Pronunciation Guide
In Welsh words the stress usually falls on the last but one syllable (a syllable is a unit of sound). Putting stress on a syllable means lengthening the sound with more emphasis in the voice.
For example, people with a Welsh accent would pronounce the surname Meredith as Mer-ed-ith, with the last sound but one ‘ed’ stressed. People with an English accent would tend to put equal weight on all three syllables – Mer-ed-ith.
If the stress falls on the last syllable of a Welsh word it is usually marked by an accent e.g. carafán. There are very few words like this in Welsh.
Try saying these words: – canol – canolfan. The stress moves on each time a unit of sound or syllable is added.
Abbreviations used
(adj) adjective- a describing word
(b) benywaidd – feminine (noun)
(col) colloquial– a word used in one area of Wales
(au) ….(s) plurals e.g. shop(s) – siop(au)
adre(f) (f) not pronounced
{rhed} root/stem of the verb e.g. rhedeg {rhed-}
(t.ll.) treiglad llaes – the word causes an aspirate mutation
(t.t.) treiglad trwynol – the word causes a nasal mutation
(t.m.) treiglad meddal – the word causes a soft mutation
(adj.) adjective
….(to) verb e.g. talk (to) – to talk
(tag) tags are short questions that we put on the end of sentences such as ‘…isn’t it?’
N.W. a word used in North Wales
S.W. a word used in South Wales
Further resources
For a complete learner’s dictionary I recommend Heini Gruffudd’s Welsh Learner’s Dictionary, and for a comprehensive online dictionary go to Geiriadur Prifysgol Cymru.
]]>Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Heddiw, mae gyda tua 50,000 o bobl ym Mhatagonia wreiddiau Cymreig ac mae tua 5,000 yn siarad Cymraeg. Mae’r iaith Gymraeg ar gynnydd ar bob lefel ar draws y dalaith ac mae dros fil o bobl Y Wladfa yn mynd i ddosbarthiadau dysgu Cymraeg bob blwyddyn. Ond, stori hollol wahanol oedd hi ar ddechrau’r 20fed ganrif.
Erbyn dechrau’r 1900au, roedd y Cymry yn y lleiafrif yn y wladfa roedden nhw wedi ei sefydlu. Dechreuodd llywodraeth Yr Ariannin gymryd rheolaeth ar weinyddiaeth yr ardal gan gynnwys y system addysg. Doedd hyn ddim yn newyddion da, yn enwedig i’r iaith Gymraeg. Ers sefydlu’r Wladfa, roedd popeth yn digwydd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Dros nos felly, trodd y system addysg o fod yn uniaith Gymraeg i uniaith Sbaeneg.
Er gwaethaf hyn, parhaodd yr iaith yn gryf ar yr aelwyd, yn y capeli ac ar lefel gymdeithasol am genhedlaeth neu ddwy. Gwyliwch y clip yma o raglen BBC o 1962 ‘The Desert and the Dream’. Yn y clip, gallwch chi glywed ‘gauchos’ Cymraeg yn siarad yr iaith yn gwbl naturiol: https://www.bbc.co.uk/programmes/p00krkrj
Ond, wrth gwrs, o dan system addysg gwbl Sbaeneg, heb statws swyddogol a rhyngbriodi rhwng y Cymry a phobl o ddiwylliannau eraill, dechreuodd sefyllfa’r iaith ddirywio’n eithaf cyflym. Yr ateb synhwyrol oedd cryfhau’r cysylltiadau rhwng Y Wladfa newydd a’r hen wlad.
Yn 1939, sefydlwyd Cymdeithas Cymru – Ariannin. Dros y blynyddoedd, mae’r gymdeithas wedi gwneud gwaith gwych fel dolen gyswllt rhwng y ddwy wlad.
Dyma rai o gyflawniadau’r gymdeithas:
Cyhoeddwyd llyfryn yn 1989 ‘Cymdeithas Cymry Ariannin 1939-1989’ yn rhoi hanes y Gymdeithas ers ei sefydlu. Hefyd cyhoeddwyd llyfr yn 2014 gan Elvey MacDonald i ddathlu pen blwydd y Gymdeithas yn 75 oed.
Darllenwch ‘Cymdeithas Cymry Ariannin 1939-1989’ yma. Mae’n ddiddorol dros ben: http://www.cymru-ariannin.com/uploads/cymdeithas_cymry_ariannin_19391989.pdf
Daeth yr hwb mawr nesaf i’r iaith yn Y Wladfa yn y 1960au a hynny am ddau reswm yn bennaf – canmlwyddiant y glanio yn 1965 a theithiau awyrennau rhatach. O ganlyniad i’r ddau beth yma, dechreuodd llawer mwy o Gymry ymweld â’r Wladfa. Sylweddolodd yr ymwelwyr bod yr iaith Gymraeg yn yr ardal angen cymorth yn ei hunig gadarnle y tu allan i Gymru.
Teithiodd 73 o Gymry i’r Wladfa yn 1965 i gofio hanes anhygoel yr arloeswyr. Roedd tair wythnos o ddathlu yn Nhalaith Chubut ac ym mhrifddinas Yr Ariannin, Buenos Aires. Dyma ychydig o luniau o’r dathliadau: https://www.casgliadywerin.cymru/items/476421
Fel rhan o’r dathlu, aeth criw o bobl ifainc Y Wladfa i Gymru am dri mis yn yr haf y flwyddyn honno. Dyma ddechrau ail gynnau diddordeb pobl Y Wladfa yn eu gwreiddiau Cymreig a’r Cymry yn hanes eu cyn tadau.
Yn 1996, dechreuodd y Swyddfa Gymreig raglen lle mae athrawon yn treulio cyfnod yn Y Wladfa yn dysgu’r iaith yn yr ysgolion ac i oedolion. Diolch i’r cynllun yma, mae llawer mwy o siaradwyr Cymraeg, nid yn unig ymysg y bobl o dras Gymreig ond hefyd gydag Archentwyr pur a phobl o dras gwledydd eraill.
Heddiw, mae’r prosiect yn cael ei redeg ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Y Cyngor Prydeinig, Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Cymru – Ariannin a Menter Iaith Patagonia.
Oes diddordeb gyda chi ymuno â’r cynllun? Os oes, dilynwch y linc yma i ddarganfod mwy am y cyfleoedd i weithio fel athro neu athrawes Gymraeg yn Y Wladfa: https://wales.britishcouncil.org/en/programmes/education/welsh-language-project
Dilynwch y linc yma hefyd – ‘Angen athrawon Cymraeg i ateb galw ysgolion Patagonia’. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/49722299
Gwyliwch y clip yma o blant ysgolion Cymraeg Y Wladfa yn galw am athrawon i’w dysgu nhw: https://www.facebook.com/watch/?v=936913273325617
Heddiw, mae cannoedd o oedolion a phobl ifanc yn dysgu Cymraeg yn y colegau, yr ysgolion ac mewn dosbarthiadau nos.
Oeddech chi’n gwybod bod Menter Iaith ym Mhatagonia? Cafodd y fenter ei sefydlu yn 2008 gyda help Yr Urdd, Y Cyngor Prydeinig ac ychydig o fusnesau lleol. Mae’r athrawon sy’n gweithio o dan gynllun yr iaith Gymraeg yn treulio tua chwarter o’u hamser gyda’r fenter iaith.
Dyma ychydig o bosteri yn hysbysebu digwyddiadau Menter Iaith Patagonia. Gallwch chi ddilyn hynt a helynt y fenter ar Drydar: https://twitter.com/menterpatagonia
Mae dau bapur bro Cymraeg yn gwasanaethu’r Wladfa – Llais yr Andes a Clecs Camwy. Mae’n bosibl darllen y ddau bapur ar lein.
Fel y dywedwyd eisoes, ar ddechrau’r 20fed ganrif, Sbaeneg oedd unig iaith swyddogol Patagonia. Iaith y cartref a’r capel yn unig oedd Cymraeg. Erbyn heddiw wrth gwrs, mae’r llanw wedi troi ac mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu ar bob lefel dros yr holl dalaith.
Yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf oedd Ysgol yr Hendre, Trelew a agorodd ei drysau yn 2006. Cafodd llawer o arian ei godi gan bobl Y Wladfa a Chymru er mwyn agor yr ysgol. Oherwydd y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, mae dwy ysgol arall wedi agor ers hynny – Ysgol y Gaiman yn 2013 ac Ysgol Trevelin yn 2016.
Mae’r tair ysgol yn llwyddiannus dros ben yn addysgu dros 100 o ddisgyblion yr un un o oedran meithrin hyd at11 oed. Ar ben hyn, mae Cymraeg nawr yn cael ei haddysgu yn yr ysgolion uwchradd cyfrwng Sbaeneg ac mae Coleg Camwy yn cynnig Cymraeg fel pwnc ac fel cyfrwng addysgu i bawb. At ei gilydd, mae dros fil a hanner o bobl Y Wladfa erbyn hyn naill ai’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg.
Mae dyfodiad y we fyd eang hefyd wedi helpu cadw cysylltiadau rhwng Cymru a’r Wladfa’n gryf. Os hoffech chi ddarllen mwy am lwyddiant y Gymraeg yn Y Wladfa dros yr ugain mlynedd diwethaf, ewch i: https://wales.britishcouncil.org/sites/default/files/welsh_language_report_2017_18_english.pdf
Ym mis Gorffennaf 2015, i ddathlu 150 mlynedd ers i’r Mimosa adael dociau Lerpwl, cafodd cofeb ei dadorchuddio yn y ddinas.
Mwy am Batagonia, ei phobl a’i ffordd o fyw y tro nesaf.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982-3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015-16 a CBAC 2017-18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982-3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015-16 and WJEC 2017-18.
]]>Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Tir ar y Gorwel
Ddydd Gwener, 28ain o Orffennaf 1865, glaniodd yr ymfudwyr mewn bae o’r enw Porth Madryn a cherddon nhw ar dir eu cartref newydd am y tro cyntaf.
Roedd dau Gymro – Edwin Cynrig Roberts a Lewis Jones yno yn barod i gwrdd â nhw ar y tir mawr. Daethon nhw ar long arall ym mis Mehefin er mwyn cludo anifeiliaid a stoc o goed i ddechrau ar y gwaith o adeiladau cabanau pren. Cynhaliodd yr ymfudwyr wasanaeth byr ar y traeth er mwyn diolch am gyrraedd yn ddiogel.
Puerto (Porth) Madryn
Yn 1862, dair blynedd yn gynharach, teithiodd dau o drefnwyr y prosiect i Batagonia er mwyn penderfynu a oedd yr ardal yn addas i’r Cymry. Y ddau oedd Lewis Jones (oedd ar ei ail ymweliad – gweler uchod) a Syr Love Jones Parry. Teithion nhw mewn llong fach o’r enw ‘Candelaria’. Cawson nhw eu gyrru gan storm annisgwyl i fae bach. Penderfynon nhw enwi’r bae yn Borth Madryn, ar ôl Castell Madryn, cartref Syr Love Jones-Parry ym Mhenryn Llŷn.
Wel, wel… Yr enw cyfoes ar y dref a dyfodd o gwmpas y bae yw Puerto Madryn. Mae tua 58.000 o bobl yn byw ym Mhuerto Madryn heddiw. Mae’r dref wedi’i gefeillio â phentref Nefyn, Penrhyn Llŷn.
Yr Wythnosau Cyntaf
Roedd llywodraeth Yr Ariannin wedi cynnig can milltir sgwâr o dir ar hyd yr Afon Camwy (Chubut) i’r ymfudwyr o Gymru ond roedd sawl anhawster i’w oresgyn ar y dechrau. Doedd dim llawer o gysgod yn y bae, felly am yr ychydig wythnosau cyntaf, penderfynodd y menywod gysgu ar y llong. Roedd lle i rai gysgu yn y cabanau pren a adeiladwyd ac aeth rhai eraill i fyw mewn ogofâu ar glogwyni traeth Porth Madryn.
Chymerodd e ddim llawer o amser i’r ymfudwyr ddarganfod nad oedd cyflwr y tir yn debyg o gwbl i iseldiroedd Cymru. Yn wir, roedd y tir yn fwy tebyg i anialwch na chaeau gwyrddion Cymru – dim dŵr, prinder ffynonellau bwyd a dim coedwigoedd i ddarparu deunyddiau adeiladau neu gysgod!!
Doedd dim dewis gan yr ymfudwyr felly ond i gerdded ar draws y paith sych tuag at y dŵr agosaf, yn gwthio eu heiddo a’u bwyd mewn whilberi. Buodd rhai farw ar y siwrne ond cafodd merch fach, Mary Humphreys, ei geni ar y daith. Unwaith iddyn nhw gyrraedd dyffryn yr Afon Camwy, sefydlon nhw anheddiad bach a ddatblygodd yn ddiweddarach yn dref o’r enw Rawson.
Yn y llun, mae aelodau o’r grŵp cyntaf o ymfudwyr yn Rawson, Dyffryn Camwy – y dref gyntaf i gael ei sefydlu gan y Cymry, Medi 1865. Aeth y Cymry ymlaen i sefydlu trefi yn Y Gaiman a Threlew.
Oeddech chi’n gwybod? Pan aeth Syr Love Jones Parry a Lewis Jones i Batagonia yn 1862, cynhalion nhw drafodaethau gyda Gweinidog Gwladol yr Ariannin, Guillermo Rawson. Cafodd tref Rawson ei henwi ar ôl y Gweinidog yma.
Wel wel… Yr Addewid a’r Realiti Addawodd Michael D Jones y byddai bywyd gwell i’r ymfudwyr yn Y Wladfa.
Dyma’r poster a ysgrifennwyd gan Michael D. Jones er mwyn denu ymfudwyr i’r Wladfa. Addawodd e ‘Gwlad doreithiog nad yw’n feddiannol gan neb ond ychydig Indiaid. Rhoddir i bob teulu 100 erw o dir, ceffylau, ychain, defaid, gwenith a chelfi. Rhed yr afon drwy y doldir a heidia yr anifeiliaid yn y porfeydd gwelltog‘.
Ond roedd realiti’r sefyllfa’n hollol wahanol. Roedd bywyd yn galed iawn ar y dechrau. Roedd y tywydd yn wahanol iawn i Gymru gyda thymheredd uchel iawn yn ystod y dydd yn yr haf, ac eira a glaw trwm yn ystod y gaeaf. Roedd problemau gyda thir diffaith, diffyg dŵr yfed ac ychydig o gysgod. Ar ben hyn, cafodd y tai cyntaf a’r cnydau o datws ac ŷd eu distrywio gan lifogydd. Adegau eraill, cafwyd llai o law na’r disgwyl a methodd y cnydau. Cofiwch, doedd ond ychydig o ffermwyr profiadol ymhlith yr ymfudwyr cyntaf.
Brodorion y Wlad yn Cynorthwyo
Cafodd y Cymry help mawr gan ffynhonnell annisgwyl – llwythi brodorol y wlad. Daeth y Cymry i gysylltiad â’r llwythi brodorol tua blwyddyn ar ôl cyrraedd. Roedd un llwyth, sef Y Tehuelche’n ffrindiau da i’r Cymry, yn eu dysgu sut i drin y tir sych, marchogaeth, hela anifeiliaid a physgota. Yn wir, roedden nhw’n edrych ar y Cymry fel eu brodyr.
Llun o 1867 – Lewis Jones (1836-1904) gyda chwech o lwyth Y Tehuelche. Edrychwch pa mor dal maen nhw.
Roedd y Cymry yn eu tro yn garedig iawn tuag atyn nhw. Dechreuodd y Cymry fasnachu gyda llwythi’r Mapuches a’r Pampas yn ogystal â’r Tehuelcha. Gwerthodd y Cymry fara a menyn i’r llwythi a rhoddodd y llwythi gig a dillad i’r Cymry. Yn ôl rhai, roedd y llwythi yma yn defnyddio geiriau Cymraeg am nwyddau fel bara!
Os oes copi gyda chi o’r ffilm ‘Patagonia’ (2010), edrychwch eto ar ddechrau’r ffilm er mwyn gweld pa mor bwysig oedd llwyth y Tehuelche i’r Cymry.
Oeddech chi’n gwybod … ?
Roedden y Tehuelche’n hela gyda chŵn ac ar gefn ceffylau. Roedden nhw’n defnyddio bwa a saeth fel arfau hela ac yn byw ar gig gwanaco. Roedden nhw hefyd yn bwyta peth bwyd llysieuol. Cyn y Goncwest Sbaenaidd, roedd tua phedair mil o’r Tehuelche yn byw ym Mhatagonia. Ond erbyn canol ganrif ddiwethaf roedd llai na chant. Heddiw, dim ond ychydig sy’n dal i gynnal eu hen ffordd o fyw.
Trin y Tir
Doedd dim dewis gyda’r Cymry cyntaf felly – dysgu trin y tir neu adael i’r prosiect fethu. Ar ôl symud tuag at Ddyffryn Camwy (Chubut), penderfynodd y Cymry gynllunio system ddyfrhau. Adeiladon nhw gyfres o gamlesi dyfrhau, dair neu bedair milltir bob ochr i’r afon Camwy. Dyma’r system ddyfrhau gyntaf erioed yn yr Ariannin. Roedd y system ddyfrhau mor effeithiol fel bod y Cymry’n cynhyrchu 6 mil o dunelli o wenith y flwyddyn erbyn 1885.
Mae’r cerdyn post hwn yn dangos y drol gyntaf a gafodd ei hadeiladu yn y Wladfa, tua 1866, Defnyddiodd y saer Hugh Hughes bren o longddrylliad yn Afon Camwy.
Erbyn 1874, roedd tua 270 o bobl yn byw yn ardal Dyffryn Camwy (Chubut), a dechreuodd rhwydwaith o ffermydd dyfu. Yn 1875, cafodd y Cymry berchnogaeth swyddogol ar y tir gan lywodraeth Yr Ariannin ac o ganlyniad, daeth llawer mwy o ymfudwyr o’r hen wlad i’r Wladfa newydd rhwng 1880–87 a rhwng 1904-12.
Gwyliwch y clip gwych yma o gyfweliad gyda Nain Maggie am ei phrofiadau yn croesi’r paith gydag ymfudwyr 1891:
https://www.facebook.com/jeremy.wood.5836711/videos/3919161861465/
Y Rheilffordd Gyntaf
Problem arall oedd y ffyrdd garw. Roedd rhaid sefydlu system deithio effeithlon. Hefyd, erbyn canol yr 1880au, roedd llawer o’r tir ffrwythlon yn rhan isaf Dyffryn Camwy wedi’i hawlio. Penderfynodd y Cymry felly ofyn am ganiatâd i archwilio rhan uchaf y dyffryn.
Roedd aber yr Afon Camwy yn fas ac yn anodd ei llywio. Yn 1884 felly, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladau Rheilffordd Canolbarth Camwy. Erbyn 1885, cyrhaeddodd y Cymry ardal ffrwythlon a enwyd ganddyn nhw yn Gwm Hyfryd. Wrth i’r boblogaeth dyfu, sefydlwyd dwy dref arall sef Esquel a Threvelin.
Wel wel… Lewis Jones oedd y grym tu ôl i adeiladu’r rheilffordd a chafodd y dref a adeiladwyd ar derfyn y rheilffordd, Trelew, ei henwi ar ei ôl e.
Ond, doedd bywyd ddim yn fêl i gyd. Cafwyd llifogydd mawr yn yr 1890au a’r 1900au a wnaeth difrod mawr i Rawson a Gaiman. Roedd anghytundebau hefyd rhwng llywodraeth Yr Ariannin oherwydd consgripsiwn i fyddin y wlad honno. Gadawodd llawer o’r Cymry am Ganada ac Awstralia, yn ogystal â dychwelyd i Gymru.
Mae clip gwych ar y linc yma o raglen ddogfen o 1961 sy’n portreadu bywyd y Gauchos Cymraeg yn yr 1950au.
Cadw’r Hen Ffordd Gymreig O Fyw
Bwriad y Cymry oedd gwneud Y Wladfa mor debyg â phosibl i’r hen wlad. Y cam cyntaf yn y broses hon oedd adeiladau capeli. Roedd y capeli yn bwysig iawn – fel canolfannau crefyddol ac fel canolfannau cymdeithasol, man cynnal eisteddfodau, ysgolion a hyd yn oed llysoedd barn. Mae capeli’r Wladfa yn ddiddorol dros ben. Mae rhai ond yn gytiau bach pren neu haearn rhychiog a rhai eraill yn fwy tebyg i gapeli Cymru heddiw.
Dyma lun o Gapel Moriah, Dyffryn Camwy. Mae nifer o’r Cymry cyntaf aeth i’r Wladfa yn 1865 wedi’u claddu ym mynwent y capel hwn.
Dyma un ychydig yn llai crand – Capel Glan Alaw, Bethesda
Gallwch chi weld y capeli i gyd heddiw trwy ddilyn llwybr ar ddwy ochr yr afon Chubut. Mae tudalen ddiddorol ar weplyfr o’r enw Capeli Cymraeg y Wladfa fydd yn eich arwain ar hyd llwybr y capeli. https://www.facebook.com/AndesCeltig/photos/a.267731564239.143199.165471514239/267740379239/?type=1. Hefyd, gwyliwch hanes Rhys a Gwen yn y ffilm Patagonia wrth iddyn nhw ddilyn llwybr capeli Cymraeg Y Wladfa.
Yr Eisteddfod
Roedd yr ymfudwyr cyntaf yn ymwybodol iawn o draddodiadau eisteddfodol Cymru. Doedd hi ddim yn syndod felly iddyn nhw benderfynu dathlu’r Eisteddfod yn gynnar iawn yn hanes Y Wladfa. Digwyddodd yr Eisteddfod gyntaf yn Chubut rhwng 1865 ac 1875. Mae’r traddodiad eisteddfodol yn parhau hyd heddiw, ond mwy am hynny yn nes ymlaen yn y gyfres. Beth am ddod yn ffrindiau gydag Eisteddfod Trevelin ar weplyfr? https://www.facebook.com/photo.php?fbid=380227178779911&set=a.380225858780043.1073741826.174948579307773
Ysgolion cynnar y Wladfa
Roedd arweinwyr y prosiect yn credu’n gryf mewn sefydlu ysgolion Cymraeg yn Y Wladfa er mwyn cadw’r iaith yn fyw am genedlaethau i ddod. Ysgol Rawson oedd yr ysgol gyntaf. Roedd yr ysgol mewn adeilad pren. Yr unig werslyfr ar y dechrau oedd y Beibl Cymraeg.
Richard (Berwyn) Jones oedd pennaeth cyntaf yr ysgol. Gwelodd e fod angen deunyddiau darllen gwell ac ysgrifennodd e werslyfr yn arbennig ar gyfer plant Y Wladfa. Yn y llyfr mae geirfa, gwersi, penillion, diarhebion, storïau a rhestr o enwau Cymraeg i blant.
Wel wel… Roedd Richard Berwyn Jones yn mynnu bod plant yr ysgol yn brawddegu‘n gywir ac yn safonol. Roedd rhaid iddyn nhw ddefnyddio geiriau Cymraeg yn unig fel “Bonwr” yn hytrach na “Mr”!
Y Wasg
Roedd cyhoeddi papurau newydd yn hollbwysig er mwyn i’r Cymry fedru darllen newyddion yn eu hiaith eu hunain ac er mwyn cadw cymunedau Cymraeg Y Wladfa mewn cysylltiad â’i gilydd. Fis Ionawr 1865, cyhoeddwyd papur newydd cyntaf y Wladfa sef Y Brut. Dechreuwyd papur arall Ein Breiniad yn 1878.
Y cyhoeddiad mwyaf llwyddiannus beth bynnag oedd Y Dravod, a ddechreuwyd yn 1891.
WEL WEL…. parhaodd Y Dravod mewn cylchrediad tan 1961!
Os hoffech chi ddarllen mwy am hanes y wasg yn Y Wladfa, ewch i: https://docplayer.net/56643841-Welsh-print-culture-in-y-wladfa-the-role-of-ethnic-newspapers-in-welsh-patagonia.html
Cymraeg- Iaith Swyddogol
Am gyfnod hir, Cymraeg oedd iaith swyddogol Y Wladfa – iaith addysg, y gyfraith, crefydd, y wasg a digwyddiadau cymdeithasol. Cafodd yr iaith ei defnyddio mewn llywodraeth ac ysgrifennwyd cofnodion cyfarfodydd yn Gymraeg yn unig. Yn wahanol i’r sefyllfa yng Nghymru, roedd rhyddid i’r iaith Gymraeg ehangu a dylanwadu yn Y Wladfa. Er enghraifft, datblygwyd y system newydd o gyfrif er mwyn hwyluso dysgu mathemateg yn Gymraeg i blant yn Y Wladfa.
Wrth i ymfudwyr o rannau eraill o’r wlad a gwledydd gwahanol ymsefydlu yn Y Wladfa, gwanychodd yr iaith. Yn wir, ar ddechrau’r 20fed ganrif, Sbaeneg oedd unig iaith swyddogol Patagonia. Iaith y cartref a’r capel yn unig oedd Cymraeg.
Erbyn heddiw wrth gwrs, mae’r llanw wedi troi ychydig ac mae Ysgolion Cynradd Cymraeg yn Y Wladfa.
Diwedd y 19eg Ganrif
Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd tua 4 mil o Gymry’n byw yn Y Wladfa gan gynnwys tua mil a gyrhaeddodd rhwng 1886 a 1901. Cyrhaeddodd y grŵp olaf o ymfudwyr ychydig cyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl 1914, o’r Eidal a gwledydd eraill yn ne Ewrop daeth y rhan fwyaf o’r ymfudwyr. Yn 1915, roedd tua 20,000 o bobl yn byw yn Nyffryn Camwy gyda hanner ohonyn nhw’n dod o wledydd heblaw am Gymru.
Oeddech chi’n gwybod…?
Yn 1875, cafodd fersiwn arbennig o Hen Wlad fy Nhadau ei ysgrifennu gan Lewis Evans, un o’r Cymry cyntaf i ymfudo i Batagonia. Y bwriad oedd defnyddio’r fersiwn yma yn lle Anthem Cymru. Roedd y fersiwn yma ar goll am tua 150 o flynyddoedd. Cafodd y fersiwn ei ddarganfod yn y Llyfrgell Genedlaethol mewn taflen o’r enw Adroddiad y Parch. D S Davies am Sefyllfa y Wladfa Gymreig.
Dyma’r geiriau:
Erbyn heddiw, mae Cymry Patagonia yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ i ddathlu digwyddiadau arbennig.
Colli cysylltiad â Cymru
Ar ôl 1914, roedd ond ychydig o gysylltiad rhwng Cymru a’r Wladfa. Newidiodd hynny ddim tan 1965 pan ddechreuodd niferoedd mawr o Gymry ymweld â’r Wladfa er mwyn dathlu canmlwyddiant y glanio.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982-3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015-16 a CBAC 2017-18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982-3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015-16 and WJEC 2017-18.
]]>