Ask Dr Gramadeg: Byth & Erioed- Ever & Never

Mae'r ddau air hyn yn gallu golygu naill ai 'Never' neu ynteu 'Ever' yn dibynnu ar y cyd-destun. Mewn gosodiad neu mewn cwestiwn bydd y ddau'n golygu 'Ever', e.e:

Cymru am byth                                             Wales for ever

Wyt ti wedi bod i/yn Sbaen erioed?       Have you ever been to Spain?

Mewn gosodiad negyddol bydd y ddau'n golygu 'Never', e.e.

Dw i byth yn mynd y dyddiau ’ma             I never go these days

Sa i wedi bod erioed                                     I’ve never been

Bydd rhaid defnyddio Byth gyda'r Presennol, y Dyfodol, yr Amherffaith, a'r Amodol

Bydd rhaid defnyddio Erioed gyda'r Perffaith, a'r Gorffennol

Both mean ‘ever’ or ‘never’ depending on their context.  With a statement/question both mean ‘ever’, e.g:

Cymru am byth!                                  Wales for ever!

Wyt ti wedi bod i/yn Sbaen erioed?     Have you ever been to Spain?

With a negative both mean ‘never’, e.g:

Dw i byth yn mynd y dyddiau ’ma        I never go these days

Sa i wedi bod erioed                            I’ve never been

Byth is used with the present, future, imperfect (roedd) and conditional (would - byddai) tenses.

Erioed is used with the perfect (wedi) and past tense.

Dyma esboniad mwy manwl

A bod yn fanwl gywir, mae'r ddau air hyn yn gallu golygu naill ai 'Never' neu ynteu 'Ever' yn dibynnu ar y cyd-destun.

Mewn gosodiad cadarnhaol, neu newn cwestwin, bydd Byth ac Erioed yn golygu 'Ever', e.e:

Wyt ti wedi bod/Fuest ti yn Sbaen erioed?       Have you ever been to Spain?
Cymru am byth!                                                   Wales for ever!

Mewn gosodiad negyddol, bydd 'Byth' ac 'Erioed' yn golygu 'Never', e.e:

Ddysga i ddim >    Ddysga i byth!
I will not learn >   I’ll never learn!

Dw i ddim wedi bod ’na > Dw i erioed wedi bod ’na.
I have not been there > I have never been there.

A more detailed explanation

Both byth and erioed mean ever or never, depending on the context.  Ever, in a positive statement or a question, e.g:

Wyt ti wedi bod/Fuest ti yn Sbaen erioed?    Have you ever been to Spain?
Cymru am byth!                                             Wales for ever!

Never in a negative statement, e.g:
Ddysga i ddim > Ddysga i byth!    Dw i ddim wedi bod ’na  >  Dw i erioed wedi bod ’na.
I will not learn  > I’ll never learn!  I have not been there      >  I have never been there

Dylech chi ddefnyddio 'Erioed' mewn cyd-destunau sy'n awgrymu bod 'rhywbeth wedi dod i ben' (hynny yw, yn yr Amser Perffaith ac yn yr Amser Gorffennol), e.e.

Welais i erioed gymaint o eira       I never saw so much snow   (y Gorffennol Cryno)
Sa i wedi bwyta malwod erioed    I have never eaten snails   (y Perffaith)
Fuest ti/Fuoch chi yno erioed?     Have you ever been there?   (Gorffennol Cryno 'Bod')

Erioed is used for never/ever with a ‘past’ sense, i.e. with the past and perfect (wedi) tenses, e.g:
Welais i erioed gymaint o eira I never saw so much snow.   (past tense)
Sa i wedi bwyta malwod erioed.         I have never eaten snails.      (perfect tense)
Fuest ti/Fuoch chi yno erioed?           Have you ever been there?

Dylech chi ddefnyddio 'Byth' mewn cyd-destunau sy'n awgrymu bod 'rhywbeth yn dal i ddigwydd' (hynny yw, gyda phob amser arall - yn y Presennol, y Dyfodol, yr Amherffaith, a'r Amodol, e.e:

Do’n i byth ’na                               I was never there   (Amherffaith)
Af i byth yn ôl                                 I will never go back   (Dyfodol)
Elwn i byth yn ôl                            I would never go back   (Amodol)
Fydda i byth yn codi’n gynnar      I never get up early   (Presennol Arferol)
Dw i byth yn gwrando                  I never listen   (Presennol)

Byth is used for never/ever with a ‘present, future or ongoing’ sense, i.e. with all the other tenses: present, conditional, future and even the imperfect (was - roedd) as it has an ongoing or habitual sense, e.g:

Do’n i byth ’na.                        I was never there.
Af i byth yn ôl.                         I will never go back.
Elwn i byth yn ôl.                    I would never go back.  
Fydda i byth yn codi’n gynnar   I never get up early
Dw i byth yn gwrando.          I never listen.

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

 

1. Roedd pawb y stadiwm yn gweiddi, 'Cymru am byth,' siŵr o fod
Everyone in the stadium was shouting, 'Wales for ever,' probably

2. Dych chi wedi bod yn yr Alban erioed?
Have you ever been to Scotland?

3. Dyw hi byth yn dod i ymweld y dyddiau ’ma
She never comes to visit these days

4. So ni wedi mynd i gyngerdd yn yr ysgol erioed
We've never been to a concert in the school

5. Ydyn nhw wedi bod yn yr Almaen erioed? Ydyn / Nac ydyn.
Have they ever been to Russia? Yes / No.

6. Fuon nhw yn Rwsia erioed? Do / Naddo.
Have they ever been to Russia? Yes / No.

7. Ddysgi di ddim sut i yrru car o fewn wythnos, ond ddysgiff e byth sut i hedfan awyren!
You won't learn how to drive a car within a week, but he'll never learn how to fly an aeroplane!

8. Dw i ddim wedi mynd i'r swyddfa ond dwyt ti erioed wedi gofyn am y ffaith.
I haven't been to the office but you've never asked about the fact

9. Welon ni erioed gymaint o ddŵr ar y ffyrdd, ro'n nhw fel afonydd
We never saw so much water on the roads, they were like rivers

10. So nhw wedi blasu cyri malwod erioed
They have never tasted snail curry

11. Fuodd hi yn y dafarn erioed? Do / Naddo.
Has she ever been to the pub? Yes / No.

12. Do’n ni byth yn swyddfa'r prif weithredwr
We were never in the chief executive's office

13. Ddoi di byth yn ôl, dw i'n siŵr
You will never come back, I'm sure

14. 'Nelen nhw byth frecwast, achos eu bod nhw mor ddiog
They would never make breakfast, because (that) they are so lazy

15. Fyddwn ni byth yn mynd i'r gwely yn hwyr
We never go to bed late

16. Dyw e byth yn gweiddi arna i fel rheol
He never shouts at me usually