gwlad (b) country – y wlad (the country)
merch (b) daughter – y ferch (the daughter)
brawd (g) brother – y brawd (the brother)
Yn Gymraeg, fel mewn llawer o ieithoedd Ewropeaidd eraill (ond nid Saesneg), mae enwau naill ai yn ‘gwrywaidd (g)’ (‘masculine’) neu ynteu yn ‘benywaidd (b)’ (‘feminine’).
A noun is a word for a person, place, animal, thing or idea – or a word that ‘the’ can be placed in front of, e.g.
gwlad (b) country – y wlad the country
merch (b) daughter – y ferch the daughter
brawd brother – y brawd the brother
In Welsh, as in many other European languages (not English), these words are either feminine, marked (b) or masculine.
a big brother: brawd mawr
a little brother: brawd bach
a tall brother: brawd tal
Ansoddeiriau yw’r geiriau ‘mawr, bach, tal’. Maen nhw i gyd yn disgrifio pa fath o frawd yw e.
a big brother: brawd mawr
a little brother: brawd bach
a tall brother: brawd tal
Mawr, bach and tal are all adjectives. They all describe what sort of brother he is.
chwaer fawr – a big sister
merch fach – a little girl
gwlad fach – a small country
gwlad fach – a country small
merch fach – a girl little
brawd mawr – a brother big
Dyw’r treiglad meddal ddim yn digwydd gyda lluosogion, hyd yn oed os ydyn nhw’n dod o eiriau benywaidd, e.e:
merch fach – a little girl
merched bach – little girls
gwlad fach: a country small
merch fach: a girl little
brawd mawr: a brother big
The soft mutation does not occur with plurals, even if they are from feminine words, e.g.
merch fach: a little girl
merched bach: little girls
Os byddwch chi’n rhoi’r fannod (y ‘the’) o flaen enw unigol benywaidd, bydd yn achosi treiglad meddal i’r enw hwnnw, e.e:
gwlad (b): country – y wlad: the country
tre (b): town – y dre: the town
gardd (b): garden – yr ardd: the garden
Dylech chi sylwi ar y ffaith mai pan fydd treiglad meddal yn digwydd, bydd ‘t’ yn newid i ‘d’, a bydd ‘g’ yn diflannu.
If you place ‘the’ – ‘y’ in front of a feminine singular noun it will take a soft mutation, e.g.
gwlad (b): country – y wlad: the country
tre (b): town – y dre the town
gardd (b): garden – yr ardd the garden
Notice – with a soft mutation, t>d and g disappears
Mae ffurfiau benywaidd ar y rhifolion 2, 3, a 4 yn Gymraeg, sef ‘dwy, tair, pedair’. Rhaid defnyddio’r ffurfiau cywir gydag enwau benywaidd, yn hytrach na’r ffurfiau gwrywaidd ‘dau, tri, pedwar’.
Mae’r geiriau ‘dau’ a ‘dwy’ fel ei gilydd yn achosi i’r gair sy’n dilyn yn syth ar eu hôl dreiglo’n feddal, e.e:
dau gi – two dogs)
dwy gath – two cats)
Dylech chi sylwi ar y ffaith mai enwau unigol sy’n cael eu defnyddio gyda rhifolion – ‘dau gi’ a ‘dwy gath’ (‘two dog’ and ‘two cat’) ac yn y blaen yn Gymraeg, nid ‘two dogs’ neu ‘two cats’ fel yn Saesneg.
Os byddwch yn ansicr beth yw cenedl (‘gender’) enw, byddwch chi’n gallu defnyddio ‘dau/tri/pedwar’ ar lafar.
There are feminine forms of 2, 3 and 4 in Welsh. These must be used instead of dau, tri, pedwar with feminine words.
Both dau and dwy cause a soft mutation to any words that follow them, e.g:
dau gi (two dogs)
dwy gath (two cats)
Notice – singular nouns are used with numbers – two dog, two cat etc. in Welsh, not two dogs / cats as in English.
If you’re unsure of the gender of a word use dau/tri/pedwar in speech.
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Mae’r tad tal yn yr ardd fach
The tall father is in the small garden
2. Mae tad tal mewn gardd fach
There is a tall father in a small garden
3. Mae’r fam garedig yn y tŷ pinc
The kind mother is in the pink house
4. Mae mam garedig mewn tŷ pinc
There is a kind mother in a pink house
5. Mae’r ddau fachgen mawr yn y siop fach
The two big boys are in the little shop
6. Mae dau fachgen byr mewn castell mawr
There are two short boys in a big castle
7. Mae’r ddwy ferch fach yn y tŷ glas
The two small girls are in the blue house
8. Mae ddwy ferch garedig mewn ystafell dywyll
There are two kind girls in a dark room