Er mwyn gofyn cwestiynau yn yr amser dyfodol, rydych chi'n gallu gwneud un o ddau beth. Byddwch chi'n gallu treiglo sain gyntaf y ferf, gan ddefnyddio tôn llais ofynnol (Edrychwch ar y dabl isod):

To ask questions in the future you can either soft mutate the first letter of the verb and use a question tone in your voice. See table:

Berf / Verb Bôn / Stem Terfyniadau'r Amser Dyfodol / Future Endings Saesneg / English
Codi God- -a i Shall I get up?
Prynu Bryn- -i di Will you buy?
Talu Dal- -iff e/hi Will he/she pay?
Bwyta Fwyt- -wn ni Shall we eat?
Dysgu Ddysgu- -wch chi Will you learn?
Gweld Wel- -ân nhw Will they see?

Neu, fel arall, byddwch chi'n gallu defnyddio amser dyfodol 'Gwneud' (Edrychwch ar y dabl isod):

Or use ‘gwneud’ in the future. See table below:

Amser Dyfodol 'Gwneud' heb 'g'
(Future of ‘gwneud’ without ‘g’
Berfenw (+TM)
Verb + soft mutation
Saesneg / English Ateb / Answer
(Yes, I will…etc.)
(W)na i… …godi? Shall I get up? (Gw)nei/(Gw)newch
(W)nei di… …brynu? Will you buy? (Gw)naf
(W)naiff e/hi… …dalu? Will he/she pay? (Gw)naiff
(W)nawn ni… …fwyta? Shall we eat? (Gw)nawn/(Gw)newch
(W)newch chi… …ddysgu? Will you learn? (Gw)naf/(Gw)nawn
(W)nân nhw… …weld? Will they see? (Gw)nân

Atebion Negyddol 

Defnyddiwch 'Na + Ffurf briodol ar 'Gwneud''

e.e. Wnewch chi? Na (w)naf
Will you? No (I won’t) ac yn y blaen

* Byddwch chi'n gallu defnyddio atebion gyda 'Gwneud' i ateb llawr o gwestiynau yn yr amser dyfodol

Negative Answers

Na       e.g.      Na (w)naf - No (I won’t) etc.

*The ‘gwneud’ answers can be used to answer all types of regular future questions.

 

 

Negyddol

Berfau sy'n dechrau gyda 'p, t, c' - Treiglad Llaes + Ddim

Treiglad Llaes: p > ph, t > th, c > ch

Pryna i > Phryna i ddim
Taliff hi > Thaliff hi ddim
Cysga i > Chysga i ddim, ac yn y blaen

Berfau sy'n dechrau gyda 'b, d, g, ll, rh, m' - Treiglad Meddal + Ddim

Treiglad Meddal: b > f, d > dd, g > -, m > f, ll > l, rh > r

Bwyta i > Fwyta i ddim
Dysgiff e > Ddysgiff e ddim ac yn y blaen

Negatives         

Aspirate mutation + ddim, for words beginning with p,t,c

p > ph,  t > th,  c > ch,

e.g:
Pryna i  >  Phryna i ddim
Taliff hi  > Thaliff hi ddim
Cysga i  > Chysga i ddim,  etc.

Soft mutation + ddim, for words beginning with b,d,g,m,ll,rh

b > f,  d > dd,  g > -,  m > f,  ll > l,  rh > r

e.g:
Bwyta i > Fwyta i ddim
Dysgiff e > Ddysgiff e ddim,  etc.

Dylech chi sylwi ar y ffaith y bydd llawer o bobl yn treiglo sain gyntaf berfau bob amser ar lafar yn y dyfodol. Wedyn, byddan nhw'n defnyddio'r un ffurf yn union mewn gosodiadau, cwestiynau, ac atebion. Trwy wneud hyn, byddan nhw'n osgoi'r treiglad llaes, hefyd, er nad yw hyn yn briodol yn iaith ysgrifennedig, neu yn iaith ffurfiol, e.e:

Bryna i                   I’ll buy
Brynan nhw?       Will they buy?
Bryniff e ddim     He won’t buy

Note - in informal speech many people permanently soft mutate the initial letter of the verbs in the future.  So the same form is used for statements, questions and answers and there is no need to use the aspirate mutations.

e.g:
Bryna i                 I’ll buy
Brynan nhw?       Will they buy?
Bryniff e ddim      He won’t buy  (This is not acceptable in written/formal Welsh)

Fe/Mi (Geirynnau sy'n dod o flaen berfau - Particles that come before verbs)

Efallai y byddwch chi'n gweld neu'n clywed y geirynnau Fe neu Mi o flaen berfau yn yr amser gorffennol a'r amser dyfodol (ac mewn amserau eraill hefyd) o bryd i'w gilydd. Dyw'r geirynnau ddim yn golygu dim byd, ond maen nhw'n dangos mai gosodiad cadarnhaol yw beth sy'n dilyn (yn hytrach na chwestiwn neu osodiad negyddol). Maen nhw'n achosi i'r ferf sy'n dilyn dreiglo'n feddal, e.e:

Fe godwn ni am saith       We’ll get up at 7
Mi bryna i fe fory               I’ll buy it tomorrow

Nid ym mhob ardal bydd pobl yn defnyddio 'Fe / Mi'. Ymhellach, fydd pobl ddim yn eu defnyddio nhw'n gyson.

Fe/Mi

You may also see/hear the words Fe or Mi before verbs in the past and future tenses (as well as others).  These words don’t actually mean anything, but just denote that what follows is a statement (rather than a question or negative). They cause a soft mutation.

e.g:
Fe godwn ni am saith          We’ll get up at 7
Mi bryna i fe fory                   I’ll buy it tomorrow

They are not used in all areas and are not used consistently.

Gwrthrych Berf Gryno

Bydd gwrthrych berf gryno'n treiglo'n feddal, pan fydd yn amhendant, e.e.

Bwytwn ni basta        We'll eat pasta
Gwela i ddyn             I'll see a man

Cofiwch: 'Beth sy'n dioddef gweithred y ferf' yw'r gwrthrych.. Yma, 'pasta' sy'n cael ei fwyta; 'dyn' sy'n cael ei weld.

Ni fydd gwrthrych berf gryno'n treiglo o gwbl, pan fydd yn bendant; ac, ni fydd gwrthrych berf gryno'n treiglo o gwbl mewn brawddeg negyddol, e.e.

Bwytwn ni’r pasta We'll eat THE pasta
Fytwn ni ddim pasta We won't eat pasta

Gwela i'r dyn I'll see THE man
Wela i ddim dyn I won't a man

The object of a short form verb

The object of a short form verb takes a soft mutation.

e.g:
Bwytwn ni basta.
Gwela i ddyn.
(The object is ‘what will be eaten - pasta / seen - a man’, etc.)

This does not apply when ‘the’ is used or with negatives.

e.g:
Fwytwn ni’r pasta.             We'll eat the pasta
Fytwn ni ddim pasta.       We won't eat pasta
Gwela i'r dyn                      I'll see the man
Wela i ddim dyn                I won't a man


* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Goda i'n hwyr ddydd Sul?
(Gw)na, coda i'n hwyr / Na (w)na, choda i ddim yn hwyr.
(Gw)nei, codi di'n hwyr / Na (w)nei, chodi di ddim yn hwyr.

(W)na i godi'n hwyr ddydd Sul?
(Gw)na, (gw)na i godi'n hwyr / Na (w)na, (w)na i ddim codi'n hwyr.
(Gw)nei, (gw)nei di godi'n hwyr / Na (w)nei, (w)nei di ddim codi'n hwyr.

Will I get up late on Sunday?
Yes, I'll get up late / No, I won't get up late
Yes, you'll get up late / No, you won't get up late

2. Bryni di frechdanau?
(Gw)na, pryna i frechnadau / Na (gw)na, phrynai i ddim brechdanau.

(W)nei di brynu frechdanau?
(Gw)na, (gw)na i brynu brechnadau / Na (gw)na, (w)na i ddim prynu brechdanau.

Will you buy sandwiches?
Yes, I'll buy sandwiches / No, I won't buy sandwiches.

3. Daliff hi am y gwaith?
(Gw)naiff, taliff hi am y gwaith / Na (w)naiff, thaliff hi ddim am y gwaith.

(W)naiff hi dalu am y gwaith?
(Gw)naiff, (gw)naiff hi dalu am y gwaith / Na (w)naiff, (w)naiff hi ddim talu am y gwaith.

Will she pay for the work?
Yes, she'll pay for the work / No, she won’t pay for the work.

4. Fwytwn ni gyri malwod?
(Gw)nawn, bwytwn ni gyri malwod / Na (w)nawn, fwytwn ni ddim cyri malwod.
(Gw)newch, bwytwch chi gyri malwod / Na (w)newch, fwytwch chi ddim cyri malwod.

(W)nawn ni fwyta cyri malwod?
(Gw)nawn, (gw)nawn ni fwyta cyri malwod / Na (w)nawn, (w)nawn ni ddim bwyta cyri malwod.
(Gw)newch, (gw)newch chi fwyta cyri malwod / Na (w)newch, (w)newch chi ddim bwyta cyri malwod.

Will we eat snail curry?
Yes, we'll eat snail curry / No, we won't eat snail curry
Yes, you'll eat snail curry / No, you won't eat snail curry

5. Ddysgwch chi hanes heddi'?
(Gw)nawn, dysgwn ni hanes / Na (w)nawn, ddysgwn ni ddim hanes.
(Gw)newch, dysgwch chi hanes / Na (w)newch, ddysgwch chi ddim hanes.

(W)newch chi ddysgu hanes heddi'?
(Gw)nawn, (gw)nawn ni ddysgu hanes / Na (w)nawn, (w)nawn ni ddim dysgu hanes.
(Gw)newch, (gw)newch chi ddysgu hanes / Na (w)newch, (w)newch chi ddim dysgu hanes.

Will you learn history today?
Yes, we will learn history / No, we won't learn history.
Yes, you will learn history / No, you won't learn history.

6. Welan nhw wylanod yno?
(Gw)nân, gwelan nhw wylanod / Na (w)nân, welan nhw ddim gwylanod.

(W)nân nhw weld gwylanod yno?
(Gw)nân, (gw)nân nhw weld gwylanod / Na (w)nân, (w)nân nhw ddim gweld gwylanod.

Will they see seagulls there?
Yes, they will see seagulls / No, they won't see seagulls.

7. Fe gadawa i'n gynnar
I'll leave early

8. Mi ddoi di â'r gwin a chaws
You'll bring the bread and cheese

9. Fe weiddiff Sadra ar Ffred
Sandra will shout at Ffred

10. Coginiwch chi'r brecwast -You'll cook the breakfast.
Coginiwch chi frecwast - You'll cook breakfast
Choginiwch chi ddim brecwast - You won't cook breakfast

11, Clywan nhw'r lleidr - They'll hear the robber
Clywan nhw leidr - They'll hear a robber
Chlywan nhw ddim lleidr - They won't hear a robber

13. Darllena i'r llyfr - I'll read the book
Darllena i lyfr - I'll read a book
Ddarllena i ddim llyfr - I won't read a book

Ask Dr Gramadeg Asking questions in the Future Tense