Awdur a chyfieithydd Elin Meek: Cyfieithu llyfrau Roald Dahl i'r Gymraeg

Awdur a chyfieithydd Elin Meek: Cyfieithu llyfrau Roald Dahl i’r Gymraeg / Author and translator Elin Meek: Translating Roald Dahl’s books into Welsh

Un o'r pethau sy'n rhoi mwynhad i ddysgwyr yw gallu edrych ar fyd cyfarwydd trwy gyfrwng newydd. O'm rhan fy hun, roedd darllen llyfrau adnabyddus Dahl yn ffordd wych er mwyn fy helpu i ddechrau darllen Cymraeg. Felly ro’n i’n wrth fy modd fod cyfieithydd Dahl, Elin Meek, yn barod i esbonio sut cyfieithodd hi'r gemau hyn...

One of the joys of being a learner is that you can explore a familiar world through a new medium. For me, reading Roald Dahl's familiar works was a great way to help me get started reading in Welsh. So I was delighted that Dahl's translator, Elin Meek, consented to explain how she translated these gems...

Dw i’n cofio cael galwad ffôn un prynhawn yn 2002. Y diweddar Dewi Morris Jones, o Gyngor Llyfrau Cymru yn Aberystwyth, oedd yno. Roedd e’n holi a faswn i’n hoffi cyfieithu Charlie and the Chocolate Factory i’r Gymraeg. Ro’n i’n gwybod am Roald Dahl a’r nofel hon, ond do’n i erioed wedi’i darllen hi, achos ro’n i’n rhy hen erbyn iddi gael ei chyhoeddi’n gyntaf yn Saesneg. I remember receiving a phone call one afternoon in 2002. It was the late Dewi Morris Jones of the Welsh Books Council in Aberystwyth. He was asking if I would like to translate Charlie and the Chocolate Factory into Welsh. I knew of Roald Dahl and this novel, but I had never read it, because I was too old when they were first published in English.
Ro’n i wrth fy modd, wrth gwrs. Ar y pryd, ro’n i’n meddwl mai dim ond y llyfr Charlie a’r Ffatri Siocled fasai’n cael ei gyhoeddi. Ond penderfynodd Rily, y cyhoeddwyr (Richard a Lynda Tunnicliffe), eu bod nhw eisiau cyhoeddi 14 llyfr rhyddiaith Dahl i’r Gymraeg dros nifer o flynyddoedd. Felly, bues i’n gweithio ar ddau neu dri llyfr y flwyddyn am dipyn. Roedd y bechgyn yn ifanc ac ro’n i’n darllen iddyn nhw bob nos. Felly ro’n i’n arfer cyfieithu pennod yn y dydd, a’i darllen hi iddyn nhw gyda’r nos. I was delighted, of course. At the time, I was thinking that just Charlie and the Chocolate Factory would be published. But Rily, the publisher (Richard a Lynda Tunnicliffe), decided to release Dahl’s 14 books of prose over a number of years. So, I worked on two or three books a year for a while. The boys were young and I was reading to them every evening. So I was usually translating a chapter in the day and then reading it to them in the evening.
Do’n i ddim yn cael newid y testun, hynny yw, cyfieithu ro’n i i fod i’w wneud, nid addasu. Pan dw i’n addasu stori i’r Gymraeg, dw i’n cael newid yr enwau neu’r lleoliad, fel bod y darllenwyr yn credu bod y stori’n digwydd yng Nghymru. Ond, do’n i ddim yn cael newid enwau fel Grandpa George a Grandma Georgina – roedd rhaid iddyn nhw gael eu cyfieithu’n llythrennol i Tad-cu George a Mam-gu Georgina. Roedd hyn braidd yn lletchwith achos yn Gymraeg, fel arfer, ’dyn ni’n rhoi enw lle neu enw’r cartref ar ôl enw Tad-cu a Mam-gu. I wasn't allowed to change the text, that is, I was translating, not adapting. When I adapt a story into Welsh I am allowed to change the names of places, so that the reader believes the story is taking place in Wales. However, I wasn't allowed to change names like Grandpa George and Grandma Georgina- they were literally translated to Tad-cu George and Mam-gu Georgina. This was rather awkward because in Welsh we usually put the name of the place or home after the noun Grandad and Grandma.
Roedd cyfieithu llyfrau Roald Dahl yn hwyl achos ro’n i’n gallu bod yn greadigol. Y llyfr mwya heriol oedd Yr CMM. Ro’n i’n ceisio dilyn beth roedd Roald Dahl yn ei wneud, hynny yw, chwarae ar eiriau fel eu bod nhw’n ddoniol. Er enghraifft, roedd Dahl yn troi ‘human beings’ yn ‘human beans’. Felly gwnes i rywbeth tebyg, a throi ‘bodau dynol’ yn ‘blodau dynol’.Translating Roald Dahl books was fun because I could be creative. The most challenging book was the BFG. I was trying to follow what Roald Dahl was doing, that is, playing with words so that they could be funny. For example, Dahl changed ‘human beings’ to ‘human beans’. So I did something similar, and changed ‘bodau dynol’ to ‘blodau dynol’.
Hefyd, roedd yr CMM (y Cawr Mawr Mwyn) yn defnyddio brawddegau fel ‘I is going’ felly yn Gymraeg, defnyddiais i frawddegau pwysleisiol, ‘Fi sy’n mynd...’ Ro’n i’n hoffi creu geiriau newydd fel clampsblwncus, sgwiffus, gwanbigo a gwib-bopio a dw i’n gobeithio bod plant yn mwynhau eu darllen nhw. Also, the BFG (Big Friendly Giant) uses sentences like ‘I am going’ so in Welsh, I used emphatic sentences, “I am going...’. I enjoyed creating new words like clampsblwncus, sgwiffus, gwanbigo a gwib-bopio and I hope that children enjoy reading them.

Ro’n i’n hoffi creu geiriau newydd fel clampsblwncus, sgwiffus, gwanbigo a gwib-bopio...

Dw i wedi cael gwybod yn ddiweddar bod ystâd Roald Dahl wedi bod yn edrych drwy’r archifau, ac wedi dod o hyd i lyfr ‘newydd’ ganddo. Felly, bydda i’n brysur eto’r flwyddyn nesaf yn cyfieithu’r llyfr hwnnw.I have been told recently that the Roald Dahl estate has been looking through the archives and has found a ‘new’ book. So, I’ll be busy again next year translating that.
Mae llyfrau Roald Dahl wedi cael eu cyfieithu i ryw 60 o ieithoedd, felly dw i’n credu ei bod hi’n beth da bod ei waith ar gael yn Gymraeg hefyd. Wedi’r cyfan, yng Nghaerdydd gaeth Dahl ei eni, a buodd yn Ysgol y Gadeirlan yn Llandaf am rai blynyddoedd.Roald Dahl books have been translated into some 60 languages, so I think that it is good his work is also available in Welsh. After all, Dahl was born in Cardiff and went to Llandaff Cathedral School for some years.
Dw i’n gobeithio bod ei waith yn denu plant i ddarllen rhagor o Gymraeg. Mae rhieni di-Gymraeg yn enwedig yn nabod ‘brand’ Dahl a lluniau Quentin Blake. Efallai eu bod nhw’n teimlo’n gyfforddus yn prynu ei lyfrau achos eu bod nhw’n cofio eu mwynhau nhw eu hunain. Os yw’r plant yn mynd ymlaen wedyn i ddod yn ddarllenwyr brwd ac i ddarllen gwaith awduron Cymraeg gwreiddiol, bydda i’n teimlo bod y cyfan yn werth chweil.I hope his work attracts children to read more Welsh. In particular, parents who don’t speak Welsh recognise the Dahl ‘brand’ and Quentin Blake’s illustrations. Maybe they feel comfortable buying the books because they enjoyed them theirselves. If children continue to be fervent readers and read the work of original Welsh authors, I will feel that it’s all been worth it.

gwales.com / rily.co.uk / RilyBooks

Casgliad o lyfrau Roald Dahl yn y Gymraeg, sydd wedi cael eu cyfieithu gan Elin Meek


Erthygl ar gael i lawrlwytho ar Apple Books, PDF & Kindle / Article available to download on Apple Books, PDF & Kindle:

Apple Books logo

PDF logo

Kindle logo


Elin Meek- Cymru Ar Y Map

Y diweddaraf oddi wrth Awduron: Sut a Pham Ysgrifennais