Edrychwch ar y dabl isod, i weld amser dyfodol y berfau rheolaidd. Rhaid defnyddio bôn y ferfenw i ffurfio'r amser dyfodol. Byddwn ni'r defnyddio'r un bôn yn union ag a fyddwn ni'n defnyddio i ffurfio'r amser gporffenonol, e.e:

This is the regular future tense (see table below).  The future endings are added to exactly the same roots as used with the regular past tense, e.g:

Yr Amser Gorffennol /Past     >    Codais i       -      I got up
                                                          Codon ni     -      We got up

Yr Amser Dyfodol / Future     >    Coda i          -       I’ll get up
Codwn ni    -       We’ll get up

Berf / Verb Bôn / Roots Terfyniadau'r Amser Dyfodol / Future Endings Saesneg / English
Codi Cod- -a i I will…
Talu Tal- -i di You will…
Gweld Gwel- -iff e/hi (–ith e/hi) He/She will…
Edrych Edrych- -wn ni We will…
Ffonio Ffoni- -wch chi You will…
Helpu Help- -an nhw They will…

Yn ogystal â'r berfau rheolaidd (uchod), rhai berfau sy'n afrheolaidd. Er enghriafft, ystyriwch Gwneud yn y dabl isod.

As well as the regular future above, we have used the future of one of the irregular verbs - Gwneud ('To do')  (see table below).

Berf / Verb Terfyniadau'r Amser Dyfodol / Future Endings Saesneg / English
(Gw)neud (Gw)na i I will (do/make)
(Gw)nei di You will (do/make)
(Gw)naiff e/hi (-ith e/hi) He/She will (do/make)
(Gw)nawn ni We will (do/make)
(Gw)newch chi You will (do/make)
(Gw)nân nhw They will (do/make)

Cymraeg ar y chwith

Fel arfer, bydd pobl yn hepgor y sain 'gw' ar lafar.

English on the right

The ‘gw’ in ‘gwneud’ is not usually pronounced in speech.

Mae 'Gwneud' yn golygu 'To Do / To Make". Fodd bynnag, byddwn ni'n gallu ei defnyddio hi gydas berf arall er mwyn ffurfio'r amser dyfodol mewn ffordd seml. Byddwch chi wedi gweld hyn o'r blaen yn y 'Cwrs Mynediad'. Yma yn yr uned hwn, rydyn ni'n mynd i gweld yr un peth unwaith eto, i ofyn cwestiynau, e.e:

Wnei di godi? - Will you get up?
Wnewch chi dalu? - Will you pay?

‘Gwneud’  means ‘to do’ or ‘to make’ but it can also be used with another verb to mean just ‘will’. We have already seen this in the ‘Cwrs Mynediad’ as well as in this unit, when asking the questions, e.g:

Wnei di godi?       Will you get up?

Wnewch chi dalu?      Will you pay?

Byddwn ni'n gallu gwneud yr un peth, gan ddefnyddio 'Gwneud' i wneud gosodiad, heb ofyn cwestiwn. Wedyn, fydd ddim rhaid gwybod bôn pob berfenw, er mwyn ychwanegu terfyniadau'r amser dyfodol ati hi, e.e:

Tala i - I will pay
Codwn ni - We will get up

(Gw)na i dalu > 'Na i dalu - I will pay
(Gw)nawn ni godi > 'Nawn ni godi - We will get up

The same can be done with statements instead of using the regular verb roots and endings, e.g:

Tala i               I will pay

Codwn ni       We will get up

(Gw)na i dalu                I will pay         

(Gw)nawn ni godi       We will get up

Yn aml y byddwn ni'n defnyddio 'Gwneud' fel hyn ar lafar, yn enwedig gyda berfenwau hirach, e.e:

Cyrhaedda i - I will arrive
(Gw)na i gyrraedd > 'Na i gyrraedd - I will arrive

Defnyddia i fe I will use it
(Gw)na i ddefnyddio fe > 'Na i ddefnyddio fe - I will use it

‘Gwneud’ is often used in this way in speech. Particularly with longer words. e.g:

Cyrhaedda i.                 I will arrive

(Gw)na i gyrraedd.      I will arrive                                              

Defnyddia i fe                        I will use it      

(Gw)na i ddefnyddio fe        I will use it

Nodwch fod y berfenw sy'n dilyn 'Gwneud' yn treiglo'n feddal. Fordd haws o ddefnyddio'r amser dyfodol fyddai dysgu amser dyfodol 'Gwneud' ac wedyn byddech chi'n gallu ei ddefnyddio bob amser. Efallallai y byddwch chi'n clywed hefyd:

(Gw)na i (_w)neud e > 'Na i neud e - I will do it
(Yn lle, '(Gw)na i fe > 'Na i fi' - 'I will do it')

The verb that follows always takes a soft mutation.  An easy way to use the future would be to learn ‘gwneud’ in the future and put it front of all the verbs.  You may even hear:

(Gw)na i wneud e.      (instead of (Gw)na i fe)            I will do it.

Gyda berfau byrrach, fel 'Gweld', fodd bynnag, byddwn ni'n tueddu i ddefnyddio bôn y ferfenw a'r terfyniadau rheolaidd i ffurfio'r amser dyfodol, e.e.

Some shorter verbs like ‘gweld’ however, tend to take the regular endings e.g. I’ll see you tomorrow -  (G)wela i di fory.

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Coda i'n gynnar yn y bore ar ddydd Llun
Gwna i godi'n gynnar yn y bore ar ddydd Llun
> 'Na i godi'n gynnar yn y bore ar ddydd Llun
I'll get up early on Mondays

2. Dali di'r bil y tro 'ma, 'does dim arian 'da fi?
Wnei di dalu'r bil y tro 'ma, 'does dim arian 'da fi?
> 'Nei di dalu'r bil y tro 'ma, 'does dim arian 'da fi?
Will you pay the bill this time, I don't have any money?

3. Weliff hi ddim bara ar y bwrdd
Wnaiff hi ddim gweld bara ar y bwrdd
> 'Naiff hi ddim gweld bara ar y bwrdd
She won't see (any) bread on the table

4. Edrychiff e ar y teledu cyn mynd mas
Gwnaiff e edrych ar y teledu bob nos cyn mynd mas
> 'Naiff e edrych ar y teledu bob nos cyn mynd mas
He'll watch the television every night before going out

5. Ffoniwn ni'r heddlu i gwyno am y cymdogion?
Wnawn ni ffonio'r heddlu i gwyno am y cymdogion?
> 'Nawn ni ffonio'r heddlu i gwyno am y cymdogion?
Will we phone the police to complain about the neighbours?

6. Helpwch chi ddim pobl sy'n gweithio yn y ffatri 'na
Wnewch chi ddim helpu pobl sy'n gweithio yn y ffatri 'na
> 'Newch chi ddim helpu pobl sy'n gweithio yn y ffatri 'na
You won't help people who work in that factory

7. Siaradan nhw â'r athro am y problemau yn yr ysgol
Gwnawn nhw siarad â'r athro am y problemau yn yr ysgol
> 'Nawn nhw siarad â'r athro am y problemau yn yr ysgol
They'll talk to the teacher about the problems in the school

8. Dathliff Sandra ar ôl pasio'r arholiad
Gwnaiff Sandra ddathlu ar ôl pasio'r arholiad
> 'Naiff Sandra ddathlu ar ôl pasio'r arholiad
Sandra will celebrate after passing the exam

9. Bryniff y plant losyn yn y siop gornel bob dydd?
Wnaiff y plant brynu losyn yn y siop gornel bob dydd?
> 'Naiff y plant brynu losyn yn y siop gornel bob dydd?
Will the children buy sweets in the corner shop every day?

10. Beth am yr hen wely? Gwerthwn ni fe, a phrynu un newydd!
Beth am yr hen wely? Gnawn ni ei werthu fe, a phrynu un newydd!
> Be' am 'rhen wely? 'Nawn ni werthu fe, a phrynu un newydd!
What about the old bed? We'll sell it, and buy a new one!

 


 

Ask Dr Gramadeg Introducing the Future Tense