Ar bedair berf mae ffurf afreolaidd yn yr amser gorffennol:
mynd, gwneud, cael a dod.

Mae'r berfau hyn yn afreolaidd, ac maen nhw'n cael eu defnyddio'n aml iawn. O ganlyniad i hyn, mae'r sydd arnyn nhw'n amrywio'n sylweddol o ardal i ardal. Mae'r ffurfiau isod yn dod o dde-orllewin Cymru. Wedi dweud hynny, bydd pobl mewn pob rhan o Gymru'n gallu eu deall nhw. Maen nhw i gyd yn debyg iawn i'w gilydd. Yn syml, os byddwch chi'n ychwanegu 'n' at y ffurfiau sy'n perthyn i 'mynd', wedyn byddwch chi'n cael ffurfiau 'gwneud' ar lafar yn yr amser gorffennol. Os byddwch chi'n ychwanegu 'g' at y ffurfiau sy'n perthyn i 'mynd', wedyn byddwch chi'n cael ffurfiau 'cael' ar lafar yn yr amser gorffennol. Os byddwch chi'n ychwanegu 'd' at y ffurfiau sy'n perthyn i 'mynd', wedyn byddwch chi'n cael ffurfiau dod' ar lafar yn yr amser gorffennol, e.e.

There are four irregular verbs in the past tense:
mynd, gwneud, cael and dod.

Because they are irregular and are used so much, there is quite a bit of variation from area to area, But the forms below, from South-West Wales, will be understood everywhere. They are very similar to each other. Basically, if you add an ‘n’ to the ‘mynd’ forms you get the past of ‘gwneud’, in speech. Add a ‘g’ and you get ‘cael’ in the past and add a ‘d’ to the mynd forms in the past and you get the past of ‘dod’ e.g.:

 

Mynd (Gw)neud CaelDod
es i - I went ’nes i - I did/made ges i - I haddes i - I came
es i ’nes iges ides i
est ti ’nest ti gest tidest ti
aeth e/hi ’naeth e/hi gaeth e/hidaeth e/hi
aethon ni ’naethon ni gaethon nidaethon ni
aethoch chi'naethoch chigaethoch chidaethoch chi
aethon nhw’naethon nhwgaethon nhwdaethon nhw

Bydd berfau rheolaidd (hynny yw, y rhan fwyaf o'r berfau sydd ar gael) yn ychwanegu terfyniadau at fôn y ferf yn yr amser gorffennol, e.e:

The regular verbs, i.e. almost every other verb in the past, take the root and add the endings, e.g:

VerbRootPast endings
codicod--ais i
canucan--aist ti
rhedegrhed--odd e/hi
clywedclyw--on ni
nofionofi--och chi
gweithiogweithi--on nhw
cyrraeddcyrhaedd-
gadaelgadaw-
gwrandogwrand-
chwaraechwarae-
edrychedrych-

 

Fel yr ydyn ni wedi gweld, bydd y treigladau canlynol yn digwydd gyda berfau cryno:
Cwestiynau - treiglad meddal
Negyddol - treiglad llaes P, T, C
Treiglad meddal B, D, G, M, Rh, Ll + ddim

Fodd bynnag, ar lafar, bydd llawer o bobl yn defnyddio'r treiglad meddal gyda bob berf yn yr amser gorffennol, os byddan nhw'n sôn yn anffurfiol. Trwy wneud hyn, byddan nhw'n osgoi defnyddio'r treiglad llaes.

As we have seen, soft mutation for questions.
Aspirate mutation P, T, C + ddim
Soft mutation B, D, G, M, Rh, Ll + ddim for negatives. However, many people permanently soft mutate many of the verbs in the past, in informal speech. This avoids the need for the aspirate mutations.

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Es i i'r ysgol yn hwyr ddoe ond roedd hi ar gau!
I went to school late yesterday but it was closed!

2. 'Nest ti dy gorau glas yn y gystadleuaeth ond heb ennill yn anffodus. Gwell hwyl y tro nesa'!
You did your very best in the competition but without winning unfortunately. Better luck next time!

3. Gaeth e anrheg hyfryd ond rhyfedd iawn gan y blant yn yr ysgol
He got a lovely but very strange present from the children in the school

4, Daeth hi i ymweld â ni bob penwythnos tan ddiwedd ei hoes
She came to visit us every weekend until the end of her life

5. Codon ni'n hwyr iawn y bore 'ma ar ôl bod yn y parti neithiwr
We got up very late this morning after being in the party last night

6. Canoch chi'n dda iawn yn y cyngerdd er gwaetha'r holl broblemau
You sang very well in the concert despite all the problems

7. Rhedon nhw i ffwrdd yn gyflym pan glywon nhw sŵn y seiren yn nesáu
They ran away quickly when they heard the sound of the siren approaching

8. Clywais i'r seiren cyn gweld yr injan dân
I heard the siren before seeing the fire engine

9. Nofiaist ti yn y môr cyn brecwast 'fory? Dyna beth od i 'neud!
You swam in the sea before breakfast this morning? That's an odd thing to do!

10. Gweithiodd e yn y gegin am flynyddoedd cyn dod yn rheolwr
He worked in the kitchens for years before becoming a manager

11. Cyrhaeddodd hi'r orsaf mewn da bryd i ddal y trên
She arrived at the station in good time to catch the train

12. Gadawon ni'r parti priodas yn gynnar a achos y ffraeo
We left the wedding party early because of the fighting

13. Gwrandawoch chi'n astud yn y ddarlith, ond roedd hi'n ddiflas iawn
You listened keenly in the lecture, but it was very boring

14. Chwaraeon nhw'n dda mewn pob gêm heb ennill yr un
They played well in every game without winning one

15. Edrychodd y plant yn syn pan gwympodd Siôn Corn i lawr y simnai Ddydd San Steffan!
The children looked in amazement when Santa Claus fell down the chimney on Boxing Day!

16. Glywaist ti am yr holl draferth yn y dafarn neithiwr? Naddo, chlywaist i ddim, ond dywedodd rhywun wrtha i y bore 'ma.
Did you hear about all the trouble in the pub last night? No, I didn't hear, but someone told me this morning.

17. Ddarllenoch chi fy llythyr i yn y papur newydd heddi'? Naddo, ddarllenais i ddim byd cyn bwyta brecwast!
Did you read my letter in the newspaper today? No, I didn't read anything before eating breakfast!

18. Thalodd y dyn am yr hen frechdanau? Do, talodd e'r pris llawn a gadawodd e gildwrn da hefyd!
Did the man pay for the old sandwiches? Yes, he paid the full price and he left a good tip too!

Ask Dr Gramadeg Verbs in the Past Tense