Byddwn ni'n gallu defnyddio'r ferf gwneud i ffurfio'r amser dyfodol yn lle ychwanegu terfyniadau at fôn berfau eraill. Defnyddiol iawn ydy gyda berfau hirach fel 'penderfynu', e.e:
The verb gwneud can be used to put verbs into the future tense instead of adding an ending. It is especially useful with longer verbs such as ‘penderfynu’, e.g:
Penderfyna i > (Gw)na i benderfynu I will decide
Penderfyniff hi > (Gw)naiff hi benderfynu She will decide
Benderfyni di? > (W)nei di benderfynu? Will you decide?
Benderfyni di? > (W)newch chi benderfynu? Will you decide?
* Fel rheol bydd pobl yn hepgor y seiniau (Gw) neu (W.......?) mewn ffurfiau ‘gwneud’ ar lafar pan fyddan nhw'n sôn yn anffurfiol.
* The (Gw) or (W?) in ‘gwneud’ is not usually pronounced in informal speech.
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Pryna i'r brechdanau
> (Gw)na i brynu'r brechdanau
> 'Na i brynu'r brechdanau
I will buy the sandwiches
2. Darlleni di'r llythyr cyn mynd i'r cyfarfod
> (Gw)nei di ddarllen y llythyr cyn mynd i'r cyfarfod
> 'Nei di ddarllen y llythyr cyn mynd i'r cyfarfod
You will read the letter before going to the meeting
3. Ysgrifenniff hi'r adroddiad
> (Gw)naiff hi ysgrifennu'r adroddiad
> 'Naiff hi ysgrifennu'r adroddiad
She will write the report
4. Siaradiff e â'r plant
> (Gw)naiff e siarad â'r plant
> 'Naiff e siarad â'r plant
He will talk to the children
5. Taliff Sandra am y bwyd
> (Gw)naiff Sandra dalu am y bwyd
> 'Naiff Sandra dalu am y bwyd
Sandra will pay for the food
6. Dawnsiff Sandra a Ffred gyda'i gilydd
> (Gw)naiff Sandra a Ffred ddawnsio gyda'i gilydd
> 'Naiff Sandra a Ffred ddawnsio gyda'i gilydd
Sandra and Ffred will dance together
7. Gweithiwn ni ar y swydd 'fory
> (Gw)nawn ni weithio ar y swydd 'fory
> 'Nawn ni weithio ar y swydd 'fory
We'll work on the job tomorrow
8. Perfformiwch chi yn y sioe
> (Gw)newch chi berfformio yn y sioe
'Newch chi berfformio yn y sioe
You will perform in the show
9. Canan nhw'n dda iawn
> (Gw)nân nhw ganu'n dda iawn
> 'Nân nhw ganu'n dda iawn
They will sing very well
10. Dali di? (Gw)na / Na (w)na.
> (W)nei di dalu? (Gw)na / Na (w)na.
> 'Nei di dalu? 'Na / Na 'na.
Will you pay? Yes / No.
11. Ganiff hi? (Gw)naiff / Na (w)naiff.
> (W)naiff hi ganu? (Gw)naiff / Na (w)naiff.
> 'Naiff hi ganu? 'Naiff / Na 'naiff.
Will she sing? Yes / No.
12. Helpwch chi? (Gw)nawn / Na (w)nawn.
> (W)newch chi helpu? (Gw)nawn / Na (w)nawn.
> 'Newch chi helpu? 'Nawn / Na 'nawn.
Will you help? Yes (we will) / No (we won't).
13. Werthwch chi'r tŷ? (Gw)na / Na (w)na.
> (W)newch chi werthu'r tŷ? (Gw)na / Na (w)na.
> 'Newch chi werthu'r tŷ? 'Na / Na 'na.
Will you sell the house? Yes (I will) / No (I won't).
14. Benderfynan nhw'n fuan? Gwnân / Na wnân.
> (Gw)nân nhw benderfynu'n fuan? (Gw)nân / Na (w)nân.
> 'Nân nhw benderfynu'n fuan? 'Nân / Na 'nân.
Will they decide soon? Yes / No.