Mared Lewis Creu Fi a Mr Huws, Y Stryd + Llwybrau Cul

Mared Lewis: Creu Fi a Mr Huws, Y Stryd & Llwybrau Cul / Creating Fi a Mr Huws, Y Stryd & Llwybrau Cul: Cyfres Amdani

Un o awduron mwya' poblogaidd Cymru yw Mared. Yn 2017 rhyddhaodd hi nofel ar gyfer dysgwyr hyderus, Fi a Mr Huws. Yn gynnar yn 2018 gwnaeth hi ryddhau addasiad ar gyfer dysgwyr newydd, Y Stryd, ac yn hwyr 2018, nofel newydd i ddysgwyr uwch, Llwybrau Cul. Yma, mae hi'n dweud rhagor am y llyfrau hyn wrthon ni, ac yn trafod ei hun a'i 'sgrifennu hi- cwestiynau gan David Sutton.

Mared is one of Wales' most popular authors, and in 2017 released a novel for confident learners, Fi a Mr Huws. In early 2018 she released an adaption for new learners, Y Stryd, and in late 2018, a new novel for higher learners, Llwybrau Cul.  Here she tells us more about these books and herself as a writer- questions by David Sutton.

Y Stryd

Awdures: Helen Naylor
Addasiad Cymraeg o One Day
Wedi'i addasu gan Mared Lewis

Pris: £6.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page

Amdani Sylfaen Safon: Sylfaen
Cyhoeddwr: Gomer
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781785622397

Llwybrau Cul

Awdures: Mared Lewis

Pris: £8.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page

Amdani Uwch Safon: Uwch
Cyhoeddwr: Gomer
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781785622380

Mared, rwyt ti wedi ysgrifennu sawl llyfr o'r blaen, ond Fi a Mr Huws yw dy lyfr cyntaf i ddysgwyr. Pam gwnest ti benderfynu ei ysgrifennu?Mared, you have written a lot of books before, but Fi a Mr Huws (Me and Mr Huws) was the first book for learners. What made you decide to write it?
Wel, rydw i'n diwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Bangor, ac ro'n i'n teimlo bod angen mwy o lyfrau Cymraeg i Ddysgwyr. Mae yna nifer o lyfrau arbennig o dda yn barod, ond mae angen mwy! Yna daeth cais gan wasg Y Lolfa am syniad ar gyfer nofel i Ddysgwyr, a dyna hi wedyn!
Well, I’m a Welsh tutor for adults at Bangor University, and I was feeling the need for more Welsh-language books for learners. There are a number of very good books already, but there is a need for more! Then came a request from the publisher Y Lolfa for an idea for a novel for learners, and there you are!
Mae sawl dysgwr wedi dweud wrtha i fod nhw'n hoffi'r nofel 'Fi a Mr Huws' achos mae'n teimlo fel 'llyfr go iawn', nid rhywbeth sydd wedi cael ei greu yn benodol i ddysgwyr. Dweud wrthon ni mwy am sut gwnest ti ysgrifennu fe - rydw i'n deall dy fod wedi ysgrifennu llyfr fel arfer, ac wedyn mynd drwyddo linell wrth linell, i addasu fe i ddysgwyr- ydy hyn yn gywir?Many learners have told me that they like the novel 'Fi a Mr Huws' because they feel it is ‘proper book’, not something created specifically for learners. Tell us more about how you wrote it – I understand that you wrote the book in the usual way, and then went through it line by line, adapting it for learners – is that true?
Mae hyn bron iawn yn gywir. Dwi'n falch iawn o glywed bod pobol yn meddwl fod y nofel yn darllen fel 'llyfr go iawn' achos dyna oedd fy mwriad. Do'n i ddim isio i'r llyfr ddarllen fel ymarferiad iaith, felly es i ati i ddechrau i sgwennu'r llyfr i gyd o'r dechrau i'r diwedd, gan ganolbwyntio ar ysgrifennu stori reit afaelgar efo mwy nag un llinyn plot, a chymeriadau amrywiol yr oedd pobol yn medru uniaethu efo nhw. Wnes i ddim poeni yn ormodol am yr iaith yn y drafft cyntaf. Yn ystod ail ddrafftio wedyn, pan o'n i'n hapus efo'r plot ac ati, dyna fynd drwy'r llyfr yn fwy manwl, a newid unrhyw frawddeg oedd yn or-gymhleth, a newid un gair am y llall os oedd o'n fwy cyfarwydd i'r darllenydd. Ro'n i eisiau cadw'r elfennau tafodieithiol a chadw ysbryd y gwaith os yn bosib, ond heb orfod defnyddio gormod o eiriau newydd. That’s more or less true. I am very glad to hear that people think the novel reads like a ‘proper book’, because that is what I was aiming at. I did not want the book to read like a language exercise, so I began by writing the book in its entirety from beginning to end, concentrating on making the story really gripping with more than one plotline, and with a variety of characters that people would be able to identify with. I did not worry overmuch about the language in the first draft. It was only in the second draft, when I was happy with plot and so on, that I went through the book in more detail, changing any sentence that was over-complicated, and changing one word for another if that was likely to be more familiar to the reader. I wanted to keep the dialect elements and keep the spirit of the work if that was possible, but without having to use too many new words.
Mae hi mor bwysig bod dysgwyr yn cael y cyfle i weld y patrymau a'r geiriau maen nhw'n nabod wrth fynd ati i ddarllen yn eu hamser hamdden, a mwynhau a dysgu mwy wrth wneud. It is so important for learners to have the opportunity to see the patterns and words that they know as they set about reading in their leisure time, and to enjoy it and learn more as they do so.
Dweud wrthon ni tipyn bach mwy am dy hunan- sut wnest ti ddechrau fel awdures?Tell us a bit about yourself – how did you get started as an author?
Tydw i erioed yn cofio amser pan o'n i ddim yn sgwennu deud y gwir. Ro'n i'n un o'r plant bach diflas hynny oedd yn cyffroi pan oedd yr athrawes yn rhoi gwaith sgwennu yn y dosbarth! Ro'n i'n arfer sgwennu stori i'n ffrindiau hefyd ac yn eu holi pa fath o bethau oeddan nhw isio i mi ei gynnwys yn y stori. Roedd y teimlad o ddarllenydd, o gynulleidfa i'r gwaith, yn bwysig o'r dechrau. Roedd o'n wefr ac mae o dal yn wefr o hyd, y rhan fwya' o'r amser ! (Ond ddim pob tro, os oes yna broblem efo'r stori neu'r cymeriadau!) Actually I never remember a time when I wasn’t writing. I was one of those tiresome small children who got excited when the teacher gave us writing work in class. I used to write stories for friends too and ask them what sort of things they wanted me to put in the story. The feelings of readers, of the audience for the work, were important to me from the start. It was a thrill to write and it is still a thrill now, most of the time! (But not every time, if there is a problem with the story or characters!).
Wnes i ddim dychmygu y baswn i'n medru ennill bywoliaeth o sgwennu, ond dyna dwi wedi wneud ers bron i ugain mlynedd, er mod i'n mynd allan i weithio i'r 'byd go iawn' pob hyn a hyn hefyd, i gael awyr iach! Ac i ennill ychydig bach mwy o bres! I never imagined I would be able to make a living from writing, but there you go, I’ve been doing it for nearly twenty years, despite going out to work in ‘the real world’ too every so often, to get a breath of fresh air! And to earn a bit more money!
Fe wnes di ryddhau'r llyfr 'Y Stryd' yn gynharach yn 2018, addasiad ydyw o lyfr Saesneg i ddysgwyr iaith newydd. Wyt ti'n gallu dweud tipyn bach mwy wrthon ni am hwn?
You released the book 'Y Stryd' earlier in 2018, an adaptation of an English-language book for new language learners. Can you tell us a little bit about it?
Addasiad o lyfr Saesneg o'r enw One Day gan yr awdures Helen Naylor yw Y Stryd. Mae'r stori yn galw i mewn ac allan o fywydau'r bobol sy'n byw drws nesa' i'w gilydd ar un stryd arbennig mewn tref yng Ngogledd Cymru. Mae pawb yn byw drws nesa, ond mae ganddyn nhw fywydau diddorol, ac mae gen pawb ei broblem ei hun. Mae'n lyfr difyr, a dyma'r tro cyntaf i mi addasu llyfr gan rhywun arall. Roedd hi'n anodd i ddechrau peidio rhedeg i ffwrdd efo'r stori fy hun, ond fe ddaeth pethau'n haws. Mae'n addas ar gyfer lefel Sylfaen. Y Stryd is an adaptation of an English book called One Day, by Helen Naylor. The story pops in and out of the lives of people living next door to one another in a particular street in a town in North Wales. Everyone lives next door, but they lead interesting lives, and all of them have their own problems. It is an entertaining book, and that’s the first time I have adapted a book by someone else. At first it was difficult to stop myself running away with the story myself, but then things became easier. It is suitable for learners at Foundation level.
Pa lyfrau wnes di eu mwynhau pan oeddet yn blentyn?What books did you enjoy when you were a child?
Ro'n i wrth fy modd yn darllen ers talwm, ac yn hoffi ymgolli mewn llyfr da! Roedd yna lawer mwy o ddewis o lyfrau Saesneg na llyfrau Cymraeg yn y 70au, a dwi'n cofio'r wefr o gael llyfrau drwy gynllun y Chip Club yn yr ysgol. Roedd Enid Blyton yn ffefryn mawr, yn enwedig y rhai cyntaf yn y gyfres 'The naughtiest girl in the school'. Wnes i golli diddordeb ynddi hi pan wnaeth hi ddechrau troi yn hogan dda! Mae'r nofel 'When Hitler Stole Pink Rabbit' dal i aros yn fy nghof hefyd, ac mi wnes i synnu gwrando ar yr awdures Judith Kerr yn siarad ar y radio ychydig yn ol. Mae hi yn ei 90au ac yn dal i sgwennu! I have been in my element reading for a long time now, and love to lose myself in a good book! In the 1970s there was much more choice when it came to English books than Welsh books, and I remember the thrill of getting books through the Chip Club scheme in school. Enid Blyton was a great favourite, especially the first ones in the series 'The naughtiest girl in the school'. I lost interest in her when she began to turn into a good girl! I still remember too the novel 'When Hitler Stole Pink Rabbit', and I was surprised to hear the author Judith Kerr talking on the radio a little while back. She is in her nineties and still writing!
Mae gen i dal gof o fwynhau llyfrau T Llew Jones hefyd, wrth gwrs, a Chyfres y Llewod gan Dafydd Parri. Dwi'n falch fod cymaint mwy o ddewis Cymraeg i blant y dyddiau yma! I also still remember enjoying the books of T Llew Jones, and the Lions Series by Dafydd Parri. I am glad that there is so much more Welsh language choice for children these days!
Pa lyfrau wyt ti'n eu darllen a'u mwynhau y dyddiau yma? What books do you read and enjoy these days?
Y peth mwya' rhwystredig ydy bod yna cymaint o lyfrau da! Y llyfrau ola' i mi ddarllen ydy nofel Claire Mackintosh 'Let Me Lie' (mae hi'n byw yn y Bala ac yn dysgu Cymraeg!) Hefyd wnes i ddarllen O Ddawns i Ddawns gan y diweddar gyfaill Gareth F Williams ar ol clywed canmol mawr iddi. Nofel i bobol ifanc ydy hi, ond roedd hi'n torri tir newydd ar y pryd, a mor ffres a doniol. The most frustrating thing is that there are so many good books! The last book I read was Claire Mackintosh's novel 'Let Me Lie' (she lives in Bala and is learning Welsh!). I also read O Ddawns i Ddawns by my late friend Gareth F Williams, after hearing great things of it. It is a novel for young people, but it broke new ground at the time, so fresh and entertaining.
Dwi ar ganol darllen Eira Llwyd gan yr awdur ifanc Gareth Evans Jones. Mae hi'n arbennig o dda, am yr Holocaust, er ei bod yn bod yn drist. I am in the middle of reading Eira Llwyd by the young writer Gareth Evan Jones. It is exceptionally good, about the Holocaust, although it is sad.
Wyt ti'n darllen unrhyw farddoniaeth? Do you read any poetry?
Dwi'n mwynhau darllen gwaith cyfoes. Mae Siôn Aled yn medru sgwennu englyn fachog sy'n dweud be sydd angen ei ddweud am bethau sydd yn y newyddion. Dyna waith pwysig barddoniaeth, yn fy meddwl i. Nid rhywbeth mewn bocs ddylai barddoniaeth fod, ond rhywbeth sy'n ymateb i'n byd ni heddiw. Mae cymaint o feirdd da yng Nghymru ar hyn o bryd (pobl fel Rys Iorwerth, Ifor ap Glyn a Karen Owen, i enwi dim ond tri!)I enjoy reading contemporary work. Siôn Aled can write pointed englyns that say what needs to be said about things that are in the news. That is an important job of poetry, in my opinion. Poetry should not be something that exists in an ivory tower but something that relates to our lives today. There are so many good poets in Wales at the present time (people like Rhys Iorwerth, Ifor ap Glyn and Karen Owen, to name but three!)
Dwi hefyd yn troi yn ol at bobol fel Iwan Llwyd a TH Parry Williams yn aml iawn. Dwi'n edmygu beirdd am fedru mynd at galon y gwir. I also very often turn back to people like Iwan Llwyd and TH Parry Williams. I admire poets who can go to the real heart of things.
Wyt ti'n ystyried dy hun yr un mor rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac a fyddet ti bob amser yn dewis sgwennu yn y Gymraeg? Do you consider yourself equally fluent in Welsh and English, and would you always choose to write in Welsh?
Roedd fy nghefndryd i gyd yn ddi-Gymraeg, felly dwi ddim yn cofio peidio medru siarad y ddwy iaith ers yn ifanc iawn. Do'n i ddim yn gweld problem sgwennu yn Gymraeg ac yn Saesneg ers talwm, ac ella mod i'n sgwennu mwy yn Saesneg pan o'n i'n ifanc, ma'n siwr am fod yna fwy o lyfrau Saesneg ar gael ! (Mae hyn yn profi'r cysylltiad rhwng darlllen a sgwennu, tydy!) Gradd mewn Saesneg wnes i hefyd ym Mhrifysgol Aberyswyth, a mi ges i gyfnod fel athrawes Saesneg hefyd. Dwi'n dal i fwynhau sgwennu yn Saesneg weithiau, ond dwi wrth fy modd sgwennu mwy yn Gymraeg erbyn hyn. My first cousins were all non-Welsh speaking, so I can't remember a time from a very young age when I couldn't speak both languages. For a long time I have seen no problem writing in Welsh and in English, and perhaps I wrote more in English when I was young, I'm sure that there were more books in English to be had. (This proves the connection between reading and writing, doesn’t it!). Also I took a degree in English at the University of Aberystwyth, and I also had a spell as an English teacher. I still enjoy writing in English sometimes, but I love to write more in Welsh now.
Pa ran o'r broses ysgrifennu wyt ti'n ei fwynhau fwyaf? What part of the writing process do you enjoy the most?
Y foment yna pan mae rhywun yn taro ar syniad ac yn rhuthro i sgwennu'r syniad i lawr a gweld lle mae'n gallu datblygu. Yn aml iawn, bydd rhannau o'r syniad yn newid wrth i mi ddechrau'r sgwennu go iawn, ond rydw i'n dal i geisio aros yn ffyddlon i'r syniad wnaeth fy nghyffroi yn y lle cyntaf. That moment when someone hits on an idea and rushes to write the idea down and sees which way it could develop. Very often, bits of the idea change as I begin to write for real, but I try to stay faithful to the idea that excited me in the first place.
Delwedd y ddamwain ar ddechrau'r nofel 'Llwybrau Cul' ddaeth i mi gyntaf, delwedd y ddamwain ar y dudalen gyntaf, ond mi dyfodd y ddau brif gymeriad yn eitha buan o hynny. Mae gen i ddiddordeb yn sut mae rhywun yn medru cyfarfod rhywun ar hap, a bod hynny wedyn yn medru newid cwrs bywyd.The image of the accident at the beginning of the novel 'Llwybrau Cul' was the first thing that came to me, the image of the accident on the first page, but the two main characters grew out of that quite quickly. I am interested in how one person can meet another by chance, and that this can then change the course of their lives.

Mae hi mor bwysig bod dysgwyr yn cael y cyfle i weld y patrymau a'r geiriau maen nhw'n nabod wrth fynd ati i ddarllen yn eu hamser hamdden, a mwynhau a dysgu mwy wrth wneud.

Fi a Mr Huws gan Mared Lewis

Mared Lewis Y Stryd

Mared Lewis Llwybrau Cul

Y diweddaraf oddi wrth Cyfres Amdani