Cylchgrawn dwyieithog arlein
Erthyglau, cyfweliadau, straeon ac adnoddau ddwyieithog i’w darllen yn paralel
Wedi’i lansio ym mis Tachwedd 2017
Gyda thros bump mil o ddarllenwyr y mis, mae'n un o'r cyhoeddiadau Cymraeg mwyaf poblogaidd
Online bilingual magazine
Bilingual articles, interviews, stories and resources to be read in parallel
Launched in November 2017
With over five thousand readers a month, it is one of the most popular Welsh-language publications
Mae pobl yn profi’r Gymraeg ar gontinwwm o alluoedd gwahanol, ond y ffordd draddodiadol o gynhyrchu deunydd yw mewn dull deuol. Trwy gyflwyno cynnwys unigryw ochr yn ochr, yn ‘paralel’, ac wedi’u graddoli yn ôl hyfedredd (Anffurfiol, Ffurfiol, Llenyddol), gall darllenwyr o bob gallu fwynhau darllen a sicrhau bod y Gymraeg yn hygyrch i bawb.
People experience Welsh on a continuum of abilities, but the traditional way of producing material is as binary Welsh or English. By presenting unique content side by side, in parallel, sequenced by level of proficiency (Informal, Formal, Literary), readers of all abilities can enjoy reading and ensure the language is accessible to all.
Mae gan Parallel.cymru sawl agwedd unigryw
Mae pobl yn profi’r Gymraeg ar gontinwwm o alluoedd gwahanol, ond y ffordd draddodiadol o gynhyrchu deunydd yw mewn dull deuol.
Trwy gyflwyno deunyddiau darllen ochr yn ochr, yn ‘paralel’, ac wedi’u graddoli yn ôl hyfedredd, gall siaradwyr a dysgwyr o bob gallu fwynhau darllen a sicrhau datblygiad.
Mae’r cylchgrawn yn cynnig persbectifau person cyntaf ar ddefnyddio, arloesi, creu, cyfieithu ac ymchwilio yn yr iaith.
Mae erthyglau yn cael eu trefnu yn ôl safon yr iaith- anffurfiol, ffurfiol neu lenyddol.
Mae erthyglau’n aros ar-lein i greu corpws unigryw.
Mae URL unigryw gyda phob erthygl i rannu, ee parallel.cymru/the-old-red-tongue.
Mae erthyglau newydd yn cael eu cyhoeddi bob wythnos.
Mae ar gael trwy borwyr gwe ar gyfrifiaduron, ffonau symudol a thabledi.
Erthyglau ar gael fel MP3au cylwedol a PDFs hefyd.
Adnoddau fel canllaw gramadeg dwyieithog, map o lefydd i siarad Cymraeg, geirfa thematig, cwisiau a geiriadur i ddysgwyr.
Tudalen gartref Llyfr y Mis a Cyfres Amdani- llyfrau i oedolion sydd yn dysgu.
Mae pob eitem ar gael yn rhad ac am ddim!
Parallel.cymru has many unique aspects
People experience Welsh on a continuum of abilities, but the traditional way of producing material is as binary Welsh or English.
By presenting reading materials side by side, in parallel, sequenced by level of proficiency, speakers and learners of all abilities can enjoy reading and support progression.
The site provides first person perspectives on using, innovating, creating, translating and researching through the language.
Articles are arranged by the register of language- informal, formal and literary.
Articles stay online to create an exclusive corpus.
Each article has a unique URL to share, such as parallel.cymru/the-old-red-tongue.
New items are published every week.
It’s available through web browsers on computers, smart phones and tablets.
Articles are also available as audio MP3s and PDFs.
Resources such as a bilingual grammar guide, map of places to speak Welsh, quizzes, themed glossaries & learners’ dictionary.
Homepage of the Book of the Month and Cyfres Amdani series of books for adult learners.
Every item is available without charge!
Mae ystod amrywiol o arbenigwyr, awduron a dysgwyr iaith wedi cynghori a chyfrannu at parallel.cymru:
A diverse range of language experts, writers and learners have advised and contributed to parallel.cymru:
David Jandrell
Awdur llwyddiannus iawn yw David, sy wedi 'sgrifennu cyfres o lyfrau o'r enw Welsh Valleys Humour, ac yn cyfrannu colofn fisol Grumpy Old Valleys Men.
David is the best-selling author of the Welsh Valleys Humour series of books, and contributes a monthly 'Grumpy Old Valleys Men' column.
- parallel.cymru/david-jandrell-welsh-valleys-phrasebook
- parallel.cymru/david-jandrell-grumpy-old-valleys-men
Dafydd Roberts
Athro a thiwtor profiadol yw Dafydd, sy'n cyfrannu cyfres o erthyglau ar gyfer dysgwyr, 'Darllen a Deall', sy'n eu dysgu nhw am ddiwylliant, daearyddiaeth a sefydliadau yng Nghymru.
An experienced teacher and tutor, Dafydd contributes a series of articles for learners 'Darllen a Deall' that educates them on Welsh culture, geography and institutions.
D. Geraint Lewis
Enw pwysig iawn ym maes llên Gymraeg yw Geraint. Mae wedi creu Geiriadur Gomer a llawer o eiriadur eraill. Yma, mae'n rhannu'i gwybodaeth sylweddol am ramadeg Cymraeg mewn colofn sy'n ymddangos yn awr ac yn y man.
A significant figure in Welsh literature for compiling Geiriadur Gomer and many other dictionaries, Geraint shares his wealth of knowledge on Welsh grammar and literature in an ad-hoc column.
Madison Keeping
Mae Madison yn cwblhau'i Doethuriaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg. Fel ymgynghorydd iaith, mae hi'n rhannu'i diddordeb mewn tarddiad geiriau Cymraeg, a hefyd yn cyfrannu at grwpiau gramadeg ar Facebook.
Madison is completing her PhD on Welsh literature, and as a language consultant she shares her interest in the origin of Welsh words, and also contributes to Facebook grammar groups.
Mark Stonelake
Roedd Mark yn creu cyrsiau i oedolion ar gyfer Learn Welsh Swansea Bay rhwng 2006 a 2018. Mae'i waith gramadegol yn cael ei gyflwyno yma fel bydd pawb yn gallu cael bydd ohono'n rhad ac am ddim.
Mark wrote Learn Welsh Swansea Bay's courses for adults between 2006 and 2018. His grammar work is presented here so that everyone can benefit from it completely free.
Matthew Jones
Mae Matthew wedi 'sgrifennu llawer o lyfrau cwis llwyddiannus iawn. Yma mae'n deifio'n ddwfn i fyd chwaraeon, gan drafod personoliaethau, ffeithiau ac ystadegau.
Author of many best-selling quiz books, Matthew takes a deep-dive into sports and discusses personalities, facts and figures.
Dr Patrick Jemmer
Mae Patrick yn arbenigwr mewn gwyddoniaeth a mathemateg. Mae ganddo hefyd ddiddordeb enfawr mewn iaith a ieithoedd, ac mae wedi dyfeisio sawl iaith sydd ar gael ar-lein. Mae'n cefnogi llawer o waith tu hwnt i'r llenni o ran brawf-ddarllen a chyfieithu. Mae'n cyhoeddi nofel ddwyieithog fesul pennod.
Patrick is an expert in science and maths. He's also a huge language enthusiast who has invented several languages, which are available online. He supports a lot of the behind-the-scenes proof reading and translation, and is also publishing a bilingual living novel.
Rhea Seren Phillips
Mae parallel.cymru yn cefnogi darllen gan y cyhoeddwyr canlynol:
Parallel.cymru supports reading by the following publishers:
Mae Parallel.cymru wedi derbyn cefnogaeth oddi wrth Cyngor Llyfrau Cymru, Menter Iaith Abertawe a Phrifysgol Abertawe.
Parallel.cymru has received support from the Welsh Books Council, Menter Iaith Abertawe and Swansea University.
Rheolwr y prosiect
Rwy’n dod o Gaerdydd ac Abertawe ac mae gennyf gefndir mewn TG, dylunio graffig a gwe, a rheoli elusennau bach, ac mae gwirfoddoli gyda fy Menter Iaith leol wedi rhoi’r sgiliau i mi allu rheoli’r prosiect hwn. Mae dysgu Cymraeg yn ystod y pum blynedd ddiwethaf wedi bod yn brofiad sydd wedi newid fy mywyd am byth, ac rwy’n hapus i gynnig y cyfle hwn er lles y gymuned.
Project manager
I’m from Cardiff and Swansea, and a background in IT, web and graphic design, managing small charities and volunteering at my local Menter Iaith has given me the skillset to operate this venture. Learning Welsh over the last five years has been a transformational life experience, and I’m happy to provide this opportunity to benefit the community.