Ask Dr Gramadeg: Cyflwyno Enwau Gwledydd / Introducing Country Names

Mae’r rhan fwyaf o wledydd eraill y byd yn swnio’n debyg iawn i’r Saesneg, e.e:
Most of the other countries of the world sound very similar to the English, e.g:

Tsieina, India, Rwsia, Awstralia, Awstria, Brasil, Rwmania, Bwlgaria, Lithwania,

Wcráin, Sweden, Pacistan, Twrci, Portiwgal, Catalwnia, Norwy, Canada, Ecwador

ch  > ts   e.e.  China > Tsieina

f    > ff    e.e.  Finland > Y Ffindir   

k   > c     e.e.  Pakistan > Pacistan, Ukraine > Wcráin

q   > c     e.e.  Iraq > Irac

qu > cw  e.e.  Equador > Ecwador

u   > w    e.e.  Austria > Awstria, Russia > Rwsia, Ukraine > Wcráin

v   > f     e.e.  Venezuela > Feneswela

x   > cs   e.e.  Mexico > Mecsico

z   > s     e.e.  Brazil > Brasil

Bydd y fannod (Y neu Yr) yn cael ei rhoi o flaen enwau rhai gwledydd, e.e. Yr Almaen, Y Ffindir.
Y
or Yr is placed before some country names, e.g. Yr Almaen, Y Ffindir.

tir = land, e.g. Switzerland > Y Swistir

Rywbryd bydd y gair tir yn cael ei dreiglo'n feddal, e.e. Finland > Y Ffindir
Tir is sometimes mutated to dir, e.g. Finland > Y Ffindir     

Mae rhestr lawn o enwau gwledydd ar gael ar ffurf siart amedrych yn yr Adran Adnoddau

A full list of country names is available as a lookup chart in the Resources section

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

 

1. Ges i fy ngeni yng Ngymru ond ges i fy magu yn yr Alban
I was born in Wales but I was brought up in Scotland

2. Symudodd ei deulu e o Iwerddon i dde Cymru pan oedd e'n grwt
His family moved from Ireland to South Wales when he was a kid

3. Mae Lloegr a Gogledd Iwerddon yn rhannau o'r Deyrnas Unedig
England and Northern Ireland are parts of the United Kingdom

4. Mae Prydain Fawr yn ynys oddi ar arfordir gogledd gorllewinol Ewrop
Great Britain is an island off the north-western coast of Europe

5. Mae tua 1.4 biliwn o bobl yn byw yn Tsieina heddi'
There are about 1.4 billion people living in China today

6. Dyn ni'n cyfeirio at India fel isgyfandir
We refer to India as a subcontinent

7. Unwaith, roedd y Tsar mewn grym yn Rwsia
Once, the Tsar was in power in Russia

8. Mae llawer o rywogaethau diddorol yn Awstralia
There are many interesting species in Australia

9. Yn Awstria, maen nhw'n siarad yr Almaeneg
In Austria they speak German

10. Mae Brasil yn wlad enfawr yn Ne America
Brazil is a huge country in South America

11. Mae Mynyddoedd Carpathia yn Rwmania
The Carpathian Mountains are in Romania

12. Sofia yw prifddinas Bwlgaria
Sofia is the capital city of Bulgaria

13. Mae Lithwania'n wlad ar y Môr Baltig
Lithuania is a country on the Baltic Sea

14. Gwlad fawr yn Nwyrain Ewrop yw Wcráin
Ukraine is a large country in Eastern Europe

15. Mae miloedd o ynysoedd o gwmpas arfordir Sweden
There are thousands of islands around Sweden's coast

16. Ym Mhacistan maen nhw'n siarad Wrdw a Saesneg
In Pakistan they speak Urdu and English

17. Ankara yw prifddinas Twrci
Ankara is the capital city of Turkey

18. Mae Portiwgal yn wlad ar y penrhyn Iberaidd
Portugal is a country on the Iberian Peninsula

19. Cymuned awtonomaidd yn Sbaen yw Catalwnia
Catalonia is an autonomous community in Spain

20. Mae llawer o ffiordau yn Norwy
There are lots of fjords in Norway

21. Mae Rhaeadr Niagara yng Nghanada
The Niagara Falls are in Canada

22. Gwlad ar y cyhydedd yw Ecwador
Ecuador is a country on the equator

23. Baghdad yw prifddinas Irac
Baghdad is the capital city of Iraq

24. Mae Feneswela'n wlad ar arfordir gogleddol De America
Venezuela is a country on the northern coast of South America

25. Byddan nhw'n dathlu Gŵyl y Meirw bob blwyddyn ym Mecsico
They celebrate the Day of the Dead every year in Mexico

26. Yr Ewro yw arian cyfred y Ffindir
The Euro is the currency of Finland

27. Mae'r Almaen yn wlad fawr yng ngorllewin Ewrop
Germany is a large country in Western Europe

28. Mae'r Swistir yn cynnwys chwe chanton ar hunain
Switzerland comprises twenty-six cantons

29. Mae hanner cant o daleithiau yn yr Unol Daleithiau America
There are fifty states in the United States of America