Joey Bananas Y Bwcibo

Joanna Davies: Y Boi o Blackpool a Busnes y
 Bwci-Bo / The boy from Blackpool and the Bwci-Bo Business

Mae Cymru'n llawn arloesedd ac ysbryd entrepreneuraidd, ac mae nifer gynyddol o bobl yn sefydlu eu microfusnesau eu hunain. Yma, mae Joanna Davies yn rhannu ei phrofiad o ddechrau menter teganau a chyhoeddi, Joey Bananas...

Wales is full of innovation and entrepreneurial spirit, and an increasing number of people are establishing their own microbusinesses. Here, Joanna Davies shares her experience of starting a toy and publishing venture, Joey Bananas...

Mae’n eitha heriol dechrau busnes bach newydd mewn economi sy’n nerfus oherwydd ein hamgylchiadau gwleidyddol anffodus ar hyn o bryd. Ta waeth, haf diwetha fe wnaethon ni lansio ein cwmni bach crefftau newydd, Joey Bananas ar Gymru gan obeithio y byddai cwsmeriaid yn dod yn llu.

A chwarae teg, mae’r ymateb wedi bod yn bositif iawn. Rydyn ni wedi gwerthu ein cynnyrch dwyieithog lliwgar, llawn bwystfilod bach mewn ffeiriau crefftau yn y Barri, y Fenni, Caerdydd, Sain Ffagan a Chasnewydd hyd yn hyn.

Fy ngŵr, Steve, dylunydd proffesiynol yn ei waith bob dydd, yw’r un sy’n creu’r cynnyrch achos dwi’n ei chael hi’n anodd gosod bocs cardboard flatpac gyda’i gilydd. Daw Steve o gyffuniau Blackpool yn wreiddiol ac mae’n ddi Gymraeg. Ond wedi treulio ugain mlynedd yng Nghymru ac yn fy nghwmni i, mae e’n deall peth geirfa sylfaenol ac yn fwy tanbaid na fi o ran cynhyrchu nwyddau dwyieithog.

Mae e wrth ei fodd yn dylunio, a phrintio drwy waith llaw ond mae e’n eitha swil a dyw e ddim yn werthwr hyderus. Felly dyna lle dwi’n dod mewn yn gwisgo fy het gwerthu ‘Del Boy’ yn y marchnadoedd crefft yn ceisio perswadio’r cwsmeriaid bach a mawr i agor eu waledi.

Ein creadigaeth pennaf yw’r ‘Bwci-Bo!’ Er taw ‘ysbryd’ yw’r Bwci-Bo neu ‘hobgoblin’ (beth bynnag yw hwnnw) yn ôl y Geiriadur, rydyn ni wedi ei ddehongli fel bwystfil bach blewog a lliwgar (rhag dychryn y plant!).

Mae gwahanol fersiynau o’r Bwci’n ymddangos mewn tegannau meddal mae Steve yn creu a gwnïo ei hun (dysgodd fel i wnio’n ddiweddar i gael gwneud y tegannau), ar lyfrau nodiadau, ar brintiau, ar fagiau ac yn fwyaf diweddar yn brif gymeriad ein llyfr stori newydd, Y Bwci-Bo!.

Dwi wedi cyhoeddi saith llyfr yn y gorffennol gyda Gwasg Gomer (‘shameless plug’ fan hyn) -fel y nofelau Ffreshars a Mr Perffaith. Ond mae’n anoddach cael cytundeb cyhoeddi dyddiau ma ac wrth gwrs mae’r cyhoeddwr yn mynd â 90% o’r elw. Felly pan cawson ni’r syniad o greu llyfr stori bach am y Bwci-Bo fe benderfynon ni gyhoeddi fe ein hunain drwy ddefnyddio argraffdy allanol. Dyna ffordd i ni gael ei gyhoeddi’n gyflym (gall y broses gymryd misoedd gyda chyhoeddwr os ydyn nhw eisiau ei gyhoeddi yn y lle cyntaf), rheoli’r gwaith creadigol ein hunain ac yn bwysig iawn, cadw’r holl elw.

Fe wnaethon ni ymchwil i weld pa fath o lyfrau oedd yn boblogaidd yn y farchnad heddiw gan dalu sylw i hyd y llyfrau a pha mor anodd oedd yr eirfa i’r oed darged (2-6 oed). Ac hefyd fe wnaethon ni dreialu’r stori drwy eu hadrodd i’n nau bach sy’n dair oed.

Fe wnaethon ni sylwi bod llawer o lyfrau Cymraeg i blant yn gyfeithiadau o lyfra enwog Saesneg. A doedden ni ddim eisiau hynny. Mae’r Bwci-Bo yn greadigaeth Gymraeg yn gyntaf ac roedd hi’n her i fi gael y geiriau i odli yn Gymraeg ac yna’n Saesneg ac i gyd-fynd gyda’r un lluniau. Wnes i eitha mwynhau’r sialens a dwi’n meddwl ein bod ni wedi llwyddo i greu llyfr bach llwyddiannus yn y ddwy iaith.

Fe wnaeth y llyfr (sy’n £5) ac yn 30 tudalen werthu fel slecs yn ein marchnadoedd crefft Nadolig. Yn ddiddorol iawn roedd y llyfrau Cymraeg yn gwerthu’n well na’r Saesneg gyda nifer o rieni di-Gymraeg yn eu prynu i’w plant. Mae’n anoddach i werthu’r llyfr o’n siop ar-lein fodd bynnag gan fod yna gymaint o gystadleuaeth. Falle bod rhaid i bobl ei gael e yn eu dwylo cyn prynu. Mae hyn yn wir am grefftau yn gyffredinol dwi’n meddwl. Mae’n gystadleuol ofnadwy gyda’r byd a’i frawd yn gwerthu cynnyrch ar wefannau fel etsy. Ac rydyn ni dal yn newydd. Fodd bynnag, mae llwyddiant y llyfr yn y marchnadoedd wedi’n sbarduno i greu llyfr arall yn y dyfodol ac yn dangos nad oes angen cyhoeddwr os oes gennych sgiliau dylunio a marchnata eich hunan.

Eleni mae teulu’r Bwci-Bo yn ehangu. Ma Steve wrthi’n creu tegannau pren a chynnyrch newydd arall. Rydyn ni’n gobeithio cymryd rhan mewn mwy o ffeiriau crefftau yn yr haf, felly os wnewch chi weld ein stondin, galwch heibio i’n gweld a chael gafael yn eich Bwci-Bo.

Yn ddiddorol iawn roedd y llyfrau Cymraeg yn gwerthu’n well na’r Saesneg gyda nifer o rieni di-Gymraeg yn eu prynu i’w plant.

Fersiwn dwyieithog / Bilingual version

Mae’n eitha heriol dechrau busnes bach newydd mewn economi sy’n nerfus oherwydd ein hamgylchiadau gwleidyddol anffodus ar hyn o bryd. Ta waeth, haf diwetha fe wnaethon ni lansio ein cwmni bach crefftau newydd, Joey Bananas ar Gymru gan obeithio y byddai cwsmeriaid yn dod yn llu. Starting up a small new business in an economy which is unsettled at present due to our unfortunate political circumstances is rather challenging. However, last summer we launched our small new craft company, Joey Bananas, in Wales in the hope that customers would come in droves.
A chwarae teg, mae’r ymateb wedi bod yn bositif iawn. Rydyn ni wedi gwerthu ein cynnyrch dwyieithog lliwgar, llawn bwystfilod bach mewn ffeiriau crefftau yn y Barri, y Fenni, Caerdydd, Sain Ffagan a Chasnewydd hyd yn hyn.And fair play to them, the response has been very positive. So far we have sold our colourful bilingual products, full of small animals, at craft fairs in Barry, Abergavenny, Cardiff, St Fagans and Newport.
Fy ngŵr, Steve, dylunydd proffesiynol yn ei waith bob dydd, yw’r un sy’n creu’r cynnyrch achos dwi’n ei chael hi’n anodd gosod bocs cardboard flatpac gyda’i gilydd. Daw Steve o gyffuniau Blackpool yn wreiddiol ac mae’n ddi Gymraeg. Ond wedi treulio ugain mlynedd yng Nghymru ac yn fy nghwmni i, mae e’n deall peth geirfa sylfaenol ac yn fwy tanbaid na fi o ran cynhyrchu nwyddau dwyieithog. My husband Steve, a professional designer in his day job, is the one who creates the product, because I find it difficult even to put a flatpack cardboard box together. Steve came from the Blackpool area originally and had no Welsh. But after spending twenty years in Wales and in my company, he understands a bit of basic vocabulary and is keener than me when it comes to producing bilingual goods.
Mae e wrth ei fodd yn dylunio, a phrintio drwy waith llaw ond mae e’n eitha swil a dyw e ddim yn werthwr hyderus. Felly dyna lle dwi’n dod mewn yn gwisgo fy het gwerthu ‘Del Boy’ yn y marchnadoedd crefft yn ceisio perswadio’r cwsmeriaid bach a mawr i agor eu waledi.He is in his element designing and printing by hand but he is rather shy and not a confident salesman. So that's where I come in, wearing my 'Del Boy' seller's hat to the craft markets and trying to persuade the customers big and little to open their wallets.
Ein creadigaeth pennaf yw’r ‘Bwci-Bo!’ Er taw ‘ysbryd’ yw’r Bwci-Bo neu ‘hobgoblin’ (beth bynnag yw hwnnw) yn ôl y Geiriadur, rydyn ni wedi ei ddehongli fel bwystfil bach blewog a lliwgar (rhag dychryn y plant!). Our principal creation is 'Bwci-Bo'. Although according to the dictionary the Bwci-Bo is a ghost or hobgoblin (whatever that is), we have developed it as a small colourful furry monster (so as not to frighten the children!).
[Note: one might translate Bwci-Bo as the English 'bugbear', though English does also have the rare word 'bugaboo', which derives directly from the Welsh].
Mae gwahanol fersiynau o’r Bwci’n ymddangos mewn tegannau meddal mae Steve yn creu a gwnïo ei hun (dysgodd fel i wnio’n ddiweddar i gael gwneud y tegannau), ar lyfrau nodiadau, ar brintiau, ar fagiau ac yn fwyaf diweddar yn brif gymeriad ein llyfr stori newydd, Y Bwci-Bo!.There are various versions of the Bwci appearing in the form of soft toys which Steve creates and sews himself (he learnt to sew lately so as to be able to make the toys), also on notebooks, prints, bags and more recently as the main character in our new storybook, Y Bwci-Bo!.
Dwi wedi cyhoeddi saith llyfr yn y gorffennol gyda Gwasg Gomer (‘shameless plug’ fan hyn) -fel y nofelau Ffreshars a Mr Perffaith. Ond mae’n anoddach cael cytundeb cyhoeddi dyddiau ma ac wrth gwrs mae’r cyhoeddwr yn mynd â 90% o’r elw. Felly pan cawson ni’r syniad o greu llyfr stori bach am y Bwci-Bo fe benderfynon ni gyhoeddi fe ein hunain drwy ddefnyddio argraffdy allanol. Dyna ffordd i ni gael ei gyhoeddi’n gyflym (gall y broses gymryd misoedd gyda chyhoeddwr os ydyn nhw eisiau ei gyhoeddi yn y lle cyntaf), rheoli’r gwaith creadigol ein hunain ac yn bwysig iawn, cadw’r holl elw. In the past I have published seven books with Gomer Press (shameless sales plug here) – such as the novels Ffreshars (Freshers) and Mr Perffaith (Mr Perfect). But it is harder to get publishing contracts these days and of course the publisher takes 90% of the profit. So when we had the idea of creating a little storybook about the Bwci-Bo we decided to publish it ourselves using an external printing-house. That is a way for us to get published quickly (the process can take months with a publisher even if they want to publish in the first place), to control the creative process ourselves and, very important, to keep all the profit.
Fe wnaethon ni ymchwil i weld pa fath o lyfrau oedd yn boblogaidd yn y farchnad heddiw gan dalu sylw i hyd y llyfrau a pha mor anodd oedd yr eirfa i’r oed darged (2-6 oed). Ac hefyd fe wnaethon ni dreialu’r stori drwy eu hadrodd i’n nau bach sy’n dair oed.We did some research to see what kind of books were popular in today's market, noting the length of the books and how difficult the vocabulary was for the target age (2-6 years old). And also we tried the story out by telling it to our three year old nephew.
Fe wnaethon ni sylwi bod llawer o lyfrau Cymraeg i blant yn gyfeithiadau o lyfra enwog Saesneg. A doedden ni ddim eisiau hynny. Mae’r Bwci-Bo yn greadigaeth Gymraeg yn gyntaf ac roedd hi’n her i fi gael y geiriau i odli yn Gymraeg ac yna’n Saesneg ac i gyd-fynd gyda’r un lluniau. Wnes i eitha mwynhau’r sialens a dwi’n meddwl ein bod ni wedi llwyddo i greu llyfr bach llwyddiannus yn y ddwy iaith. We noticed that many Welsh books for children are translations of famous English books. And we did not want that. Bwci-Bo is in the first place a Welsh creation, and it was a challenge for me to get the words to rhyme in Welsh and then in English and to go together with the same illustrations. But I rather enjoyed the challenge and I think we have managed to create a little book that succeeds in both languages.
Fe wnaeth y llyfr (sy’n £5) ac yn 30 tudalen werthu fel slecs yn ein marchnadoedd crefft Nadolig. Yn ddiddorol iawn roedd y llyfrau Cymraeg yn gwerthu’n well na’r Saesneg gyda nifer o rieni di-Gymraeg yn eu prynu i’w plant. Mae’n anoddach i werthu’r llyfr o’n siop ar-lein fodd bynnag gan fod yna gymaint o gystadleuaeth. Falle bod rhaid i bobl ei gael e yn eu dwylo cyn prynu. Mae hyn yn wir am grefftau yn gyffredinol dwi’n meddwl. Mae’n gystadleuol ofnadwy gyda’r byd a’i frawd yn gwerthu cynnyrch ar wefannau fel etsy. Ac rydyn ni dal yn newydd. Fodd bynnag, mae llwyddiant y llyfr yn y marchnadoedd wedi’n sbarduno i greu llyfr arall yn y dyfodol ac yn dangos nad oes angen cyhoeddwr os oes gennych sgiliau dylunio a marchnata eich hunan.The book (which costs £5 and has 30 pages) sold like hot cakes at our Christmas craft market. It was very interesting that the Welsh books sold better than the English, with a number of non-Welsh-speaking parents buying them for their children. It is more difficult, however, to sell the book from our online shop because there is so much competition. Perhaps people have to hold it in their hands before buying. That, I think, is commonly true with crafts. Things are terribly competitive with the world and its wife selling products on websites like Etsy. And we are still new. However, the success of the book in the markets has spurred us on to create other books in the future and shows that you don’t need a publisher if you have design and marketing skills of your own.
Eleni mae teulu’r Bwci-Bo yn ehangu. Ma Steve wrthi’n creu tegannau pren a chynnyrch newydd arall. Rydyn ni’n gobeithio cymryd rhan mewn mwy o ffeiriau crefftau yn yr haf, felly os wnewch chi weld ein stondin, galwch heibio i’n gweld a chael gafael yn eich Bwci-Bo.This year the Bwci-Bo family is expanding. Steve is busy making wooden toys and other new products. We hope to take part in more craft fairs in the summer, so if you see our stand, drop by to see us and get your Bwci-Bo.

Y diweddaraf oddi wrth Informal