Nansi Lovell Hunangofiant Hen Sipsi

Honno yn ail-gyhoeddi nofel ar hanes y sipsiwn / Honno republishing a novel about the history of the gypsies: Nansi Lovell, hunangofiant Hen Sipsi

Mae Honno – Gwasg Menywod Cymru – yn ail-gyhoeddi nofel gan Elena Puw Morgan sydd yn adrodd hanes Nansi Lovell, sipsi o ardal Corwen, Sir Feirionnydd. Yma mae Carol Jenkins yn esbonio mwy am y llyfr a’r Gwasg Honno…

Honno – the Welsh Women’s Press – are republishing a novel by Elena Puw Morgan that tells the story of Nansi Lovell, a gypsy from the Corwen area of Merionethshire. Here Carol Jenkins explains more about the book and Honno Press…

Sefydlwyd gwasg Honno yn 1986 gan grŵp o fenywod a oedd yn teimlo bod angen rhoi cyfleoedd i awduron benywaidd yn y byd cyhoeddi yng Nghymru. Fe’i rhedir fel menter gydweithredol ac un o’i phrif amcanion yw meithrin llenorion benywaidd Cymru a rhoi cyfle iddynt weld eu gwaith mewn print. Rhydd hyn gyfle i ddatblygu talentau newydd ond hefyd i geisio ail-ddarganfod awduron y mae eu gwaith wedi bod allan o brint ers amser.

I’r perwyl hwn y mae gan Honno dwy gyfres o glasuron – Honno Classics a Chlasuron Honno – a thrwy’r cyfresi hyn cyflwynir gweithiau’r awduron benywaidd hynny i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Nansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi yw’r nawfed gyfrol i’w chyhoeddi yng nghyfres Clasuron Honno.

Ganwyd awdur y nofel – Elena Puw Morgan (1900-1973) – yng Nghorwen, Sir Feirionnydd ac yn yr ardal honno y treuliodd y rhan fwyaf o’i hoes. Yn y rhagymadrodd i’r argraffiad newydd hwn, mae ei hwyresau (Mererid ac Angharad Puw Davies) yn ei disgrifio fel “un â natur addfwyn, diymhongar ac eithriadol swil”.

Yr oedd hi’n gymeriad unigryw; yn wraig briod barchus ond rhywun oedd hefyd yn cymysgu â chymeriadau diddorol a gwahanol, ac roedd ei chartref yn amlwg ym mywyd llenyddol y cylch. Fel y dywed ei hwyresau: “er mai cul mewn rhai ystyron oedd magwraeth Elena Puw Morgan, nid cyfyng o gwbl oedd ei gorwelion na’i chyfeillion a’i chydnabod fel oedolion.”

Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn hanes a diwylliant y sipsiwn Romani ac roedd ardal Corwen yn rhan o gynefin Teulu Abram Wood, tylwyth Romani mwyaf amlwg gogledd Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Yn wir, deellir bod yr awdur yn ymweld ag aelodau o’r tylwyth a dysgu am eu ffordd o fyw.

Rhoddodd y profiadau hynny sylfaen arbennig felly ar gyfer y nofel hon sy’n cynnwys cymeriadau sy’n seiliedig ar sipsiwn go iawn o dylwyth Abram Wood a thylwyth y Lovells. Er nad ydyw mor adnabyddus â’i nofelau eraill – Y Wisg Sidan ac Y Graith – fe enillodd wobr amdani yn Eisteddfod Caergybi (1927) ac arweiniodd hyn at gyhoeddi’r nofel wedyn yn 1933. Roedd hi’n nofel boblogaidd ac fe gafodd ei hail-argraffu yn 1934 ac 1938.

Dywedodd Roseanne Reeves, Golygydd y gyfrol: “Mae’r mewnwelediad unigryw i fywydau dirgel a phersonol y Romani yn bwnc na ŵyr llawer amdano, ac mae’r llyfr felly’n sicr o ennyn chwilfrydedd darllenwyr. Mae’r plot a’r cymeriadau yn chwa o awyr iach. Ym marn un o berchnogion siop lyfrau ym Mlaenau Ffestiniog dyma un o’r nofelau Cymraeg gorau iddi erioed ei darllen!”

Fel y ddwy nofel arall, mae Nansi Lovell yn ymdrin â bywyd merched yng nghefn gwlad Cymru a’r caledi a’r brwydrau yr oedd yn rhaid iddynt eu hwynebu. Yn y nofel hon, mae Nansi yn adrodd, wrth ei hwyres Nansi Wyn, hanes ei magwraeth o dan ofal ei nain hithau, Nans Wood, a’i pherthynas wedi hynny â Phlas Madog, cartref Madog, taid Nansi Wyn. Arferai’r sipsiwn mynd yn flynyddol I Blas Madog i weithio yn ystod y dydd a diddanu gwesteion gyda’r nos â’u talentau cerddorol. Mae’n stori sy’n pontio pum cenhedlaeth.

Wrth ddisgrifio’r nofel yn y rhagymadrodd, dywed Mererid ac Angharad Puw Davies ei bod hi’n bortread o “wraig lwyr annibynnol, sy’n gwrthod priodas a mamolaeth barchus pan fônt yn bygwth ei llethu, ac yn ymgydio yn eiddgar a hollol hyderus â grym a rhyddid – ac â’r ysgrifbin”. Er iddi gael ei hysgrifennu’n agos i ganrif yn ôl, mae ei neges yr un mor berthnasol heddiw, a dyma oedd un o doniau Elena Puw Morgan.

Ei phrif gyfnod llenyddol oedd 1931-43. Dechreuodd drwy ysgrifennu ar gyfer plant ac enillodd amryw wobrau ar gyfer ei nofelau i blant. Yn ogystal â’r wobr am Nansi Lovell, enillodd Elena Puw Morgan wobr y Brif Nofel yn Eisteddfod Abergwaun yn 1936 am Y Wisg Sidan, a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Caerdydd yn 1938 am Y Graith. Hwn oedd yr ail dro i’r fedal gael ei chyflwyno (fe’i cyflwynid ar y pryd bob tair blynedd am waith rhyddiaith gorau’r tair blynedd) ac Elena Puw Morgan oedd y ferch gyntaf i’w hennill. Ystyrir y nofel honno fel cam mawr ymlaen yn natblygiad y nofel Gymraeg. Er y teimla rhai na chafodd Elena Puw Morgan y clod na’r sylw yr oedd yn ei haeddu, mae’r ffaith i’r ddwy nofel hyn gael eu hail-argraffu yn yr 1990au gan Wasg Gomer ac i Y Wisg Sidan gael ei throi’n gyfres deledu ar S4C, yn dyst i’w poblogrwydd.

Ystyrir y nofel honno fel cam mawr ymlaen yn natblygiad y nofel Gymraeg. Er y teimla rhai na chafodd Elena Puw Morgan y clod na’r sylw yr oedd yn ei haeddu, mae’r ffaith i’r ddwy nofel hyn gael eu hail-argraffu yn yr 1990au gan Wasg Gomer ac i Y Wisg Sidan gael ei throi’n gyfres deledu ar S4C, yn dyst i’w poblogrwydd.

Y mae gan Honno dwy gyfres o glasuron – Honno Classics a Chlasuron Honno – a thrwy’r cyfresi hyn cyflwynir gweithiau’r awduron benywaidd hynny i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Sefydlwyd gwasg Honno yn 1986 gan grŵp o fenywod a oedd yn teimlo bod angen rhoi cyfleoedd i awduron benywaidd yn y byd cyhoeddi yng Nghymru. Fe'i rhedir fel menter gydweithredol ac un o'i phrif amcanion yw meithrin llenorion benywaidd Cymru a rhoi cyfle iddynt weld eu gwaith mewn print. Rhydd hyn gyfle i ddatblygu talentau newydd ond hefyd i geisio ail-ddarganfod awduron y mae eu gwaith wedi bod allan o brint ers amser. The Honno press was founded in 1986 by a group of women who felt there was a need to provide female authors with opportunities in the publishing world in Wales. It is run as a co-operative venture and one of its chief aims is to nurture female writers of Wales and give them an opportunity to see their work in print. This gives an opportunity to develop new talents but also to attempt to rediscover authors whose work has been out of print for a long time.
I'r perwyl hwn y mae gan Honno dwy gyfres o glasuron – Honno Classics a Chlasuron Honno – a thrwy'r cyfresi hyn cyflwynir gweithiau'r awduron benywaidd hynny i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Nansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi yw'r nawfed gyfrol i’w chyhoeddi yng nghyfres Clasuron Honno. To this end Honno have two series of classics – Honno Classics and Clasuron Honno – and through these series the works of these female authors are being introduced to a new generation of readers. Nansi Lovell: The Autobiography of an Old Gypsy is the ninth volume to be published in the Clasuron Honno series.
Ganwyd awdur y nofel – Elena Puw Morgan (1900-1973) – yng Nghorwen, Sir Feirionnydd ac yn yr ardal honno y treuliodd y rhan fwyaf o’i hoes. Yn y rhagymadrodd i’r argraffiad newydd hwn, mae ei hwyresau (Mererid ac Angharad Puw Davies) yn ei disgrifio fel “un â natur addfwyn, diymhongar ac eithriadol swil”. The author of the novel – Elena Puw Morgan (1900-1973) – was born in Corwen, Merionethshire and in this area spent the greater part of her life. In the introduction to this new edition, her granddaughters (Mererid and Angharad Puw Davies) describe her as 'someone of a pleasant disposition, unassuming and exceptionally modest'.
Yr oedd hi’n gymeriad unigryw; yn wraig briod barchus ond rhywun oedd hefyd yn cymysgu â chymeriadau diddorol a gwahanol, ac roedd ei chartref yn amlwg ym mywyd llenyddol y cylch. Fel y dywed ei hwyresau: “er mai cul mewn rhai ystyron oedd magwraeth Elena Puw Morgan, nid cyfyng o gwbl oedd ei gorwelion na’i chyfeillion a’i chydnabod fel oedolion.” She was a unique character; a respectable married woman but also someone who mixed with interesting and diverse characters, and her home played a prominent part in the literary life of the area. As her granddaughters said: "although Elena Puw Morgan's upbringing was narrow in some senses, her horizons were not restricted at all, nor her circle of adult friends and acquaintances".
Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn hanes a diwylliant y sipsiwn Romani ac roedd ardal Corwen yn rhan o gynefin Teulu Abram Wood, tylwyth Romani mwyaf amlwg gogledd Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Yn wir, deellir bod yr awdur yn ymweld ag aelodau o’r tylwyth a dysgu am eu ffordd o fyw. She took a particular interest in the history and culture of the Romany gypsies, and the Corwen region formed part of the haunts of the Abram Wood family, the most prominent tribe of Romany gypsies in the nineteenth and twentieth centuries. In fact, it is understood that the author visited members of the tribe and learned about their way of life.
Rhoddodd y profiadau hynny sylfaen arbennig felly ar gyfer y nofel hon sy’n cynnwys cymeriadau sy'n seiliedig ar sipsiwn go iawn o dylwyth Abram Wood a thylwyth y Lovells. Er nad ydyw mor adnabyddus â’i nofelau eraill – Y Wisg Sidan ac Y Graith – fe enillodd wobr amdani yn Eisteddfod Caergybi (1927) ac arweiniodd hyn at gyhoeddi'r nofel wedyn yn 1933. Roedd hi’n nofel boblogaidd ac fe gafodd ei hail-argraffu yn 1934 ac 1938.These experiences thus provided her with a particular foundation for this novel, which contains characters based on real characters from the Abram Wood tribe and the Lovell tribe. Although it is not as well known as her other novels – Y Wisg Sidan (The Silk Dress) and Y Graith (The Scar) – she won a prize for it at the Holyhead Eisteddfod (1927) and this then led to the publication of the novel in 1933. It was a popular novel and was reprinted in 1934 and 1938.
Dywedodd Roseanne Reeves, Golygydd y gyfrol: “Mae’r mewnwelediad unigryw i fywydau dirgel a phersonol y Romani yn bwnc na ŵyr llawer amdano, ac mae'r llyfr felly'n sicr o ennyn chwilfrydedd darllenwyr. Mae’r plot a’r cymeriadau yn chwa o awyr iach. Ym marn un o berchnogion siop lyfrau ym Mlaenau Ffestiniog dyma un o’r nofelau Cymraeg gorau iddi erioed ei darllen!”Roseanne Reeves, the series editor, said: "The unique insight into the private and personal lives of the Romany is a subject not much is known about, and so the book is sure to excite the curiosity of readers. The plot and characters are a breath of fresh air. In fact, according to a bookshop proprietors in Blaenau Ffestiniog, this is one of the best Welsh novels she has ever read!"
Fel y ddwy nofel arall, mae Nansi Lovell yn ymdrin â bywyd merched yng nghefn gwlad Cymru a’r caledi a’r brwydrau yr oedd yn rhaid iddynt eu hwynebu. Yn y nofel hon, mae Nansi yn adrodd, wrth ei hwyres Nansi Wyn, hanes ei magwraeth o dan ofal ei nain hithau, Nans Wood, a’i pherthynas wedi hynny â Phlas Madog, cartref Madog, taid Nansi Wyn. Arferai’r sipsiwn mynd yn flynyddol I Blas Madog i weithio yn ystod y dydd a diddanu gwesteion gyda’r nos â’u talentau cerddorol. Mae’n stori sy’n pontio pum cenhedlaeth. Like the other two novels, Nansi Lovell deals with the life of women in the Welsh countryside and the hardships and battles that they had to face. In this novel, Nansi recounts to her granddaughter Nansi Wyn the story of her upbringing under the care of her own grandmother, Nans Wood, and her subsequent relationship with Plas Madog, the home of Madog, Nansi Wyn's grandfather. The gypsies used to go every year to Plas Madog to work during the day and entertain the guests at night with their musical talents. It is a story that spans five generations.
Wrth ddisgrifio’r nofel yn y rhagymadrodd, dywed Mererid ac Angharad Puw Davies ei bod hi’n bortread o “wraig lwyr annibynnol, sy’n gwrthod priodas a mamolaeth barchus pan fônt yn bygwth ei llethu, ac yn ymgydio yn eiddgar a hollol hyderus â grym a rhyddid – ac â'r ysgrifbin”. Er iddi gael ei hysgrifennu'n agos i ganrif yn ôl, mae ei neges yr un mor berthnasol heddiw, a dyma oedd un o doniau Elena Puw Morgan. Describing the novel in the introduction, Mererid and Angharad Puw Davies say it is a portrait of "a fully independent woman, who refuses marriage and respectable motherhood when they threaten to oppress her, and with zeal and total confidence takes a firm hold of power and freedom – and of the pen." Although it was written close on a century ago, the message has the same relevance today, and that is one of Elena Puw Morgan's gifts.
Ei phrif gyfnod llenyddol oedd 1931-43. Dechreuodd drwy ysgrifennu ar gyfer plant ac enillodd amryw wobrau ar gyfer ei nofelau i blant. Yn ogystal â’r wobr am Nansi Lovell, enillodd Elena Puw Morgan wobr y Brif Nofel yn Eisteddfod Abergwaun yn 1936 am Y Wisg Sidan, a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Caerdydd yn 1938 am Y Graith. Hwn oedd yr ail dro i’r fedal gael ei chyflwyno (fe’i cyflwynid ar y pryd bob tair blynedd am waith rhyddiaith gorau’r tair blynedd) ac Elena Puw Morgan oedd y ferch gyntaf i’w hennill. Ystyrir y nofel honno fel cam mawr ymlaen yn natblygiad y nofel Gymraeg. Er y teimla rhai na chafodd Elena Puw Morgan y clod na’r sylw yr oedd yn ei haeddu, mae'r ffaith i'r ddwy nofel hyn gael eu hail-argraffu yn yr 1990au gan Wasg Gomer ac i Y Wisg Sidan gael ei throi'n gyfres deledu ar S4C, yn dyst i’w poblogrwydd. Her main literary period was 1931-1943. She began by writing for children and won various prizes for her children's novels. As well as the prize for Nansi Lovell, Elena Puw Morgan won the Best Novel prize at the Fishguard Eisteddfod in 1936 for Y Wisg Sidan (The Silk Dress), and the Prose Medal at the Cardiff Eisteddfod in 1938 for Y Graith (The Scar). This was the second time the medal was awarded (at the time it was only awarded every three years for the best prose work of the past three years) and Elena Puw Morgan was the first woman to win it.
Ystyrir y nofel honno fel cam mawr ymlaen yn natblygiad y nofel Gymraeg. Er y teimla rhai na chafodd Elena Puw Morgan y clod na’r sylw yr oedd yn ei haeddu, mae'r ffaith i'r ddwy nofel hyn gael eu hail-argraffu yn yr 1990au gan Wasg Gomer ac i Y Wisg Sidan gael ei throi'n gyfres deledu ar S4C, yn dyst i’w poblogrwydd. This novel was considered a great step forward in the development of the Welsh novel. Although some feel that Elena Puw Morgan did not get the fame and notice that she deserved, the fact that the two novels were reprinted by Gomer Press in the 1990s and Y Wisg Sidan was made into a television series on S4C testify to her popularity.

Bydd argraffiad newydd Nansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi yn cael ei lansio ar nos Wener 14eg Medi yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Croeso cynnes i bawb. The new edition of Nansi Lovell: Autobiography of an Old Gypsy is being launched on the evening of Friday 14th September at Hywel Teifi Academy, Swansea University. Everyone is welcome.

 

honno.co.uk / honno / honnopress

 

Nansi Lovell Hunangofiant Hen Sipsi

 

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Authors: How and Why I Wrote