Llyfr y Mis ar parallel.cymru

Cyngor Llyfrau Cymru: Llyfrau y Mis 2019 & 2018 / Welsh Books Council: Books of the Month 2019 & 2018

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn dewis llyfr Cymraeg, un Saesneg, a llyfr i blant ar ddechrau pob mis fel 'Llyfr y Mis'. Dyma restr ohonynt ynghyd â chysylltiadau fel y gallwch chi'u prynu nhw gan Gwales.com neu eich siop lyfr lleol, a rhyngweithio â'r cyhoeddwr a'r awdur ar Twitter.

The Welsh Books Council selects a Welsh language, English language, and children's book at the start of every month as 'Book of the Month'. Here is a list of them together with links so that you can purchase them from Gwales.com or your local bookshop, and interact with the publisher and author on Twitter.

Llyfr y Mis Hydref

Mari Elin Jones Gwyrddach

Llyfr lliw deniadol sy'n cynnig cynghorion defnyddiol i'n harwain tuag at fyw bywyd llai gwastraffus.

A visually attractive book offering tips which lead us gently into living our lives with less waste, and less plastic.

GwasgyBwthyn / gwyrddach

Caryl Lewis The Jeweller

Mae Mari - stondinwraig yn y farchnad - yn ychwanegu at ei bywoliaeth drwy gasglu eitemau o dai'r meirwon. Mae'n byw ar ei phen ei hun mewn bwthyn bychan ar y traeth, gyda mwnci yn unig gwmni iddi. Wrth iddi drin un gem arbennig, mae'n gwneud canfyddiad sy'n trawsnewid ei bywyd yn llwyr.

Mari, a market stall holder, supplements her trade with wares she acquires from clearing the houses of the dead. She lives alone in a tiny shore side cottage, with only a monkey for company. As she works on cutting an emerald she inches closer to the perfect gem but also towards a discovery that will transform her life.

honno

Grace-Ella- Witch Camp

Mae Grace-Ella yn teimlo'n nerfus ac yn gyffrous am ei bod yn mynd i Wersyll y Gwrachod gyda'i chath Mr Whiskins, lle mae'n rhannu caban gyda'i ffrindiau Dilys, Mati ac Aisha. Pan fo ymdrechion Dilys i hedfan ei hysgub yn troi'n drychineb, mae Mati'n perswadio ei ffrindiau mai'r unig ffordd o helpu Dilys yw iddyn nhw ddianc i'r goedwig yn y nos. Am antur!

Grace-Ella is nervous and excited to go to Witch Camp, with her cat Mr Whiskins, of course. She is put in a cabin with her friends Dilys, Mati and Aisha. But when Dilys's broomstick flying goes very wrong, and Mati convinces them breaking the rules and going into the woods at night is the only way to help her, Grace-Ella finds herself on a real adventure.

FireflyPress

Llyfr y Mis Medi

Rebecca Roberts Mudferwi

Merch dawel a swil yw Alys, sy'n ddigon hapus yn gweithio yng nghegin ysgol y pentref... hynny yw, nes i'r gegin honno gau. Penderfyna wneud cais am swydd mewn bwyty lleol sydd newydd gael ei brynu gan gogydd teledu enwog - cogydd sydd ddim yn hoffi'r syniad o ferched yn gweithio yn ei gegin.

Alys is a young, shy girl, who loves working in the canteen of the local primary school ... until the local council decides to close the canteen. She has to look for new employment, but the only available opening is as sous-chef in the village's grand bistro.

 

CarregGwalch

Nula Suchet The Longest Farewell

Pan drawyd James, gŵr Nula Roberts gan glefyd Pick, cychwynnodd hithau ar droell ddisgynnol hyd nes y gadawyd hi'n weddw. Ond doedd hi ddim ar ben ei hun. Cyfarfu â John Suchet a gollodd ei wraig yntau i'r un clefyd, a chychwynnodd y ddau ar daith i ailgofleidio bywyd. Dyma gofnod ysbrydoledig gan ddau berson a ddysgodd sut i ddelio gyda dementia, ac a ganfu ddiweddglo hapus.

When Nula Roberts' husband James was struck by Pick's Disease, her life began a terrible downward spiral and she was widowed. Yet she wasn't alone. After John Suchet's wife died of Pick's too, they began a journey to re-embrace life. The Longest Farewell is an inspiring account of dealing with dementia and of unexpectedly finding a happy ending.

nulasuchet / SerenBooks

Sarah Larter Rygbi

Y llyfr perffaith ar gyfer dathlu Cwpan Rygbi'r Byd! Cyflwyniad cyffrous i'r gêm er mwyn helpu plant i ddeall y rheolau, dysgu sgiliau rygbi a dysgu am recordiau byd yn y maes. Edrychir ar hanes y gêm, gan fanylu ar fathau gwahanol o rygbi, megis Rygbi'r Undeb, Rygbi'r Gynghrair, Rygbi Saith-bob-ochr a Rygbi Tag.

Perfect buy for the Rugby World Cup! This thrilling introduction to rugby helps kids get to grips with the rules of rugby, learn rugby skills, and gen up on rugby world records. The book looks at the history of the game, and touches on the main types of rugby, including Rugby Union, Rugby League, Rugby Sevens, and Rugby Tag.

RilyBooks

Llyfr y Mis Awst

Byw yn fy Nghroen

Profiadau dirdynnol 12 o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau hir dymor. Mae'r cyfranwyr yn trafod yn fanwl afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, epilepsi, clefyd Crohn's, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gor-bryder.

This book relates the experiences of 12 young people who have fought against long-term conditions. They discuss in detail physical and mental illnesses such as cancer, epilepsy, Crohn's disease, spina bifida, blindness, OCD, depression and anxiety.

YLolfa

Stifyn Parri Allan â Fo!

asgliad doniol a drygionus o hanesion lliwgar Stifyn Parri yn yr hunangofiant dwyieithog, gefn wrth gefn, cyntaf o'i fath. Mae e wedi serennu ar deledu a llwyfannau Cymru a Lloegr, a gweithio efo enwau mwya'r diwydiant. Mae ganddo straeon am glecs cefn llwyfan, y tantrums a chyfrinachau'r sêr byd enwog, y teulu brenhinol a hyd yn oed ei fam druan!

A cheeky but charming personal account of the outrageous Stifyn Parri in the first ever bilingual, back to back autobiography. He has starred in theatre and TV across the UK, and worked with some of the biggest names in the industry. He is full of anecdotes of backstage drama, tantrums, & embarrassment with celebs, royalty and even his poor mother.

Stifyn1 / GwasgGomerPress

Parallel.cymru: Stifyn Parri: Y daith Cau Dy Geg! / The Shout Your Mouth! tour

David Walliams Peff

Addasiad o Fing gan David Walliams. Mae gan Mabli Mwyn bopeth y byddai ei angen erioed, ond mae hi eisiau mwy, mwy, mwy! Pan mae Mabli'n datgan ei bod hi eisiau PEFF, dim ond un broblem sydd... Beth ydi PEFF? Stori hyfryd o hurt a gwirioneddol wallgo' and ddau riant perffaith glên a'u merch gwbwl ffiaidd - a dyfodiad ffrwydrol y PEFF!

A Welsh adaptation by Elidir Jones of Fing, an explosively funny and totally surreal story by popular author David Walliams. Although Mabli Mwyn (Myrtle Meek) has everythng she could possibly want, she wants more, more, more! A tall story about two perfectly nice parents and their unbelievably monstrous daughter.

Atebol

Llyfr y Mis Gorffenaf

Arwel Vittle Dim Croeso ‘69

Union 50 mlynedd ers yr Arwisgo, portreadir yr hanes trwy gyfrwng cyfweliadau gyda rhai o'r cymeriadau amlycaf - protestwyr, heddlu, gwleidyddion ac enwogion. Adroddir am ralïau Cymdeithas yr Iaith, yr ymateb i anerchiad Charles yn Eisteddfod yr Urdd, ymddangosiadau FWA, bomiau MAC a gweithgareddau amheus y gwasanaethau diogelwch a'r heddlu cudd.

YLolfa

Helen Pendry The Levels

Mid winter. Mid Wales. A military drone on a training flight has crashed into a hillside holiday park and killed a woman. Initial reports suggest the crash was a tragic accident, but Abby Hughes suspects an act of sabotage by a homeless man who made maps and hated war. To find the truth, she'll have to contend with the powerful forces trying to bury it.

parthianbooks

Sophy Henn Seren Orau'r Sêr

Dwi wedi dy adnabod ers y cychwyn cyntaf un, a gweld pob dim, pob tamaid sy'n dy wneud di'n di dy hun... Rwyt weithiau'n un peth, weithiau'r llall... ac weithiau rhwng y ddau. Pwy ŵyr beth sy'n dy wneud di'n 'ti'? Pa ots? Fel hynny mae.

I've known you since you started. I've seen a thing or two... or three or four or five or six! In fact, I've seen a few... Sometimes you're this, sometimes you're that. Sometimes you're in between! It's hard to say what makes you, YOU.

RilyBooks

Llyfr y Mis Mehefin

Dyfed Edwards- Apostol Nofel rymus am un o gymeriadau mawr Cristnogaeth, yr Apostol Paul. Mae Dyfed Edwards yn cynnig dehongliad heriol o fywyd a gwaith Paul ac yn gorfodi'r darllenydd i ail edrych ar y dyn cymhleth hwn. Unwaith eto, fel yn ei nofel Iddew, mae Dyfed Edwards yn gwthio'r ffiniau. Powerful writing and an intriguing plot full of complex characters looking for revenge ensure that this novel, which offers a very different interpretation of one of Christianity's best known figures, the Apostle Paul, is a memorable read.
dyfededwards / GwasgyBwthyn

The Bee Book

Small, vital and mysterious, bees are an essential part of our ecosystem yet they are under greater threat than ever before. The Bee Book offers a unique insight into this most fascinating of creatures, from the mystery of the hive; the power of the queen; and the many appearances of bees in folklore, literature and art.

graffeg_books

Dathlu gyda Sali Mali

Dewch i ddysgu am wahanol ddathliadau gyda Sali Mali yn y llyfr stori a gweithgareddau hwyliog hwn. Mae Sali yn dysgu am draddodiadau ac arferion achlysuron megis Nos Galan, y Pasg, y Nadolig, a llawer mwy. Mae'r gyfrol yn cynnwys ryseitiau a gweithgareddau syml y gall y teulu cyfan eu mwynhau. Dyma lyfr i bob tymor, pob teulu a phob plentyn Cymru.

Learn about all kinds of different celebrations with Sali Mali in this fun story and activities book. Sali learns about the traditions and customs associated with special occasions, from New Years to Easter, Christmas, and much more. This book contains simple recipes and activities for the whole family to enjoy. This is a book for every season, family, and child in Wales.

GwasgGomerPress

Llyfr y Mis Mai

Geraint Jones- Elena

Nofel ddifyr arall gan yr awdur adnabyddus Geraint Vaughan Jones sy'n olrhain hanes Elen a Dewi yn chwilio am eu teulu, yn sgîl chwilio am feddau dau aelod o'u pentref a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Another interesting novel by renowned author Geraint Vaughan Jones following the story of Elen and Dewi looking for their family, following the search for the graves of two members of their village who were killed in the First World War.

YLolfa

Delyth Jenkins- That would be Telyn

Yn ystod haf 2012, cerddodd Delyth Jenkins ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro yn ei gyfanrwydd, sef 186 milltir. Cariodd ei thelyn fechan ar ei chefn, gan gynnal perfformiadau byrfyfyr ar y llwybr. Mae'r gyfrol hon yn gofnod o'i hanturiaethau ac o'r bobl y cyfarfu â hwy ar y ffordd.

In the summer of 2012 Delyth Jenkins walked the 186 miles of the Pembrokeshire Coast Path. She carried a small harp with her, giving a series of impromptu path-side concerts. Structured around the 17 days of the walk, this book is an account of her adventures and the people she met and played for along the way.

YLolfa / DnAfolk

Lucy Owen- The Sea House

Un noson, mae Coral - sy'n hiraethu am ei rhieni - yn crio cymaint nes bod ei chartref yn llenwi â dagrau. Mae'n dihuno i ganfod byd tanddwr hudol yn llawn o greaduriaid môr rhyfeddol sy'n ceisio codi ei chalon, a hynny yn ei chartref ei hun! Ond mae tywyllwch yng nghalon y tŷ hefyd. Tybed a all Coral ganfod y nerth i'w orchfygu, gyda help ei ffrindiau newydd?

One night grieving nine-year-old Coral cries so much, she fills her house with tears. She wakes to find a magical underwater world packed with fabulous sea creatures who have come to cheer her up, right inside her own home! But there is a darkness in the heart of the house too. Can Coral find the strength to overcome it, with the help of her new friends?

FireflyPress / lucyowenwales

Llyfr y Mis Ebrill April

Cefin Roberts Os na Ddo’n Nhw

Nofel hirddisgwyliedig gan yr awdur, y cerddor, yr athro a'r diddanwr Cefin Roberts. Mae'n dilyn hynt a helynt Cemlyn ac Annest wrth iddyn nhw actio mewn ffilm wedi ei lleoli ar Ynys Môn ac mae Cefin yn plethu'r naratif a sgript y ffilm yn gelfydd. Yn gefndir i'r cyfan mae bygythiadau difrifol sy'n effeithio ar y ddau brif gymeriad.

A long-awaited novel by author, musician and entertainer Cefin Roberts. It follows the story of Cemlyn and Annest who are actors in a film set on Anglesey. Serious threats which affect both main characters form a backdrop to the plot, and Cefin Roberts weaves the narrative and film script skilfully.

YLolfa / cefinroberts

Gwen Parrott Dead White

Nofel ddirgelwch wedi'i gosod mewn pentref gwledig. Daw athrawes ifanc o hyd i ddau gorff mewn ffermdy yn sir Benfro, yng nghanol eira mawr 1947. Mae'r hyn a fu'n gyfrifol am eu marwolaeth yn amlwg i lawer o'r gymdeithas - ac yn gyfleus i eraill...

A crime novel set in a rural Welsh village during the 1940s. A young school mistress discovers two bodies in a Pembrokeshire farmhouse during the big snow of 1947. Their cause of death is obvious to many in the local community, and convenient to others...

GwasgGomerPress

Cressida Cowell + Ifan Morgan Jones Yr Hudlath a’r Haearn

Stori am ddewin ifanc o fachgen a merch ifanc sy'n rhyfelwraig, ill dau wedi eu dysgu o'r crud i gasáu ei gilydd, a'r hyn sy'n digwydd pan ddaw bydoedd y ddau wyneb yn wyneb. Cyfrol berffaith ar gyfer bechgyn a merched sy'n caru anturiaethau ffantasi ... Unwaith roedd y byd yn drigfan i hud a lledrith mewn coedwigoedd tywyll. Hyd nes i'r Rhyfelwyr gyrraedd...

This is the story of a young boy Wizard and a young girl Warrior who have been taught since birth to hate each other like poison; and the thrilling tale of what happens when their two worlds collide. Perfect for boys and girls who love fantasy adventure... Once there was Magic, and the Magic lived in the dark forests. Until the Warriors came...

RilyBooks / ifanmj

Llyfr y Mis Chwefror

Mam- Cerddi gan Famau, Cerddi am Famau

Casgliad o gerddi hen a newydd sy'n dathlu rôl y fam: yn gerddi gan feirdd sy'n famau eu hunain ac yn gerddi llawn atgofion am famau o bob oed. Plethir y cerddi ynghyd â darluniadau hynafol a dyluniad hardd iawn sy'n gwneud y gyfrol yn anrheg perffaith ar gyfer Sul y Mam neu i unrhyw fam newydd.

A collection of old and new poems celebrating the role of mothers through the centuries: comprising poems by mothers and by poets reminiscing about mothers of all ages. The poems interweave with beautiful images making this a perfect gift for Mothering Sunday or for any new mother.

trydarbarddas / marigeorge2

Argraffiad newydd o gyfarwyddiadur dysgu iaith arloesol sy'n defnyddio geiriau ac ymadroddion Cymraeg cyfoes. Cynhwysir ffurfiau berfol, dim treigladau a ffurfiau sy'n tarddu o'r Saesneg. Ni fydd y gyfrol yn plesio gramadegwyr ond bydd dysgwyr wrth eu bodd gan y byddan nhw'n dysgu Cymraeg llafar - yn gyflym!

A new edition of the ground-breaking language tutor using actual Welsh forms in current daily use. These forms ignore verb endings, do not mutate and are often derived from English. Traditional grammarians will hate this book but learners will love it because they will learn actual, spoken Welsh - fast!

Parallel.cymru: Heini Gruffudd: How I wrote The Welsh Learner's Dictionary & Welsh Rules

YLolfa

Manon Steffan Ros Mis yr Ŷd

Nofel wreiddiol, afaelgar ar gyfer yr arddegau cynnar, gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru.

A gripping, original novel for young teenagers, by one of Wales' most popular authors.

CAACymru /  ManonSteffanRos

Llyfr y Mis Chwefror

Heiddwen Tomos Esgyrn

Nofel gignoeth gan Heiddwen Tomos sy'n sôn am berthynas tad-cu â'i ddau ŵyr. Mae'r cymeriadau, a'u perthynas â'i gilydd, yn annwyl, yn gredadwy ac yn gofiadwy. Mae themâu cyfoes a thraddodiadol yma, megis perthyn a threftadaeth, mewnfudwyr a chariad, ac mae'r ddeialog a'r naratif yn llifo a hiwmor yn frith drwyddi.

A raw novel about a grandfather's relationship with his grandsons. The relationships portrayed are tender, credible and memorable. Touching on both traditional and modern themes such as belonging and inheritance, incomers and love, the flowing dialogue and narrative contains a good pinch of humour.

Parallel.cymru: Heiddwen Tomos: Ysgrifennu’r nofel newydd / Writing the new novel: Esgyrn

YLolfa / HeiddwenT

Rhiannon Ifans Red Hearts and Roses

Cyfrol sy'n cyflwyno hanes y sant a roes ei enw i ŵyl y cariadon, Sant Ffolant (Saint Valentine), gan ganolbwyntio'n benodol ar y cerddi Cymraeg a gyfansoddwyd ar hyd y canrifoedd i gofnodi'r diwrnod gŵyl hwn ganol mis Chwefror.

This volume presents the story of the saint who gave his name to the festival of lovers, Saint Valentine, known in Wales as Sant Ffolant, focusing specifically on the Welsh poetry written over the centuries on the feast day of Saint Valentine in mid-February.

Parallel.cymru: Rhiannon Ifans: Red Hearts and Roses? Welsh Valentine Songs and Poems

GwasgPrifCymru

Natures Nasties Natur Ych a fi

Mae'r storïau hyn wedi'u lleoli ar Benrhyn Gŵyr, y lle cyntaf i gael ei enwi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, a byddan nhw'n cydio yn nychymyg pawb sy'n caru byd natur. Addasiad Cymraeg o Nature's Nasties gan Mererid Hopwood.

Set in the beautiful Gower peninsula, South Wales, the first part of the United Kingdom to be officially designated an Area of Outstanding Natural Beauty, these ten factual stories will intrigue all nature-lovers. A Welsh adaptation of Nature's Nasties by Mererid Hopwood.

CPeniarth

Llyfr y Mis Ionawr

John Alwyn Griffiths Dan Bwysau

Does dim llonydd i'w gael i'r Ditectif Jeff Evans, hyd yn oed ar draeth yng ngwlad Groeg. Pan gaiff papur newydd Prydeinig ei adael ar y gwely haul drws nesa iddo, a'r prif bennawd yn disgrifio damwain ffordd erchyll yng Nglan Morfa, mae Jeff yn dechrau amau ei fod yn cael ei wylio. Caiff y teimlad hwnnw ei gadarnhau pan dderbynia lythyr bygythiol drwy law gweinydd yn y gwesty.

There is no respite from work for Detective Jeff Evans! When he reads a British newspaper while on holiday in Greece, which refers to a terrible road accident at Glan Morfa, Jeff begins to feel that he is being watched, a feeling that is reinforced when he is handed a threatening letter via the hotel waiter.

CarregGwalch

Boyd Clack Head In The Clouds

Dilyniant hir-ddisgwyliedig i gyfrol gyntaf o atgofion Boyd Clack - Kisses Sweeter Than Wine. Asiad hudol o flogiau a barddoniaeth.

Head in the Clouds - Memories and Reflections is the long-awaited sequel to Boyd Clack's first memoir, Kisses Sweeter Than Wine. A fascinating blend of blogs and poetry by one who has an interesting take on life.

parthianbooks / RealBoydClack

Caffi Merelli G R Gemin

Addasiad Cymraeg Mared Llwyd o Sweet Pizza gan G. R. Gemin. Dyma stori Jo, bachgen o dras Eidalaidd sy'n byw yng Nghymru ac sydd wrth ei fodd gyda'r iaith Eidaleg, y gerddoriaeth a'r lasagne!

A Welsh adaption of G. R. Gemin's Sweet Pizza by Mared Llwyd. A heart-warming story about bringing a diverse community together and about the amazing history of Italian immigrants in Wales. Jo loves his Italian heritage: the language, the opera, the lasagne!

Atebol

2018

Llyfr y Mis Rhagfyr

Lowri Haf Cooke Bwytai Cymru

Lowri Cooke has travelled the length and breadth of Wales searching for the best places to eat and has found them in all corners of the country. In Bwytai Cymru you get a look at 60 special restaurants with interesting connections with their local area... and sometimes places a little more exotic!

Mae Lowri Cooke wedi teithio Cymru gyfan yn chwilio am y mannau mwyaf hyfryd i gael cinio ynddynt, ac mae hi wedi'u canfod ym mhob cwr o Gymru. Yn Bwytai Cymru cewch gip ar 60 o fwytai arbennig sydd â chysylltiadau diddorol â'u milltir sgwâr... ac weithiau â lleoedd mwy egsotig hefyd!

GwasgGomerPress / LowriHafCooke

Vernon Hopkins Just Help yourself

1960. Britain stood at the cusp of new times, and in Pontypridd, sixteen-year-old Vernon Hopkins found a new singer for his band: a local boy who would come to be known as Tom Jones. Vernon Hopkins' authentic narrative is a revealing insight into the highs and lows of the music business, full of gritty detail, and previously unseen photographs.

Mae'n 1960 ac mae newidiadau mawr ar droed ym Mhrydain. Yn nhref Pontypridd mae Vernon Hopkins - un ar bymtheg oed - wedi darganfod canwr newydd ar gyfer ei fand, bachgen lleol a ddaw, maes o law, yn enwog fel Tom Jones. Mae stori ddilys Vernon Hopkins yn cynnig golwg ddadlennol ar uchafbwyntiau ac isafbwyntiau byd canu pop y cyfnod, gan gynnwys rhai lluniau nas gwelwyd o'r blaen.

SerenBooks

Huw Aaron- Ble Mae Boc

A colourful, 24 page, A4 size book, suitable for children and adults, comprising 10 double-page spreads. Each spread reveals an overflowing scene, the task required being looking for Boc, the little dragon, which is hiding in each picture. The images can also promote searches for other objects, discussions and questions among children and between parents and children.

Llyfr lliwgar 24 tudalen, maint A4, addas ar gyfer plant ac oedolion, yn cynnwys 10 llun tudalen ddwbl. Bydd pob taenlen yn dangos golygfa lawn dop, gyda'r nod o ddod o hyd i Boc, y ddraig fach goch, sy'n cuddio ym mhob llun. Mae cyfle i chwilio am bethau eraill yn y lluniau hefyd, yn ogystal â thrafod a holi cwestiynau rhwng plant â'i gilydd, a rhwng rhiant a phlentyn.

 

YLolfa / huwaaron

Llyfr y Mis Tachwedd

Gareth Evans-Jones Eira Llwyd

Nofel fer, gynnil a thelynegol sy'n dilyn tri Iddew a garcharwyd yn ystod yr Holocost. Mae'n stori sy'n cyffwrdd y galon.

A subtle and moving short novel which follows the lives of three Jews imprisoned in Nazi concentration camps during the Holocaust.

GwasgyBwthyn

Phil Stead- How a Welshman Won the Tour de France

The story of a Welsh cycling fan's 25-year love affair with le Tour de France, culminating in the joy of witnessing Geraint Thomas' unexpected victory in summer 2018. Is this the greatest ever Welsh sporting achievement? How does an unassuming bloke from Whitchurch win le Tour de France? And what was it like to see Geraint win?

YLolfa / pjstead

Catherine Fisher The Clockwork Crow

Stori Nadoligaidd afaelgar am swyn a pherthyn, wedi'i gosod mewn plasty dan eira yng nghanolbarth Cymru, ac wedi'i hadrodd gan storïwraig feistrolgar.

The Clockwork Crow is a gripping Christmas tale of enchantment and belonging, set in a frost-bound mansion in snowy mid-Wales, from a master storyteller.

FireflyPress / FisherAuthor

Llyfr y Mis Hydref

Andrew Green- Cymru Mewn 100 Gwrthrych

Cyfrol yw hon sy’n crisialu hanes Cymru mewn can gwrthrych. Llawfwyell Ogof Pontnewydd, arfbais Owain Glyndŵr, yr het Gymreig, record gyntaf Catatonia – mae’r ystod yn eang ac yn amrywiol o ran cyfnod ac ardal, a’r casgliad wedi’i guradu’n grefftus gan Andrew Green. Wrth osod y gwrthrychau yn eu cyd-destun dynol, cawn hanesion y tywysogion, y terfysgwyr a’r tlodion, eu brwydrau a’u bywydau bob dydd, a’r cyfan yn cyd-blethu’n gelfydd ac yn ein tywys ar hyd llwybr Cymru fel cenedl. Mae lluniau godidog Rolant Dafis yn destament i bŵer ffotograffiaeth a’i gallu i adrodd stori. Camp y gyfrol yw ei bod yn berthnasol i ni heddiw, y gwrthrychau yn hygyrch i bawb, ac i’w gweld yn rhad ac am ddim ar draws Cymru.

GwasgGomerPress / gwallter
Andrew Green @ parallel.cymru: Cymru Mewn 100 Gwrthrych

Andrew Green- Wales in 100 Objects

Wales in 100 Objects is a collection of miniature histories, each arising from a single physical object.  The objects range in date from early prehistory to the present. Inside you’ll find, among other things, a Roman sword from the first century BCE, the earliest manuscript of Hen Wlad fy nhadau and a Raspberry Pi, the revolutionary computer designed to help children learn coding. Opposite stunning photographs by Rolant Dafis, Andrew Green’s informative texts explain and explore each item.  The objects are drawn from every part of Wales, and all are available to the public.  A list of locations and map are included in the back of the book, to help you seek out these pieces of history for yourself.

GwasgGomerPress / gwallter
Andrew Green @ parallel.cymru: Wales in 100 Objects

Elin Meek Valériane Leblond- Cymru Ar y Map

Beth am ddod ar daith drwy Gymru i weld pa mor hyfryd yw ein gwlad, ac i ddysgu am ei thrysorau cudd?

Mae Cymru ar y Map yn llyfr atlas arbennig iawn gyda darluniau godidog sy’n dangos Cymru ar ei gorau. Wrth oedi ym mhob sir, cawn ddathlu’r bobl a’r dirwedd, dod i wybod am ein hanes a’n henwogion, nodi digwyddiadau diwylliannol a gwleidyddol pwysig, a llawer, llawer mwy.

Dere i ddysgu, mwynhau a charu cyfoeth ac amrywiaeth ein gwlad.

RilyBooks / Triaglog
Elin Meek @ parallel.cymru: Cyfieithu llyfrau Roald Dahl i’r Gymraeg / Translating Roald Dahl’s books into Welsh
Wales Art Review: Interview with Valériane Leblond

Llyfr y Mis Medi

Daniel Davies- Arwyr

Dyma nofel ddadlennol a dychanol am rai o'r digwyddiadau a'r arwyr a ffurfiodd ein cenedl, a gwibdaith i'r dyfodol agos lle mae annibyniaeth i Gymru o fewn cyrraedd.

CarregGwalch / nofelarwyr

Rob Gittins- Hear the Echo

The stories of two strong Welsh-Italian women in a small Valleys community, one living in the 1930s and one in the present day. Seemingly very different characters, Chiara faces problems as a new immigrant, while Frankie battles loan sharks and a good-for-nothing husband. But as events play out, their lives reveal unexpected echoes of each other.

Y Lolfa / gittins2rob

Angharad Elen a Nest Llwyd Owen- Deian a Loli a'r Bai ar Gam
Deian and Loli, the mischievous twins, with magical powers, go on an adventure to learn about nature, and in particular, about birds. The moral of the story is how to look after personal belongings and not to blame others. An original Welsh tale, in full colour, for children up to 8 years old.

Y Lolfa / blaiddi

Llyfr y Mis Awst

Codi Llais

Cyfrol gyfoes i ferched gan ferched. Hanes profiadau gonest ac amrywiol 14 o bobl, gyda phob un yn siarad o'r galon am yr hyn sydd yn eu gwneud yn ferch fodern yn yr 21ain ganrif. Bydd y gyfrol hefyd yn cynnwys dyfyniadau Cymraeg a Saesneg gan enwogion am ffeministiaeth.

A contemporary volume about women by women comprising diverse and honest contributions by 14 persons about what it means to them to be a modern woman in the 21st century. The volume also comprises Welsh and English quotations on feminism by famous personalities.

YLolfa

Menna Elfyn- Absolute Optimist

Cofiant cynnes ond beirniadol i Eluned Phillips (1914-2009), arwres yn hanes llenyddiaeth Cymru a brofodd fywyd anhygoel mewn cyfnod o newid mawr am ran helaeth o'r ugeinfed ganrif - bywyd a'i cariodd o gefn gwlad sir Gâr i fyw bywyd bohemaidd ym Mharis cyn troi am Los Angeles.

This is an affectionate yet critical biography of Eluned Phillips (1914-2009), an unsung heroine of Welsh literature, who led an incredible life at a time of great change - taking her from rural Carmarthenshire to bohemian Paris and urbane Los Angeles - across the majority of the 20th Centuary.

honno

Caryl Hart Ali Pye- Gall Merched wneud Popeth
Mae yna ferched o bob lliw a llun. Gallan nhw ein rhyfeddu ni. Gallan nhw ein synnu ni. Gall merched wneud unrhyw beth yn y byd. Ac os wyt ti'n ferch... pam na wnei di roi cynnig arni! Addasiad Cymraeg o Girls Can Do Anything! gan Mari George.

There are all kinds of girls, and they are a source of wonder and surprise. Girls can do anything, and if you are a girl... have a go on all kinds of activities! A Welsh adaptation of Girls Can Do Anything! by Mari George.

RilyBooks

Llyfr y Mis Gorffenaf

Jon Gower- Y DüwchNofel drosedd, dywyll wedi ei lleoli ar rust belt Cymru, yr arfordir diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol o Gynffig i Lansamlet. Caiff prifathro ysgol gynradd ei herwgipio a’i boenydio gan 'Y Bwystfil', seicopath mileinig sydd wedi lladd dau berson yn barod. Dyddiau'n ddiweddarach mae perchennog siop cebab yn derbyn parsel o Amazon. Ynddo mae un llygad.

A dark, crime novel set on Wales's rust belt, the post-industrial coastline between Kenfig and Llansamlet. A primary school headmaster is kidnapped and tortured by 'The Beast', a vicious psychopath who has already murdered two persons. A few days later, a kebab shop owner receives a parcel from Amazon containing an eye.

YLolfa / JonGower1
Y Silff Llyfrau: Blas o'r nofel

Gary Raymond- The Golden Orphans

 

Within the dark heart of an abandoned city, on an island once torn by betrayal and war, lies a terrible secret...
Gary Raymond is a novelist, critic, poet, and editor. In 2012 he was one of the founding editors of Wales Arts Review. His début novel, For Those Who Come After, was published by Parthian in 2015. Raymond is a regular commentator on Welsh art and culture for BBC Wales, but his writing has taken him as far afield as Japan and India. He has written on subjects as diverse as new wave horror cinema to the life and works of Arthur Koestler. He is also presenter of Wales Arts Review’s OffScript podcast series.

parthianbooks / garyraymond_

Malachy Doyle Mary Jones- Mali a'r Môr StormusMae Mali'n dihuno un bore i ganfod bod y tŷ yn wag. Aeth ei thad ar daith bysgota ond nid yw wedi dychwelyd. Mae Mali'n casglu ei thrysorau mwyaf gwerthfawr - loced, llun o'i thad a'i hoff ddol - ac yn mynd lawr i'r harbwr i'w cyflwyno yn rhodd i'r môr yn gyfnewid am fywyd ei thad. Stori am gariad, aberth a gobaith. Addasiad Cymraeg Mary Jones o Molly and the Stormy Sea.

Mali wakes one morning to find her house empty. Her father has been out fishing in stormy seas and hasn't returned from his trip. She takes her most precious possessions down to the harbour; a brass locket containing twenty little cowrie shells, a photograph of her father and her beloved doll Isla to offer the sea in return for her father's safety. A tale of love, sacrifice and hope.

graffeg_books

Llyfr y Mis Mehefin

Siân Rees- Fel Edefyn Gwe

Dyddiau ysgol... dyddiau gorau bywyd? Wrth deithio i fyny'r A470 i aduniad ysgol, tydi Megan ddim yn siwr iawn beth i'w ddisgwyl. A ffrindiau bore oes bellach ond yn ddieithriaid sy'n rhannu rhai o'r un atgofion, oni fyddai'n well iddi droi yn ôl am Gaerdydd? Ond ar y llaw arall, mae'n ysu i glywed mwy am amgylchiadau marwolaeth un o'i chyn-athrawon...

CarregGwalch

David Meredith- Kyffin dan Sylw / In View

Casgliad o uchafbwyntiau o gyfres darlithoedd Ymddiriedolaeth Kyffin Williams. Dwyieithog. 16 o ddelweddau lliw o waith yr arlunydd.

A collection of highlights from the Kyffin Williams Trust lecture series. Bilingual. 16 colour images of the artist's work.

GwasgGomerPress

Dylan Ebenezer- Cwpan y Byd Rwsia 2018

Cyfrol ddarluniadol mewn lliw llawn yn dilyn hanes pencampwriaeth pêl-droed Cwpan y Byd 2018. Cynhwysir ffeithiau difyr a ffotograffau lliw am bob gwlad sy'n cystadlu, yn ogystal â chwaraewyr adnabyddus, yr hyfforddwyr, y citiau a'r logos. Caiff siart am ddim gyda manylion pob gêm ac amserlen y gêmau i gyd ei gynnwys yn y llyfr.

A full, colour illustrated volume about the 2018 football World Cup tournament. It comprises interesting facts about each competing country, and information about players, coaches, kits and logos, and includes a free chart of all the games. Part of a series aimed at good readers at the higher end of KS2 and years 7-9.

YLolfa / DylanEbz

Llyfr y Mis Mai

Sioned Wiliam Cicio'r Bar

Trydedd nofel yr awdures Sioned Wiliam, sy'n enw cyfarwydd ym myd comedi teledu ynysoedd Prydain. Mae'r nofel lawn hiwmor yn dilyn poblogrwydd y ddwy nofel gyntaf, Dal i Fynd a Chwynnu. Ailymwelir â chymeriadau Dal i Fynd ond nid oes angen i chi fod wedi darllen y nofel gyntaf i fwynhau hiwmor a dychan y stori newydd. Mae'n sefyll ar ei phen ei hun.

TV comedy director Sioned Wiliam's third humorous novel, following the popular Dal i Fynd and Chwynnu. It revisits characters from Dal i Fynd but may be enjoyed on its own merit.

YLolfa / sionedwiliam

Tony Bianchi- Staring Back at Me

Cyfrol o straeon byrion bisâr sy'n cynnig rhyw lun o bortread o blentyndod yr awdur Tony Bianchi, o dras Eidalaidd-Seisnig yn Newcastle, a'i ddatblygiad yn siaradwr ac yn llenor Cymraeg a ymsefydlodd yng Nghaerdydd. Er bod cyswllt rhyngddynt, gellir darllen y straeon fel endidau unigol. Bu farw'r awdur yn 65 oed ym mis Gorffennaf 2017 tra roedd y straeon yn cael eu golygu.

Tracing life from a childhood in an Italian-English family on Tyneside to becoming a Welsh-speaking, writer in Cardiff, Eisteddfod-winning author Tony Bianchi leads the reader through a series of increasingly bizarre vignettes. Each section is a free-standing short story but read together they form an untrustworthy autobiography.

 

Dan Anthony- The Last Big One

Mae Clint yn fachgen da, ac mae'n meddwl ei fod yn gallu gwneud i'w athrawon gredu'r un peth - nes iddo gael ei daflu allan o'r ysgol wedi damwain. Mae Clint yn rhedeg i ffwrdd; mae'n methu wynebu marwolaeth ei dad, ei fam sy dal yn brifo, a'r ysgol i blant trafferthus.

Clint is a decent kid, and thinks he might even be able to convince his teachers of that – until an accident gets him expelled. Unable to face the death of his father, his emotionally distant, grieving mother, and a last-resort school for troubled kids, Clint runs away.

GwasgGomerPress

Llyfr y Mis Ebrill April

Menna Elfyn- Cyfres Llenorion Cymru- Cennad

Dyma lên-gofiant un o feirdd amlycaf Cymru sy'n bwrw golwg dros ddeugain mlynedd a mwy o lenydda, o deithio at gynulleidfaoedd ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt, ac o roi llais i ferched ym maes barddoniaeth. Cennad yw'r drydedd gyfrol yn y gyfres boblogaidd sy'n rhoi llwyfan i'n prif lenorion drafod eu bywyd a'r dylanwadau ar eu gwaith.

Poet Menna Elfyn looks back at over fourty years of writing, performing her work throughout Wales and further afield and of raising issues which are important to women in the 20th century in her work. Cennad is the third title in a popular series that gives contemporary Welsh literary figures a platform to discuss their life and the influences on their work.

trydarbarddas
mennaelfyn.co.uk

John Osmond- Ten Million Stars are Burning

Nofel ddogfen wedi'i gosod yn y 1970au sy'n adlewyrchu gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru mewn cyfnod cyffrous a therfysglyd. Adroddir y stori drwy lygaid dau gymeriad sef Owen James, newyddiadurwr, a Rhiannon Jones-Davies, ymgyrchydd dros y Gymraeg, myfyrwraig a chynhyrchydd teledu yn ddiweddarach yn ei bywyd.

Set in the 1970s, this documentary novel is set against the political and cultural events experienced in Wales during this tumultuous and exciting era. The story is told through the eyes of two fictional characters: Owen James, a journalist and Rhiannon Jones-Davies, a language activist, student, and later a television producer.

GwasgGomerPress

Alan Garner- Llestri'r Dylluan

Addasiad o nofel ffantasi arloesol i bobl ifanc gan Alan Garner. Stori arswyd grefftus ar gyfer yr arddegau, sy'n dilyn trywydd tri o bobl ifanc sy'n cael eu gorfodi i ail-greu chwedl Blodeuwedd o'r Mabinogi. Addasiad Cymraeg o The Owl Service gan Bethan Gwanas.

A Welsh adaptation by Bethan Gwanas of The Owl Service by Alan Garner. This is a skilled horror story for teenagers about three young people who are forced to recreate the tale of Blodeuwedd, the woman made of flowers, from the Mabinogion.

Atebol / BethanGwanas
Bethan Gwanas @ parallel.cymru: Creu Blodwen Jones / Creating Blodwen Jones

Llyfr y Mis Mawrth

Heulwen Davies- Mam- Croeso i'r Clwb

Llyfr ffeithiol i famau newydd. Mae'n arwain y fam drwy'r beichiogrwydd, hyd ddiwedd blwyddyn gyntaf y plentyn. Cynhwysir nifer o benodau byrion, yn seiliedig ar brofiad yr awdur, ynghyd â nifer o ddyfyniadau gan famau eraill o bob cwr o Gymru.

A factual book for new mums, leading the mother through pregnancy, until the end of the first year of the baby's life. It comprises short chapters, based on the experiences of the author, together with quotes from other mums from all over Wales.

YLolfa / heulsmach
mamcymru.wales
Y Silff Llyfrau: Holi'r Awdur Heulwen Davies

Ursula Martin- One Woman Walks Wales

Pan ddychwelodd adref i Gymru wedi taith yn Ewrop, darganfu'r awdures 31 oed fod ganddi gancr yr ofari. Yn hytrach na digalonni, penderfynodd Ursula gerdded ar hyd a lled Cymru gan godi ymwybyddiaeth a chasglu arian at ymchwil cancr. Dyma gyfrol sy'n cynnig mewnwelediad swynol i gyfnod anodd ym mywyd un wraig, i wlad, ei thirwedd a'i phobl. 160 o luniau lliw.

Visiting home after travelling in Europe, a routine trip to the doctor left 31 year old Ursula with an Ovarian cancer diagnosis. Determined not to sink into self-pity led Ursula to a plan to walk Wales to raise money and awareness. A fascinating insight into not just one woman during a testing time, but a country, its landscape and its people. 160 colour photographs.

honno

Morag Hood Elin Meek- Sara Jones, Arbenigwr Uncyrn Sara Jones, Unicorn Expert
Cyfrol llun-a-stori fywiog, ddwyieithog am Sara Jones, y ferch frwd, ddychmygus sy'n llawn gwybodaeth ddifyr am uncyrn.

A lively, bilingual picture-story book about Sara Jones, an enthusiastic, imaginative girl who is bursting with knowledge about unicorns.

Elin Meek @ parallel.cymru: Cyfieithu llyfrau Roald Dahl i’r Gymraeg / Translating Roald Dahl’s books into Welsh

Llyfr y Mis Chwefror

Dana Edwards- Am Newid

Nofel boblogaidd ffres a chyfoes sy'n hawdd ei darllen sydd yn ceisio mynd i'r afael â'n hagweddau at bobl sydd ddim yn cydymffurfio â'n syniad ni o'r hyn sy'n draddodiadol. Mae Ceri'n dychwelyd i gartref ei phlentyndod, ond erbyn hyn mae'n berson gwahanol iawn.

A contemporary, easy-to-read novel which aims at getting to grips with our attitudes towards those who do not conform with our ideas re tradition. Ceri returns to her childhood home, a very different person to the one who left many years ago.

YLolfa
Dana Edwards @ parallel.cymru: Sut es i ati i ysgrifennu Am Newid / How I Wrote Am Newid

Dyfed Elis-Gruffydd- Wales - 100 Remarkable Vistas

Cyfrol liw, ddarluniadol hardd, yn tywys darllenwyr o gwmpas rhai o olygfeydd mwyaf hynod Cymru, gyda thestun eglurhaol gan Dyfed Elis-Gruffydd, awdur profiadol ac arweinydd teithiau Cymdeithas Edward Llwyd.

A richly-illustrated full colour volume, which takes readers on a journey around 100 of the most remarkable scenic locations in Wales, with an explanatory text by experienced author and leader of guided walks Dyfed Elis-Gruffydd.

YLolfa

 

Cynan Jones- Three Tales

Cyfrol gain clawr caled. Tair chwedl hyfryd. Un am gawr hunanbwysig; un am y bwgan brain sy'n helpu doli fach sydd ar goll ynghanol y blodau; a stori am ddwylo pianydd sy'n cweryla gyda'i gilydd.

These three beautifully written and highly original fables - in which a giant becomes too big for his boots, a left hand falls out with a right hand, and a scarecrow reassures a lost doll - are treats of the imagination for child and adult alike.

GwasgGomerPress / cynan1975
cynanjones.com

Llyfr y Mis Ionawr

Sonia Edwards- Glaw Trana

Nofel rymus a gafaelgar sy'n cyffwrdd y galon. Mae peryglon mewn cadw hen gyfrinachau. A fydd Now a Lois yn talu'r pris am weithredoedd eu rhieni? Dilyniant i Mynd Adra'n Droednoeth yw'r nofel hon ond mae'n sefyll ar ei thraed ei hun.

A powerful, gripping novel to pull at the heartstrings. It is dangerous to keep old secrets. Will Now and Lois pay the price for the actions of their parents? Although a sequel to Mynd Adra'n Droednoeth, this novel is a complete story in its own right.

GwasgyBwthyn

Judith Barrow- A Hundred Tiny Threads

A gritty family saga set in Lancashire in the 1900s and Ireland at the time of the 'Black and Tans'. This is the prequel to the Howarth family saga of three titles (Pattern of Shadows, Changing Patterns and Living in the Shadows) set in the years before and after WW1.

Nofel afaelgar am hynt a helynt teuluoedd yn swydd Gaerhirfryn yn y 1900au ac yn Iwerddon yn nyddiau'r 'Black and Tans'. Y stori hon sy'n rhagflaenu saga'r teulu Howarth (y tri theitl Pattern of Shadows, Changing Patterns a Living in the Shadows) a osodwyd yn y blynyddoedd cyn ac wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf.

honno / judithbarrow77

Mererid Hopwood- Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau

The third in a series of three novels about the extraordinary teacher, Miss Prydderch and her class of adventurous pupils. Will Alfred and Elen return to the Owl Forest and reach their school in time?

Y trydydd teitl mewn cyfres o dair nofel am athrawes anghyffredin, Miss Prydderch a'i dosbarth o blant anturus. Tybed a all Alfred ac Elen ddychwelyd i Goedwig y Tylluanod a chyrraedd yn ôl i'r ysgol mewn pryd?

GwasgGomerPress

Y diweddaraf oddi wrth Adnoddau