Di means without/less. Here are examples of it in use.
calon heart > digalon downhearted/depressed
gwaith work > diwaith unemployed
lliw colour > di-liw colourless
clem clue > di-glem clueless (colloquial)
priod married > di-briod unmarried
cartref home > digartref homeless
galw am call for > di-alw-amdano uncalled for (it)
asgwrn cefn back bone > di-asgwrn-cefn spineless
pen draw end > di-ben-draw endless
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Roedd Ffred yn teimlo'n ddigalon ar ôl ffraeo â Sandra
Ffred was feeling depressed after fighting with Sandra
2. Mae Twm yn ddiwaith ar ôl colli'i swydd e yn yr archfarchnad
Twm is unemployed after losing his job in the supermarket
3. Be' yw'r hylif di-liw 'ma yn y botel heb label arni?
What's this colourless liquid in the bottle without a label on?
4. O, Ffred, ti mor ddi-glem - ti'n achosi problemau bob tro!
Oh, Fred, you're so clueless - you're always causing problems!
5. Roedd fy wncwl i'n aros yn ddi-briod drwy gydol ei oes e
My uncle remained unmarried throughout his life
6. Mae gormod o bobl ddigartre'n byw ar strydoedd Caerdydd y dyddiau 'ma
There are too many homeless people living on the streets of Cardiff these days
7. Dyna oedd sylw di-alw-amdano, ’achan!
That was an uncalled-for comment, mate!
8. Mae'r gwleidyddion i gyd mor ddi-asgwrn-cefn heddi'!
All the politicians are so spineless today!
9. Os byddwn ni'n ennill y loteri, gallwn ni hala dyddiau di-ben-draw yn yr haul!
If we win the lottery, we can spend endless days in the sun!
10. Gad i ni fynd i'r pentre' di-sôn-amdano 'na yng Nghanolbarth Cymru
Let's go to that little-mentioned village in mid-Wales
11. Mae'r athrawes 'na yn yr ysgol yn ddi-ail
That teacher in the school is second-to-none
12. Roedd y plant mor di-barch tuag at yr hen ddyn
The children were so disrespectful towards the old man
13. Mae'r athro'n ddibrofiad ofnadw'!
The teacher's awfully inexperienced!
14. Roedd y rhaglen deledu 'ma'n rhy ddichwaeth i fi, a bod yn onest
That television programme was too tasteless for me, to be honest
15. Rhaid i chi gofio taw swydd ddi-dâl yw hon!
You must remember that this is an unpaid job!
16. Roedd y milwyr yn sefyll mewn rhengoedd di-dor
The soldiers were standing in unbroken ranks
17. Wyt ti'n siŵr bod y barnwr yn ddi-dderbyn-wyneb?
Are you sure that the judge is impartial?
18. Mae'r ymgyrchwyr yn hollol ddi-droi’n-ôl
The campaigners are totally resolute
19. Roedd ei fab e mor ddi-feind nes iddo gael y ddamwain
His brother was so careless until he had the accident
20. Y gwirionedd di-wad yw'ch bod chi wedi colli'r arian oll!
The undeniable truth is that you have lost all the money!