Profiad Iaith

Profiad Iaith: Pobl Sydd yn Siarad am Ddysgu a Defnyddio’r Iaith / Language Experience: People Speaking about Learning and Using Welsh

Mae deall ieithoedd yn agor drysau i ddiwylliannau, cyfeillgarwch, cerddoriaeth, celfyddydau a chyfleoedd, ac mae gwneud camau breision wrth ddysgu Cymraeg yn cyflawni hyn a gyfer pob un ohonom ni. Mae gyda ni i gyd ein profiad ein hunain o'r daith hon, ac yma mae rhai dysgwyr o oedolion yn rhannu mwy am eu taith. Mwynhewch ddarllen sut mae'r Gymraeg wedi newid eu bywydau!
Gellir clicio ar neu wasgu geiriau wedi'u tanlinellu i ddatgelu fersiwn Saesneg.

Understanding languages opens doors to cultures, friendship, music, arts and opportunities, and making good progress in learning Welsh accomplishes this for all of us. We all have our own experience of this journey, and here some adult learners share more from their journey. Enjoy reading how Welsh has changed their lives!
Words underlined can be clicked or pressed to reveal an English version.

Jên Elfael

Jen Elfael

Mae pobl yn astudio ieithoedd newydd am fyrdd o resymau ac maen nhw, fel arfer, yn disgwyl dysgu nifer o bethau penodol. Mae rhai o bynciau yn apelio’n fwy nag eraill. Dydy llawer ohonon ni, er enghraifft, yn mwynhau rheolau gramadeg, er eu pwysigrwydd. Hefyd, mae treigladau’n achosi pryder mewn nifer o ddysgwyr mewn sawl iaith, gan gynnwys y Gymraeg. Ar ôl meistroli ychydig o batrymau a geiriau, bydd cyfle i ddysgu rhai o’r caneuon enwogyr anthem genedlaethol, wrth gwrs, a Sosban Fach efallai. Wedyn, hwyrach bydd rhai tiwtor yn annog eu myfyrwyr i ddarllen enghreifftiau o lenyddiaethneu, hyd yn oed, barddoniaeth. Ond mae iaith yn llawer mwy na gramadeg a llyfrau. Dyma rhai o’r pethau annisgwyl rydw i wedi’u darganfod wrth ddysgu Cymraeg.

Yn gyntaf, mae dysgu iaith yn gallu ein helpu ni deall a chysylltu â’n hardal a’n hanes. Enw gwreiddiol fy ardal oedd Coed-y-Glas ar ôl clas a leolwyd rhyw ddwy filltir i ffwrdd. Ie, roedd fy mhentref bach ar bwys Rhydychen neu Chaergrawnt y chweched ganrif! Ond hefyd mae cwestiynau: pwy oedd ‘y marchog’ yng Nghoedymarchog (enw coedwig) neu ‘Jonah’ ym Mhentre’ Jonah (enw cae)? Ydy Brynsifiog yn cyfeirio at ‘syfi’, sef mefus? Os ydy, am enw hardd!

Yn ail, mae cerddoriaeth Cymreig yn llawer mwy na’r anthem, caneuon rygbi a chorau meibion, er maen nhw’n wych. O gyfansoddwyr clasurol, er enghreifft Morfydd Llwyn Owen, Grace Williams, William Matthias neu Alun Hoddinott, i’r canwr rap Mr Phormula, bydd rhywbeth yn eich plesio chi. Mae’r byd traddodiadol dal yn pwysig ac yn dylanwadol iawn, gyda nifer o gantorion a bandiau, fel Gwilym Bowen Rhys, Alaw a Calan, yn darganfod ac addasu hen ganeuon. Mae ‘na grwpiau electro-pop, sef HMS Morris neu Omaloma, a bandiau roc, fel Candelas. Os bydd Chroma neu Cpt Smith yn rhy – wel – swnllyd i chi, efallai bydd Gareth Bonello neu Kizzy Crawford yn fwy at eich dant. Ac oes gwlad arall yn y byd gron gyda band pres sy’n talu teyrnged at fand unigryw arall (sef Band Pres Llareggub a Super Furry Animals)?

Y trydydd darganfyddiad– sy ddim yn ddarganfyddiad o gwbl i ddweud y gwir – ydy’r bobl rydw i wedi cwrdd â nhw. Does dim amheuaeth, uchafbwynt yr wythnos ydy’r wers Cymraeg, sy’n llawn hwyl gyda thiwtor a chyd-fyfyrwyr brwdfrydig. Ond mae’n hollbwysig i ddefnyddio’r iaith tu fa’s i’r dosbarth, a dyma’r peth sy wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fi – yn dod o hyd i Gymry Gymraeg y fro, ac ymuno â digwyddiadau a chymdeithasau lle Cymraeg yn cael eu siarad. Gall hwn yn cynnwys swyddog eich Menter Iaith, y bobl sy’n trefnu’r eisteddfod leol neu aelodau o Ferched y Wawr a’r Urdd. Bydden nhw i gyd yn gefnogol ac yn hapus i roi cymorth i ddysgwyr.

Yn olaf, er mae’r iaith yn hynafol, mae hi’n perthyn i’r dyfodol hefyd. Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi’r amcan i gael ‘miliwn o siaradwyr’ - a byddaf i’n un ohonyn nhw. Dewch gyda fi!


Michelle Fecio

Michelle Fecio

MamYCathod

Fel llawer o Americanwyr eraill, ces i fy magu yng nghartref SaesnegEr gwaethafdigoneddddiwylliannau yn yr Unol Daleithiau, mae pobl fan hyn yn llai tebygol i fod dwyieithog na gwledydd o gwmpas y byd lle dydy Saesneg ddim y brif iaith. Er bod ieithoedd fel Sbaeneg yn cael eu siarad yn aml yn rhai ardaloedd yma, mae llawer o bobl dal yn meddwl bod dysgu’r iaith yn wastraff o amser. Yn anffodus, mae llawer o bobl ym myd Saesneg yn meddwl fel hyn, ond mae'r effaith yn mynd tu hwnt cyfathrebiad. Mae dysgu’r iaith yn gynnwys dysgu’r diwylliant, yr arferion, a ffwrdd newydd o feddwl- nid geiriau a gramadeg yn unig. Ffenest i mewn i wahanol fyd ydy iaith.

Yn enwedig yn y cyfnod hwn, dyn ni’n clywed llawer o glebran am sut ieithoedd yn ein gwahanu ni ac atal deall ein gilydd. Ond yn dwy flwyddyn wrth ddysgu Cymraeg, dw i wedi profi cymaint o sut ieithoedd yn gallu creu dealltwriaeth o bobl o gwmpas ni. Mae dysgu Cymraeg wedi fy nysgu fi rhywbeth pwysig- does dim ots lle dych chi’n byw, does dim ots pa iaith dych chi’n siarad, dyn ni’n i gyd yr un yn yr un ffyrdd sylfaenol. Dw i wedi teimlo cysylltiad emosiynol cryfach o eiriau cân Cymraeg neu erthygl gan Manon Steffan Ros yn Golwg na dw i wedi cael efo rhai o farddoniaeth Saesneg parchedig. Mae Cymraeg wedi tyfu fy ngwerthfawrogiad o gerddoriaeth newydd, llyfrau newydd, hanes newydd, a llefydd newydd.

Cymraeg oedd y rheswm cymerais i fy nhaith rhyngwladol am y tro cyntaf llynedd (wel, a’r Manic Street Preachers!). Dw i wedi dychwelyd i Gymru eto am yr ail dro yn fuan ar ôl (a wnes i weld ail gyngerdd Manic Street Preachers…). Fydd Cymraeg byth yn bwysig i fy ngyrfa, a fydd hi ddim yn mor annatod yn fy mywyd bob dydd fel mae hi am bobl yng Nghymru, ond mae Cymraeg wedi cyfoethogi fy mywyd mewn llawer o wahanol a phwysig ffyrdd.

Mae’n wir, mae dysgu iaith yn anodd. Mae’n rhestredig ac mae’n cymryd llawer o amser a rhaid i chi wneud llawer o waith caled. Ond dyna dim byd mor werthfawr â’r teimlad pan dych chi’n darllen erthygl neu nofel, neu wrando â stori newyddion neu raglen teledu, a sylweddoli yn sydyn bod chi’n deall rhan fach arall o’r byd.

Neil Rowlands

Neil Rowlands

parallel_cymru

Mae dysgu unrhyw iaith yn dod â gwobrwyonheriau a chyfleoedd. Mae dysgu Cymraeg dros y bum mlynedd ddiwethaf wedi agor y drws i fi gwrdd â channoedd o bobl newydd, datblygu cyfeillion newydd, ac i fwynhau’r diwylliant Cymraeg a'i sefydliadau.

Sut bynnag, dydy hi ddim wedi bod yn daith syml a syth. Dechreuais fynd i grwpiau siarad â gweithgareddau cymdeithasol yn Nhŷ Tawe, Abertawe, chwe mis ar ôl dechrau mynd i ddosbarthiadau, a deall bron dim byd! Ond nid oes siaradwyr Cymraeg yn fy nheulu, nac yn fy swyddfa, ac nid yw llawer o fy ffrindiau yn siarad Cymraeg, felly roeddwn yn gwybod bod angen i fi glywed yr iaith yn y byd go iawn. Wrth gwrs, roedd y gymuned yn Abertawe yn fy annog ac yn groesawgar iawn. Dros amser, dechreuais i ddeall mwy, ac wedyn dechreuais i wneud cyfraniadau bach i sgyrsiau. Nawr, wrth i fi gwrdd â rhywun newydd dydw i ddim yn teimlo bod angen i fi gyflwyno fy hunan gyda'r term dysgwr.

Ddwy flynedd yn ôl penderfynais integreiddio Cymraeg yn fy mywyd, felly ceisiais am rai swyddi ble roedd galluoedd Cymraeg yn hanfodol. Yn yr ail o'r cyfweliadau hynny, derbyniais i'r cwestiwn "Beth yw eich cryfderau a’ch gwendidau?", ond nes i ddim deall y geiriau cryfderau a gwendidau. Gofynnais i’r aelod o’r panel ailadroddiad y cwestiwn, ond doeddwn i ddim yn dal i ddeall, felly roedd yn rhaid i fi ofyn am y cwestiwn yn Saesneg! Teimlais fel twpsyn enfawr!

Y llynedd, sylweddolais gallen i ddechrau rhywbeth fy hunan. Dw i'n gyfarwydd â chreu gwefannau a dweud wrth bobl amdanyn nhw, ac ro'n i'n ymwybodol bod darllen yn baralel yn cael ei ddefnyddio mewn parau eraill o ieithoedd Ewropeaidd, felly treuliais gwpl o wythnosau yn taflu rhywbeth at ei gilydd. Gofynnais i rai cyfeillion gyfrannu peth cynnwys, dywedais wrth rai pobl eraill amdano fe ac roedden nhw yn ei hoffi, felly gwnes i iteru ac es i yn fyw cwpl o wythnosau ar ôl hynny.

Mae cyfleoedd anhygoel i bobl ddefnyddio gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg sydd ddim yn bodoli ar hyn o bryd; dyw cyllidgweledigaethllywodraeth ddim yn gallu gwneud popeth, ac mae'n bwysig i'r gymuned arloesi a thrio pethau newydd.

Mae'r byd digidol wedi cael gwared â rhwystrau - os oes syniad gyda chi am rywbeth sydd ar goll o'r byd Cymraeg, pam na wnewch chi lenwi’r bwlch eich hunan?


Nicole Majka

Nicole Majka

PolyGlotCookie

Dyna fi. Es i i fyny’r grisiau gyda fy magiau i Ganolfan y Celfyddydau o Brifysgol Aberystwyth. Llawer o bobol oedd ar y cofrestriad o’r Cwrs Haf Dwys. Ar ôl i holl ni cofrestru dechreuon ni siarad gydag ein gilydd. Gwnaethon ni siarad am o ble dyn ni a pha mor hir dyn ni wedi bod yn dysgu’r Gymraeg.

Fel dyma fy stori: Dw i’n byw yn yr Almaen a dw i’n astudio ieithyddiaeth yn Cologne. Ces i fy ngeni’n ddwyieithog fel roeddwn i wrth fy modd dysgu ieithoedd bob amser. Dw i wedi dechrau dysgu’r Gymraeg dwy flynedd yn ôl. Pam? Wnes i gwrdd â ffrind oedd yn astudio yng Nghaerdydd. Pan welais i’r arwyddion ffordd ces i fy synnu- roedden nhw’n ddwyieithog. Pryd hynny wnes i ddim gwybod bod yr iaith Gymraeg yn bodoli. Felly dechreuais i edrych i mewn i’r iaith. Dysgais i bethau bach: sut i ddweud shw’mae a sut i ofyn am dŷ bach a sut i archebu cwrw. Ar ôl holl hynny allais i ddim peidio dysgu.

Pan es i yn ôl adre, defnyddiais i Duolingo, Say Something in Welsh, y Geiriadur Cymraeg Cyfoes gan Gareth King a’r Gramadeg Cymraeg Cyfoes gan yr Undeb Iaith Genedlaethol Cymru. Ysgrifennais i ddyddiadur yng Nghymraeg i ddysgu geirfa pob dydd a dw i wedi cofrestru ar Twitter a dw i wedi dilyn llawer o bobol Gymreig i ymarfer darllen a dysgu geirfa newydd. Weithiau dim ond darllenais i tweets, weithiau roedd digon o egni gyda fi ddarllen erthygl gyfanAr ôl rhyw amser roedd yr erthyglau’n dod yn hirach fel beth roeddwn i’n ysgrifennu yn fy nyddiadur.

Er i fi wneud y fath gynnydd, wnes i deimlo bod i’n peidio gwneud cynnydd. Dyna bethau oedd yn edrych yn rhy anodd i ddysgu ar ben fy hun. Gan fod i’n ysgrifennu fy thesis meistr am rywbeth
Cymraeg wnes i angen dod yn well. Felly penderfynais i gofrestru ar Gwrs Cymraeg. Wnes i ddewis Aberystwyth achos mod i wedi bod yng Nghaerdydd yn barod. Meddyliais i fydd mynd i Aberystwyth yn ddewis gorau, achos bod fy ffrind wedi dweud wrtha i fod Aberystwyth yn dre hardd. Felly cofrestrais i i’r Cwrs Haf Dwys o Brifysgol Aberystwyth.

Arhosais i yn Aberystwyth am yr hyd gyflawn o’r cwrs, am bedair wythnos. Roedd y dosbarth yn mynd o nawr o‘r gloch i bump o’r gloch gydag ychydig o seibiauYn ychwanegol roedd e weithgareddau yn y nosweithiau a gwibdeithiau ar benwythnosau. Yn gyntaf roeddwn i’n ofnus i fi deimlo’n unig mewn gwlad ryfedd. Ond dyna nid oedd amser i deimlo’n unig, achos roedd pawb yn brysur gyda‘r gweithgareddau. Caethon ni i nabod ein gilydd a dechreuon ni gwrdd allan o weithgareddau cwrs a daethon ni’n ffrindiau.

Yn y ddwy wythnos gyntaf roedd hi’n anodd siarad Cymraeg a siaradon ni Saesneg wrth y seibiau, ond ers y drydedd wythnos roedden ni’n ddigon hyderus. Roedden ni’n siarad a jocan yn Gymraeg. Dechreuon ni deimlo’n gyfforddus a hyderus, achos bod ni wedi dysgu’r iaith ac am y diwylliant hefyd. Dysgon ni am yr hanes Cymreig, canon ni, dawnsion ni a bwyton ni fwyd nodweddiadol. Wrth y pedair wythnos dyn ni wedi dysgu sut i siarad Cymraeg a sut i fyw yn Gymraeg.

Prynon holl ni lyfrau Cymraeg, achos yn ôl, ble mae llawer ohonon ni’n byw, nid oes pobol sy’n gwybod sut i siarad Cymraeg gyda ni. Bydd hi’n anodd ffeindio achlysuron i ddefnyddio’r Gymraeg yn fy mywyd bob dydd, ond dw i’n mynd i drio’n galed cofio cymaint â phosib. Nawr dw i wedi bod ôl yn yr Almaen am fis a dw i wedi dechrau colli’r bywyd Cymraeg.


Bron dwy flynedd yn ôl, oeddwn i mas yn Ffrainc gyda beth oedd yn teimlo fel pawb o Gymru, gan gefnogi ein cenedl with iddyn nhw gystadlu yn erbyn y timau gorau yn Ewrop am y tro gyntaf yn fy mywyd.

Cymerodd cyfarfod ar hap a damwain gyda hogyn a oedd yn gofyn i fi a oeddwn i angen unrhyw help i ddod â 'mheintiau yn ôl i'm sedd. Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd, ond mae hogyn yna wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd. Des i adre ar ôl yr Ewros gyda llawer llai o arian ac ychydig bach mwy o bwys arna i, ond oeddwn i’n gwybod bod rhywbeth wedi newid yn fy mhen. Roeddwn i fynd i ddysgu’r iaith o fy ngwlad, canu’r anthem a ddeall beth oeddwn i wedi bod yn canu ers y tro gyntaf gwelais i gêm pêl-droed tîm Cymru yn 1990.

Dw i’n dod o Gwm Rhondda yn wreiddiol, o dre eithaf bach o’r enw Edmondstown. Pan oeddwn i’n tyfu i fyny yn y Cymoedd, chlywais i mo’r iaith Cymraeg nes i fi fynd ar wyliau yng ngorllewin Cymru gyda 'nheulu. Doedd dim ysgol uwchradd Cymraeg yn y Gymoedd pan oeddwn i’n tyfu i fyny - ac oedd gan yr ysgolion Saesneg yn yr 80s llawer mwy i’w gwneud er mwyn ysbrydoli unrhyw un i ddysgu’r iaith.

Dim ond wythnos cyn Nadolig 2016, gwnes i chwilio Google am ‘How to learn Welsh quickly’ a ffeindies i'r rhaglen Say Something in Welsh. Dechreuais i hynny, gan wneud un neu ddwy wers y diwrnod. Ar ôl dwy a hanner wythnos dysgu’r iaith, dechreuais i sianel ar Youtube o’r enw Learn Welsh with Nicky. Ers hynny fy sianel wedi tyfu a datblygu- mae gen i fwy na 450 tanysgrifwyr a fy sianel wedi cael mwy na 20,000 golygfeydd.

Y peth pwysicaf dw i wedi (ei) wneud ers dechrau siarad Cymraeg wedi bod yn helpu i ddenu ac annog pobl eraill i roi cyfle i’r iaith, yn ogystal â rhedeg sesiynau ar gyfer dechreuwyr newydd sbon dros gymunedau ar-lein. Ac yn fywyd go iawn, dw i wedi sefydlu gwefan newydd sbon sydd yn trio help i ddenu ac annog pobl a busnesau i ddefnyddio’r iaith yn fwy aml. Sef, fy wefan newydd www.useyourwelsh.com sydd yn ddwyieithog.

Beth dw i wastad yn ddweud i ddysgwyr yw “Ewch amdani nawr!” Trwy ddysgu’r iaith, dw i wedi cwrdd â llawer o bobl sydd eisiau bod yn rhugl, heb fynd mas a defnyddio eu Gymraeg. Mae siarad gyda phobl eraill yw’r peth pwysicaf byddech wneud! Hyd yn oed tasech yn poeni am wneud camgymeriadau- peidiwch! Oedd hynny yn allweddol i'm llwyddiant dysgu’r iaith - doeddwn i ddim yn ofnus o gwbl. Oeddwn i mas yn y dre'n trio ffeindio siaradwyr Cymraeg go iawn ar ôl un wythnos o'i dysgu hi! Dylwch chi wneud yr un peth hefyd!

Dyn ni i gyd yn gyfrifol am yr iaith- mae dyfodol yr iaith yn ein dwylo ni. Gallwn ni ddewis beth sydd yn digwydd gyda’r iaith.

parallel.cymru/nicky-roberts-welshspeakingpractice-slack-com

Peter Mescall

Peter Mescall
Newyddion i ddysgwyr newydd

Dw i’n dysgu Cymraeg ers 2016. A dweud y gwir, dw i wedi dysgu mwy na’r iaith. Dw i wedi dysgu'r diwylliant a’r hanes y dylwn i fod wedi dysgu blynyddoedd yn ôl. Ond pan o’n i’n blentyn, roedd rhaid i mi wneud dewisiad- Cymraeg neu Ffrangeg. O’n i isio dewis Cymraeg ond yn anffodus, ar y pryd, wnaeth fy mhrifathro'r dewisiad. Felly wnes i golli’r cyfle i ddysgu Cymraeg.

Dw i’n cofio siarad ag un o athrawon eraill yn fy ysgol. O’n i’n gweithio mewn ysgol yn Lerpwl. Wnaeth o ofyn i mi “Siarad Cymraeg?”, a do’n i ddim yn medru ymateb yn y Gymraeg. Roedd o’n hollol rugl hefyd ond dydy o ddim yn dod o Gymru. Mae o’n dod o Loegr ond cafodd o ei fagu yng Nghymru a dysgodd o’r iaith.

Felly, wnes i benderfynu dysgu, yn gyntaf efo Say Something in Welsh ac ar ôl i mi orffen y cwrs, ro’n i’n chwilio am ffyrdd eraill i ddysgu. Dyna pam wnes i ddechrau trefnu penwythnosau ar gyfer dysgwyr eraill. Dw i’n ffeindio ein bod ni’n medru ymarfer yr iaith heb boeni am gamgymeriadau. Dw i wedi trefnu wyth o benwythnosau a dw i’n siŵr y bydda i’n trefnu mwy yn y dyfodol hefyd.

Eleni, ges i fy mhriodi yn y Gymraeg yng Nghaernarfon; roedd y profiad yn anhygoel. Wnes i drefnu’r wledd trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd a dw i’n siŵr y bydda i wastad yn cofio siarad Cymraeg yn ystod y penwythnos efo Karen a Meirion Mackintyre Hughes sy’n rhedeg y gwesty yng Nghlynnog Fawr lle roedden ni’n aros. Y cân olaf oedd "Yma o Hyd" ac roedd pawb yn canu efo llawer o frwdfrydedd. Dw i'n gwerthfawrogi'r profiad cymaint.

Ro’n i falch iawn i dderbyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn digwyddiad parallel.cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Y peth sy’n anodd i ddysgwyr ydy cael gwybod am sut i symud ymlaen. Yn fy marn i, yr ateb ydy rhywbeth syml: ymarfer cymaint â phosibpheidiwch â phoeni am gamgymeriadau.

Weithiau wrth gwrs, dyn ni i gyd yn teimlo ein bod ni’n sownd yn yr un lle. Hefyd, does ‘na ddim digon o amser. Ond pan dw i’n edrych yn ôl, dw i’n gwybod fy mod i wedi teithio mor bell mewn amser byr.

Y dyddiau hyn, dw i’n siarad yr iaith efo rhai o’r athrawon eraill yn yr ysgol, dw i’n dal i drefnu penwythnosau a dw i’n mynychu cwrs efo’r bardd a darlledwr Aled Lewis Evans. Dw i’n ysgrifennu’r newyddion ar parallel.cymru ers mis Tachwedd y llynedd. Dw i ddim yn byw mewn ardal efo llawer o Gymraeg, ond dw i’n lwcus fy mod i wedi cael y cyfle i ddysgu. Dyna fy hanes, a fy nyfodol- yr iaith ydy rhan o fy mywyd.

parallel.cymru/newyddion-i-ddysgwyr-newydd

Sam Brown

Sam Brown
sambrown1993

An Blog Kernowek

Mi ddechreues i ddysgu Cymraeg tua saith mlynedd yn ôl ar ôl i mi fynd ar wyliau i ogledd Cymru a chlywed yr iaith yn cael ei siarad gan fwyafrif y bobl yr rôn i'n eu gweld ar y stryd. Ar ôl hwn rôn i'n gwybod fy mod am ddysgu mwy o'r iaith a phan ddôth yr amser i mi ddewis pa brifysgol i fynd iddi, rôn i'n gwybod mai yng Nghymru rôn am astudio er mwyn medru dysgu'r iaith.

Ers hynny mae'r Gymraeg wedi dŵad yn fwy ac yn fwy pwysig i mi ac i'm bywyd beunyddiol. Mi wnes i astudio pob lefel o gyrsiau Cymraeg i Oedolion, ac ar ôl gorffen fy ngradd BA yn Almaeneg ym Mhrifysgol Bangor mi es i ymlaen i astudio Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, lle astudies i drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar ôl gorffen yng Nghaerdydd ces i swydd efo Gwasg Gomer yng Nghaerfyrddin lle dwi wedi bod yn gweithio ers blwyddyn fel y Swyddog Marchnata Digidol.

Weithiau mae’n anodd defnyddio ail iaith (neu, yn fy achos i, trydedd iaith) yn y gweithle ac ym mhob agwedd o‘r bywyd proffesiynol a phersonol. Dwi ddim yn gwybod pob un gair yn Gymraeg ac mae wedi bod yn her imi ddŵad i arfer efo’r holl dafodieithoedd – yn enwedig ar ôl byw yn nhair cornel Cymru.

cyngor gorau dwi’n gallu ei roi ydy- peidiwch ag ofni deud pan nad ydach chi’n dallt rhywbeth. Does dim byd gwaethaf na bod ar y ffôn neu mewn cyarfod a cholli gair neu fethu dallt acen rhywun. Ond, yn enwedig wrth drafod pethau pwysig yn y swyddfa neu yn y brifysgol, weithiau dach chi’n gorfod rhoi eich llaw yn yr awyr a gofyn i rywun esbonio.

Dydy hyn ddim wastad yn brofiad da ac mae’n gallu teimlo’n lletchwith iawn, ond yn y diwedd bydd yn eich helpu chi wrth ddŵad yn fwy hyderus a rhugl wrth ddefnyddio’ch Cymraeg. Mi fyddwch chi’n dŵad i arfer wrth glywed gwahanol acenion a thafodieithoedd a bydd sgiliau yn datblygu megis dallt geiriau o’u cyd-destun a chreu geiriau newydd.

Un peth bach arall nad ydwi’n gallu awgrymu’n ddigon ydy defnyddiwch eich Cymraeg pryd bynnag cewch chi gyfle!

anblogkernowek.blogspot.com / anblogkernowek

Simon Ager

Simon Ager
Logo Omniglot

Omniglot.com

The online encyclopedia of writing systems and languages

Hanner Cymro, hanner Sais dw i. Cymraes ddi-Gymraeg yw fy mam. Oedd ei thad hi o’r Barri yn wreiddiol, ond fe gafodd hi ei cheni a'i magu yn Sir Sussex yn ne-ddwyrain Lloegr. Cefais fy ngheni a fy magu yn Sir Gaerhirfryn gyda Saesneg fel mamiaith. Roedd llyfrau a phethau eraill yn y tŷ i ddysgu Cymraeg, ac mi wnes i ddysgu rhyw geiriau a brawddegau ohonyn nhw.

Fy nghais cyntaf i ddysgu Cymraeg oedd ym 1988 efo gwrs Cymraeg Linguphone. Yn anffodus bryd hynny na doedd gennyf hunanddisgyblaeth i ddysgu bob dydd, a doedd gen i ddim cymhelliant a phenderfyniad i ddysgu am amser hir. Felly ar ôl amser byr, mi wnes i roi'r ffidil yn y to.

Mi wnes i benderfynu ceisio dysgu Cymraeg unwaith eto ym 1998, oherwydd mi wnes i ymgais am swydd ym Mhrifysgol Bangor, ac roedd gwybodaeth o Gymraeg yn fanteisiol amdano. Teach Yourself Welsh oedd y cwrs defnyddiais y tro hwn. Er wnes i ddysgu cryn dipyn o Gymraeg, ro’n i ddim yn rhugl o gwbl, ac mi ges ddim y swydd.

Ym 2003 pan ro’n i ar fy ngwyliau ym Mhortiwgal, mi wnes i gwrdd â Chymry Cymraeg ac mi wnes i geisio siarad â nhw yn y Gymraeg. Mi wnes i sylweddoli yn fuan oedd fy Nghymraeg yn wael iawn. Ar ôl i mi fynd adref, mi wnes i feddwl ro’n i wedi ceisio dysgu fy hunan cryn dipyn o ieithoedd, ond ro’n ddim yn rhugl yn un ohonyn nhw. Mi wnes i benderfynu canolbwyntio ar un iaith, ac mi wnes i ddewis y Gymraeg.

Colloquial Welsh oedd y prif gwrs wnes i ddefnyddio. Mi wnes i defnyddio Teach Yourself Welsh a Cadw Sŵn hefyd, a chyrsiau ar wefan BBC. Mi wnes i wrando ar Radio Cymru bob dydd, mwy neu lai, mi wnes i ddarllen nofelau a straeon byrion ar gyfer dysgwyr, ac mi wnes i wrando a chanu caneuon yn y Gymraeg.

Ar y pryd, ro’n i’n byw yn Brighton, lle nad oedd llawer o bobl sy’n siarad neu sy’n dysgu Cymraeg. Mi wnes i ddod â rhywun oedd yn dysgu Cymraeg trwy Gumtree, a Chymro-Cymraeg yng Nghôr Meibion Cymreig Brighton, lle mi wnes i ganu am sbel.

Yn 2007 es i'r Cwrs Haf Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Roedd y cwrs yn ddiddorol, roedd y tiwtoriaid yn wych, ac roedd cymysgedd diddorol o fyfyrwyr eraill. Mi wnes i medru deall y mwyafrif y ddywedon y tiwtoriaidd a'r myfyrwyr eraill, ac erbyn gorffen y cwrs, ro’n i’n medru siarad Cymraeg yn eitha da.

Yn 2008 mi wnes i ddysgu Cymraeg am wythnos yn Nant Gwrtheyrn, Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru ar benrhyn Llŷn. Roedd y cwrs yn ddiddorol, ac mi wnaeth o fy nghyflwyno i Gymraeg y Gogledd - hyd at hynny ro’n i’n dysgu Cymraeg y De.

Hefyd yn 2008, mi wnes i symud i Fangor i wneud gradd meistr mewn ieithyddiaeth yn y brifysgol, a dw i wedi bod yna ers hynny. Dw i’n siarad Cymraeg yn aml, dw i’n gwrando i Radio Cymru, dw i’n darllen llyfrau yn y Gymraeg, dw i’n canu caneuon yn y Gymraeg yn sesiynau gwerin a chorau, dw i’n sgrifennu yn y Gymraeg, yn enwedig ar Instagram.


Dechreuais i ddysgu Cymraeg chwe blynedd yn ôl. Ond, i ddechrau, do'n i ddim yn dysgu yn difrif. Dw i'n ffân mawr o chwaraeon, ac yn benodol rygbi. Dechreuais i fod mwy difrif pan roedd y tîm rygbi Cymru yn chwarae'r gêm olaf yng Nghwpan Chwe Gwlad 2012. Penderfynais i- byddaf wneud yr addewid i ddysgu'r iaith pe baent yn ennill y Cwpan. Enillon nhw, a'r Gamp Lawn, felly roedd rhaid i fi gyflawni’r addewid. Pan sylweddolais i ddoedd e ddim llawer o bobl sydd yn siarad yr iaith, penderfynais i ddysgu yn wir ac yn galed.

Er gwaethaf mae’n amhosib ffeindio cwrs Cymraeg neu rywun i siarad yma mewn fy ngwlad fach, Slofenia, doedd hyn ddim yn fy atal i ffeindio cwrs arlein a mynd ar daith o ddysgu Cymraeg.

A dweud y gwir, dydw i ddim yn gallu gwneud llawer yn Gymraeg wrth fod yn Slofenia, ond mae yn wastad rhywbeth fy mod yn gallu gwneud arlein. Dw i’n sgwennu cymaint â phosib yn Gymraeg, ac os dw i’n onest mae’n dibynnu llawer am ddefnyddio'r amser presennol. Hefyd, mae rhaid i fi ddysgu un iaith dramor trwy iaith dramor arall- felly dw i’n defnyddio geiriadur yn aml weithiau!

I ymarfer, mae rhaid i fi siarad â phobl arlein. Mae’r Skype a Slack yn adnoddau gwych i wneud hyn. Dw i’n lwcus iawn fy mod i wedi darganfod Say Something in Welsh i ddysgu, achos mae llawer o gyfle yno i ffeindio rhywun i siarad â. Achos o'r gwaith, cymudo a'r teulu, mae’r amser pan dw i’n gallu gwneud pethau yn Gymraeg yn fyr, felly dw i’n ffeindio'r amser bob dydd Sadwrn i siarad â rhywun arlein. Ro'n i'n hapus derbyn y cyfle i fynd ar Bwtcamp SSIW unwaith; roedd e hwb mawr i fi wrth ddysgu a siarad Cymraeg.

Pam ydw i'n dal yn dysgu? Dw i’n mwynhau'r sŵn o'r iaith, ac mae e rywbeth arbennig i fi i gael caniatâd i ddysgu a siarad Cymraeg. Dyma iaith y Duwiau wedi’r cyfan, yndefe?

parallel.cymru/tajana-learning-welsh-in-slovenia
Ydych chi'n ffansi rhannu eich stori yma? Cysylltwch â fi i fynd yn y bennod nesaf!

 

Ymwadiad / Disclaimer
Ysgrifennwyd rhai o’r erthyglau 'Dysgwyr' gan bobl sydd eisoes wrthi’n dysgu Cymraeg. Efallai y dewch ar draws rhai camgymeriadau ieithyddol yn y Gymraeg o bryd i’w gilydd.
Some of the 'Learner' articles have been written by those who are still learning Welsh. You may therefore come across some linguistic errors in the Welsh from time to time.


About this site

Mae Parallel.cymru yn gylchgrawn arlein i roi llais i unrhyw un sydd yn gwneud pethau trwy Iaith y Nefoedd, ac i gyflwyno erthyglau, straeon, diwylliant Cymraeg a llyfrau i’r byd.

Parallel.cymru is an online magazine that gives a voice to anyone who is using the language of heaven, and to introduce articles, stories, Welsh culture and books to the world.

Mae pobl yn profi’r Gymraeg ar gontinwwm o alluoedd gwahanol, ond y ffordd draddodiadol o gynhyrchu deunydd yw mewn dull deuol. Trwy gyflwyno cynnwys unigryw ochr yn ochr, yn ‘paralel’, ac wedi’u graddoli yn ôl hyfedredd (Anffurfiol, Ffurfiol, Llenyddol), gall darllenwyr o bob gallu fwynhau darllen a sicrhau bod y Gymraeg yn hygyrch i bawb.

People experience Welsh on a continuum of abilities, but the traditional way of producing material is as binary Welsh or English. By presenting unique content side by side, in parallel, sequenced by level of proficiency (Informal, Formal, Literary), readers of all abilities can enjoy reading and ensure the language is accessible to all.

Articles By Month
Popular Resources

Ask Dr Gramadeg

Y Darllenydd Penwythnos

Tarddiad ac Ystyr Enwau Cymraeg

Yr Erthyglau Mwyaf Poblogaidd

Ffilmiau i Lawrlwytho

Geirfa Themateg

Geiriadur i Ddysgwyr Arlein

Llefydd i Siarad Cymraeg

Silff Llyfrau Digidol

Highlights

Hanes yr Iaith Gymraeg

Hanes yr Iaith Gymraeg

The Old Red Tongue

Saunders Lewis Tynged Yr Iaith

Sherlock Holmes Speckled Band

Y diweddaraf oddi wrth Adnoddau