Michelle Fecio- Adnoddau i ddysgwyr rhyngwladol

Dysgwr Michelle Fecio: Adnoddau i ddysgwyr rhyngwladol / Resources for International Learners

Mae Michelle wedi bod yn dysgu Cymraeg am flwyddyn yn unig, yr holl ffordd o’r Unol Daleithiau! Yma, mae hi’n mynegi ei phrofiad o ddysgu ac mae hi’n rhannu adnoddau mae’n eu defnyddio.

Michelle has been learning Welsh for only a year, and all the way from the United States! Here, she conveys her experience of learning and shares resources that she uses.

Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg am flwyddyn a thri mis, ond dim ond dwy sgwrs dw i wedi cael yn yr iaith gyda phobl mewn bywyd go iawn. Pam? Dw i’n byw yn America – Talaith Efrog Newydd i fod yn benodol. Does dim llawer o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal ble dw i’n byw (dim o gwbl, a dweud a gwir). Dw i’n meddwl ei fod yn amlwg bod dysgu’r iaith ar eich pen eich hunan ar wahan i ddysgwyr eraill yn anodd iawn. Dw i ddim yn gallu siarad nag ysgrifennu yn dda iawn eto achos bod dim lot o gyfleoedd i ymarfer y sgiliau ‘ma yma mewn bywyd bob dydd. Diolch bod llawer o adnoddau gwych ar gael ar gyfer dysgwyr y Gymraeg tu allan i Gymru.I’ve been learning Welsh for one year and three months, but I’ve had only two conversations in the language with people in real life. Why? I live in America – New York State to be specific. There aren’t a lot of Welsh speakers in the area where I live (none at all, actually). I think that it goes without saying that learning a language on your own, without other speakers, is very difficult. I can’t speak or write very well yet because there aren’t many opportunities to practice those skills in everyday life here. Thankfully, there are a lot of great resources for Welsh learners outside Wales.
Yn gyntaf, dylwn i esbonio tipyn bach pam roeddwn i wedi penderfynu dysgu Cymraeg. Dw i ddim yn Gymraes, dydy fy nheulu ddim yn dod o Gymru, a doeddwn i ddim wedi ymweld â Chymru hyd yn oed cyn i fi benderfynu dysgu’r iaith. Roedd fy niddordeb yng Nghymru a’r Gymraeg wedi dechrau pan roeddwn i’n ifanc (tua un deg pedair oed). Wnes i glywed am Gymraeg am y tro cyntaf wrth ddarllen The Grey King, gan Susan Cooper (), a chwympais i mewn cariad efo’r iaith a’r wlad. Wnes i drio dysgu Cymraeg bryd ‘ny, ond doedd dim digon o adnoddau ar gael ar y We. Yn amlwg, doeddwn i ddim yn gallu jyst ffeindio dosbarth Cymraeg yng ngorllewin Efrog Newydd!First, I should explain a little about why I decided to learn Welsh. I’m not Welsh, my family doesn’t come from Wales, and I hadn’t even visited Wales before I decided to learn the language. My interest in Wales and Welsh started when I was young (about fourteen years old). I heard about Welsh for the first time while reading The Grey King by Susan Cooper (), and I fell in love with the language and the country. I tried to learn Welsh, but there weren’t enough resources available on the internet. Obviously, I couldn’t just find a Welsh class in Western New York!
Mae llawer mwy o adnoddau ar gael i ddysgwyr rhyngwladol erbyn hyn. Mae Say Something in Welsh yn ffordd hawdd i ddysgu sgiliau siarad a gwrando, ac mae e’n hawdd i’w ddefnyddio efo’r ap. Dechreuais i ddysgu efo Say Something in Welsh (maen nhw’n cynnig y cwrs cyntaf am ddim!). Dw i ddim yn meddwl baswn i wedi bod mor llwyddiannus hebddo fe. Mae fforwm ar-lein gyda nhw hefyd, lle mae dysgwyr yn gallu gofyn cwestyniau, trafod pynciau Cymraeg, a threfnu cyfarfodydd a sgwrs ar-lein efo dysgwyr eraill yng Nghymru ac o gwmpas y byd. Ap arall efo gwersi Cymraeg yw Duolingo ydy’r ap eraill efo gwersi Cymraeg, ond (yn fy marn i) dydy Duolingo ddim cystal â Say Something in Welsh ar gyfer dysgwyr newydd. Dw i’n ei ddefnyddio fe i ddysgu geiriau newydd yn hytrach na dysgu pethau fel gramadeg. Mae e’n ddefnyddiol ar gyfer gwneud tipyn bach o ymarfer bob dydd, yn enwedig ar gyfer dysgwyr tu allan i Gymru neu rai sy’n byw mewn ardal ddi-Gymraeg.There are a lot more resources for international learners now. Say Something in Welsh is an easy way to learn speaking and listening skills, and it’s easy to use with the app. I started learning with Say Something in Welsh (they offer the first course for free!). I don’t think that I would have been as successful without it. They also have an online forum, where learners can ask questions, discuss Welsh topics, and arrange meetings and online conversations with other learners in Wales and around the world. Duolingo is another app with Welsh lessons, but (in my opinion) Duolingo isn’t as good as Say Something in Welsh for new learners. I use it for learning new words rather than learning things like grammar. It is useful for doing a little bit of practice every day, especially for learners outside of Wales or living in a non-Welsh-speaking area.
Ar gyfer ymarfer sgiliau gwrando (ac i gael tipyn bach o hwyl), mae S4C a Radio Cymru ar gael ar-lein tu allan i Gymru. Mae Radio Cymru yn wych ar gyfer dysgwyr achos mae’n darlledu rhaglenni siarad a cherddoriaeth. Er bod lefel yr iaith yn anodd i’w deall weithiau, mae gwrando arni hi’n helpu dysgwyr i arfer â’r iaith. Mae hyn yn bwysig iawn ar gyfer dysgwyr tu allan i Gymru i ddysgu sut i ynganu geiriau (ac mae’r gerddoriaeth yn ardderchog; dw i’n gwrando ar fwy o gerddoriaeth Gymraeg na cherddoriaeth Saesneg y dyddiau yma). Yn debyg i hyn, mae S4C yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr wylio rhaglenni teledu a ffilmiau yn y Gymraeg, efo isdeitlau neu beidio. Mae Dal Ati yn raglen sy’n arbennig ar gyfer dysgwyr. Ar hyn o bryd dw i’n mwynhau gwylio Bang, Un Bore Mercher, a Doctoriaid Yfory (er mod i’n dal i ddefnyddio’r isdeitlau Saesneg pan dw i’n gwylio). Mae S4C a Radio Cymru yn wych achos maen nhw’n rhoi’r cyfle i ymarfer sgiliau gwrando, a chyflwyno diwylliant Cymru i ddysgwyr rhyngwladol.For practicing listening skills (and for some fun), S4C and Radio Cymru are available online outside Wales. Radio Cymru is great for learners because there are both talk programs and music. Although the level of the language is difficult to understand sometimes, listening to it helps learners hear to the language. This is important for learners outside Wales to learn how to pronounce words (and the music is excellent; I listen to more Welsh language music these days than English language music). Similarly, S4C gives learners the opportunity to watch television programs and films in Welsh, with subtitles or not. Dal Ati is a program especially for learners. I’m currently enjoying watching Bang, Un Bore Mercher, and Doctoriaid Yfory (though I still use English subtitles when I watch). S4C and Radio Cymru are great because they provide the opportunity to practice listening skills, and introduce Welsh culture to international learners.
Ar ôl dysgu sut i siarad a gwrando, darllen ydy’r cam nesaf. Mae hi bron yn amhosib i ffeindio llyfrau neu gylchgronau Cymraeg tu allan i Gymru (o leiaf yn y rhan o America lle dw i’n byw). Diolch i’r we, mae’n hawdd prynu llyfrau o Gymru bellach. Gwefan Cyngor Llyfrau Cymru ydy fy hoff siop ar-lein am lyfrau. Mae ganddyn nhw lawer o lyfrau ar gyfer pob lefel darllen ac mae’r costau anfon yn rhad. Ar gyfer dysgu gramadeg, dw i’n defnyddio Modern Welsh: A Comprehensive Grammar, gan Gareth King Kindle. Mae’n lyfr mawr, ond defnyddiol iawnAfter learning how to speak and listen, reading is the next step. It’s nearly impossible to find Welsh-language books or magazines outside Wales (at least in the part of America where I live). Thanks to the internet, it’s easy to buy books now from Wales. The Welsh Book Council’s website is my favorite online shop for books. They have a lot of books for all reading levels and the shipping costs are cheap. For learning grammar, I use Modern Welsh: A Comprehensive Grammar by Gareth King Kindle. It’s a huge book, but very useful.
Mae dysgu Cymraeg tu allan i Gymru yn anodd, ond mae’r adnoddau ‘ma yn ddefnyddiol ar gyfer dysgwyr newydd sbon, neu ddysgwyr sy’n chwilio am ffyrdd i ymarfer siarad, gwrando, a darllen Cymraeg o unrhywle yn y byd. Dw i’n gobeithio bydda i’n gallu mynd i Gymru’n fuan eto i ymarfer. Beth bynnag, tan y tro ‘na, bydda i’n dal ati i ddysgu ac ymarfer yn Efrog Newydd, a diolch i’r pobl fendigedig sy’n gwneud yr adnoddau Cymraeg ‘ma.Learning Welsh is difficult outside of Wales, but these resources are helpful for brand new learners, or learners looking for ways to practice speaking, listening, and reading Welsh from anywhere in the world. I hope I’ll be able go to Wales again soon to practice. Until then, I’ll keep learning and practicing from New York, and thanks to the wonderful people who make these Welsh language resources.

Diolch bod llawer o adnoddau gwych ar gael ar gyfer dysgwyr y Gymraeg tu allan i Gymru.

  MamYCathod

Llwytho i Lawr fel PDF

 

 

Profiad Iaith

 

Y diweddaraf oddi wrth Dysgwyr