Matthew Jones Wales Quiz Book

The Wales Quiz Book’s Matthew Jones: Os y llyfr rydych chi’n edrych amdano sy ddim ar gael, ysgrifennwch ef eich hunan / If the book you’re looking for isn’t out there, write it yourself

Ar ôl ceisio dod o hyd i lyfr priodol yn anrheg i’w Dad, gwnaeth Matthew sylweddoli bod cyfle iddo greu rhywbeth newydd a gwahanol- cwisiau rygbi– ac o ganlyniad i hyn dechreuodd e sgrifennu cyfres o lyfrau llwyddiannus iawn, a bellach mae wedi rhyddhau The Wales Quiz Book. Yma, mae’n esbonio sut digwyddodd hyn oll, ac yn annog pobl eraill i greu llyfrau hefyd.

After trying to find a book as a present for his Dad, Matthew realised there was a chance to create a unique item: quizzes on rugby– and this has started a series of best-selling books by him, and has now released The Wales Quiz Book. Here, he explains how this happened, and he encourages other people to also prepare books.

Nid fi yw’r person gorau i brynu anrhegion. Gallech chi ddweud bod fi’n ofnadwy yn ei wneud. Talebau yw’r ateb fel arfer yn y teulu Jones. Yr unig berson sydd yn cael anrheg dda yw fy Nhad ac mae hwnna oherwydd bod ni mor debyg i’n gilydd bod fi’n prynu’r fath o stwff bydden i eisiau fy hunan. Mae e’n neud yr un peth felly’n aml ni’n prynu’r un pethau- mae cadw derbyniadau yn bwysig.

Yn ôl yn 2007, nes i’r un peth dwi’n neud bob blwyddyn, rhediad cyflym munud diwethaf i dre cyn Nadolig I brynu anrhegion. Cannwyll neu ddau falle i Mam, peth caws neis a rhywbeth mewn potel i Mam-gu a Thad-cu ac wedyn chwilio am gwpwl o lyfrau chwaraeon i Dad. Talebau yw’r ateb i bawb arall.

Wrth edrych am lyfr yn yr adran seiclo, ges i’r syniad bydde llyfr cwis ar rygbi yn grêt i Dad, ac wedyn bydde’r llyfr yn cael ei drosglwyddo i fi. Yn anffodus nid oedd un ar gael. Wnaeth Dad cael The Death of Marco Pantani, un o’r llyfrau chwaraeon gorau gall unrhywun ddarllen, a ges i syniad am y dyfodol.

Es i lawr i’r llyfrgell yn Nhreganna a thynnu allan llwyth o lyfrau rygbi. Dechreuais fynd trwyddyn nhw a thynnu allan ffeithiau. O fewn misoedd roedd yr ysgriflyfr yn dod at ei gilydd.

Beth chi’n neud unwaith mae’r llyfr wedi cael ei ysgrifennu? Yn fy achos I, nes i bigo lan y ffon a rhoi galwad i’r cyhoeddwyr Y Lolfa, cwmni gwych yn Nhalybont. Nes i rannu’r syniad a dyna’r dechreuad.

Maes o law, roedd fy llyfr cyntaf The Welsh Rugby Quiz Book ar Amazon ac mewn pob siop lyfrau yng Nghymru. Naeth fy ffrindiau dechrau ddanfon lluniau i fi amser bydden nhw’n gweld e dros y wlad. Oedd e dros y lle i gyd. Mwy pwysig oedd y ffaith bod fi wedi creu anrheg i dad.

Lwcus i fi, wnaeth y llyfr gwerthu’n dda a rhoi’r sbardun i fi ysgrifennu mwy. Rhan o hwn oedd y ffaith fy mod i’n mwynhau tynnu’r wybodaeth at ei gilydd ond rhan arall oedd y ffaith ei fod yn ffordd o gofnodi ffeithiau.

Cafodd yr ail lyfr The Welsh Sports Quiz Book ei rhyddhau’r flwyddyn wedyn. Hwn oedd siŵr o fod fy hoff lyfr oherwydd ges i’r cyfle i balu’n ddwfn mewn i hanes chwaraeon fel paffio a phêl-droed, ardaloedd lle mae Cymru wedi cynhyrchu nifer o unigolion eithriadol. Dilynwyd hwn gyda llyfrau ar y Chwe Gwlad, rygbi’r byd a’r Llewod.

Erbyn 2018 roedd yn amser i ddiweddaru The Welsh Rugby Quiz Book oedd dal yn gwerthu yn y miloedd. Roedd hefyd yn teimlo fel yr amser iawn i arallgyfeirio o chwaraeon, ac felly nes i ryddhau The Wales Quiz Book. Mae’r llyfr llawn ffeithiau ar Gymru. Oeddech chi’n gwybod bod y mynydd uchaf yn y byd wedi cael ei enwi ar ôl Cymro? Oeddech chi’n gwybod mae Cymro creodd yr arwydd am gyfanswm? Mae gan Gymru hanes cyfoethog ac amrywiol sydd yn cael ei dynnu at ei gilydd yn dda yn y llyfr.

Am £3.99, bydden i’n gwneud mewn ffordd unochrog falle bod y llyfrau yn bargen i liwio unrhyw fwrdd goffi.

Os mae gennych syniad am lyfr, newch yn siŵr bod chi ddim yn edrych nôl yn y dyfodol yn meddwl beth alle wedi bod. Nes I ddechrau er mwyn gwneud prynu anrheg yn rhwyddach a gobeithio fy mod wedi helpu miloedd arall i ddarganfod anrhegion i ffrindiau neu deulu. Os chi eisiau ysgrifennu llyfr, cymerwch afael o’r ysgrifbin a phapur a falle gallwch chi neud fy mywyd i yn rhwyddach yn y dyfodol.

Os mae gennych syniad am lyfr, newch yn siŵr bod chi ddim yn edrych nôl yn y dyfodol yn meddwl beth alle wedi bod.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Nid fi yw’r person gorau i brynu anrhegion. Gallech chi ddweud bod fi’n ofnadwy yn ei wneud. Talebau yw’r ateb fel arfer yn y teulu Jones. Yr unig berson sydd yn cael anrheg dda yw fy Nhad ac mae hwnna oherwydd bod ni mor debyg i’n gilydd bod fi’n prynu'r fath o stwff bydden i eisiau fy hunan. Mae e’n neud yr un peth felly’n aml ni’n prynu’r un pethau- mae cadw derbyniadau yn bwysig.I’m not the best at gift buying. In fact, I’m absolutely dreadful at it. Vouchers are a staple present in the Jones family. The only person who usually gets a reasonable gift is my Dad, and that’s because we are very similar so I just buy him the stuff that I’d want myself. He does a similar thing so we often have doublers- keeping receipts is a must.
Yn ôl yn 2007, nes i’r un peth dwi’n neud bob blwyddyn, rhediad cyflym munud diwethaf i dre cyn Nadolig I brynu anrhegion. Cannwyll neu ddau falle i Mam, peth caws neis a rhywbeth mewn potel i Mam-gu a Thad-cu ac wedyn chwilio am gwpwl o lyfrau chwaraeon i Dad. Talebau yw’r ateb i bawb arall.Back in 2007, I did my usual pre-Christmas mad dash into town to pick up some gifts, maybe a candle or two for my mother which she’d probably never use, some nice local cheese and a bottle of something for grandparents then a sporting autobiography or two for my dad. It would then be vouchers for everyone else.
Wrth edrych am lyfr yn yr adran seiclo, ges i’r syniad bydde llyfr cwis ar rygbi yn grêt i Dad, ac wedyn bydde’r llyfr yn cael ei drosglwyddo i fi. Yn anffodus nid oedd un ar gael. Wnaeth Dad cael The Death of Marco Pantani, un o’r llyfrau chwaraeon gorau gall unrhywun ddarllen, a ges i syniad am y dyfodol.As I was looking for a suitable book in the cycling section, it just dawned on me that a rugby quiz book would be great for my Dad, thinking I’d have it passed on to me once he’d finished with it. Unfortunately, there wasn’t one. My Dad ended up with The Death of Marco Pantani, one of the best sporting books you could ever read, while I ended up with an idea.
Es i lawr i’r llyfrgell yn Nhreganna a thynnu allan llwyth o lyfrau rygbi. Dechreuais fynd trwyddyn nhw a thynnu allan ffeithiau. O fewn misoedd roedd yr ysgriflyfr yn dod at ei gilydd.I went to Canton library and took out a load of rugby books. I started going through them pulling out interesting facts. Within months my first manuscript was coming together.
Beth chi’n neud unwaith mae’r llyfr wedi cael ei ysgrifennu? Yn fy achos I, nes i bigo lan y ffon a rhoi galwad i’r cyhoeddwyr Y Lolfa, cwmni gwych yn Nhalybont. Nes i rannu’r syniad a dyna’r dechreuad.What do you do once you’ve written your book? In my case I picked up the phone and called the publishers Y Lolfa, a fantastic company based in Talybont. I told them my idea and they thought it was great.
Maes o law, roedd fy llyfr cyntaf The Welsh Rugby Quiz Book ar Amazon ac mewn pob siop lyfrau yng Nghymru. Naeth fy ffrindiau dechrau ddanfon lluniau i fi amser bydden nhw’n gweld e dros y wlad. Oedd e dros y lle i gyd. Mwy pwysig oedd y ffaith bod fi wedi creu anrheg i dad.Soon after, my first book, The Welsh Rugby Quiz Book could be found on Amazon and in every book store in Wales. My friends started sending me pictures of where they’d seen the book. It was everywhere which was an amazing feeling. More importantly I had a gift lined up for my dad which really was the point of it.
Lwcus i fi, wnaeth y llyfr gwerthu’n dda a rhoi'r sbardun i fi ysgrifennu mwy. Rhan o hwn oedd y ffaith fy mod i’n mwynhau tynnu’r wybodaeth at ei gilydd ond rhan arall oedd y ffaith ei fod yn ffordd o gofnodi ffeithiau.Lucky for me it became a best-seller which spurred me on to do more. This was partly because I realised I really enjoyed collating the information but also because it was a way of recording facts which could otherwise be lost.
Cafodd yr ail lyfr The Welsh Sports Quiz Book ei rhyddhau'r flwyddyn wedyn. Hwn oedd siŵr o fod fy hoff lyfr oherwydd ges i’r cyfle i balu’n ddwfn mewn i hanes chwaraeon fel paffio a phêl-droed, ardaloedd lle mae Cymru wedi cynhyrchu nifer o unigolion eithriadol. Dilynwyd hwn gyda llyfrau ar y Chwe Gwlad, rygbi’r byd a’r Llewod.My second book The Welsh Sports Quiz Book was released the following year. This was probably my favourite as it gave me a chance to dig deep into the history of sports such as boxing and football where Wales has produced some exceptional individuals. Further books followed about the Six Nations, world rugby and the British and Irish Lions.
Erbyn 2018 roedd yn amser i ddiweddaru The Welsh Rugby Quiz Book oedd dal yn gwerthu yn y miloedd. Roedd hefyd yn teimlo fel yr amser iawn i arallgyfeirio o chwaraeon, ac felly nes i ryddhau The Wales Quiz Book. Mae’r llyfr llawn ffeithiau ar Gymru. Oeddech chi’n gwybod bod y mynydd uchaf yn y byd wedi cael ei enwi ar ôl Cymro? Oeddech chi’n gwybod mae Cymro creodd yr arwydd am gyfanswm? Mae gan Gymru hanes cyfoethog ac amrywiol sydd yn cael ei dynnu at ei gilydd yn dda yn y llyfr.By 2018 it was time to update The Welsh Rugby Quiz Book which was still selling thousands of copies yearly. It also felt like the right time to diversify from sport hence the release of The Wales Quiz Book. This book covers all aspects of Welsh trivia. Did you know the highest mountain in the world was named after a Welshman? Did you know a Welshman created the equals sign? Wales has a rich and diverse history which I feel this book brings together exceptionally well.
Am £3.99, bydden i’n gwneud mewn ffordd unochrog falle bod y llyfrau yn bargen i liwio unrhyw fwrdd goffi.At £3.99, I would biasedly say my books are a bargain that will jazz up any coffee table.
Os mae gennych syniad am lyfr, newch yn siŵr bod chi ddim yn edrych nôl yn y dyfodol yn meddwl beth alle wedi bod. Nes I ddechrau er mwyn gwneud prynu anrheg yn rhwyddach a gobeithio fy mod wedi helpu miloedd arall i ddarganfod anrhegion i ffrindiau neu deulu. Os chi eisiau ysgrifennu llyfr, cymerwch afael o’r ysgrifbin a phapur a falle gallwch chi neud fy mywyd i yn rhwyddach yn y dyfodol.If you have an idea for a book please don’t look back in years to come wishing you had written it. I started in order to make my present buying easier and hopefully have helped thousands of other people with difficult-to-buy-for friends or relatives. If you have the desire to write a book, please get it down on paper as it may well help me with my difficult-to-buy-for relatives in the future!

Matthew Jones is originally from Carmarthen but has lived in Cardiff for the last twenty years. He has held numerous senior management roles and is a regular contributor on television and radio. His books are all available from ylolfa.com.

Mae Matthew Jones yn enedigol o Gaerfyrddin ac wedi byw yng Nghaerdydd am yr ugain mlynedd diwethaf. Mae wedi dal nifer o swyddogaethau uwch-goruchwyliaeth yn ei yrfa ac yn gyfrannwr rheolaidd ar deledu a radio. Fedrwch archebu ei lyfrau ar ylolfa.com.

 

Llwytho i Lawr fel PDF

Amser Ychwanegol: Colofn Chwaraeon Matthew Jones

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol