Ask Dr Gramadeg: Termau Gramadeg / Grammar Terms

Er mwyn sefydlu fframwaith ar unrhyw iaith yn ein meddwl, bydd rhaid i ni ddisgrifio ei strwythur. Os nad ydych chi wedi dysgu am sut i gwneud hyn yn yr ysgol, os nad oeddech chi'n talu sylw, neu os ydych chi wedi anghofio, dyma'r Dr Gramadeg yn esbonio rhai termau allweddol.

In order to establish the framework of a language in our minds we need to be able to describe the structure of it. For those of us that weren't taught this in school, weren't paying attention, or have forgotten, Dr Gramadeg outlines some key terms.

Cymraeg ar y chwith

Beth yw enw?

Gair sy'n cynrychioli person, lle, anifail, peth, neu syniad yw enw - yn Saesneg ac yn Gymraeg, rydych chi'n gallu rhoi'r fannod ('the') o flaen enw. Yn Saesneg, rydych chi'n rhoi'r fannod amhendant ('a/an') o flaen enw hefyd, er nad yw hon yn bodoli yn Gymraeg, e.e:

y dre - the town
y dyn - the man

Mae enwau naill ai yn 'gwrywaidd (g)' neu ynteu yn 'benywaidd (b)' yn Gymraeg.

English on the right

What is a noun?

A noun is a word for a person, place, animal, thing or idea - or a word that ‘the’ or ‘a/an’ can be placed in front of, e.g:

the town = y dre
the man = y dyn

These are either masculine or feminine (b) in Welsh.

Beth yw ansoddair?

Gair sy'n disgrifio enw yw ansoddair, e.e:

y dre fach - the small town
y dyn tal - the tall man

Fel rheol yn Saesneg, mae'r ansoddair yn mynd o flaen yr enw mae'n ei oleddfu; fodd bynnag, yn Gymraeg, mae'r ansoddair yn dod ar ôl yr enw fel rheol.

What is an adjective?

An adjective is a word that describes a noun, e.g:

the small town = y dre fach
the tall man = y dyn tal

Adjectives usually come before the nouns they describe in English, but after the nouns they describe in Welsh.

Beth yw adferf?

Gair sy'n disgrifio sut, pryd, lle, neu pam mae rhywbeth yn digwydd yw adferf. Yn Gymraeg, rydyn ni'n gallu troi llawer o ansoddeiriau yn adferfau trwy roi 'yn' o'u blaenau, e.e:

Ansodderiau
gwreiddiol - original
clou - quick

Adferfau
yn wreiddiol - originally
yn glou - quickly

Mae adferfau'n treiglo'n feddal ar ôl 'yn.' Dyw berfau ddim yn treiglo ar ôl 'yn' (gweler isod).

What is an adverb?

An adverb is a word describing how, when, where or why something is done. In Welsh, many adjectives can be turned into adverbs simply by placing ‘yn’ in front of them, e.g:

Adjectives
gwreiddiol (original)
clou (quick)

Adverbs
yn wreiddiol (originally)
yn glou (quickly)

Adverbs take a soft mutation after ‘yn’. Verbs (below) do not.

Beth yw berfenw?

Geiriau sy'n disgrifio gweithrediadau fel 'to work' ('gweithio') neu 'to drive ('gyrru') yw berfenwau. Wedi dweud hynny, mae 'to rest' ('gorffwys') a 'to sleep' ('cysgu') yn ferfenwau hefyd, er nad yndynt yn golygu llawer o weithredu! Yn Saesneg mae'n bosibl defnyddio'r geiryn 'to' o flaen berfenwau, e.e., 'to run/running' ('rhedeg'), 'to read/reading' ('darllen').

What is a verbnoun?

Verbs are action or doing words such as to work or to drive. Although ‘to rest’ and ‘to sleep’ are verbs and don’t involve much action! Words ‘to’ can be used with in English e.g. to run/running - rhedeg, to read/reading - darllen.

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Mae'r ci'n rhedeg yn gyflym

mae = berf / verb
'r ci = bannod + enw / definite article + noun
rhedeg = berfenw / verbnoun
yn gyflym = adferf / adverb

The dog is running quickly
the dog = definite article + noun / bannod + enw
is running = verb / berf
quickly = adverb / adferf

 

2. Roedd y ferch yn cysgu'n dawel
roedd =berf / verb
y ferch = bannod + enw / definite article + noun
cysgu = berfenw / verbnoun
yn dawel = adferf / adverb

The girl was sleeping peacefully
the girl = definite article + noun / bannod + enw
was sleeping = verb / berf
peacefully = adverb / adferf

 

3. Bydd y dyn yn gyrru'n araf
bydd = berf / verb
y dyn = bannod + enw / definite article + noun
gyrru = berfenw / verbnoun
yn araf = adferf / adverb

The man will be driving slowly
the man = definite article + noun / bannod + enw
will be driving = verb / berf
slowly = adverb / adferf

 

4. Mae plentyn yn chwarae yn yr ardd
mae = berf / verb
plentyn = enw / noun
chwarae = berfenw / verbnoun
yn yr ardd = adferf / adverb

A child is playing in the garden
child = noun / enw
is playing = verb / berf
in the garden = adverb / adferf