Dyma fi’n dweud…

Byddwn ni'n gallu defnyddio'r ymadrodd hwn pan fyddwn ni'n adrodd stori i greu 'effaith gyffrous', yn hytrach na defnyddio'r amser gorffennol, a fyddai'n llai 'cyffrous', e.e:

Dwedais i            Dyma fi’n dweud
I said                    I said (yn llythrennol, 'Here’s me saying')

Dyma fi’n agor y drws        I opened the door
(yn llythrennol, 'Here’s me opening the door')
(yn lle, 'Agorais i’r drws' - 'I opened the door')

Dyma fi’n mynd i mewn      I went in
(yn llythrennol, 'Here’s me going in')
(yn lle, 'Es i i mewn' -         'I went in')

Dyma fi’n dweud…

This phrase is often used in telling stories for dramatic effect, rather than using the past tense, e.g:

Dwedais i                      Dyma fi’n dweud
I said                    I said (yn llythrennol, 'Here’s me saying')

Dyma fi’n agor y drws
Here’s me opening the door. (literally)   I opened the door.
instead of: Agorais i’r drws     I opened the door.  

Dyma fi’n mynd i mewn         Here’s me going in…
I went in…
instead of -   Es i i mewn          I went in…   etc.

Gwnes i wahodd

Byddwn ni'n gallu defnyddio Amser Gorffennol y ferf 'Gwneud' i ffurfio Amser Gorffennol berfau eraill heb raid ychwanegu terfyniadau at fôn y ferf. Yn enwedig, mae hyn yn defnyddiol gyda berfau hir, e.e.

Gwahoddais i          I invited
Gwnes i wahodd    I invited

Bydd y berfenw sy'n dilyn ffurf gryno ar 'Gwneud' yn treiglo'n feddal, os bydd yn bosibl, e.e.

Cydymdeimlo                             to sympathise
Cydymdeimlodd e                    he sympathised
Gwnaeth e gydymdeimlo      he sympathised (treiglad meddal ar ôl 'Gwnaeth e')

Gwnes i wahodd - 'I invited'

The past of the verb ‘gwneud’ is used with other verbs (especially longer verbs) to put them into the past tense, without adding an ending, e.g. instead of

Gwahoddais i                         I invited
Gwnes i wahodd                   I invited

If the past of ‘gwneud’ is used in this way it causes a soft mutation, e.g:
Cydymdeimlo                 to sympathise
He sympathised          Cydymdeimlodd e

or  Gwnaeth e gydymdeimlo  etc.

Pob copa walltog

Yn llythrennol, mae'r ymadrodd hwn yn golygu 'Every hairy corwn' yn Saesneg, ond byddwn ni'n ei ddefnyddio i fynegi'r ystyr 'Everyone without exception', neu 'Every single one’. Ystyr y gair 'copa' yw ‘crown of the head' a 'summit / peak (of a mountain)' fel ei gilydd.

Pob copa walltog - 'Everyone'

This is an idiom meaning ‘everyone without exception/every single one’.  It’s literal meaning is ‘every hairy crown’.  ‘Copa’ can mean ‘crown of the head’ or summit/peak (of a mountain).

Dugoch

Byddwn ni'n gallu uno enwau ar liwiau fel hyn:

dugoch - red-black
browngoch - red-brown (russet)

Dugoch

Colours can be combined in this way:

dugoch > red-black
browngoch > red-brown - russet

Iawn

Mae'r gair 'Iawn' yn gallu golygu:

1) 'OK / alright'
e.e. Iawn, diolch      OK / alright, thanks

2) Very (gydag ansoddair)
e.e. tal iawn             very tall

3) Right / correct (gydag enw)
e.e. ei enw iawn e    his right name

Iawn can mean:

1) ok/alright           e.g.      iawn, diolch
(ok/alright, thanks)

2) very                    e.g.       tal iawn
(very tall) with an adjective.

3) right/correct       e.g.       ei enw iawn e
(his right name) with a noun.

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Dwedodd e fy mod i'n ofnadw', ond ar unwaith dyma hi’n ymateb  i ddweud ei fod e'n anghywir!
He said that I'm awful, but she responded at once to say he's incorrect!

2. Dwedon nhw am beidio 'neud e, ond dyma ni’n sleifio i mewn i'r dwnsiwn ta be'
They said not to do it, but we crept into the dungeon anyway  

3. Rhedaist ti i mewn, a dyma nhw’n dod mas mor araf
You ran in, and they came out so slowly

4. Cwrddon nhw â ni pan 'naethon ni'u gwahodd nhw
They met us when we invited them

5. Cydymdeimlon ni â hi, ond 'naethon ni ddim cydymdeimlo â fe
We sympathised with her, but we did not sympathise with him

6. Roedd fel petai pob copa walltog yn gwybod beth oedd wedi digywdd
It was as if every single person knew what had happened

7. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, mae'r gair 'dugoch' yn golygu, 'Coch tywyll, porffor, lliw rhwd, rhydlyd.'
According to Geiriadur Prifysgol Cymru, the word 'dugoch' means, 'Dark red, purple, rust coloured, rusty.'

8. 'Gwiwer frowngoch' yw'r enw Cymraeg ar fath o wiwer, o'r enw 'red squirrel' yn Saesneg, neu 'Sciurus vulgaris leucourus' yn Lladin.
'Russet squirrel' is the Welsh name for a type of squirrel, called 'red squirrel' in English, or 'Sciurus vulgaris leucourus' in Latin.

9. Beth yw'ch enw iawn chi, ddylwn i ddim dal i ddweud Dai?
What's your real name, I shouldn't keep on saying Dai?

10. Mae pobl yr Almaen yn dal iawn, ond mae'r rhai yn yr Iseldiroedd yn dalach o lawer
People in Germany are very tall, but those in the Netherlands are much taller

11. Sut mae pethau heddi', Twm? O, iawn, diolch yn fawr Harri!
How are things today, Twm? Oh, alright, thanks very much, Harri!