Llyfrau i Ddysgwyr Books for learners

Nofelau a Llyfrau i Ddysgwyr / Novels and Books for Learners

Yma, mae parallel.cymru yn cyflwyno rhestr o lyfrau sy’n addas ar gyfer dysgwyr,  gan esbonio lefel yr iaith, nodiadau cyffredinol a mewnwelediad yr awduron unigol i’r rhesymau dros greu’r llyfrau.
Here, parallel.cymru presents a list of books that are suitable for learners, together with their level, explanatory notes and some exclusive insight from the authors into how they created them. Links to buy them from the publisher are available on the left hand side of each item or by clicking the book cover image.

Jump down to: Fiction / Translations and adaptions / Non-fiction / Grammar and dictionaries

Ffuglen / Fiction


E-Ffrindiau

Gan: Lois Arnold

Pris: £7.99

Iaith: Cymraeg syml, with vocabulary at the bottom of each page

Addas: Mynediad & Sylfaen

Cyhoeddwr: Gomer


Disgrifiad Gwales:
Stori am ddwy ffrind sy'n cyfnewid negeseuon e-bost ac yn dysgu Cymraeg. Athrawes Ymarfer Corff sy'n byw yn agos i Sydney yn Awstralia yw Ceri, ac mae Sara, ei e-ffrind, yn byw mewn pentref heb fod yn bell o Gaerdydd ac yn teithio i'r brifddinas bob dydd i weithio mewn swyddfa. Deunydd darllen i ddysgwyr Cymraeg ar lefel mynediad.

A story about two friends exchanging e-mails and learning Welsh. Ceri is a PE teacher in a school near Sydney in Australia. Sara, her e-friend, lives in a village not far from Cardiff and commutes to the city every day to work in an office. Reading material for Welsh learners at entry level.
E-Ffrindiau gan Lois Arnold
Sgŵp!

Gan: Lois Arnold

Pris: £7.99

Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page

Addas: Canolradd & Uwch

Cyhoeddwr: Gomer
Disgrifiad Gwales:
Nofel ysgafn a doniol ar gyfer Dysgwyr Lefel Sylfaen Dau a Lefel Canolradd am y newyddiadurwraig Lowri Glyn sy'n teimlo bod ei gwaith ar bapur newydd Post Pen-y-bae yn ddiflas iawn, hyd nes i bopeth newid un diwrnod! Geirfa ddefnyddiol ar bob tudalen.

A humorous novel for Welsh Learners Foundation Level Two and Intermediate Level. Journalist Lowri Glyn feels that life on the newspaper Post Pen-y-bae is very dull, until everything changes one day! Useful vocabulary on each page.
Sgwp! gan Lois Arnold
Bywyd Blodwen Jones

Gan: Bethan Gwanas

Pris: £3.99

Iaith: Cymraeg

Addas: Canolradd

Cyhoeddwr: Gomer

Two other books follow in this series: Blodwen Jones A'r Aderyn Prin and Tri Chynnig I Blodwen Jones
Disgrifiad Gwales:
Dyddiadur doniol Blodwen Jones, llyfrgellydd sy'n cadw gafr ac yn breuddwydio am briodi ei thiwtor Cymraeg, ynghyd â throednodiadau geirfaol ar gyfer dysgwyr.

The amusing diary of librarian and goat owner Blodwen Jones who dreams of marrying her Welsh tutor, together with glossary footnotes for Welsh learners.

Exclusive author insight:
Bethan is interviewed by Elin Meek
I’m an author- but a Welsh for Adults tutor as well!
Bywyd Blodwen Jones gan Bethan Gwanas
Fi, a Mr Huws

Gan: Mared Lewis

Pris: £7.99

Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page

Addas: Uwch

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Available as Kindle ebook

Fi a Mr Huws gan Mared Lewis
Mared Lewis:
Er mod i wedi ysgrifennu llawer o lyfrau eraill, Fi, a Mr Huws ydy fy nofel gyntaf i ddysgwyr.
Testun y nofel yn fras ydy syndrom y nyth gwag pan mae’r plentyn olaf yn gadael am y coleg gan adael y tŷ yn ddistaw- profiad sy’n gyfarwydd i sawl un ohonom, dwi’n siŵr!
Pan mae unig fab y prif gymeriad Lena yn gadael am y Brifysgol, mae hithau yn dechrau cwestiynu ei pherthynas efo’i gŵr Ben. Ydy hi’n ei nabod o gwbl erbyn hyn? A be ydy’r celwyddau mae hi’n dechrau eu darganfod amdano? Er mwyn ceisio llenwi ei bywyd, ac i osgoi gorfod wynebu Dwynwen y gath yn rhy aml, mae hi’n taflu ei hun i sefyllfaoedd newydd. Daw ar draws nifer o gymeriadau gwahanol sy’n ymestyn gorwelion ei byd. Dyma ddechrau ar gyfres o anturiaethau a helyntion sy’n cadw bywyd Lena yn brysur ac yn arwain at tipyn o strach!

Exclusive author insight: Interview with Mared Lewis
Mared Lewis:
Although I have written lots of other books, Fi a Mr Huws is my first novel for learners.
The broad theme of the novel is the empty nest when the last child leaves for college leaving the house quietly- a experience that is familiar to many of us, I'm sure!
When the only child of the main character Lena leaves for University, she starts questioning her relationship with her husband Ben.
Does she completely know him by now? And what are the lies that she is starting to discover about him? In order to try to fill her life, and to avoid facing Dynwen the cat too often, she throws herself into new situations. She comes across a number of different characters that extend the horizons of her world. This starts a series of adventures and troubles that keep Lena's life busy and lead to a bit of strife!
Budapest

Gan: Elin Meek

Pris: £3.95

Iaith: Cymraeg

Addas: Sylfaen & Canolradd

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Disgrifiad Gwales:
Nofel fer i ddysgwyr yng nghyfres y Golau Gwyrdd sy'n cynnwys geirfa wrth ymyl y dudalen. Wrth weld nad oes modd i'w perthynas weithio mae cwpwl ifanc sy'n cwrdd yn y coleg yn dilyn llwybrau gwahanol ... ond newidir popeth flynyddoedd yn ddiweddarach gyda chyfarfyddiad yn Budapest
A short novel in the Golau Gwyrdd series, which includes on-page vocabulary. A young couple decide to break up after their college romance goes wrong. They follow different paths in life, but all this changes after a chance meeting in Budapest ...
Exclusive author insight: Putting Wales on the Map
Budapest gan Elin Meek
Dysgu Byw

Gan: Sarah Reynolds

Pris: £7.99

Iaith: Cymraeg

Addas: Uwch

Cyhoeddwr: Gomer

Exclusive author insight: Sarah introduces Dysgu Byw
Mae Siwan yn actores. Wel, mae hi’n ‘gorffwys’ ar hyn o bryd, ac yn y cyfamser, mae hi’n ennill ei thamaid fel tiwtor Cymraeg. Dyma’i hanes hi a’i grŵp hynod amrywiol o ddysgwyr; rhai’n dda a rhai... ychydig yn wahanol i’r arfer. Ond mae mwy na gwersi iaith yn y nofel hon.
Siwan is an actress. Well, she is 'resting' at the moment, and in the meantime she is getting by as a Welsh tutor. Here is her story and a varied group of learners... some good and some ... a bit different from the usual. But there is more than language teaching in this novel.
Mae Dysgu Byw yn nofel ddoniol, fyrlymus ac ychydig bach yn cheeky. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth difyr i'w ddarllen gyda diod fach a’ch traed i fyny, rydych chi wedi dod o hyd i’ch partner perffaith.
Dysgu Byw is a novel that is funny, bubbly and a little bit cheeky. If you are looking for something entertaining to read with a little drink and your feet up, then you have found the perfect partner.
Dysgu Byw gan Sarah Reynolds

Adolgygiad gan Bethan Gwanas:
“Chwa o awyr iach! Dwi wedi gwenu, gwingo a chwerthin yn uchel. Mae hon yn berl.
"Breath of fresh air! I've smiled and laughed out loud. This is a pearl."

Jump up to: Fiction / down to Translations and adaptions / Non-fiction / Grammar and dictionaries

Cyfieithiadau ac Addasiadau / Translations and Adaptions


Harri Potter a Maen yr Athronydd

Gan: JK Rowling

Wedi'i gyfieithu gan: Emily Huws

Pris: £13.49 (hardback)

Iaith: Cymraeg

Addas: Uwch

Cyhoeddwr: Bloomsbury
Cyfieithiad Cymraeg o Harry Potter and the Philosopher's Stone, y llyfr cyntaf yng nghyfres hynod boblogaidd Harry Potter am flwyddyn gyntaf anturus bachgen un ar ddeg oed yn Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts.

A Welsh translation of Harry Potter and the Philosopher's Stone, the first book in the highly popular Harry Potter series about a teenage boy's adventurous first year at Hogwarts School of Witchcraft and Wizardry.
Harri Potter a Maen yr Athronydd
Roald Dahl books

Wedi'i gyfieithu gan: Elin Meek

Iaith: Cymraeg

Addas: Canolradd & Uwch

Cyhoeddwr: Rily

14 of Roald Dahl's books have been translated by Elin Meek, and all contain Quentin Blake's illustrations:

Y Bys Hyd (The Magic Finger)
Cerddi Ffiaidd (Revolting Rhymes)
Charlie a'r Ffatri Siocled
Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr (Charlie and the Great Glass Elevator)
Y CMM (The BFG)
Y Crocodeil Anferthol (The Enormous Crocodile)
Danny Pencampwr y Byd (Danny The Champion of the World)
Y Gwrachod (The Witches)
James a'r Eirinen Wlanog Enfawr (James and the Giant Peach)
Jiraff a'r Pelican a Fi
Matilda
Mr Cadno Campus (Fantastic Mr Fox)
Nab Wrc (Esio Trot)
Pastai Odi (Rhyme Stew)
Penillion Ach-a-fi! (Dirty Beasts)
Y Twits

Exclusive author insight: Elin Meek explains how she translated these works.
Charlie A'r Ffatri Siocled gan Roald Dahl ac Elin Meek
Merch Ar-lein

Gan: Zoe Sugg

Wedi'i addasu gan: Eiry Miles

Pris: £8.99

Iaith: Cymraeg

Addas: Canolradd

Cyhoeddwr: Rily
Mae cyfrinach gan Penny. Mae hi'n defnyddio ffugenw ar-lein i ysgrifennu blog sy'n gwbl agored am ei holl broblemau â ffrindiau, ysgol, ei theulu gwallgof a'r pyliau panig sy'n dechrau rheoli ei bywyd. Er mwyn ceisio helpu, mae'r teulu'n mynd â hi i Efrog Newydd, ac mae'n cwrdd â Noa, Americanwr ifanc, golygus, ac yn sydyn, mae'r blog yn llawn hanes Penny'n syrthio mewn cariad.

Penny has a secret. She uses an online pseudonym to write a blog, in which she is completely open about all her problems with friends, school, her crazy family and the panic attacks that begin to take over her life. To try to help, the family take her to New York, where she meets Noa, a handsome young American, and suddenly the blog is full of how Penny falls in love.

Exclusive translator's insight: Eiry Miles: Creating new courses for learning Welsh.
Merch Ar-lein gan Eiry Miles
Metamorffosis

Gan: Franz Kafka

Pris: £6.00

Iaith: Cymraeg

Addas: Canolradd

Cyhoeddwr: Iawn
Mae clasur Franz Kafka - Metamorffosis yn awr yn lyfr i ddysgwyr C ymraeg. Help gyda geiriau a gramadeg i bob paragraff i helpu dysgwyr Cymraeg gyda darllen. Mae gwaith Kafka wedi'i gyfieithu ac yn awr gyda geirfa a gramadeg syml. Stori fer sy'n ddelfrydol i ddysgwyr lefel canolradd.

Franz Kafka's classic 'Metamorphosis' is now an easy reader book for intermediate level Welsh learners. Learner-friendly vocabulary and grammar tips for each paragraph to help open your path to better reading in Welsh. You think you have terrible mornings? Poor old Gregor wakes up to find that it has all gone horribly, horribly wrong!
Franz Kafka- Metamorffosis

Jump up to: Fiction / Translations and adaptions / down to Non-fiction / Grammar and dictionaries

Ffeithiol / Non-fiction


Ar Ben Ffordd

Golygydd: Meleri Wyn James

A series of 6 books

Pris: £19.99 for all 6 or £4.99 each

Iaith: Cymraeg syml

Addas: Mynediad (x2), Syfaen (x2) a Canolradd (x2)

Cyhoeddwr: Y Lolfa
Mae’r gyfres o 6 llyfr yn arwain dysgwyr ymlaen o’r amser maen nhw’n dechrau darllen (Lefel 1: Mynediad) at Lefel 2 (Sylfaen), i rai sy’n dysgu Cymraeg ers blwyddyn neu ddwy, a Lefel 3 (Canolradd), i rai sy’n fwy profiadol. Gobaith cyhoeddwyr y gyfres yw y bydd yn gymorth i baratoi dysgwyr Cymraeg ar gyfer darllen llyfrau Cymraeg i oedolion yn annibynnol.

The series of 6 books leads learners from when they start reading (Level 1: Foundation) to Level 2 (Sylfaen), for those who have been learning Welsh for a year or two, and Level 3 (Intermediate), to those who are more proficient. The publishers of the series hope that it will help prepare Welsh learners to read Welsh books for adults independently.

Casgliad o ddarnau darllen difyr ac amrywiol gyda geirfa ar bob tudalen yw cynnwys y cyfrolau, ac mae’r arlwy yn amrywio o straeon byrion i erthyglau, cyfweliadau, jôcs a phosau. Mae’r testunau wedi’u hysgrifennu gan arbenigwyr yn y maes dysgu Cymraeg, megis Heini Gruffudd ac Elwyn Hughes, ac awduron adnabyddus fel Bethan Gwanas, Lleucu Roberts a Geraint V Jones.

The content of the volumes is a collection of entertaining and varied reading pieces with a glossary on each page, and the content varies from short stories to articles, interviews, jokes and puzzles. The texts have been written by experts in the field of Welsh learning, such as Heini Gruffudd and Elwyn Hughes, and well-known authors such as Bethan Gwanas, Lleucu Roberts and Geraint V Jones.

“Pwrpas y llyfrau yw meithrin a datblygu sgiliau darllen dysgwyr ynghyd â gwella sgiliau ieithyddol mewn modd hwyliog a diddorol, a darparu deunydd darllen difyr ac addas fydd yn eu harwain ymlaen o un cam i’r nesaf,” meddai Meleri Wyn James, golygydd y gyfres.

"The purpose of the books is to foster and develop learners' reading skills and improve language skills in a fun and interesting way, and provide entertaining and appropriate reading material that will lead them from one step to the next," said Meleri Wyn James, the series editor.
Ar Ben Ffordd
Ble Mae'r Gair?

Gan: Jo Knell

Pris: £4.99

Iaith: Cymraeg

Addas: Mynediad

Cyhoeddwr: Gomer
Jo Knell:
Ysgrifennais i ‘Ble Mae’r Gair?’ i roi ymarfer darllen i bobl sy’n dechrau dysgu Cymraeg. Yn y llyfr mae posau fel chwileiriau, nadredd geiriau, anagramau, codau ac atalnodi. Hefyd mae ychydig o ffeithiau diddorol a jôcs!
Mae darllen Cymraeg yn help mawr wrth ddysgu Cymraeg ond ar y dechrau mae’n gallu bod yn anodd iawn i ddeall stori. Roedd Mair Rees, golygydd y llyfr, wedi cael y syniad am lyfr posau syml a gofynnodd hi i fi baratoi’r llyfr.
Mae geirfa’r posau yn dilyn Cwrs Mynediad CBAC felly geiriau pob dydd ydyn nhw. Dyn ni’n gwerthu’r llyfr yn ein siop lyfrau, Cant a Mil Vintage yng Nghaerdydd ac mae’n ddiddorol gweld pwy sy’n prynu’r llyfr. Wrth gwrs weithiau mae dechreuwyr yn prynu’r llyfr ond hefyd mae rhieni yn prynu’r llyfr achos bod eu plant yn mwynhau chwileiriau. Hefyd mae pobl sy wedi dysgu mwy o Gymraeg yn prynu’r llyfr achos bod y posau’n hawdd iddyn nhw ac maen nhw’n gallu ymlacio gyda’r Gymraeg cyn mynd i gysgu!
Gobeithio byddwch chi’n mwynhau’r posau. Os oes syniadau gyda chi am lyfrau eraill cysylltwch â fi, bydda i’n hapus iawn i glywed oddi wrthoch chi!

I wrote ‘Ble Mae’r Gair?’ to give people starting to learn Welsh some reading practice. In the book there are wordsearches, word snakes, anagrams, codes and punctuation. There are also some interesting facts and jokes!
Reading Welsh is a big help when learning Welsh but at the beginning it can be very difficult to understand a story. Mair Rees, the editor of the book, had the idea of a simple puzzles book and she asked me to prepare the book.
The vocabularly of the puzzles follow the WJEC Cwrs Mynediad (Entry Course) so they are everyday words. We sell the book in our bookshop, Cant a Mil Vintage in Cardiff and it is interesting to see who buys the book. Of course beginners do buy the book but also parents buy the book because their children enjoy wordsearches. People who have learnt more Welsh also buy the book because the puzzles are easy for them and they can relax in Welsh before going to sleep!
I hope you enjoy the puzzles. If you have ideas for any other books please get in touch with me, I will be very glad to hear from you!

Jo Knell, [email protected].
Jo Knell Ble Mae'r Gair
Cant y Cant

Gan: R Alun Charles

Pris: £7.99

Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page

Addas: Canolradd & Uwch

Cyhoeddwr: Gomer
A set of 100 articles, each of around 100 words. The articles are grouped into 10 themes, with vocabulary available at the bottom of the page.Cant y Cant gan R Alun Charles
Speak Welsh Outside Class- You Can Do It

Gan: Lynda Pritchard Newcombe

Pris: £5.99

Iaith: Saesneg

Addas: Mynediad, Sylfaen & Canolradd

Cyhoeddwr: Y Lolfa
Lynda Pritchard Newcombe:
Mae'r llyfr hwn yn disgrifio sut i oresgyn pryder ac ennill hyder pan mae dysgwyr yn defnyddio Cymraeg. Mae llawer o lyfrau a CDs ar gael i helpu dysgu ond does dim llawer o lyfrau wedi cael eu cyhoeddi i roi cyngor i ddysgwyr ar sut i ddefnyddio’r iaith yn y gymuned.
Nod y llyfr yw calonogi dysgwyr i sgwrsio gyda’r bobl ro’n nhw’n arfer osgoi. Dw i’n cynnig cyngor ar ddod dros bryder, cynnal cymhelliant a rheoli amser, dysgu geirfa, ynganu a goslef, amharu ar y diwylliant, defnyddio’r rhyngrwyd ac adnoddau’r cyfryngau, cadw cyfnodolyn a dyddiadur a siarad â phobl iaith gyntaf.

This book describes how to overcome anxiety and gain confidence when using Welsh. Books and CDs abound on how to learn Welsh – yet little has been published on using Welsh in the community.
The aim of the book is to get learners chatting to the people they used to avoid. I offer advice on handling anxiety, sustaining motivation, time management, building up vocabulary, pronunciation and intonation, imbibing the culture, using internet and media resources, keeping a journal and talking with fluent speakers.

Exclusive author insight: Why I wrote Speak Welsh Outside Class
Speak Welsh Outside Class gan Lynda Newcombe
Stori Sydyn

A range of stories, factual and fiction, under 100 pages

Pris: £1 or £2 each

Iaith: Cymraeg

Addas: Uwch

Cyhoeddwr: Y Lolfa
Angharad Tomos o'r Cyngor Llyfrau:
'Mae'r Storïau Sydyn yn llyfrau byr a sionc sy'n cynnwys llai na 100 tudalen, ac wedi eu hysgrifennu'n arbennig ar gyfer pobl sy'n dymuno gwella eu sgiliau a'u hyder wrth ddarllen. Drwy gynnig llyfrau cryno a darllenadwy rydym yn gobeithio codi hyder darllenwyr a dangos y gall darllen fod yn weithgaredd llawn hwyl ac ysbrydoliaeth i bawb.'

Angharad Tomos, from the Welsh Books Council:
'Quick Reads are short, snappy books with fewer than 100 pages each, and are especially written for people who wish to improve their skills and confidence around reading. By taking a bite-sized approach to reading we aim to overcome any confidence issues and show that reading can be a fun and inspiring activity for all.'
Quick Reads Logo Black

Jump up to: Fiction / Translations and adaptions / Non-fiction / down to Grammar and dictionaries

Gramadeg a Geiriaduron / Grammar and Dictionaries


Welsh Rules

Gan: Heini Gruffudd

Pris: £14.95

Iaith: Saesneg

Addas:

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Welsh Rules gan Heini Gruffudd

Heini Gruffudd:
Dechreuodd Welsh Rules fel Cymraeg Da. Roedd Y Lolfa wedi cael comisiwn gan ACCAC (Awdurdod Cymwysterau Cwiricwlwm ac Asesu Cymru) i wneud llyfr gramadeg i ddisgyblion a myfyrwyr ysgol sy’n dysgu’r Gymraeg yn ail iaith. Fel i £4,000 am wneud y gwaith. Ro’n i’n credu bod hyn yn lot o arian, ond aeth y gwaith yn fwy ac yn fwy, ac yn y diwedd, roedd yr arian yn llawer llai na’r isafswm cyflog. Ond doedd hyn ddim yn bwysig- y peth pwysig i mi oedd bod y llyfr gramadeg yn un defnyddiol.

Ond roedd un anhawster. Roedd rhaid i Cymraeg Da fod yn llyfr Cymraeg- roedd rhaid i’r esboniadau fod yn Gymraeg. Felly roedd yr esboniadau weithiau’n defnyddio iaith oedd yn fwy cymhleth na’r gramadeg oedd yn cael ei gyflwyno. Dyna pam penderfynes i, gyda chefnogaeth Y Lolfa, droi Cymraeg Da yn Welsh Rules.

Mae sawl peth yn gwneud Welsh Rules yn wahanol i bob llyfr gramadeg arall. Mae e’n cynnwys cartwnau a lluniau. Mae’r rhain yn dangos sut mae’r gramadeg yn gallu cael ei ddefnyddio mewn brawddegau, gyda thipyn bach o hiwmor.

Ond y prif beth gwahanol yw bod Welsh Rules yn rhoi sawl cam dysgu i elfennau gramadeg. Mae 20 cam dysgu gan y berfau, mae 19 cam dysgu gan yr arddodiaid, 15 cam dysgu gan ansoddeiriau, 14 cam dysgu gan ragenwau, ac ati. Fel arfer mae llyfrau gramadeg yn taflu gwybodaeth am yr elfennau yma i gyd gyda’i gilydd, ac mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd dysgu’r iaith a dysgu’r gramadeg. Trwy rannu pob elfen yn gamau dysgu, mae’n bosibl i ddysgwyr ddysgu popeth yng ngham un berfau, cam un rhagenwau, cam un cymalau, ac ati, cyn mynd ymlaen i gam 2.

Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys ymarferion o sawl math, fel bod dysgwyr yn gallu defnyddio’r gramadeg fel llyfr dysgu.
Heini Gruffudd:
Welsh Rules started as Cymraeg Da. The publisher Y Lolfa received a commission from the Qualifications, Curriculum and Assessment Authority for Wales to make a grammar book to school pupils and students learning Welsh as a second language. It was £4,000 to do the job. I thought that this was a lot of money, but the amount of work increased and increased, and in the end, the money was less than the minimum wage. But that wasn't important- the important thing to me was that the grammar book was useful.

But there was one difficulty. Cymraeg Da had to be a Welsh language book- the explanations had to be in Welsh. So sometimes the explanations used a language that was more complex than the grammar presented. That was why I decided, with the support of Y Lolfa, to turn Cymraeg Da into Welsh Rules.

There are several things that make Welsh Rules different to every other grammar book. It includes cartoons and pictures. These shows how the grammar can be used in sentences, with a bit of humour.

But the main different thing about Welsh Rules is that it gives several stages to learning grammar. The verbs have 20 learning stages, the prepositions have 19 learning stages, the adjectives have 19 learning stages, the pronouns have 14 learning stages etc. Usually grammar books throw information about all these elements together, and this makes it difficult to learn the language and grammar. Through sharing each element in learning stages, it is possible for learners to learn everything in one step for one verb, one step for pronouns, one step for clauses and so on before moving on to step 2.

The book also includes many types of excercise, so that the learner can use the grammar as a learning book.

In conversation with: Awdur Heini Gruffudd a Phrif Weithredwr o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Efa Gruffudd Jones / In Conversation With: Author Heini Gruffudd and Chief Executive of the National Centre for Learning Welsh Efa Gruffudd Jones
The Welsh Learner's Dictionary

Gan: Heini Gruffudd

Pris: £6.95

Iaith: Saesneg i Gymraeg a Chymraeg i Saesneg

Addas: All levels

Cyhoeddwr: Y Lolfa

The Welsh Learners Dictionary gan Heini Gruffudd
Heini Gruffudd:
Pan o’n i’n dysgu oedolion, roedd yn eitha amlwg fod dim geiriadur handi iddyn nhw: roedd geiriaduron Cymraeg yn rhoi rhestr o eiriau, ond ddim yn rhoi help ar sut i ddefnyddio geiriau mewn brawddegau. Dyw’r Welsh Learner’s Dictionary felly ddim yn dilyn patrwm y geiriaduron Cymraeg oedd yng Nghymru ar y pryd.

Mae e’n dechrau trwy roi patrwm brawddegau, ac amserau’r ferf, fel bod dysgwyr yn gwybod sut i wneud brawddegau syml. Wedyn yn y geiriadur, penderfynes i gynnwys enghreifftiau o eiriau mewn brawddegau. Ond es i un cam ymhellach.

Dyw geiriaduron ddim yn cynnig geiriau fel ‘roedd’. Pam? Am fod ‘roedd’ yn dod o’r ferf ‘bod’. Mae ‘bod’ mewn geiriaduron, ond dyw ‘roedd’ a ‘rydych’ ac ati ddim mewn geiriaduron. Ond mae’r Welsh Learner’s Dictionary yn rhoi ‘roedd’, ‘rwyt’, ‘rwy’ ac ati yn y rhestr o eiriau. Roedd geiriaduron yn rhoi’r arddodiad, fel ‘at’ neu ‘i’, ond doedden nhw ddim yn dangos sut mae’r rhain yn gallu newid i ‘atat ti’ neu ‘iddyn nhw’. Felly penderfynes i gynnwys hyn yn y geiriadur, er mwyn i ddysgwyr allu defnyddio’r rhain heb broblem.

Er mwyn i’r geiriadur fod yn un handi, doedd dim pwrpas iddo fe fod yn un mawr. Wrth i ddysgwyr fynd ymlaen trwy’r blynyddoedd dysgu, roedd yn amlwg bod geiriaduron mwy o faint ar gael. Felly fe wnes i gadw’r geiriadur i tua 10,000 o brif eiriau – 20,000 gan gynnwys y Saesneg. Doedd hi ddim yn bosibl gwybod pa 10,000 o eiriau Cymraeg yw’r rhai mwyaf cyffredin, neu’r rhai mwy aml eu defnydd. Efallai y bydd y gwaith sy’n cael ei wneud nawr ar Gorpws y Gymraeg yn rhoi’r wybodaeth i ni. Ond yn 1998, roedd rhaid i fi ddewis geiriau, ar sail y gwaith ro’n i wedi’i wneud mewn dosbarthiadau i oedolion ac wrth ddysgu’r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion.

Rwy’n gobeithio bod y geiriadur yn help i lawer o ddysgwyr o hyd– mae e’n dal i werthu’n dda.
Heini Gruffudd:
When I was teaching adults, it was quite obvious that there wasn't a handy dictionary for them: Welsh dictionaries gave lists of words, but they didn't give help on how to use words in sentences. So the Welsh Learner's Dictionary didn't follow the pattern of Welsh dictionaries in Wales at the time.

It starts through giving patterns of sentences, and verb tenses, so that learners can know how to use simple sentences. Then in the dictionary, I decided to use examples of words in sentences. But I went one step further.

Dictionaries don't include words like 'roedd'. Why? Because 'roedd' comes from the verb 'bod'. 'Bod' is in dictionaries, but 'roedd' and 'rydych' and so on aren't in dictionaries. But the Welsh Learner's Dictionary gives prepositions, like 'at' neu 'i', but it doesn't show how these can be used to change to 'atat ti' or 'iddyn nhw'. So I decided to include these in the dictionary, so that learners can use these without a problem.

Although the dictionary is handy, there wasn't a need for it to be large. As learners progress through the years of learning, it is obvious that larger dictionaries are available. So I kept the dictionary to about 10,000 main words- 20,000 including the English. It wasn't possible to know which 10,000 Welsh words were most common, or used most often. Perhaps the work being done by the Corpus now will make this information available to us. But in 1998, I had to choose the words, based on the work I've done in adult classes and in teaching Welsh as a second language in schools.

I hope that the dictionary is a help to lots of learners still- it continues to sell well.
D.I.Y. Welsh

Gan: D Geraint Lewis

Pris: £9.99

Iaith: Saesneg

Addas: All levels

Cyhoeddwr: Gomer
A step-by-step guide to building your own Welsh sentences, with exercises and glossary.

Exclusive author insight: Geraint Lewis explains more about D.I.Y Welsh.

Exclusive column: Geraint Lewis: Y Geiriadaur

DIY Welsh
The Routledge Intermediate Welsh Reader

Iaith: Explanations in English with articles in Welsh

Addas: Canolradd & Uwch

Gan: Gareth King

The Intermediate Welsh Reader by Gareth King
The Routledge Intermediate Welsh Reader is a comprehensive reader designed to provide varied, stimulating and up-to-date reading material for learners of Welsh at the intermediate level.

The Welsh Reader provides a bridge between basic literacy skills and the ability to read full novels and newspapers in Welsh. It consists of thirty-five authentic readings, graded on the basis of complexity of vocabulary, grammar and syntax. These readings are drawn from a range of contemporary sources such as newspapers and magazines as well as novels and historical works.

It is ideal for learners who already possess a knowledge of essential grammar and vocabulary and who wish to expand their knowledge of the language through contextualised reading material.

Key features include:
- Extracts of modern literature and newspaper/magazine articles
- Vocabulary lists for quick reference
- Short grammar explanations of any complicated structures
- Initial consonant mutations marked typographically
- Comprehension and discussion questions
- Full answer key

Suitable for both class use and independent study, The Routledge Intermediate Welsh Reader is an essential tool for facilitating vocabulary learning and increasing reading proficiency.

Available as Kindle ebook

Jump up to: Fiction / Translations and adaptions / Non-fiction / Grammar and dictionaries


Cyfres Amdani

Y diweddaraf oddi wrth Adnoddau