dyddiadur a siarad â phobl iaith gyntaf. This book describes how to overcome anxiety and gain confidence when using Welsh. Books and CDs abound on how to learn Welsh – yet little has been published on using Welsh in the community. The aim of the book is to get learners chatting to the people they used to avoid. I offer advice on handling anxiety, sustaining motivation, time management, building up vocabulary, pronunciation and intonation, imbibing the culture, using internet and media resources, keeping a journal and talking with fluent speakers. Exclusive author insight: Why I wrote Speak Welsh Outside Class | ![]() |
| Stori Sydyn A range of stories, factual and fiction, under 100 pages Pris: £1 or £2 each Iaith: Cymraeg Addas: Uwch Cyhoeddwr: Y Lolfa | Angharad Tomos o'r Cyngor Llyfrau: 'Mae'r Storïau Sydyn yn llyfrau byr a sionc sy'n cynnwys llai na 100 tudalen, ac wedi eu hysgrifennu'n arbennig ar gyfer pobl sy'n dymuno gwella eu sgiliau a'u hyder wrth ddarllen. Drwy gynnig llyfrau cryno a darllenadwy rydym yn gobeithio codi hyder darllenwyr a dangos y gall darllen fod yn weithgaredd llawn hwyl ac ysbrydoliaeth i bawb.' Angharad Tomos, from the Welsh Books Council: 'Quick Reads are short, snappy books with fewer than 100 pages each, and are especially written for people who wish to improve their skills and confidence around reading. By taking a bite-sized approach to reading we aim to overcome any confidence issues and show that reading can be a fun and inspiring activity for all.' | ![]() |
Jump up to: Fiction / Translations and adaptions / Non-fiction / down to Grammar and dictionaries
| Welsh Rules Gan: Heini Gruffudd Pris: £14.95 Iaith: Saesneg Addas: Cyhoeddwr: Y Lolfa ![]() | Heini Gruffudd: Dechreuodd Welsh Rules fel Cymraeg Da. Roedd Y Lolfa wedi cael comisiwn gan ACCAC (Awdurdod Cymwysterau Cwiricwlwm ac Asesu Cymru) i wneud llyfr gramadeg i ddisgyblion a myfyrwyr ysgol sy’n dysgu’r Gymraeg yn ail iaith. Fel i £4,000 am wneud y gwaith. Ro’n i’n credu bod hyn yn lot o arian, ond aeth y gwaith yn fwy ac yn fwy, ac yn y diwedd, roedd yr arian yn llawer llai na’r isafswm cyflog. Ond doedd hyn ddim yn bwysig- y peth pwysig i mi oedd bod y llyfr gramadeg yn un defnyddiol. Ond roedd un anhawster. Roedd rhaid i Cymraeg Da fod yn llyfr Cymraeg- roedd rhaid i’r esboniadau fod yn Gymraeg. Felly roedd yr esboniadau weithiau’n defnyddio iaith oedd yn fwy cymhleth na’r gramadeg oedd yn cael ei gyflwyno. Dyna pam penderfynes i, gyda chefnogaeth Y Lolfa, droi Cymraeg Da yn Welsh Rules. Mae sawl peth yn gwneud Welsh Rules yn wahanol i bob llyfr gramadeg arall. Mae e’n cynnwys cartwnau a lluniau. Mae’r rhain yn dangos sut mae’r gramadeg yn gallu cael ei ddefnyddio mewn brawddegau, gyda thipyn bach o hiwmor. Ond y prif beth gwahanol yw bod Welsh Rules yn rhoi sawl cam dysgu i elfennau gramadeg. Mae 20 cam dysgu gan y berfau, mae 19 cam dysgu gan yr arddodiaid, 15 cam dysgu gan ansoddeiriau, 14 cam dysgu gan ragenwau, ac ati. Fel arfer mae llyfrau gramadeg yn taflu gwybodaeth am yr elfennau yma i gyd gyda’i gilydd, ac mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd dysgu’r iaith a dysgu’r gramadeg. Trwy rannu pob elfen yn gamau dysgu, mae’n bosibl i ddysgwyr ddysgu popeth yng ngham un berfau, cam un rhagenwau, cam un cymalau, ac ati, cyn mynd ymlaen i gam 2. Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys ymarferion o sawl math, fel bod dysgwyr yn gallu defnyddio’r gramadeg fel llyfr dysgu. | Heini Gruffudd: Welsh Rules started as Cymraeg Da. The publisher Y Lolfa received a commission from the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales to make a grammar book to school pupils and students learning Welsh as a second language. It was £4,000 to do the job. I thought that this was a lot of money, but the amount of work increased and increased, and in the end, the money was less than the minimum wage. But that wasn't important- the important thing to me was that the grammar book was useful. But there was one difficulty. Cymraeg Da had to be a Welsh language book- the explanations had to be in Welsh. So sometimes the explanations used a language that was more complex than the grammar presented. That was why I decided, with the support of Y Lolfa, to turn Cymraeg Da into Welsh Rules. There are several things that make Welsh Rules different to every other grammar book. It includes cartoons and pictures. These shows how the grammar can be used in sentences, with a bit of humour. But the main different thing about Welsh Rules is that it gives several stages to learning grammar. The verbs have 20 learning stages, the prepositions have 19 learning stages, the adjectives have 19 learning stages, the pronouns have 14 learning stages etc. Usually grammar books throw information about all these elements together, and this makes it difficult to learn the language and grammar. Through sharing each element in learning stages, it is possible for learners to learn everything in one step for one verb, one step for pronouns, one step for clauses and so on before moving on to step 2. The book also includes many types of excercise, so that the learner can use the grammar as a learning book. In conversation with: Awdur Heini Gruffudd a Phrif Weithredwr o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Efa Gruffudd Jones / In Conversation With: Author Heini Gruffudd and Chief Executive of the National Centre for Learning Welsh Efa Gruffudd Jones |
| The Welsh Learner's Dictionary Gan: Heini Gruffudd Pris: £6.95 Iaith: Saesneg i Gymraeg a Chymraeg i Saesneg Addas: All levels Cyhoeddwr: Y Lolfa ![]() | Heini Gruffudd: Pan o’n i’n dysgu oedolion, roedd yn eitha amlwg fod dim geiriadur handi iddyn nhw: roedd geiriaduron Cymraeg yn rhoi rhestr o eiriau, ond ddim yn rhoi help ar sut i ddefnyddio geiriau mewn brawddegau. Dyw’r Welsh Learner’s Dictionary felly ddim yn dilyn patrwm y geiriaduron Cymraeg oedd yng Nghymru ar y pryd. Mae e’n dechrau trwy roi patrwm brawddegau, ac amserau’r ferf, fel bod dysgwyr yn gwybod sut i wneud brawddegau syml. Wedyn yn y geiriadur, penderfynes i gynnwys enghreifftiau o eiriau mewn brawddegau. Ond es i un cam ymhellach. Dyw geiriaduron ddim yn cynnig geiriau fel ‘roedd’. Pam? Am fod ‘roedd’ yn dod o’r ferf ‘bod’. Mae ‘bod’ mewn geiriaduron, ond dyw ‘roedd’ a ‘rydych’ ac ati ddim mewn geiriaduron. Ond mae’r Welsh Learner’s Dictionary yn rhoi ‘roedd’, ‘rwyt’, ‘rwy’ ac ati yn y rhestr o eiriau. Roedd geiriaduron yn rhoi’r arddodiad, fel ‘at’ neu ‘i’, ond doedden nhw ddim yn dangos sut mae’r rhain yn gallu newid i ‘atat ti’ neu ‘iddyn nhw’. Felly penderfynes i gynnwys hyn yn y geiriadur, er mwyn i ddysgwyr allu defnyddio’r rhain heb broblem. Er mwyn i’r geiriadur fod yn un handi, doedd dim pwrpas iddo fe fod yn un mawr. Wrth i ddysgwyr fynd ymlaen trwy’r blynyddoedd dysgu, roedd yn amlwg bod geiriaduron mwy o faint ar gael. Felly fe wnes i gadw’r geiriadur i tua 10,000 o brif eiriau – 20,000 gan gynnwys y Saesneg. Doedd hi ddim yn bosibl gwybod pa 10,000 o eiriau Cymraeg yw’r rhai mwyaf cyffredin, neu’r rhai mwy aml eu defnydd. Efallai y bydd y gwaith sy’n cael ei wneud nawr ar Gorpws y Gymraeg yn rhoi’r wybodaeth i ni. Ond yn 1998, roedd rhaid i fi ddewis geiriau, ar sail y gwaith ro’n i wedi’i wneud mewn dosbarthiadau i oedolion ac wrth ddysgu’r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion. Rwy’n gobeithio bod y geiriadur yn help i lawer o ddysgwyr o hyd– mae e’n dal i werthu’n dda. | Heini Gruffudd: When I was teaching adults, it was quite obvious that there wasn't a handy dictionary for them: Welsh dictionaries gave lists of words, but they didn't give help on how to use words in sentences. So the Welsh Learner's Dictionary didn't follow the pattern of Welsh dictionaries in Wales at the time. It starts through giving patterns of sentences, and verb tenses, so that learners can know how to use simple sentences. Then in the dictionary, I decided to use examples of words in sentences. But I went one step further. Dictionaries don't include words like 'roedd'. Why? Because 'roedd' comes from the verb 'bod'. 'Bod' is in dictionaries, but 'roedd' and 'rydych' and so on aren't in dictionaries. But the Welsh Learner's Dictionary gives prepositions, like 'at' neu 'i', but it doesn't show how these can be used to change to 'atat ti' or 'iddyn nhw'. So I decided to include these in the dictionary, so that learners can use these without a problem. Although the dictionary is handy, there wasn't a need for it to be large. As learners progress through the years of learning, it is obvious that larger dictionaries are available. So I kept the dictionary to about 10,000 main words- 20,000 including the English. It wasn't possible to know which 10,000 Welsh words were most common, or used most often. Perhaps the work being done by the Corpus now will make this information available to us. But in 1998, I had to choose the words, based on the work I've done in adult classes and in teaching Welsh as a second language in schools. I hope that the dictionary is a help to lots of learners still- it continues to sell well. |
| D.I.Y. Welsh Gan: D Geraint Lewis Pris: £9.99 Iaith: Saesneg Addas: All levels Cyhoeddwr: Gomer | A step-by-step guide to building your own Welsh sentences, with exercises and glossary. Exclusive author insight: Geraint Lewis explains more about D.I.Y Welsh. Exclusive column: Geraint Lewis: Y Geiriadaur | ![]() |
| The Routledge Intermediate Welsh Reader Iaith: Explanations in English with articles in Welsh Addas: Canolradd & Uwch Gan: Gareth King ![]() | The Routledge Intermediate Welsh Reader is a comprehensive reader designed to provide varied, stimulating and up-to-date reading material for learners of Welsh at the intermediate level. The Welsh Reader provides a bridge between basic literacy skills and the ability to read full novels and newspapers in Welsh. It consists of thirty-five authentic readings, graded on the basis of complexity of vocabulary, grammar and syntax. These readings are drawn from a range of contemporary sources such as newspapers and magazines as well as novels and historical works. It is ideal for learners who already possess a knowledge of essential grammar and vocabulary and who wish to expand their knowledge of the language through contextualised reading material. Key features include: - Extracts of modern literature and newspaper/magazine articles - Vocabulary lists for quick reference - Short grammar explanations of any complicated structures - Initial consonant mutations marked typographically - Comprehension and discussion questions - Full answer key Suitable for both class use and independent study, The Routledge Intermediate Welsh Reader is an essential tool for facilitating vocabulary learning and increasing reading proficiency. Available as Kindle ebook |
|
Jump up to: Fiction / Translations and adaptions / Non-fiction / Grammar and dictionaries
| Beibl.net Wedi'i cyfieithu gan: Arfon Jones Pris: £15 clawr caled neu yn rhad ac am ddim ar-lein: beibl.net Ar gael o: Gwales Available as Kindle ebook | Disgrifiad Gwales: Y Beibl mewn iaith hawdd i'w deall. Mae beibl.net wedi'i gyfieithu o'r ieithoedd gwreiddiol (Hebraeg a Groeg) i Gymraeg llafar, syml - mae'n berffaith i bobl ifanc, i ddysgwyr ac i Gymry o bob oed sydd am ddeall neges y Beibl yn well. Experience the Bible in your own language. Translated from the original Hebrew and Greek, beibl.net is the bible in everyday Welsh - perfect for young people, those learning the language and even those who are native Welsh speakers. Review by Huw Rowlands Nawr, mae'n gywir cyn belled ag mae'n mynd, ond nid yn ddigon pell. Mae 'Y beibl.net' ar gael mewn copi caled ac ar-lein gyda ffeiliau sain ar gyfer y rhan fwyaf o'r Hen Destament. Dwi ddim wedi mynd tu mewn yr un eglwys ers blynyddoedd ond dwi- fel llawer o bobl eraill- yn cofio ambell i straeon o'r Beibl. A mae hyn yn golygu bod defnyddio'r fersiwn ar-lein- ac mae'r darlleniad yn glir iawn ac yn bwyllog- mae'r atgofion (pa mor waeth) yn eich helpu chi'n casglu o'r cyd-destun ystyron geiriau nad ydych chi'n eu gwybod. Ac er mai geiriaduron ar-lein sy'n ffrindiau gorau i chi, weithiau mae'n ddigon pleserus peidio â'u defnyddio. Now, this is correct as far as it goes but it doesn t go far enough. Beibl.net is available in hard copy and online complete with sound files for most of the Old Testament. I haven’t set foot in a church for years but I- like many other people- remember scraps of bible stories. This means that using the online version- and the reading is very clear and unhurried- the memories (however faint) help you to work out the meaning of words you don’t know from the context. And while online dictionaries are your best friends, it is quite pleasant to not use them sometimes. | ![]() |
| The Old Red Tongue Gan: Gwyn Griffiths & Meic Stephens Pris: £30 Pam addas: Mae pob eitem wedi cael ei chyfieithu i mewn i Saesneg Cyhoeddwr: Francis Boutle | The Old Red Tongue is a major anthology of over 300 Welsh texts – poems, plays, memoirs, essays, extracts from novels and short stories, hymns, eulogies, elegies, medieval prose, political and theological commentaries – from nearly 200 writers covering every period from the 6th century to the present day. As well as being a comprehensive anthology, it is unique in that every item has an English translation plus an introduction to the author and context. It is a perfect introduction to Welsh literature for parallel.cymru readers. Exclusive author insight: An introduction from Gwyn Griffiths. | ![]() |
| Y Llyfrgell Gan: Fflur Dafydd Pris: £8.95 Pam addas: Mae e wedi cael ei addasu i'r ffilm 'Y Llyfrgell' gwyliwch y ffilm yn cyntaf i ddod i nabod y stori a chymeriadau Cyhoeddwr: Y Lolfa Y Llyfrgell (Welsh Edition) | Disgrifiad Y Lolfa: Ar fore oer o Chwefror, yn y flwyddyn 2020, mae Dan, un o borthorion Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wrthi'n cyflawni ei drosedd arferol yn erbyn y gyfundrefn. Mae'r nofel hon yn trawsnewid gofod tangnefeddus y Llyfrgell Genedlaethol yn set theatrig llawn posibiliadau. Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau, 2009. On a cold morning in February 2020, Dan, a porter at the National Library of Wales, is rebelling as usual against the regime. This novel transforms the peaceful space of the National Library into a full theatrical set of possibilities. This won the Daniel Owen Memorial Prize at the Meirion and District National Eisteddfod, 2009. | ![]() |
| The Speckled Band / Y Cylch Brith Gan: Arthur Conan Doyle Wedi'i cyfieithu gan: Eurwyn Pierce Jones Pris: Yn rhad ac am ddim Ar gael ar parallel.cymru | A full paragraph-by-paragraph translation of the Arthur Conan Doyle favourite, "The Adventure of the Speckled Band".![]() “Ofn, Mr Holmes. Arswyd a braw.” Fel y siaradai, cododd rwyden ei fêl yn ôl dros ei phen. “It is fear, Mr. Holmes. It is terror.” She raised her veil as she spoke. | ![]() |
| Pam? Gan: Dana Edwards Pris: £8.99 Pam addas: Mae'r safon o'r iaith yn anffurfiol Cyhoeddwr: Y Lolfa Available as Kindle ebook | Disgrifiad Gwales: Mae Pam? yn dilyn tri ffrind wrth iddynt adael coleg a dechrau gwneud eu ffordd yn y byd yn y degawd cythryblus a chyffrous sy'n arwain at sefydlu Cynulliad i Gymru. Mae'r tri yn rhannu'r un pen-blwydd, ond yn rhannu cyfrinach hefyd, cyfrinach sy'n bygwth dinistrio pob un ohonynt. Pam? follows three friends as they step out into the world after their college days during the exciting and turbulent decade leading to the establishment of the Welsh Assembly. They share the same birthday, together with a secret that threatens to destroy them all. Exclusive author insight: Dana Edwards explains how she wrote here second novel, Am Newid. | ![]() |
| Llinyn Trôns Gan: Bethan Gwanas Pris: £4.95 Pam addas: Mae'r safon o'r iaith yn anffurfiol Cyhoeddwr: Y Lolfa Available as Kindle ebook | Disgrifiad Gwales: Nofel gyfoes ddifyr i ieuenctid gan nofelwraig boblogaidd yn adrodd hanes gwrthdaro a chyfeillgarwch, methiannau a llwyddiannau criw brith o fyfyrwyr TGAU wrth iddynt ddysgu cydweithio ar gwrs mewn canolfan awyr agored. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2001. A contemporary novel for young people by a popular novelist relating the frictions and friendships, failures and successes of a mottley crew of GCSE students as they learn to co-operate on an open-air adventure course. Tir na n-Og Award winner 2001. Exclusive author insight: Bethan is interviewed by Elin Meek I’m an author- but a Welsh for Adults tutor as well! | ![]() |
| Y Nant Gan: Bet Jones Pris: £8.99 Pam addas: Mae'r safon o'r iaith yn anffurfiol Cyhoeddwr: Y Lolfa Available as Kindle ebook | Disgrifiad Gwales: Nofel ddictectif wreiddiol, boblogaidd am ddirgelwch llofruddiaeth yn Nant Gwrtheyrn yn ystod cwrs penwythnos lle mae saith o gymeriadau amrywiol yn dod i loywi eu Cymraeg. An original detective story about a murder mystery set against the backdrop of a weekend Welsh Learner course in Nant Gwrtheyrn. Exclusive author insight: Bet Jones: Sut Ysgrifennais i Y Nant / How I wrote Y Nant. | ![]() |
| O'r Cyrion Gan: Ioan Kidd Pris: £5.99 Pam addas: Straeon byr Cyhoeddwr: Gomer | Disgrifiad Gwales: Casgliad o straeon byrion gafaelgar a modern. Ceir yma straeon wedi'u seilio ar themâu cyffredin, megis y natur ddynol, rhagrith, twyll a hunan-dwyll, perthynas dyn â'i gyd-ddyn, - ond mewn cyd-destunau amrywiol iawn, ac mewn arddull gynnil a chan ddefnyddio ymadroddion bachog. Mae dwy o'r storiau'n cynnwys tafodiaith gyfoethog Cwm Afan. A collection of gripping modern stories. It includes stories based on common themes, such as the human nature, hypocrisy, deceit and self-deceit, relationships, - but in different context, written in a subtle style and using catchy expressions. Two of the stories are written in the Cwm Afan dialect. | ![]() |
| Y Gwreiddyn Caryl Lewis Pris: £7.99 Pam addas: Straeon byr Cyhoeddwr: Y Lolfa Available as Kindle ebook | Disgrifiad Gwales: Cyfrol o straeon byrion yn ymwneud â natur, perthynas dyn â'i gyd-ddyn, cariad a cholled. Mae pob stori, fel y stori deitl, yn ceisio mynd i'r afael â chnewyllyn perthynas y cymeriadau â'i gilydd. A volume of short stories relating to nature, man's relationship with his fellow-man, love and loss. Every story, as the story title, tries to address the core of the relationships with each other. | ![]() |
| Dirgel Ddyn Gan: Mihangel Morgan Pris: £8.99 Pam addas: Mae'r safon o'r iaith yn anffurfiol Cyhoeddwr: Y Lolfa | Disgrifiad Gwales: Cyfrol a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1993, ac a ddisgrifiwyd fel nofel glyfar, ddarllenadwy, sy'n torri cwys newydd yn ein llên. The volume which was awarded the Prose Medal at the 1993 National Eisteddfod and which was described as a clever, readable novel which breaks new ground in our literature. | ![]() |
| Diffodd y Sêr: Hanes Hedd Wyn Gan: Haf Llewelyn Pris: £5.95 Pam addas: Mae'r safon o'r iaith yn anffurfiol. Hefyd, mae e fersiwn Seasneg Cyhoeddwr: Y Lolfa | Disgrifiad Gwales: Nofel hanesyddol yw Diffodd y Sêr. Mae'r stori wedi'i seilio ar hanes Hedd Wyn ac mae'r Rhyfel Byd Cyntaf yn gefndir i'r digwyddiadau. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2014. Ellis has to become a soldier, like dozens of other young men from the Trawsfynydd area, during the First World War. But Anni looks up at the stars each night and wishes that her brother could come home to Yr Ysgwrn, especially after seeing the terrible effect the fighting has had on the father of her best friend. A special prize is waiting for Ellis if he returns home safely... Exclusive author insight: Creu Diffodd y Sêr: Nofel Hedd Wyn / Creating An Empty Chair: a novel about Hedd Wyn Available as Kindle ebook (Cymraeg) Available as Kindle ebook (English) | ![]() |
| Ceffyl Rhyfel Wedi'i cyfieithu gan: Casia William Pris: £6.00 Pam addas: Mae e wedi cael e cyfieithu o fersiwn Saesneg, War Horse Cyhoeddwr: Carreg Gwalch | Disgrifiad Gwales: Stori rymus am geffyl a'i gyfaill yn cael eu gwahanu ar eu fferm yn Nyfnaint ac yn cael eu dal ym merw erchyll brwydro y Rhyfel Byd Cyntaf yw hon. Mae'r awdur, Michael Morpurgo, yn feistr ar y grefft o adrodd stori afaelgar. Addasiad Cymraeg o War Horse. From master storyteller Michael Morpurgo comes an incredibly moving story about one horse's experience in the deadly chaos of the First World War. In 1914, Joey, a young farm horse, is sold to the army and thrust into the midst of the war on the Western Front. With his officer, he charges towards the enemy, witnessing the horror of the frontline. | ![]() |
| Pluen Gan: Manon Steffan Ros Pris: £5.99 Pam addas: Mae llawer o straeon Manon yn fyr a hygrych Cyhoeddwr: Y Lolfa Available as Kindle ebook | Disgrifiad Gwales: Nofel i blant hŷn a phobl ifainc gan yr awdures boblogaidd Manon Steffan Ros, sy'n dilyn hanes Huw wrth iddo baratoi prosiect am yr Ail Ryfel Byd dros yr haf. Ond mae pethau rhyfedd yn digwydd pan mae'n dechrau ymchwilio i gyfrinach brawd ei nain, a hithau yn dioddef o dementia. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2017. A novel for older children and young adults by popular author Manon Steffan Ros, which follows Huw as he prepares his project on the Second World War during the summer holidays. Strange things happen as he begins to explore a secret relating to his grandmother's brother in this endearing story. Mae Manon wedi ysgrifennu llawer o lyfrau sy'n addas am dysgwyr gyda phrofiad, gan gynnwys Inc, Hunllef ac AI Enillodd Manon y Fedal Ddrama yn Eisteddfodau Cenedlaethol Eryri (2005) ac Abertawe (2006). Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2010 a 2012 gyda’r ddwy nofel i blant, Trwy’r Tonnau a Prism. | ![]() |
| Macbeth Wedi'i cyfieithu gan: Gwyn Thomas Pris: £6.95 Pam addas: Os dych chi'n hoffi Shakespeare, dych chi'n mynd i fod cyfarwydd gyda'r fersiwn Gymraeg Cyhoeddwr: Barddas | Disgrifiad Barddas: Cyfieithu trasiedi fawr Shakespeare, Macbeth ar gyfer cynhyrchiad cyffrous Theatr Genedlaethol Cymru oedd un o gymwynasau olaf y diweddar Athro Gwyn Thomas i lenyddiaeth Cymru. Shakespeare's great tragedy, Macbeth, for the exciting production of Theatr Genedlaethol Cymru was one of the last gifts to Welsh literature from the late Professor Gwyn Thomas. | ![]() |
| Dan y Wenallt Wedi'i addasu gan: T. James Jones Pris: £9.99 Pam addas: Os dych chi'n hoffi Dylan Thomas, dych chi'n mynd i fod cyfarwydd gyda'r fersiwn Gymraeg Cyhoeddwr: Gomer | Disgrifiad Gwales: Yr hen glasur Dan y Wenallt ar ei newydd wedd. Argraffiad newydd i gyd-fynd â chanmlwyddiant geni Dylan Thomas. Rhagair gan Walford Davies. A revised edition of Dan y Wenallt, the Welsh adaptation of Under Milk Wood, published to coincide with the Dylan Thomas centenary celebrations. | ![]() |
| Paent! Gan: Angharad Tomos Pris: £5.99 Pam addas: Mae'r safon o'r iaith yn anffurfiol Cyhoeddwr: Carreg Gwalch | Disgrifiad Gwales: Nofel sy'n dangos sut mae un haf tyngedfennol yn hanes ein gwlad yn effeithio Robert. Daw miri arwisgo Siarl yng Nghastell Caernarfon ac ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i gael arwyddion dwyieithog yn ystod haf 1969 yn fyw yn y nofel hon. A novel for children based on events relating to the activities of Cymdeithas yr Iaith during the summer of 1969, when Prince Charles is invested at Caernarfon Castle and when the campaign for bilingual road signs gathers momentum. | ![]() |
| Chwynnu Gan: Sioned Wiliam Pris: £8.99 Pam addas: Mae'r safon o'r iaith yn anffurfiol Cyhoeddwr: Y Lolfa Available as Kindle ebook | Disgrifiad Gwales: Ail nofel lawn ffraethineb yr awdures Sioned Wiliam, enw cyfarwydd ym myd comedi y mae ei nofel gyntaf, Dal i fynd, yn cael ei datblygu'n gyfres deledu. Mae'r nofel ddiweddaraf yn llawn hiwmor wrth bortreadu cymeriadau difyr mewn sefyllfaoedd doniol a dwys. A second witty novel from author Sioned Wiliam, whose popular first novel, Dal i Fynd, is being developed into a TV series.The latest novel is full of humour following the ups and downs of the lives of entertaining characters. | ![]() |