Ask Dr Gramadeg: Cyflwyno Gorchmynion / Introducing Commands

O ystrired y berfau afreolaidd, dyma'r gorchmynion. Byddwn ni'n eu defnyddio nhw mewn gorchmynion ac mewn cyfarwyddiadau. Mae i bob gorchymyn ddwy ffurf. Byddwn ni'n defnyddio'r naill wrth gyfeirio at ti (unigol neu gyfeillgar) a'r llall wrth gyfeirio at chi (lluosog neu ffurfiol).

These are the commands for the irregular verbs.  They are used for instructions or directions. Each command has two forms; one to use with ti (for singular familiar) and one with chi (for formal or plural situations).

Mynd         

ti         Cer                  Go!  Get…!
chi       Cerwch  (Ewch - signs)

e.g.  Get out! / Go out!       >          Cer ma’s!  / Cerwch ma’s!
Go up the hill                     >         Cer lan y tyle / Cerwch lan y tyle
Get into your lane            >         Ewch i’ch lôn (motorway signs)

 Peidio             Don’t…!
ti          Paid (â)
chi       Peidiwch (â)
eg: Don't eat chips!       >       Paid (â) bwyta sglodion!

Bod                 Be…!
ti          Bydd yn
chi       Byddwch yn
eg Be quiet                    >        Byddwch yn dawel!

Dod              Come…!
ti          Dere
chi       Dewch

Gwneud         Do…!
ti          Gwna
chi       Gwnewch

* Cer/Cerwch + â   = Take
e.g. Cer â hwn ’da ti               Take this with you

* Dere/Dewch + â  = Bring
e.g. Dere â llyfr i fi           Bring me a book/Give me a book.

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Dere i mewn, Ffred, byddwn ni'n dechrau mewn munud!
Come in Ffred, we'll be starting in a minute!

2. Dewch i mewn, chi ill dau, peidiwch (ag) aros yna!
Come in, you two, don't wait there!

3. Cer lawr y bryn cyn troi i'r dde!
Go down the hill before turning right!

4. Cerwch rownd y gornel ac wedyn heibio i'r eglwys!
Go round the corner and then past the church!

5. Peidiwch (â) bwyta cyri malwod, mae'n blasu'n ofnadw'!
Don't eat snail curry, it tastes awful!

6. Bydd yn ofalus pan fyddi di'n mynd â'r ci am dro, Ffred!
Be careful when you take the dog for a walk, Ffred!

7. Byddwch yn neis bois, dyn ni ddim eisiau i neb gwyno!
Be nice, boys, we don't want anyone to complain!

8. Dere adre' ar unwaith, Ffred, mae sefyllfa'n datblygu!
Come home at once, Ffred, there's a situation developing!

9. Dewch i'r cyngerdd cyn mynd i'r dafarn!
Come to the concert before going to the pub!

10. (Gw)na ginio heno, a bydda i'n (gw)neud brecwast 'fory!
Make dinner tonight, and I'll make breakfast tomorrow!

11. Gwnewch eich gorau glas yn yr arholiad, blant!
Do your very best in the exam, children!

12. Cerwch â'r cylchgrawn hwn ’da chi!
Take this magazine with you!

13. Dewch â'ch gwaith chi ata i, blant!
Bring your work to me, children!