Mae'r gair Pen yn gallu golygu (Head / End / Top) yn Saesneg. Byddwn ni'n ei ddefnyddio ynghyd ag arddodiaid mewn rhai ymadroddion idiomatig:
Pen (head/end/top) is used with prepositions in several idiomatic phrases:
Chwerthin am ben / To laugh at
chwerthin am ben rhywun to laugh at someone
Yn llythrennol, To laugh about someone's head
chwerthin am ben Ffred to laugh at Ffred
Yn llythrennol, To laugh around Ffred's head
Ond, mae pethau'n wahanol gyda rhagenwau personaol ('personal pronouns'). e.e:
Chwerthin am fy mhen i to laugh at me
Yn llythrennol, To laugh around/about my head
Chwerthin am eu pennau nhw to laugh at them
Yn llythrennol, To laugh around/about their head(s)
A bod yn hollol gywir, dylech chi ddefnyddio pennau (hynny yw, lluosog y gir pen) gyda rhagenwau lluosog (ein / eich / eu), e.e:
Chwerthin am eu pennau nhw To laugh at them
Chwerthin am ben
to laugh at (someone) = chwerthin am ben
Literally, To laugh about someone's head
but to laugh at me
= chwerthin am fy mhen i (lit. to laugh around/about my head)
to laugh at them = chwerthin am eu pen(nau) nhw
The plural of ‘pen’ should be used with the plural pronouns - ein, eich, eu, e.g.
chwerthin am eu pennau nhw to laugh at them
Uwchben - Above
Pan fyddwn ni'n defnyddio Uwchben ynghyd â rhagenwau personol, rhaid hollti'r gair Uwchben yn Uwch a Pen, ac wedyn rhoi rhannau'r rhagenwau o gwmpas Ben gan gofio'r treigladau priodol, e.e:
uwchben y drws above the door
uwch dy ben di above you (yn llythrennol, 'Above your head')
uwch ei ben e above him / above it (yn llythrennol, 'Above his / its head')
A bod yn hollol gywir, dylech chi ddefnyddio 'pennau' (hynny yw, lluosog y gair 'pen') gyda rhagenwau lluosog ('ein / eich / eu'), e.e:
Uuwch eu pennau nhw above them (yn llythrennol, 'Above their heads')
Uwchben - Above
Means above. When it is used with pronouns they are slotted in between uwch and pen. The usual mutations apply. e.g:
above the door uwchben y drws
but above you uwch dy ben di
above him/it uwch ei ben e
The plural of pen should be used with the plural pronouns, e.g:
Uuwch eu pennau nhw = above them
Ar fy mhen fy hunan - On my own / By myself
Yn llythrennol, mae'r ymadrodd idiomatig hwn yn golygu 'On my head my own' yn Saesneg.
A bod yn hollol gywir, dylech chi ddefnyddio 'hunan' (hynny yw, y ffurf unigol), gyda rhagenwau unigol ('fy / dy / ei'). Ar lafar, bydd pobl yn talfyrru rhai o'r geiriau, e.e:
Ysgrifennedig Ar lafar Saesneg
ar fy mhen yn hunan > ar 'y mhen yn hunan on my own
ar dy ben dy hunan > ar dy ben dy hunan on your own
ar ei ben ei hunan > ar ei ben ei hunan on his own
ar ei phen ei hunan > ar ei phen ei hunan on her own
Eto i gyd, yng ngogledd Cymru, bydd pobl yn dweud 'hun' yn lle 'hunan'.
Ar lafar, bydd rhai pobl yn hepgor y rhagenw cyntaf, e.e:
Ar lafar Ar lafar (ymadrodd wedi'i dalfurru mwyach)
ar ’y mhen yn hunan > ar ben yn hunan
ar dy ben dy hunan > ar ben dy hunan
ar ei ben ei hunan > ar ben ei hunan
A bod yn hollol gywir, dylech chi ddefnyddio 'hunain' (hynny yw, lluosog y gair 'hunan'), a 'pennau' (hynny yw, llosog y gair 'pen'), gyda rhagenwau lluosog ('ein / eich / eu'). Mae pobl yn ynganu 'hunain' fel 'hunen', e.e:
ar ein pennau ein hunain on our own
ar eich pennau eich hunain on your own
ar eu pennau eu hunain on their own
Wedi dweud hynny, bydd llawer o Gymry Cymreg yn anwybyddu'r 'rheol' hon, pan fyddan nhw'n sgwrsio'n anffurfiol, gan ddweud, e.e:
ar eu pen eu hunain on their own
neu, hyd yn oed,
ar ben eu hunain on their own
Ar fy mhen fy hunan
On my own/by myself - Literally, on my head my own
hunan - singular hunain - plural (pronounced hunen)
‘Hun’ is used for the singular in North Wales.
Some people drop the first pronoun in speech e.g.
ar ’y mhen yn hunan ar ben yn hunan
ar dy ben dy hunan ar ben dy hunan
ar ei ben ei hunan ar ben ei hunan etc.
The plural of ‘pen’ should be used with the plural pronouns, e.g:
ar eu pennau eu hunain
on their own
However, many first language speakers ignore the rule when speaking informally, e.g.
ar eu pen eu hunain, or even ‘ar ben eu hunain’.
on their own on their own
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Roedd Ffred yn chwerthin am ben Sandra
Ffred was laughing at Sandra
2. Bydd Twm yn chwerthin am ben Harri 'fory
Twm will be laughing at Harri tomorrow
3. Paid chwerthin am fy mhen i, dw i'n swil iawn!
Don't laugh at me, I'm very shy!
4. Fyddwn i byth yn chwerthin am dy ben di!
I'd never laugh at you!
5. Mae e'n chwerthin am ei phen hi
He's laughing at her
6. Bu hi'n chwerthin am ei ben e, ond mae hi wedi gorffen bellach
She had been laughing at him, but she's stopped now
7. Pam wyt ti'n chwerthin am ein pennau ni?
Why are you laughing at us?
8. O'n nhw'n chwerthin am eich pennau chi?
Were they laughing at you?
10. Fydd hi ddim yn chwerthin am eu pennau nhw
She won't laugh at them
11. Mae cloch uwchben drws y 'stafell ddosbarth
There's a clock above the classroom door
12. Mae cleddyf yn hongian uwch fy mhen i
There's a sword hanging above my head
13. Edrych(a) uwch dy ben di!
Look above you!
14. Roedd y frân y hedfan uwch ei ben e
The crow was flying above him
15. Yn yr awyr uwch ein pennau ni, roedd enfys hardd
In the sky above us, there was a beautiful rainbow
16. Mae'r gweithwyr ar y sgaffaldau uwch eich pennau chi ar fin orffen y gwaith
The workers on the scaffolding above you are about to finish the work
17. Uwch eu pennau nhw, roedd cymylau duon yn crynhoi
Above them, black clouds were gathering
18. Dw i'n gweithio'n dda iawn ar fy mhen yn hunan
I work very well on my own
19. Wyt ti'n lico byw ar dy ben dy hunan?
Do you like living on your own?
20. Bydd e'n rhedeg drwy'r parc bob dydd ar ei ben ei hunan
He runs through the park every day on his own
21. Ar ei phen ei hunan, mae hi wedi cwpla popeth yn gynnar
On her own, she's finished everything early
22. Dyn ni ddim yn gallu dod ar ein pennau ein hunain
We can't come on our own
23. Peidiwch â cheisio mynd â nhw ar eich pennau eich hunain
Don't try to take them on your own
24. Roedd y plant ar eu pennau eu hunain yn y fforest dywyll
The children were on their own in the dark forest