Cynffoneiriau

Nodwch fod Cynffon yw Tail a Geiriau sy'n golygu words. Felly, yn llythrennol, cynffoneiriau yw Tailwords – hynny yw, Tags yn Saesneg.
Agwedd bwysig o lafar pob dydd yw'r rhain, sef ymadroddion fel aren’t I, don’t you, won’t you, aren’t there. Edrychwch ar y dabl isod:

Note that Cynffon is Tail and Geiriau means words. So, Cynffoneiriau literally means  tailwords - tags in English.
They are an important part of everyday speech.  Tags are phrases such as - aren’t I, don’t you, won’t you, aren’t there, etc.  See table below:

Cynffoneiriau yn y Amser Presennol / Present Tense Tags

‘On’d’ tags‘Nag’ tagsSaesneg
On’d ydw i?Nag(yd)w i?Aren’t/don’t I?
On’d wyt ti?Nagwyt ti?Aren’t/don’t you?
On’d yw e?Nagyw e?Isn’t/doesn’t he?
On’d yw hi?Nagyw hi?Isn’t/doesn’t she?
On’d (yd)yn ni?Nagyn ni?Aren’t/don’t we?
On’d dych chi?Nagych chi?Aren’t/don’t you?
On’d (yd)yn nhw?Nagyn nhw?Aren’t/don’t they?
On’d ife?Nagife?Any of the above - emphatic
On’d oes e?Nagoes e?Isn’t/Aren’t there?

e.e. Mae e’n dda, on’d yw e?
Mae e’n dda, nag yw e?

(Rwyt) ti’n lico canu, on’d wyt ti?
(Rwyt) ti’n lico canu, nagwyt ti?
You like singing, don’t you?

Yn llawn, mae'r cynffoneiriau i gyd yn cynnwys y gair 'Onid' ('is not') ond bydd pawb yn hepgor y sain 'i' ar lafar, ac o ganlyniad i hyn y byddwn ni'n ysgfrifennu 'on'd' gyda 'chollnod' ('apostrophe'). Ar lafar mewn llawer o ardaloedd, bydd pobl yn dweud 'Nag' yn lle 'On'd'.

Bydd yn bosibl defnyddio'r rhain gyda'r Amser Perffaith (gydag 'wedi'). Fodd bynnag, bydd llawer o bobl yn dweud 'On'd do fe' ar lafar, e.e.

Mae hi wedi mynd, on’d yw hi?     She’s gone, hasn’t she?
Mae hi wedi mynd, nagyw hi?       She’s gone, hasn’t she?
Mae hi wedi mynd, on’d do fe?     She’s gone, hasn’t she? (Yn llythrennol 'She's gone, didn't it?')

Os byddwn ni''n newid trefn y geiriau er mwyn pwyslais, wedyn ‘On’d ife’ neu ‘Nagife’ fydd y cynffonair briodol. Ymhellach, wedyn 'Ie / Nage fydd yr atebion ('Yes / No'), e.e.

Maen nhw’n ennill, on’d (yd)yn nhw?
Maen nhw’n ennill, nagyn nhw?
They are winning, aren’t they?

 

e.g. He is good, isn’t he?
Mae e’n dda, on’d yw e? / nagyw e?
He is good, isn’t he?

You like singing, don’t you?
(Rwyt) ti’n lico canu, on’d wyt ti? / nagwyt ti?

On’d the apostrophe stands for ‘i’ - onid - is not.
Nag is used for the tags instead of on’d in speech in many areas.

They can also be used with the perfect (wedi) tense, although many people use the past tag ‘on’d do fe’ in speech.

Mae hi wedi mynd, on’d yw hi / nagyw hi? She’s gone, hasn’t she?
Mae hi wedi mynd, on’d do fe? She’s gone, hasn’t she?

If the word order is changed for emphasis, then the ‘on’d ife’ or ‘nagife’ tag is used and the answers are Ie and Nage.

Maen nhw’n ennill, on’d (yd)yn nhw? or nagyn nhw?
They are winning, aren’t they?

 

Nhw sy’n ennill, on’d ife?
Nhw sy’n ennill, nagife?
They're winning, aren't they? (Yn llythrennol, '(It’s) they who are winning, isn’t it?')

On’d oes e? / Nagoes e?

Ynganiad yma yw ‘On’d ôs e? / Nagos e?

Os byddwn ni'n defnyddio 'Mae' gydag enw pendant, gyda rhagenw, neu gyda'r fannod ('y / 'r' / yr' - 'the'), wedyn bydd y frawddeg hon yn bendant (hynny yw, bydd yn golygu 'is / are'), a bydd rhaid i ni ddefnyddio ‘On’d yw e? / On’d yw hi?’ fel y cynffonair priodol, e.e:

Mae e’n mynd, on’d yw e?               He is going, isn’t he?
Mae hi’n mynd, on’d yw hi?            She is going, isn’t she?
Mae Ffred yn mynd, on’d yw e?      Ffred is going, isn’t he?
Mae’r bwyd ar y ford, on’d yw e?    The food is on the table, isnt it?

Ond os byddwn ni'n defnyddio 'Mae' gydag enw amhendant, wedyn bydd y frawddeg hon yn amhendant (hynny yw, bydd yn golygu 'there is / there are'), a bydd rhaid i ni ddefnyddio ‘On’d oes? / Nagoes?’ fel y cynffonair priodol, e.e:

Mae bwyd ar y ford, on’d oes?
There is food on the table, isn’t there?

Mae digon o bobl ’ma, on’d oes?
Mae digon o bobl ’ma, nagoes?
There are plenty of people here, aren’t there?

Nhw sy’n ennill, on’d ife? or nagife?
(It’s) they who are winning, isn’t it?

On’d oes e? / Nagoes e? - 'Isn't there?' / 'Aren't there?'

Pronounced ‘on’d ôs e?/nagos e? - isn’t there/aren’t there?

If ‘mae’ is used with a name or a pronoun or ‘the’, it is definite and means ‘is/are’, and the ‘on’d yw e/on’d yw hi’ tag is used, e.g:

Mae e’n mynd, on’d yw e? He is going, isn’t he.
Mae hi’n mynd, on’d yw hi? She is going, isn’t she.
Mae Ffred yn mynd, on’d yw e? Ffred is going, isn’t he.
Mae’r bwyd ar y ford, on’d yw e? The food is on the table, isnt it?

But if ‘mae’ is used for indefinite objects and means ‘there is/are’ , then the ‘on’d oes /nagoes e? tag is used, e.g:
Mae bwyd ar y ford, on’d oes e?
There is food on the table, isn’t there?

Mae digon o bobl ’ma, on’d oes e/nagoes e?
There are plenty of people here, aren’t there?

Cynffoneiriau yn yr Amser Gorffennol

Byddwn ni'n defnyddio'r un ymadrodd ‘On’d do fe’ mewn brawddgeau sy'n sôn am 'fi, ti, fe, hi, ni, chwi, nhw', e.e.

Aeth hi’n gynnar, on’d do fe?     She went early, didn’t she?
Enillais i’r wobr, on’d do fe?       I won the prize, didn’t I?

Er mwyn pwysleisio rhywbeth, byddwn ni'n newid trefn y frawwdeg. Wedyn ‘On’d ife / Nagife?' fydd y cynffonair priodol, e.e.

Enillais i’r wobr, on’d do fe?
I won the prize, didn’t I?

Fi enillodd y wobr, on’d ife?
(It was) me (who) won the prize, wasn’t it? (yn llythrennol)
I won the prize, didn’t I?

Yn Saesneg byddwn ni'n defnyddio tôn llais i bwysleisio fel arfer.

Past Tense Tags

The past tag - ‘on’d do fe’ covers all persons

Aeth hi’n gynnar, on’d do fe? She went early, didn’t she?
Enillais i’r wobr, on’d do fe? I won the prize, didn’t I?

But, as with the present tense, if the word order is changed for emphasis, then the ‘on’d ife/nagife? tag is used, e.g:
Enillais i’r wobr, on’d do fe?
I won the prize, didn’t I?

Fi enillodd y wobr, on’d ife?
(It was) me (who) won the prize, wasn’t it?

Or I won the prize, didn’t I? This is normally emphasised by the tone of voice in English.

Yr Amserau Cwmpasog Eraill (Y rhai sy'n defnyddio 'Bod') - Y Dyfodol / Yr Amheffaith / Yr Amodol

Hawdd yw defnyddio cynffoneiriau yma - dim ond rhoi ‘on’d (neu ‘nag’) o flaen y ferf (gan hepgor y sain ‘r’ yn yr Amherffaith), e.e.

Bydd e ’na, on(’d) bydd e?                              He’ll be there, won’t he?
Byddan nhw ’na, on(’d) byddan nhw?       They’ll be there, won’t they?

(R)oedd hi’n braf, on’d oedd hi?                  It was fine, wasn’t it?
(R)oedd hi’n braf, nag oedd hi?                    It was fine, wasn’t it?
(R)o’n i’n dda, on’d o’n i?                                I was good, wasn’t I?
(R)o’n i’n dda, nag o’n i?                                 I was good, wasn’t I?
Byddai hi’n neis, on(’d) byddai (hi)           It would be nice, wouldn’t it?

The other ‘bod’ tenses - Future, Imperfect and Conditional

The tags for these are easy - just put ‘on’d or ‘nag’ in front of the verb (drop the ‘r’ in the imperfect), e.g.

Bydd e ’na, on’d bydd e? He’ll be there, won’t he?
Byddan nhw ’na, on’d byddan nhw? They’ll be there, won’t they?

(R)oedd hi’n braf, on’d/nag oedd hi? It was fine, wasn’t it?
(R)o’n i’n dda, on’d/nag o’n i? I was good, wasn’t I?

Byddai hi’n neis, on’d byddai (hi) It would be nice, wouldn’t it?