Cymraeg ar y chwith
Allan/ma’s
Bydd pobl yn defnyddio Allan mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol fel ei gilydd yng ngogledd Cymru
Bydd pobl yn defnyddio Mas mewn cyd-destunau anffurfiol yn ne Cymru tra bydd Allan yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destunau ffurfiol. e.e. ar arwyddion.
English on the right
Allan/ma’s
Allan is used formally and informally in North Wales
Mas is used informally in South Wales and allan is used formally, e.g. signs
Cam = bent/crooked/warped
deall = to understand camddeall = to misunderstand (to understand crookedly)
trin = to treat cam-drin = to mistreat/maltreat/abuse
trafod = to handle camdrafod = to mishandle
darllen = to read camddarllen = to misread
Cam = bent/crooked/warped
deall = to understand camddeall = to misunderstand (to understand crookedly)
trin = to treat cam-drin = to mistreat/maltreat/abuse
trafod = to handle camdrafod = to mishandle
darllen = to read camddarllen = to misread
Genedigol (geni – to be born).
Dw i’n enedigol o Gaerfyrddin – yn llythrennol, mae'n golygu 'I am by birth from Carmarthen', hynny yw, ffordd arall o ddweud – ‘Dw i’n dod o Gaerfyrddin yn wreiddiol – ‘I come from Carmarthen originally’.
Genedigol (geni - to be born).
Dw i’n enedigol o Gaerfyrddin - Literally, I am by birth from Carmarthen, i.e. another way of saying - ‘Dw i’n dod o Gaerfyrddin yn wreiddiol - ‘I come from Carmarthen originally’.
Llys
Bwddwn ni'n defnyddio'r gair ‘llys’ o flaen y geiriau 'mam, tad, brawd, chwaer, merch and mab' i gyfiethu'r gair Saesneg 'step-' mewn geiriau fel 'stepmother' ('llysfam'), 'stepson' ('llysfab'). Bydd 'llys' yn achosi i bob gair sy'n ei ddilyn dreiglo'n feddal.
* Eithriad i'r rheol hon yw 'llystad'.
Llys
The word ‘llys’ when used before the words: mam, tad, brawd, chwaer, merch and mab, is the equivalent of the English word ‘step’, e.g. stepmother - llysfam, stepson - llysfab. It causes a soft mutation to the word it precedes. *llystad is an exception.
I/Er mwyn
i yn gallu golygu ‘to’, e.e:
Dw i’n mynd i’r dre i wneud y siopa
I’m going to town to do the shopping
Yr ail air 'i' sy'n golygu rhywbeth hefyd - 'in order to'. Mewn iaith ffurfuol, bydd yn bosibl defnyddio 'er mwyn' yn lle ‘i’ - yr un ffordd y byddwn ni gallu dweud ‘in order to’ yn lle ‘to’ yn Saesneg.
Anffurfiol Dw i’n mynd i’r dre i wneud y siopa
Ffurfiol Rwy’n mynd i’r dref er mwyn gwneud y siopa.
I/Er mwyn
i can mean ‘to’, e.g:
Dw i’n mynd i’r dre i wneud y siopa
I’m going to town to do the shopping
The second ‘i’ – to, has the meaning – in order to. In formal language er mwyn can be used instead of ‘i’, in much the same way as ‘in order to’ can be used instead of ‘to’ in English.
Anffurfiol Dw i’n mynd i’r dre i wneud y siopa
Ffurfiol Rwy’n mynd i’r dref er mwyn gwneud y siopa.
I/Ar gyfer
Mae'r ymadrodd 'Ar gyfer' yn gallu golygu ‘for’/’in preparation for’, hefyd, e.e.
Mae bwyd wedi cael ei wneud iddyn nhw. (anffurfiol / ar lafar)
Gwneud bwyd ar eu cyfer. (ffurfiol / ysgrifennedig) Food has been/was made for them.
Byddwn ni'n rhoi rhagenwau personol rhwng dau elfen yr ymadrodd, e.e. 'ar gyfer > ar ei gyfer (for him), ar ei chyfer (for her)' ac ati. Yr un peth yn union a fydd yn digwydd gydag 'ar ôl, o gwmpas, o flaen, ar bwys' ac ati.
I/Ar gyfer
Ar gyfer can also mean ‘for’/’in preparation for’, e.g:
Mae bwyd wedi cael ei wneud iddyn nhw. informal/spoken
Gwneud bwyd ar eu cyfer. formal/written Food has been/was made for them.
As with: ar ôl, o gwmpas, o flaen, ar bwys, the personal pronouns are slotted in between the two elements of the phrase: ar gyfer > ar ei gyfer (for him), ar ei chyfer (for her), etc.
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Rwy'n mynd allan i'r parc ar ôl i fi orffen y gwaith
I'm going out to the park after I finish the work
2. Dw i'n mynd mas i'r parc ar ôl i fi gwpla'r gwaith
I'm going out to the park after I finish the work
3. Gaeth y gwas ei gam-drin gan ei feistr
The servant was mistreated by his master
4. 'Naeth yr athro gamdrafod y sefyllfa yn y dosbarth
The teacher mishandled the situation in the class
5. Awn ni ar goll os byddwch chi'n camddarllen yr arwyddion!
We'll got lost if you misread the signs!
6. Maen nhw'n enedigol o'r Alban
They're originally from Scotland
7. Mae hi'n dod o'r Swistir yn wreiddiol
She comes from Switzerland originally
8. Roedd y llysfam ddrwg yn arfer siarad â'i drych hudol
The wicked stepmother used to talk to her magic mirror
9. Pan ailbriododd yr Arglwydd Tremaine, daeth e'n llystad i dwy lyschwaer, ond doedd gan Cinderella lysfab
When Lord Tremaine remarried, he became step-father to two step-sisters, but Cinderella did not have a step-brother
10. Rydyn ni'n gadael y parti er mwyn cyrraedd y cyngerdd mewn pryd
We are leaving the party in order to arrive at the concert in time
11. Dyn ni’n gadael y parti i gyrraedd y cyngerdd mewn pryd
We're leaving the party to get to the concert in time
12. (W)newch chi frecwast ar fy nghyfer i 'fory?
Will you make breakfast for me tomorrow?
13. (Gw)nes i'r gwaith ar ei chyfer hi ddoe
I did the work on her behalf yesterday