Ffilmiau Cymraeg ar gael ar DVD

Ffilmiau Cymraeg ar gael ar DVD ac i’w lawrlwytho’n ddigidol / Welsh language films available on DVD and digital downloads

Mae llawer o ffilmiau, dramâu a rhaglenni dogfen arbennig wedi cael eu darlledu ar y teledu yn y Gymraeg, ond heb eu rhyddhau fel DVD neu’n ddigidol.  Felly, mae’r rhestr hon yn llawer byrrach nag y dylai fod, ond mae’r eitemau’n deilwng o gael eu gwylio a’u trysori.

There have been many fantastic Welsh-language films, dramas and documentaries broadcast on television, but then don’t receive a DVD or digital release.  Therefore, this list is far smaller than it should be, but each item is well worth watching and treasuring.

Hedd Wyn DVDHedd Wyn, 1992

Ar gael ar DVD o Cant a Mil Vintage.

Ffilm Hedd Wyn a gafodd enwebiad ar gyfer Oscar mewn iaith Dramor yn 1993. Mae’r ffilm yn adrodd hanes y mab fferm o Drawsfynydd, cyn ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a oedd yn breuddwydio am ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn hawdd, mae Hedd Wyn yw'r ffilm Gymraeg fwyaf enwog a mwyaf gwylio.

cy.wikipedia.org/wiki/Hedd_Wyn_(ffilm).

Hedd Wyn received an Oscor nomination in 1993 in the Foreign Language film category. The film tells the story of the farmer's son from Trawsfynydd, before and during the First World War, who dreamed of winning the National Eisteddfod Chair.

Hedd Wyn is easily the most famous and most-watched Welsh-language film.

en.wikipedia.org/wiki/Hedd_Wyn_(film).

Iaith: Cymraeg gydag is-deitlau Saesneg.

imdb.com/title/tt0104403
Patagonia DVDPatagonia, 2010

Ar gael ar DVD o Cant a Mil Vintage ac yn ddigidol ar

Mae’r ffilm hardd ‘Patagonia’ yn dilyn dwy fenyw a’u teithiau ar adegau gwahanol iawn o’u bywydau. Wedi’i lleoli ym Mhatagonia ac yng Nghymru yn Gymraeg a Sbaeneg gydag is-deitlau Saesneg. Mae cerddoriaeth arbennig iawn gan gynnwys canu Duffy.

cy.wikipedia.org/wiki/Patagonia_(ffilm)

The beautiful 'Patagonia' film follows two women and their journeys at very different times of their lives. Located in Patagonia and in Wales in Welsh and Spanish with English subtitles. There is very special music including Duffy's singing.

en.wikipedia.org/wiki/Patagonia_(film)

Iaith: Cymraeg/Sbaeneg gydag is-deitlau Saesneg/Cymraeg.

imdb.com/title/tt1020559
Pen Talar DVDPen Talar, 2010

Ar gael ar DVD.

Roedd y gyfres yn adrodd hynt a helynt dau deulu o orllewin Cymru dros gyfnod o hanner canrif, gan ddechrau yn y 1950au ac yn parhau i'r presennol.

cy.wikipedia.org/wiki/Pen_Talar

The series tells the story of two families from west Wales over a period of half a century, starting in the 1950s and continuing until the present day.

Iaith: Cymraeg gydag is-deitlau Saesneg.
Solomon and Gaenor DVDSolomon & Gaenor, 1999

Ar gael ar .

Yng Nghymru yn 1911 mae Iddew ifanc (Ioan Gruffudd) yn ceisio ennill ei fywoliaeth trwy werthu brethynau o ddrws i ddrws, ond i wneud hynny mae angen iddo guddio ei ethnigrwydd. Ar un o'i rowndiau gwerthu mae e'n cwrdd ac yn cwympo mewn cariad â merch wylaidd. Mae'r ddeuddyn ifanc yn cwympo mewn cariad ac mae hi'n beichiogi. Pan mae terfysgoedd gwrth-Semitig yn digwydd, rhaid i'r ddau ffoi ac yna gwahanu.
Caeth y ffilm hwn ei enwebiad ar gyfer Oscar mewn iaith Dramor yn 2000.

cy.wikipedia.org/wiki/Solomon_a_Gaenor

Wales in 1911 a young Jew (Ioan Gruffudd) tries to make a living by peddling textiles from door to door, but to do that he needs to hide his ethnicity. On one of his selling rounds he meets and falls in love with a demure young girl. The young duo falls in love and then she falls pregnant. When antisemitic riots occur, both must flee and then separate.
This film was nominated for an Oscar in the Foreign Language category in 2000.

en.wikipedia.org/wiki/Solomon_&_Gaenor

Iaith: Cymraeg, Saesneg a Yiddish, gydag is-deitlau Seasneg.

imdb.com/title/tt0181830/
Stori Cymru ar iTunesStori Cymru, 2012/3

Ar gael ar iTunes yn rhad ac am ddim fel fideo podcast .

Mae Huw Edwards yn adrodd y stori afaelgar am ein cenedl, gan ddangos pa mor ddylanwadol y bu Cymru ar hyd yr oesoedd.

Huw Edwards recounts the gripping story of our nation, showing how influential Wales has been throughout the ages.

This video podcast includes clips of the series, together with transcripts as PDFs.

Iaith: Cymraeg.

An English version is available as The Story of Wales.
Y Gwyll DVDY Gwyll (Hinterland)
Cyfres 1: 2013, Cyfres 2: 2015 a Chyfres 3: 2016

Ar gael ar DVD ac ar .

Mae Y Gwyll yn gyfres ddrama ditectif noir a ddarlledir ar S4C yn y Gymraeg. Caeth y fersiwn Saesneg, Hinterland, gyda darnau byr o ddeialog yng Nghymru, ei darlledu ar BBC One Wales. Pan ddarlledwyd hyn dyma ddrama gyntaf y BBC gyda deialog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ffilmiwyd y rhaglen yn Aberystwyth ac o'i gwmpas, yn aml mewn lleoliadau gwledig.

Arweiniodd llwyddiant hyn at nifer o ddramâu dwyieithog eraill o safon uchel ar S4C, sydd hyd yma heb eu rhyddhau i DVD nac yn ddigidol.

cy.wikipedia.org/wiki/Y_Gwyll

Y Gwyll is a Welsh noir police detective drama series broadcast on S4C in Welsh. An English language version, Hinterland, with brief passages of Welsh dialogue, aired on BBC One Wales. When this was broadcast it was the first BBC television drama with dialogue in both English and Welsh. The programme was filmed in and around Aberystwyth, often in rural locations.

The success of this led to a number of other high-quality bilingual dramas on S4C, which as yet haven't been released to DVD or digitally.

en.wikipedia.org/wiki/Hinterland_(TV_series)

Iaith: Cymraeg a Saesneg gydag is-deitlau Saesneg.

imdb.com/title/tt2575968
Y Llyfrgell DVDY Llyfrgell (The Library Suicides), 2016

Ar gael ar DVD o Cant a Mil Vintage ac ar .

Wedi'i ffilmio ar leoliad o gwmpas Aberystwyth ac yn seiliedig ar y llyfr Fflur Dafydd Y Llyfrgell. Mae llyfrgellwyr o efeilliaid Ana a Nan yn argyhoeddedig bod eu mam wedi'i llofruddio ac felly maen nhw am ddial ar y person euog, ond mae porthor nos y Llyfrgell Genedlaethol, yn difetha eu cynllun…

cy.wikipedia.org/wiki/Y_Llyfrgell_(ffilm)

Filmed on location around Aberystwyth and based on the Fflur Dafydd book Y Llyfrgell. Librarians twins Ana and Nan are convinced that their mother has been murdered and and so they want to be revenged upon the guilty person, but the National Library's night porter spoils their plan...

Iaith: Cymraeg gydag is-deitlau Saesneg.
Eldra DVDEldra, 2002
Based on a true story, Eldra Jarman (Iona Jones) is a spirited young girl who cannot concentrate on her studies. Instead, her imagination focuses endlessly -- and fittingly -on a fox she's seen running wild. Over summer vacation, this wild child visits family in a small village, where she effortlessly garners the attention of a posh young man named Robat (Gareth Wyn Roberts) and his dour older brother, Taid (John Ogwen). Her Gypsy-like whimsy soon brings her much attention.

Iaith: Cymraeg gydag is-deitlau Saesneg.

Very limited DVD availability.

Beth am ffilmiau a rhaglenni teledu eraill sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, ond sy’n mynegi diwylliant a bywyd Cymraeg drwy’r iaith Saesneg?  Wel, mae’r rhain yn ddechrau da…

What about other films and TV series that are set in Wales but convey Welsh culture and life through the medium of English?  Well, these are a good start…


DVD The Edge of Love

IMDB


DVD The Englishman Who Went Up a Hill

IMDB


DVD Gavin and Stacey

IMDB


DVD Grand Slam

IMDB



DVD How Green Was My Valley

IMDB


DVD Human Traffic

IMDB


DVD I Know You Know

IMDB


DVD King Arthur

IMDB


DVD Pride

IMDB


DVD Set Fire To The Stars

IMDB


DVD Twin Town

IMDB


DVD Under Milk Wood

IMDB

Y diweddaraf oddi wrth Adnoddau