Cer Amdani Poster Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Amdani- Llyfrau i Ddysgwyr: Tu ôl y Llen / Behind the Scenes

Mae sawl sefydliad a llawer o pobl wedi dod gyda'n gilydd ar gyfer ddysgwyr i greu'r gyfres Amdani- casgliad o 20 llyfrau sydd yn cael eu cyhoeddi trwy 2018. Yma, mae parallel.cymru yn mynd tu ôl y llen i ffeindio mas mwy.

Many organisations and lots of people have come together on behalf of learners to create the Amdani series- a collection of 20 books that are being published in 2018. Here, parallel.cymru goes behind the scenes to find out more.

Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes / Minister for Welsh Language and Lifelong Learning

Mae’n hollbwysig bod dysgwyr Cymraeg yn cael digon o gyfleoedd i fwynhau defnyddio’r iaith, ym mhob math o gyd-destunau, ac mae’r gyfres newydd hon o lyfrau hamdden Cymraeg yn enghraifft wych o hynny.It’s vital that Welsh learners get plenty of opportunities to enjoy using the language in all sorts of contexts, and this new series of Welsh-language leisure books is one such example.
Bydd y llyfrau yn cefnogi’r cyrsiau dysgu Cymraeg niferus sydd ar gael mewn cymunedau ledled Cymru, ac yn helpu pobl i ddysgu’r iaith a dod yn rhugl.The books will support what’s taught on the numerous Welsh-language courses available in communities across Wales and will help people learn the language and become fluent.

Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau / Chief Executive of the Welsh Books Council

Rydym yn hynod o falch o gyflwyno’r llyfrau newydd yma i gynulleidfa sy’n hanfodol i’r farchnad lyfrau Cymraeg. Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod a phwysig iawn o’n diwylliant, ac mae’r llyfrau hyn yn ffordd wych o annog mwy o oedolion i ddysgu neu i wella eu Cymraeg.We are very pleased to welcome these new books to an audience that’s crucial to the Welsh-language books market. The language is a vitally important part of our culture and these books are a fantastic opportunity to encourage more adults to learn or improve their Welsh.

Rhiannon Thomas, Golygydd, Cyngor Llyfrau Cymru / Editor, Welsh Books Council

Ro’n i’n gweithio fel athrawes Gymraeg mewn ysgol ond dw i hefyd wedi gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion ers 1992. Rwan mae gen i chwech dosbarth o ddysgwyr yn siroedd Gwynedd a Chonwy a dw i hefyd yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru fel golygydd ymgynghorol ar gyfres Amdani, cyfres o lyfrau darllen ar gyfer dysgwyr Cymraeg.I used to work as a Welsh teacher in a school but I have also worked since 1992 as a Welsh tutor for adults. Now I run six classes for learners in Gwynedd and Conwy and I also work for the Welsh Books Council as a consultant editor for the Amdani series, a series of readers aimed at Welsh learners.
Bydd 20 o lyfrau yn y gyfres eleni. Mae’r 6 llyfr cyntaf wedi eu cyhoeddi ers mis Ebrill ac mae 4 arall wedi eu cyhoeddi ym mis Mai, felly mae hanner y gyfres ar gael yn y siopau rwan. Bydd 5 arall yn cael eu cyhoeddi ym mis Awst a’r 5 olaf ym mis Hydref. Nid llyfrau i’w defnyddio yn y gwersi ydyn nhw ond llyfrau i ddysgwyr eu darllen gartre, ond maen nhw wedi eu graddioli i fynd efo’r cwrs dysgu Cymraeg cenedlaethol newydd. This year the series will comprise twenty books. The first six books were published in April and another four have been published in May, so half the series is available in shops now. Another five will be published in August and the final five in October. These are not books for use in lessons but books for learners to read at home, but they have been graded so as to accompany the new national Welsh course for learners.
Un o’r pethau arbennig am gyfres Amdani ydy fod pedair gwasg yn cydweithio ar y prosiect, sef Atebol, CAA Cymru, Gomer a’r Lolfa, dan ofal Cyngor Llyfrau Cymru. Mae rhannu gwaith fel hyn yn beth newydd mewn cyhoeddi Cymraeg ac felly mae yna bwyllgor o gynrychiolwyr y gweisg a’r Cyngor Llyfrau a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn cyfarfod yn eitha aml yn Aberystwyth i drafod y prosiect – ac mae yna hefyd lawer iawn o e-bostio yn mynd ymlaen!One of the special things about the Amdani series is that four publishing houses are collaborating on the project, that is, Atebol, CAA Cymru, Gomer and Y Lolfa. Sharing the work like this is a new thing in Welsh publishing, and so there are rather frequent meetings to discuss the project. These are held in Aberystwyth and involve a council consisting of representatives of the publishers, the Book Council and the National Learning Centre for Welsh – and there is also a great deal of emailing going on!
Er mwyn dechrau cael llyfrau wedi eu cyhoeddi mor fuan â phosib, wnaeth y pwyllgor benderfynu y basai hi’n syniad da addasu llyfrau oedd yn barod yn hytrach na disgwyl i awduron sgwennu 20 llyfr newydd sbon. Felly mae’r 6 llyfr cyntaf, y rhai gaeth eu cyhoeddi ym mis Ebrill, yn addasiadau o lyfrau gaeth eu sgwennu yn wreiddiol ar gyfer oedolion sy’n dysgu Saesneg. Dyma’r 6 llyfr cyntaf ges i i’w golygu.In order to get the books published as quickly as possible, the council decided it would be a good idea to adapt to adapt already existing books rather than wait for authors to write twenty brand-new books. So the first six books, those that were published in April, are adaptations of books originally written for adults learning English. These are the first six books that I got to edit.
Roedd y gwaith yn eitha heriol. Roedd yr awduron Cymraeg oedd yn addasu’r 6 llyfr wedi cael arweiniad ar y math o eirfa a phatrymau Cymraeg oedd yn addas ar gyfer pob lefel o ddysgu Cymraeg a golygyddion yn pedair gwasg hefyd wedi mynd dros y llyfrau i wirio lefel yr iaith cyn i mi edrych ar y gwaith. Ond roedd yna broblemau yn codi. Er enghraifft, mae Am Ddiwrnod! wedi ei anelu at ddysgwyr sydd ond wedi bod yn dysgu Cymraeg am amser byr, felly rhaid i’r iaith fod yn syml iawn. Ac eto, rhaid i’r stori fod yn ddiddorol.The work was quite challenging. The Welsh authors who were adapting the six books had received guidance as to the kind of Welsh vocabulary and patterns that were suitable at each level of learning Welsh and editors from the four publishers had also gone through the books to check the level of language before I saw the work. But problems arose. For example, Am Ddiwrnod! was aimed at learners who had been learning Welsh only for a short time, so it was necessary for the language to be very simple. And yet, the story had to be interesting.
Problem arall wrth geisio addasu llyfr sy’n ddiddorol ond hefyd yn syml yw fod yna bethau sydd yn hawdd iawn i’w dweud yn Saesneg ond yn fwy cymhleth o lawer yn Gymraeg. Yn enwedig “fy” + Treiglad Trwynol. Am ei fod yn anodd i dysgwyr ei ddeall (a’i ynganu!) dydy’r patrwm yma yn Gymraeg ddim yn cael ei ddysgu tan ddiwedd Lefel Mynediad ond roedd stori Am Ddiwrnod! i gyd am rywun yn colli ei bag ac mae’r llyfr Saesneg yn sôn llawer iawn am “my bag”. Doedd dim modd osgoi defnyddio’r patrwm, felly roedd rhaid rhoi “fy mag i – my bag” yn yr eirfa ar waelod y dudalen. Wnaeth yr un broblem godi efo’r llyfr gwreiddiol Wynne Evans – O Gaerfyrddin i Go Compare lle mae Wynne yn sôn llawer am ei deulu ar ddechrau’r llyfr.Another problem in adapting books that are interesting but also simple is that there are things which are easy to say in English but much more complicated in Welsh. Especially when it comes to fy + nasal mutation. Because it is difficult for learners to understand (and to pronounce!), this pattern is not learnt till the end of the Entry Level, but the Am Ddiwrnod! story was all about someone losing her bag and the English book made frequent mention of ‘my bag’. There was no way of avoiding the use of this pattern, so it was necessary to include ‘fy mag i – my bag’ in the vocabulary at the foot of the page. The same problem arose with the original of the book Wynne Evans – O Gaerfyrddin i Go Compare where Wynne talks a lot about his family at the start of the book.
Mae yna eirfa ar waelod pob tudalen o bob llyfr i helpu dysgwyr efo geiriau a dywediadau sydd yn ddieithr iddyn nhw, ac yna mae yna eirfa lawn yn nhrefn y wyddor yng nghefn pob llyfr. Mae Helen Prosser o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ar ein pwyllgor ac wedi bod yn help mawr i mi wrth i ni benderfynu beth i’w roi yn yr eirfa. There is a vocabulary at the bottom of every page in every book to help learners with words and expressions that may be strange to them, and there is a full vocabulary in alphabetical order at the back of every book. Helen Prosser from the National Learning Centre for Welsh is on our council and has been a great help to me in deciding what to put in the vocabulary.
Mae’r 20 llyfr wedi eu hanelu at ddysgwyr ar bob lefel - erbyn y diwedd bydd yna pump llyfr yr un ar Lefelau Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch. Ac rydym wedi ceisio cael llyfrau yn iaith y De a’r Gogledd. Mae rhai awduron wedi bod yn glyfar iawn a chynnwys iaith y De a’r Gogledd yn eu llyfrau. Mae Manon Steffan Ros wrth addasu pum stori fer dda iawn ar Lefel Uwch yn Trwy’r Ffenestri wedi sgwennu tair stori yn iaith y Gogledd a dwy yn iaith y De. A mae Pegi Talfryn wedi gosod y nofel dditectif Gêm Beryglus ar Lefel Canolradd ym Mannau Brycheiniog efo naratif yn iaith y De ond efo dau o’r prif gymeriadau yn dod o’r Gogledd. The twenty books have been aimed at learners at every level: by the end there will be five books each at Entry Level, Foundation Level, Intermediate Level and Higher Level. And we have tried to have books in the Welsh of both South and North Wales. Some authors have been very clever and included the language of south and north in their books. In adapting five very good short stories for the Higher Level in Trwy’r Ffenestri, Manon Steffan Ros has written three of the stories in northern Welsh and two in southern Welsh. And Pegi Talfryn has set the detective novel Gêm Beryglus, for Intermediate Level, in the Brecon Beacons with the narrative in the language of the South but with two of the principal characters coming from the North.
Mae yna amrywiaeth mawr hefyd yn nhestunau’r llyfrau. Nofelau ydy’r rhan fwya ohonyn nhw, rhai yn nofelau cyffrous ac eraill yn ddoniol iawn. Ac mae rhai o’n nofelwyr Cymraeg mwyaf poblogaidd wedi sgwennu ar gyfer y gyfres, pobl fel Bethan Gwanas, Mared Lewis a Sonia Edwards. Ond mae yna hefyd storïau byrion a llyfrau ffeithiol fel llyfr Jon Gower Teithio drwy Hanes a C’mon Reff, addasiad Elin Meek o hunangofiant Nigel Owens. There is also a great variety in the books’ subject matter. The majority of them are novels, some novels exciting, others very amusing. And some of the most popular Welsh novelists have written for the series, people like Bethan Gwanas, Mared Lewis and Sonia Edwards. But there are also short stories and non-fiction books like Jon Gower’s book Teithio drwy Hanes, and C’mon Reff, an adaptation by Elin Meek of Nigel Owens’ autobiography.
Rhaid i mi gyfadde fy mod i wedi mwynhau’n arbennig y llyfrau sydd wedi eu sgwennu gan ddysgwyr ac sydd felly yn medru mynegi sut beth yw bod yn ddysgwr y Gymraeg yng Nghymru heddiw, llyfrau fel Cyffesion Saesnes yng Nghymru gan Sarah Reynolds, Pass the Sugnydd Llwch, Darling gan Rhodri a Lucy Owen efo Mari George a storïau Zoe Pettinger, Croesi’r Bont. Mae hi wedi bod yn bleser gweithio ar lyfrau mor amrywiol a difyr a fedra i ddim disgwyl nes bydd dysgwyr Cymru wedi cael eu dwylo ar y gyfres gyfan. Dw i’n siwr y byddan nhw’n dod â llawer o bleser iddyn nhw wrth eu darllen – a gwella eu Cymraeg ar yr un pryd!I must confess that I have particulary enjoyed the books which have been written by learners and so are able to express what it is like to be a Welsh learner in Wales today – books like Cyffesion Saesnes yng Nghymru by Sarah Reynolds, Pass the Sugnydd Llwch, Darling by Rhodri and Lucy Owen with Mari George and Zoe Pettinger’s stories, Croesi’r Bont. It has been a pleasure to work with such diverse and entertaining books and I cannot wait for Welsh learners to get their hands on the whole series. I am sure they will find much pleasure in reading them – and improve their Welsh at the same time!

Rhaid i mi gyfadde fy mod i wedi mwynhau’n arbennig y llyfrau sydd wedi eu sgwennu gan ddysgwyr ac sydd felly yn medru mynegi sut beth yw bod yn ddysgwr y Gymraeg yng Nghymru heddiw.

Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol / Strategic Director, the National Centre for Learning Welsh

Diolch i gymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru, mae cyhoeddi llyfrau Cyfres Amdani wedi bod yn brosiect cyffrous iawn. Y cam cyntaf oedd cynnal sesiwn yn Aberystwyth i ddangos i’r gweisg beth yw’r lefelau iaith yn y Cwricwlwm Cymraeg i Oedolion a faint o bobl sy’n dysgu Cymraeg ar bob lefel. Yn dilyn hynny, penodwyd pedair gwasg i gyhoeddi pum llyfr yr un.Thanks to the financial support of the Welsh Books Council, publishing the Amdani series of books has been a very exciting project. The first step was to hold a session in Aberystwyth to show the publishers what the language levels are in the Welsh for Adults curriculum and how many people study at each level. Following that, it was decided that four presses should publish five books each
Daethon ni i gytundeb gyda Gwasg Prifysgol Caergrawnt y basai’n bosib addasu chwe llyfr ond y peth cyffrous yw bod pedwar ar ddeg o lyfrau gwreiddiol yn cael eu hysgrifennu a bod rhai o’n hawduron gorau yn yr iaith Gymraeg yn rhan o’r prosiect.We came to an agreement with Cambridge University Press that it would be possible to adapt six books that have been written for language learners, but the exciting thing is that fourteen original books have been written and some of the best writers in the Welsh language are part of the project.
Elfen gyffrous arall bod yr awduron sy wedi ysgrifennu’r llyfrau Mynediad a Sylfaen wedi bod yn dilyn yr un patrymau iaith â’r cyrsiau cenedlaethol newydd. Cawson ni ddau weithdy i edrych ar ffurfiau- un yng Nghaerdydd o dan arweiniad Nick Tims sy’n olygydd profiadol ar gyfresi darllen Saesneg i ddysgwyr ac un arall yn Aberystwyth lle buon ni’n gwneud gwaith ymarferol ar fersiynau cynnar o rai o’r llyfrau. Mae hyn yn meddwl y bydd yn bosib darllen y llyfr cyntaf, Am Ddiwrnod! ar ôl wyth uned o’r cwrs Mynediad. Gobeithio’n fawr bod hyn yn golygu bydd dysgwyr yn dechrau darllen yn gynnar iawn ar eu taith ddysgu ac yn parhau i brynu’r llyfrau.Another exciting element is that authors who have written the Entry and Foundation books have followed the same patterns as the new national courses. We had two workshops to look at forms- one in Cardiff that was led by Nick Times who is an experienced editor for series of books for those learning English, and one other in Aberystwyth where we did practical work on early versions of the books. This means that it is possible to read the first book Am Ddiwrnod! after eight units of the Entry course. Hopefully this means that learners start reading very early in their learners' journey and continue to buy books.
Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn hybu’r gyfres yma trwy weithio’n agos gyda thiwtoriaid a dysgwyr ac mae’r Ganolfan yn ddiolchgar iawn i bawb – Y Cyngor Llyfrau, y gweisg a’r awduron – am eu diddordeb mawr yn y gwaith ac am eu gwaith caled yn sicrhau bod y llyfrau yn dod o’r wasg yn brydlon. The National Centre for Learning Welsh is promoting the books through working closely with tutors and learners and the Centre is very grateful to all- the Welsh Books Council, the presses and the authors- for their large interest and for their hard work to ensure that the books go to press punctually.
Rhaid diolch yn arbennig i’r ddau olygydd sy wedi sicrhau bod y prosiect yn rhedeg yn dda – Mair Rees a Rhiannon Tomos. Ymlaen â’r darllen!I also have to give a very special thanks for the two editors who have ensured that the projects runs well- Mair Rees and Rhiannon Thomas. On with reading!

Elfen gyffrous bod yr awduron sy wedi ysgrifennu’r llyfrau Mynediad a Sylfaen wedi bod yn dilyn yr un patrymau iaith â’r cyrsiau cenedlaethol newydd.

Laura Sigsworth, Product Marketing Manager at Cambridge University Press

Six of the twenty books are adaptions of Cambridge English Readers, which is a series of award-winning fiction, written especially for learners of English. From sci-fi to thriller, romance and adventure, language learners are sure to find a title to suit them! Investigate a murder with Detective Flick Laine in Dead Cold, or experience first love with Ikuko in Staying Together. Dodge an attempt on Dan Combes life in A Tangled Web or experience Chee Seng’s growing pains in The Best of Times?.

All the readers combine the highest quality of writing and storytelling with the greatest sensitivity to the learner’s language level, to ensure an enjoyable and successful learning experience. The expert author team made up of professional teachers and writers have correlated all titles to the Common European Framework (CEFR), to ensure that readers encounter the right language at the right level. Download free resources including audio files, worksheets and lesson plans from cambridge.org/cambridge-english-readers.

Cambridge University Press is one of the world’s leading English Language Teaching publishers, offering courses and supplementary materials for learners in all age groups.


Y Cyhoeddwyr / The Publishers: Atebol, CAA Cymru, Gomer & Y Lolfa

Mewn datbylgiad unigryw yng Nghymru, mae pedair wasg wedi dod gyda'n gilydd i gyhoeddi pump llyfr yr un yn y gyfres. Aeth parallel.cymru i ffeindio mas mwy amdanyn nhw...

In an unique development in Wales, four publishers have come together to publish five books each in the series. Parallel.cymru went to find out more about them...

Atebol

atebol.com

Darn oddi wrth Elen Jones, Cynorthwydd Marchnata a Dylunydd (Marketing Assistant and Designer)

Yn un o brif gyhoeddwyr addysgol Cymru, mae Atebol yn gwmni sy’n arbenigo mewn cyhoeddi llyfrau ac adnoddau amlgyfrwng Cymraeg a dwyieithog i blant a phobl ifanc. Mae’r cwmni hefyd yn darparu gwasanaeth cyfieithu, golygu a phrawf ddarllen proffesiynol.

Sefydlwyd y cwmni yn 2004 gan Glyn a Gill Saunders-Jones a'u meibion, ac mae’r swyddfa wedi’i lleoli ar y fferm deuluol ger Tal-y-bont, Ceredigion.

Cyhoeddir nifer o deitlau i blant dan saith oed yn ddwyieithog, fel bod rhieni di-Gymraeg yn gallu mwynhau darllen gyda’i plant.

Ynghyd â chyhoeddi addasiadau o glasuron Saesneg fel cyfresi Enid Blyton a llyfrau poblogaidd David Walliams, mae Atebol yn awyddus i greu darpariaeth amlgyfrwng wreiddiol drwy gyd-weithio gyda rhai o awduron ac arlunwyr mwyaf dawnus Cymru.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Atebol wedi bod yn rhan o ddatblygu Cyfres Amdani, sef cyfres newydd o lyfrau i ddysgwyr Cymraeg, ar y cyd â thri chyhoeddwr blaenllaw arall. Mae’r gyfres wedi derbyn ymateb rhagorol ac mae’r llyfrau’n profi’i fod yn boblogaidd iawn.

As one of Wales’ leading educational publishers, Atebol specialises in publishing Welsh and bilingual books and multimedia resources for children and young adults. The company also provides professional translating, editing, and proofreading services.

Atebol was founded in 2004 by Glyn and Gill Saunders-Jones and their sons, and the office is based on the family farm near Tal-y-Bont, Ceredigion.

Several titles for children under seven years of age are published bilingually, so non-Welsh speaking parents can enjoy reading with their children.

Along with publishing adaptations of classic English titles, including the Enid Blyton series and David Walliams’s popular books, Atebol is keen to create a supply of original multimedia resources by working with well-known Welsh authors and illustrators.

During the last few months, Atebol has been part of developing Cyfres Amdani, a new series of books for adults learning Welsh, with three other leading publishers. The series has received an excellent response and the books are proving very popular.

CAA Cymru Logo

aber.ac.uk/en/caa

Cyfweliad â Fflur Aneira Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Assistant Director)

Mae CAA Cymru wedi bodoli am dros 35 mlynedd nawr.  Beth yw ei hanes a beth sydd wedi newid dros y cyfnod?

CAA Cymru yw un o gyhoeddwyr addysgol mwyaf blaenllaw a phrofiadol Cymru. Mae’r cwmni yn rhan o Brifysgol Aberystwyth ac wedi bod yn cynhyrchu adnoddau addysgol Cymraeg a Saesneg i blant, pobl ifanc ac athrawon er 1982, gan gyhoeddi dros 2,500 o gyhoeddiadau dros y blynyddoedd.

Mae cyfran helaeth o’n hadnoddau wedi deillio o gomisiynau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y sector addysg – yn llyfrau darllen, gwerslyfrau, CDau, DVDau, gweithgareddau rhyngweithiol, e-lyfrau a capiau. Rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaeth dylunio, golygu a phrawf-ddarllen proffesiynol.

Canolfan Astudiaethau Addysg oedd enw gwreiddiol y cwmni, cyn troi i fod yn Cyhoeddwr Adnoddau Addysg (neu CAA yn fyr). Erbyn hyn, rydyn ni’n cael ein hadnabod fel CAA Cymru, sydd, gobeithio, yn haws i bawb ei gofio a’i ynganu! Mae’r staff presennol wedi bod yn gweithio i’r cwmni ers cyfanswm o dros 80 o flynyddoedd, felly mae digonedd o brofiad ac arbenigedd yn y maes cyhoeddi yn CAA Cymru!

CAA Cymru has been in existence for over 35 years now. What's its history and what has changed over the period?

CAA Cymru is one of Wales's most prominent and experienced educational publishers. The company is part of Aberystwyth University and has been producing educational material in both English and Welsh, for children, young people and teachers, since 1982. Over the years it has produced more than 2500 publications.

A large proportion of the resources we create result from commissions from the Welsh government for material for use in the educational sector - reading books, lesson books, CDs, DVDs, interactive activities, e-books and apps. We also offer professional illustrating, editing and proofreading services.

The original name of the company was Canolfan Astudiaethau Addysg (Centre for Educational Studies), before it was changed to Cyhoeddwr Adnoddau Addysg (Publisher of Educational Resources), or CAA for short. We are now known as CAA Cymru, which is, one hopes, easier for everybody to remember and pronounce! The present staff have been working for the company for a total of more than 80 years, so CAA Cymru has plenty of experience and specialised expertise in the publishing field!

Cyfres Amdani yw'r llyfrau cyntaf i oedolion sy'n dysgu Cymraeg dych chi wedi cyhoeddi. Pa fath o lyfrau ydych chi wedi creu a chyhoeddi hyd yn hyn?

Cyhoeddiadau ar gyfer plant, ysgolion a cholegau yw ein prif farchnad, ond roedd hi’n braf cydweithio â’r tri cyhoeddwr arall i baratoi a chyhoeddi’r llyfrau hyn ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Mae’r llyfrau wedi bod yn hynod boblogaidd hyd yn hyn, a gobeithio y bydd y dysgwyr Cymraeg sy’n eu prynu yn eu mwynhau ac yn eu gweld yn fuddiol.

Dyma flas o’r adnoddau amrywiol eraill sydd wedi’u cyhoeddi gennyn ni dros y blynyddoedd:

  • Cyfres y Gwybodyn/Buzzbod Series – pum pecyn yn cynnwys cyfres o lyfrau darllen ffeithiol hwyliog, ar ffurf print ac e‐lyfrau sain, i blant 5-7 oed;
  • Cyfres Henri Helynt – addasiadau Cymraeg o 20 o lyfrau’r gyfres boblogaidd hon i blant;
  • ApSgìl-­‐iau–gemau iaith a rhifedd wedi’u hanelu at blant 9-11 oed;
  • Bywyd bob Dydd…/Everyday Life…– pecynnau hanes i ysgolion cynradd sy’n cynnwys llyfr stori, llyfr ffeithiau, canllawiau i athrawon a chardiau gwybodaeth;
  • Cyfres Bwrlwm – llyfrau ffeithiol difyr a deniadol ar gyfer unigolion ag anghenion addysgol ychwanegol;
  • Le Nouveau Dico – geiriadur Cymraeg‐Ffrangeg;
  • Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes… Canllaw i Fyfyrwyr – llawlyfr a CD sain i gynorthwyo myfyrwyr UG a Safon Uwch gyda’u gwaith cyfansoddi;
  • Nodiadau Safon Uwch ar Un Nos Ola Leuad, Y Tŵr a Siwan, a chanllawiau ar Sut i Saernïo Traethawd.

The Amdani series are the first books for adult learners you've published. What sort of books have you created and published so far?

Our main market lies in publications for children, schools and colleges, but it was good to work with three other publishers in preparing and publishing these books for the use of adults learning Welsh. The books have been extremely popular so far, and it is hoped that Welsh learners who buy them will enjoy them and see them as useful.

Here is a sample of various other resources which have been published by us over the years:

  • Cyfres y Gwybodyn/Buzzbod Series – five packs containing a series of lively factual reading books, in print form and audio book form, for children aged 5 to 7;
  • Cyfres Henri Helynt (Horrid Henry) series – Welsh adaptations of 20 books of this popular series for children;
  • ApSgil – word and number games aimed at children aged 9 to 11;
  • Bywyd bob Dydd (Everyday Life) - history packs for primary schools containing story books, factual books, guidebooks for teachers and information cards;
  • Cyfres Bwrlwm (Bubble Series) – interesting and attractive factual books for the use of individuals with additional learning needs;
  • Le Nouveau Dico – a Welsh-French dictionary;
  • Cyfansoddi Cerddoriaeth Gyfoes (Contemporary Musical Composition) – a guidebook and audio CD to support UG and Higher students with their composition work;
  • Higher Level notes to the literary works Un Nos Ola Leuad, Y Tŵr and Siwan, and guidebooks to writing essays and dissertations.

Mae eich swyddfa ym Mhrifysgol Aberystwyth. Beth yw'r manteision o gael eich lleoli mewn sefydliad mwy?

Mae bod yn rhan o Brifysgol Aberystwyth yn galluogi CAA Cymru i ddilyn y datblygiadau diweddaraf ym myd addysg ac i fanteisio ar yr arbenigedd pwnc sydd ar gael o fewn y sefydliad. Rydyn ni hefyd yn defnyddio adran argraffu’r Brifysgol wrth baratoi deunydd marchnata fel taflennni a llyfrnodau, ac yn cydweithio ag arbenigwyr hawlfraint, yr adran farchnata, ayb. Er enghraifft, rydyn ni’n trefnu gweithgareddau ar stondin Prifysgol Aberystwyth mewn gwyliau fel Eisteddfod yr Urdd, y Sioe Fawr a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Your office is based in Aberystwyth University. What are the advantages of being located in a larger organisation?

Being part of Aberystwyth University enables CAA Cymru to follow the latest developments in the world of education and take advantage of the specialist subject knowledge available within the organisation. We also make use of the University's printing department in the preparation of marketing material such as leaflets and bookmarks, and work together with copyright specialists, the marketing department, and so on. For example, we organise activities on Aberystwyth University's stall at festivals such as the Urdd Eisteddfod, the Sioe Fawr (Royal Welsh Show) and the National Eisteddfod.

Pa lyfrau/adnoddau eraill sydd gyda chi sy’n addas ar gyfer oedolion sydd yn gwella eu Cymraeg?

Mae gennym ni nifer o gyhoeddiadau defnyddiol i unigolion sy’n awyddus i wella eu Cymraeg – yn eu plith, dwy gyfrol gan Non ap Emlyn, sef:Y Chwiliadur Iaith, llyfr A4 sy'n egluro pwyntiau gramadegol ac yn dangos enghreifftiau o batrymau yn gryno ac yn eglur; a Golwg ar Iaith – llyfr A5 gwerthfawr sy'n canolbwyntio ar wella gramadeg Cymraeg ac sy’n cynnwys ymarferion ac atebion, help ymarferol a syniadau am ble i gael mwy o wybodaeth.

Wrth gwrs, mae llyfrau i blant hefyd yn fan cychwyn gwych wrth ddysgu Cymraeg os oes gennych chi deulu ifanc, ac mae gennym ni lyfrau darllen di-ri y gallech chi eu darllen gyda’ch plant neu eich wyrion/wyresau! Mae mwy o fanylion amdanon ni a’n cyhoeddiadau ar ein gwefan: www.aber.ac.uk/cy/caa/

What other books/resources do you have that are suitable for adults wishing to improve their Welsh?

We have a number of useful publications for individuals keen to improve their Welsh – among them, two volumes by Non ap Emlyn, i.e. Chwiliadur Iaith (Language Enquirer), an A4 book that explains grammatical points giving compact and clear examples of patterns; and Golwg ar Iaith (Language Overview) – an A5 book with an emphasis on improving Welsh grammar, containing exercises and answers, practical help and ideas on where to get more information.

Of course, the books for children are also an excellent starting point for learning Welsh if you have a young family, and we have countless books that you can read with your children or grandchildren! There are more details about us and our publications on our website www.aber.ac.uk/en/caa/

Gomer logo

gomer.co.uk

Cyfweliad â Sam Brown, Swyddog Marchnata Digidol (Digital Marketing Officer)

Gomer yw'r wasg hynaf yng Nghymru. Beth yw'r stori am sut y cafodd ei chreu?

Sefydlwyd Gwasg Gomer yn ôl ym 1892 fel gwasg argraffu yn Llandysul gan John David Lewis. Roedd wedi cael ei ysbrydoli gan lwyddiant siop ei dad wrth dyfu fyny yn y dref. Argraffwyd y llyfr cyntaf gan y cwmni yn 1894, a hynny oedd Hanes Plwyf Llandysul. Ar ôl i John David Lewis farw, trosglwyddwyd y cwmni i’w feibion a dyma dueddiad sydd wedi goroesi i’r dyddiau hyn. Mae’r cwmni bellach yn cael ei reoli gan bedwaredd cenhedlaeth y teulu Lewis. Hyd at 1945, roedd Gwasg Gomer yn gwmni argraffu yn unig, ond newidiodd pethau pan brynwyd Gwasg Aberystwyth yn ystod y flwyddyn honno, ac mae ochr gyhoeddi’r busnes yn dal i fynd o nerth i nerth hyd heddiw.

Mae argraffdy Gwasg Gomer dal yn Llandysul; ond yn 2004, symudodd y busnes o’i gartref ers 112 o flynyddoedd i safle newydd pwrpasol a adeiladwyd ar gyrion y dref er mwyn parhau i ehangu a datblygu. Mae gan ochr cyhoeddi’r cwmni gartref newydd mewn swyddfa yng Nghaerfyrddin.

Gomer is the oldest press in Wales. What's the story about how it was created?

Gomer Press was founded in 1892 as a printing house in Llandysul by John David Lewis. He was inspired by the success of his father's shop while he grew up in the town. The company printed its first book in 1894, that was the History of Llandysul Parish. After John David Lewis died, the company transferred to his sons and this is a trend that has survived to the present day. The company is now run by the fourth generation of the Lewis family. Until 1945 Gomer Press was a printing company only, but things changed when they bought Aberystwyth Press in that year, and the publishing side of the business is still going from strength to strength today.

The publishing house Gomer Press is still in Llandysul, but in 2004 the business moved from its home of 112 years to a new purpose-built site on the outskirts of the town in order to continue to expand and develop. The publishing side of the company has a new home at an office in Carmarthen.

Mae Gomer yn cyhoeddi dros 36 o lyfrau bob blwyddyn. Sut dych chi'n dewis beth i argraffu?

Mae Gomer yn cyhoeddi o leiaf 12 o lyfrau Saesneg a 24 o lyfrau Cymraeg bob blwyddyn. Mae gennym ni dîm o bedwar golygydd sydd yn derbyn llyfrau dichonol trwy’r amser. Mae’n rhaid iddynt benderfynu pa lyfrau yr ydym am eu cyhoeddi neu beidio ac wedyn mae’r syniad yn mynd o flaen y pennaeth cyhoeddi sydd yn dechrau’r prosiect.

Gomer publishes over 36 books each year. How do you choose what to print?

Gomer prints are least 12 English books and 24 Welsh books each year. We have a team of four editors who receive potential books all the time. We have to decide which books we want to publish or not and then the idea goes in front of the head of publishing who starts the project.

Yn ychwanegol i gomisiynu a golygu llyfrau, mae gwasg argraffu gyda chi - ac mae'n newydd sbon. Pa fath o bethau ydych chi'n gallu eu creu nawr?

Mae Gwasg Gomer yn arbenigwyr argraffu a rhwymo llyfrau. Gallwn ni greu llyfrau lliw-llawn, dau liw a mono gyda chloriau caled a meddal ynghyd â lamineiddio a blocio ffoil i gyd oddi ar yr un safle. Mae ein gwasg newydd yn gallu sychu’r inc yn gyflymach sydd yn ein galluogi i argraffu mwy o lyfrau. Rydym yn derbyn jobiau argraffu o sawl cwsmer allanol ac rydym yn falch iawn o safon y gwaith yr ydym yn ei greu.

In addition to commissioning and editing books you have a physical printing press- and it's brand new. What sort of things can you create now?

Gomer Press are specialists in printing and binding books. We can create full-colour books, two colour and mono, with hard and soft covers along with laminating and foil stamping all on the same site. Our new press can ensure the ink dries quickly and that allows us to print more books. We receive printing jobs from several external customers and we are very pleased with the standard of work that we create.

Y Lolfa

ylolfa.com
Y Silff Lyfrau / The Welsh Bookshelf:
ylolfa.wordpress.com

Cyfweliad â Gwenllian Jones, Pennaeth Marchnata (Head of Marketing)

Mae'r Lolfa yn bodoli am dipyn bach mwy na 50 o flynyddoedd nawr. Beth yw'r stori am sut y cafodd ei chreu? Beth sydd yn gwneud y Lolfa yn unigryw?

Sefydlwyd Y Lolfa yng nghanol y chwedegau, mewn cyfnod cyffrous pan oedd cenhedlaeth o Gymry ifainc yn credu mewn chwyldro ac mewn ymestyn yr iaith i bob ffrwd o fywyd. Pethau go ddiflas oedd llyfrau Cymraeg ar y pryd ac roedd yn rhan o weledigaeth Y Lolfa i greu math newydd o gyhoeddi bywiog a heriol — yn gardiau doniol a phosteri pop yn ogystal â llyfrau.

Yn raddol ehangodd y cwmni mewn maint ac mewn cynnyrch gan arloesi â chyfresi poblogaidd fel Y Llewod, Rwdlan a Chyfres y Beirdd Answyddogol. Dechreuodd hefyd gyhoeddi llyfrau Saesneg i ddysgwyr ac ymwelwyr. Ond blaenoriaeth y cwmni, fel heddiw, oedd sbarduno creadigrwydd Cymreig a Chymraeg.

Mae’r Lolfa, hefyd, wastad wedi cofleidio technoleg newydd. Yn y chwedegau, fe fanteisiodd ar y rhyddid creadigol a gynigai’r dull ffoto-litho o argraffu. Yn y nawdegau, fe groesawodd y chwyldro digidol: hi oedd y wasg gyntaf yng Nghymru i gael ei gwefan ei hun.

Porwch drwy’r wefan hon i weld yr amrywiaeth mawr o lyfrau sy’n llifo o’r peiriannau heddiw. Fel y gwelwch, yr un yw’r weledigaeth o greu deunydd bywiog a gwreiddiol fydd yn herio’r Gymru gorfforaethol sydd ohoni ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer gwlad a fydd yn feddyliol a gwleidyddol rydd.

Yr hyn sydd yn gwneud Y Lolfa yn arbennig yw'r ffaith ein bod ni'n cyhoeddi ystod eang o lyfrau, dros 70 mewn blwyddyn: Cymraeg, Saesneg, Ffuglen, Ffeithiol ac i blant. Rydyn ni'n ceisio sicrhau bod yna lyfrau Cymraeg am y pynciau sydd yn cael eu trafod yn y byd ac yn argraffu llyfrau sydd yn fudd i Gymru a'r Gymraeg fel Blodau Cymru gan Goronwy Wynne. Yn ogystal, mae gennym bolisi o beidio â chyhoeddi cyfieithiadau o lyfrau plant. Mae'n holl llyfrau i blant - Y Llewod, Gwlad y Rwla, Alun yr Arth, a Na, Nel! i enwi ond nifer fechan - yn rhai gwreiddiol Cymraeg a Chymreig - mae hyn yn bwysig iawn i ni fel gwasg.

Meddai Garmon Gruffudd, Rheolwr Gyfarwyddwr y wasg: "Y prif reswm dros ein llwyddiant dros yr hanner canrif yw ansawdd ein staff - eu profiad a'u sgiliau a'u brwdfrydedd ar yr ochr gyhoeddi ac argraffu – ac mae'r ddwy ochr o waith y wasg wastad wedi asio'n dda iawn".

O ran cyhoeddi llyfrau oedolion, y nod yw i gyhoeddi llyfrau sydd yn annog meddwl annibynnol a Chymreig: "Yr un hefyd yw nod y wasg heddiw ag o'r blaen. Mae hwn hefyd yn gyfnod o gyffro a newid mae'r angen yn fwy nag erioed i annog agweddau meddwl annibynnol, creadigol, Cymreig" ychwanegodd Robat.

Y Lolfa has been in existence for a little over 50 years now. What's the story about how it was created? What makes Y Lolfa unique?

Y Lolfa was established in the mid-sixties, an exciting period of fun and protest when a young Welsh generation believed in the power of revolution and wanted to extend the language to every part of life. Welsh books were, at the time, fairly dull and it was an integral part of Y Lolfa’s vision to create a new kind of publishing that would be lively and challenging – from cards and posters to books.

The company evolved gradually, producing an ever-widening range of popular books in both Welsh and English – including a range of books for learners. The company acted as unofficial printers to the new, activist Welsh Language Society, while also producing its own irreverent brand of popular and political material, including the satirical magazine Lol (meaning 'fun' or 'nonsense'), from which the company's name was derived. But the company’s priority, as it remains today, was to inspire Welsh creativity.

Y Lolfa has always embraced new technologies. In the sixties it revelled the artistic freedom offered by photo-litho and in the nineties welcomed the digital revolution and was the first Welsh publishing company to have a website. Y Lolfa now has five-colour and perfector presses with half its turnover coming from commercial print work.

Browse our website to see the great range of books that flow from our printers today. In a world dominated by large corporations and bureaucracies, Y Lolfa believes that 'small is beautiful' in publishing as in life. It was Andre Gide who said, "I like small numbers. I like small nations. The world will be saved by the few."

Y Lolfa publishes a wide variety of books, over 70 in a year: Welsh, English, Fiction, Factual and children's books. We try and ensure that there are Welsh books that cover the topics covered in the wider world and publish books that benefit Wales and the Welsh language, such as Blodau Cymru by Goronwy Wynne. We also have a policy of not publishing translations of children's books. All of our children's books - Y Llewod, Gwlad y Rwla, Alun yr Arth and Na, Nel! to name but a few - are original Welsh titles - this is very important to us as a publisher. In regards to publishing books for adults, the aim is to publish books which encourage independent and Welsh thought.

Robat Gruffudd, the company’s founder, said: “The same aim is true today as it was at the start. This is again a period of excitement and change and there is an ever-growing need to encourage independent, creative thought within Wales”.

Garmon Gruffudd, the publisher's managing director says: "The main reason for our success over the past fifty years is the quality of our staff - their experience, skills and enthusiasm on the publishing side as well as the printing side - both sides of the company are cemented together very well”.

Mae rhai o lyfrau Y Lolfa i ddysgwyr wedi gwerthu dros 100,000 o gopiau, ee llyfrau Heini Gruffudd. Beth sydd yn denu dysgwyr i lyfrau Y Lolfa?

Mae nifer o lyfrau'r Lolfa sydd wedi'u hanelu at ddysgwyr wedi bod yn boblogaidd tu hwnt. Mae nifer o'r rhai yma wedi'u hysgrifennu gan Heini Gruffudd. Mae gwerthiant Welsh is Fun! (gan Heini Gruffudd a'r darluniau gan Elwyn Ioan) yn hynod, cyhoeddwyd yn 1971 ac erbyn hyn mae wedi'i ail argraffu degau o weithiau. Yn ogystal â llyfrau gwersi, mae'r Lolfa yn cyhoeddi nifer o lyfrau sydd yn helpu dysgwr bob dydd - The Welsh Learner's Dictionary, Welsh for Parents a Welsh in your Pocket.

Dyma pam rydym mor hapus i fod yn rhan o brosiect Amdani, mae'r cyfrolau sydd yn cael eu cyhoeddi’n wych ac yn siŵr o fod o fudd enfawr i ddysgwyr. Fe brofwyd bod darllen am bleser am yr iaith yr ydych yn ei ddysgu yo gymorth mawr i ddysgu'r iaith yn rhugl.

Some of Y Lolfa's books for learners have sold over 100,000 copies, for example Heini Grufudd's. What attracts learners to Y Lolfa's books?

A number of Y Lolfa's books aimed at Welsh learners have been extremely popular. A large number of these have been written by Heini Gruffudd. Sales of Welsh is Fun! (by Heini Gruffudd and cartoons by Elwyn Ioan) are brilliant; it was published in 1971 and by today it has been reprinted tens of times. Y Lolfa has also published a large selection of books aimed to help Welsh learners on a daily basis - The Welsh Learner's Dictionary, Welsh for Parents and Welsh in your Pocket.

This is why we are very happy to be part of the Amdani project; the books being published are brilliant and are sure to be of great help to learners. It has been proven that reading for pleasure in the language that you're learning is a big help towards being fluent in the language.

Mae'r Lolfa yn gwneud llawer i farchnata eu llyfrau. Beth sydd yn bwysig i helpu pobl i ddarganfod a datblygu diddordeb mewn darllen eich llyfrau?

Mae annog pobl a phlant i ddarllen yn bwysig iawn i'r Lolfa. Ein bywoliaeth ni yw llyfrau wrth gwrs, ond hefyd rydym i gyd yn mwynhau darllen ac am rannu'r profiad a mwynhad yma gydag eraill. Mae'r dewis o lyfrau sydd ar gael mor eang, dylai fod rhywbeth at ddant pawb! Mae’n bwysig meithrin sgwrs am lyfrau, ac mae’n grêt pan mae ‘na ddisgwyl brwdfrydig yn sôn am un o’n llyfrau - mae’n golygu bod Y Lolfa yn gwneud rhywbeth yn iawn!

Mae marchnata llyfrau wedi dod yn fwyfwy pwysig. Mae’r byd modern yn llawn o luniau a geiriau a sŵn pobl a chwmniau yn ceisio gwerthu. Mae’n bwysig torri drwy hyn i gyd a thynnu sylw at ein nwyddau - y llyfrau newydd a’n catalog o lyfrau o’r gorffennol.

Mae nifer o raglenni teledu a radio’n adolygu llyfrau, ynghyd â chylchgronau a phapurau newydd - mae nifer o gylchgronau newydd Cymraeg wedi eu sefydlu yng Nghymru’n ddiweddar ac mae hyn yn galonnog iawn ac yn arwydd o fywiogrwydd. Ffordd fwy uniongyrchol o farchnata erbyn hyn ydy’r cyfryngau cymdeithasol - mae Trydar, Facebook ac Instagram yn ffordd dda o dargedu’r bobl sydd wedi dangos diddordeb yn Y Lolfa, a’u diweddaru gyda newyddion a gwybodaeth am lyfrau newydd.

Y Lolfa does a lot to market their books. What is important to help people discover and develop an interest in reading your books?

Encouraging people and children to read is very important to Y Lolfa. Books are our livelihood of course, but also we all enjoy reading and want to share this experience and enjoyment with others. The choice of books available is wide, there should be something to suit everyone! It's important to encourage discussion about books, and it's great when there's excitement towards the publication of a book, it shows that Y Lolfa is doing something right!

Marketing books has become more important over the years. The modern world is full of pictures, words and noise from people and companies trying to sell. It's important to cut through this and get attention for the books - both new and our catalogue of books from the past.

A number of television and radio programmes review books, as well as magazines and newspapers - there have been a few new Welsh magazines established recently, which is very encouraging and a sign of vibrancy and activeness. A more direct way of marketing by now is social media - Twitter, Facebook and Instagram are good ways of targeting the people who have shown an interest in Y Lolfa, and to update them with news and information regarding our new books.

Y diweddaraf oddi wrth Cyfres Amdani