Sion Tomos Owen Fawr ar Fach

Siôn Tomos Owen: Y Fawr a’r Fach- Straeon o’r Rhondda

Mae'r Fawr a'r Fach yn gyfrol o straeon byrion yn ymwneud â hanesion pentrefi’r Rhondda, a dyma un ohonyn nhw fel blas o'r llyfr.

 Y Fawr a'r Fach is a volume of short stories and anecdotes about villages in the Rhondda valley, and here is one of them as a taste of the book. Words that are underlined can be clicked or pressed to show an English translation, and the printed book uses the same words at the bottom of pages to support understanding of words that may not be familiar at the Sylfaen level.

Author: Siôn Tomos Owen

twitter.com/sionmun

Price: £5.99
Iaith: Cymraeg syml, with vocabulary at the bottom of each page

Amdani Sylfaen Level: Sylfaen / Foundation
Publisher: Y Lolfa
Buy: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781784615826

Siôn Tomos Owen:

Mwynheuais ysgrifennu Y Fawr a'r Fach: Straeon o’r Rhondda yn fawr iawn.  Mae pob stori yn y llyfr yn wir ac o fy mhlentyndod neu fy mywyd yn y cŵm.  Pan roedden i’n ceisio cofio rhai o’r straeon roedd yn ddiddorol achos roedden i’n cofio rhai fel cartŵnau yn fy mhen achos roedden nhw mor ddoniol, felly roedd yn grêt gallu creu cartŵns go iawn i fynd yn y llyfr hefyd.  Mae’r stori am 'Y Sgiw' yn fy hen ysgol Ynyswen yn un dwi’n siŵr fod pob disgybl wedi clywed o’r blaen- y gadair ddrwg neu am sefyll tu fas i ystafell y Pennaeth. Ond mae Y Sgiw, sef cadair fawr hir a thwll yn y canol i gadw dillad, yn rhywbeth sydd yn aros mewn cof disgyblion Ynyswen o’r wythdegau a nawdegau. Mae fy merch newydd ddechrau yn yr ysgol ac roedd yn od gweld y sgiw yno nawr yn edrych mor fach achos- fel sydd yn y cartŵn, yn fy mhen i roedd e’n anferth ac yn ofnus iawn! Mae’n ddiddorol hefyd, nawr mae fy rhieni weithiau yn casglu fy merch o’r ysgol, roedd fy nhad yn dysgu Cymraeg gyda fi pan roedden i yna, a nawr mae e'n gallu siarad Cymraeg yn dda iawn gyda fy merch i, sydd yn dangos cymaint mae e wedi dysgu wrth siarad a chlywed yr iaith yn ddyddiol gyda ni fel teulu a’r hyder i siarad gyda mwy o bobol bob dydd.

Siôn Tomos Owen:

I enjoyed writing Y Fawr a'r Fach: Straeon o’r Rhondda very much. Every story in the book is true and from my childhood or my life in the valley. When I tried to remember some of the stories it was interesting as I remembered some as cartoons in my head because they were so funny, so it was great to be able to create real cartoons to go in the book as well. The story about 'Y Sgiw' in my old school Ynys Wen is one that I'm sure every pupil has heard before- the naughty chair or having to stand outside the Headteacher's room. But Y Sgiw, a large long chair with a hole in the middle to keep clothes, is something that is in memory of the pupils of Ynys Wen of the 80 and 90s. My daughter has just started school and I was odd to see Y Sgiw now, looking so small- as in the cartoon, in my head it was huge and very scary! It's also interesting, now that my parents sometimes collect my daughter from school, my dad was learning Welsh with me when I was there, and now he can speak Welsh very well with my daughter, which shows how much he has learned in speaking and hearing the language daily with us as a family and has the confidence to talk to more people every day.


Stori 3: Y Sgiw (Ynyswen) / Story 3: Y Sgiw (Ynys Wen)

Es i i Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen. Mae pump ysgol Gymraeg yn y Rhondda – Ynyswen, Bronllwyn, Bodringallt, Llwyncelyn a Llynyforwyn. Ynyswen oedd yr ysgol Gymraeg gyntaf i agor yn y cwm, yn 1950. Doedd dim llawer o blant yno ar y dechrau ac roedd yn rhaid i bobl weithio’n galed iawn i gael ysgol Gymraeg yma. Hefyd, dim ond plant gyda mam a thad yn siarad Cymraeg oedd yn cael mynd i’r ysgol Gymraeg newydd. Does dim rhaid i’r ddau siarad Cymraeg erbyn heddiw, diolch byth, neu faswn i ddim wedi mynd i Ysgol Ynyswen o gwbl!

Mae Mam yn siarad Cymraeg ond doedd Dad ddim yn siarad Cymraeg cyn cwrdd â Mam yn y 1970au. Roedd Mam-gu, mam Dad, yn siarad Cymraeg ond doedd Tad-cu ddim. Doedd Mam- gu ddim yn hapus bod rhaid i blant bach yr ysgol Gymraeg fynd ar y bws i fyny’r cwm o Bentre i Ynyswen. Roedd Mam-gu yn glanhau Pentre Primary School oedd gyferbyn â’r tŷ, felly aeth Dad i Ysgol Pentre.

Ond dysgodd Dad siarad Cymraeg pan o’n i’n fabi ac roedd e’n ymarfer siarad Cymraeg gyda fi. Roedd e’n dysgu’n dda iawn achos roedd Mam a Mam-gu yn siarad Cymraeg gyda fi trwy’r amser, felly roedd e’n clywed y geiriau ac yn dysgu yr un pryd ag ro’n i’n dysgu. Ond stopiodd e siarad Cymraeg gyda fi pan o’n i tua pump oed, nid achos doedd e ddim eisiau dysgu mwy o Gymraeg ond achos ’mod i’n fachgen bach drwg iawn. Mae trio meddwl pan dych chi’n flin yn anodd, ond mae trio meddwl mewn ail iaith pan dych chi’n flin yn anodd iawn pan mae gremlin bach yn gweiddi dros y lle, yn cicio chi ac yn taflu afalau ar draws y Co-op! Roedd Dad yn trio rhoi stãr i fi ond weithiau roedd e’n dweud y gair anghywir. Roedd hyn yn gwneud Dad yn fwy blin, felly wnaeth e ddechrau rhoi stãr i fi yn Saesneg. Roedd e’n dal i siarad Cymraeg gyda fi bob tro arall, ond roedd rhaid iddo fe siarad mwy a mwy o Saesneg achos ro’n i’n cael mwy a mwy o stãr am fod yn ddrwg!

Mae hyn yn gwneud i fi deimlo’n drist nawr. Taswn i wedi bod yn fachgen bach da efallai basai Dad a fi’n siarad mwy o Gymraeg gyda’n gilydd. Mae Dad yn dweud do’n i ddim yn fachgen drwg iawn, iawn, ond mae PAWB arall yn anghytuno!

Hefyd, dw i wedi gweld fideos o fachgen bach gyda gwallt coch oedd yn edrych ac yn actio yn debyg iawn i Norman Preis yn Sam Tân. Mae Mam a Dad yn edrych yn sâl yn y fideos achos do’n nhw ddim yn cysgu llawer. Do’n i ddim yn dawel nac yn gwrando chwaith. Mewn un fideo dw i’n sefyll gyda phlant eraill i dynnu llun ar gyfer y papur newydd. Dw i’n gweld Dad yn ffilmio gyda’r camera a dw i’n dechrau dawnsio, a rhowlio ar y llawr a gweiddi, a dw i ddim yn edrych ar y dyn oedd yn tynnu’r llun. Ar y fideo gallwch chi glywed Mam-gu yn gofyn i Dad,

‘What is he doing?’

Mae Dad yn ateb, ‘I don’t know, Mam, I don’t know.’

Wedyn mae rhywun yn gofyn, ‘Isn’t that your son?’

Ac mae Dad yn ateb, ‘Oh no, I don’t know who he belongs to…’!

Felly pan ddaeth yr amser i fi ddechrau’r ysgol ro’n nhw’n hapus iawn. Do’n i ddim yn hapus. Fe wnes i grio bob bore a dal ochr drws y tŷ i beidio mynd.

Yn Ysgol Ynyswen, ar bwys drws ystafell y prifathro, roedd cadair fawr hir. Enw’r gadair oedd y Sgiw. Roedd y plant yn cael eu rhoi ar y Sgiw am ddau reswm – os o’n nhw’n sâl neu os o’n nhw’n ddrwg. Roedd yr athrawon yn pasio’r Sgiw wrth gerdded i’r ystafell athrawon ac yn gofyn,

‘Pam wyt ti ar y Sgiw?’

Os o’ch chi’n sâl basech chi’n dweud, ‘O, Miss, dw i’n saaaaaaaaal. Mae bola tost gen i!’

A basai’r athrawon yn dweud, ‘O, poor dab, brysia wella.’
Ond os o’ch chi’n ddrwg basech chi’n dweud, ‘Dw i wedi bod yn ddrwg, Miss…’

Yna, basai’r athrawon yn tyt-tytio ac yn dweud,
‘O, Siôn Tomos Owen! Dw i’n siomedig iawn.’

‘Beth fasai dy fam yn dweud?’

‘Fydd dy dad ddim yn hapus iawn.’

‘Pan wela i dy fam-gu bore dydd Sadwrn yng nghaffi Fred bydd hi’n drist.’

Baswn i’n edrych i fyny ac yn dweud, ‘O, plis peidiwch dweud wrth Mam-gu, Miss! Plis?’

Ond basen nhw’n cerdded i ffwrdd, yn edrych yn drist.

Felly, faswn i byth yn dweud wrth yr athrawon os o’n i’n fachgen drwg. Os o’n nhw’n gofyn, baswn i’n dweud, ‘O, Miss, dw i’n sâl. Mae pen/bola/coes/trwyn/gwallt tost gen i!’

Cartwn Sion Tomos Owen- Straeon o'r Rhondda


 

Prynwch / Buy:

Cyfres Amdani Straeon o'r Rhondda


Cyfres Amdani Jo Knell Y Fawr a'r Fach


Y diweddaraf oddi wrth Cyfres Amdani