Lynda Newcombe Hanes y Wlpan

WLPAN: O Israel i Gymru: Hanes cyrsiau Cymraeg i Oedolion / From Israel to Wales: The history of Welsh for Adults courses

Mae miloedd o ddysgwyr yn mynychu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ledled y wlad, ond nid pob un ohonom ni sy'n gwybod sut y cychwynnodd y dosbarthau, eu fformat, a'u philosophi. Yn rhyfeddol, yn Israel mae gwreiddiau'r cyrsiau, yn y dulliau wedi'u defnyddio i adfywio'r Hebraeg. Arbenigydd mewn dwyieitheg yw Lynda Pritchard Newcombe, a ysgrifennodd ei hymdriniaeth ar gyfer y radd o Feistr mewn Addysg ar y pwnc o WLPAN. Yma, mae'n esbonio rhagor...

Thousands of learners attend Welsh for Adults courses throughout the country, but not all of us know how the classes, their format and philosophy began. Surprisingly, the courses are rooted in Israel and the methods used to revitalise Hebrew. Lynda Pritchard Newcombe, an expert in bilingualism whose Masters of Education dissertation topic was WLPAN, explains more...

Dyled Cymru i Israel
Un dydd pan oedd Deborah ac Eliezer yn cerdded i lawr un o strydoedd cul Caersalem yn siarad Hebraeg stopiodd dyn nhw. Wrth dynnu ar lewys y newyddiadurwr ifanc, gofynnodd e yn Iddeweg:
Wales’ Debt to Israel
One day when Deborah and Eliezer were walking down one of Jerusalem's narrow streets, talking in Hebrew, a man stopped them. Tugging at the young journalist's sleeve, he asked in Yiddish:
“Esgusodwch fi, syr. Beth yw’r iaith mae’r ddau ohonoch chi’n siarad?”
“Hebraeg,” atebodd Eliezer.
“Hebraeg! Ond dydy pobl ddim yn siarad Hebraeg. Iaith farw yw hi.”
“Dych chi’n anghywir, fy nghyfaill i,” atebodd Eliezer yn frwd. “Rwy’n fyw. Mae fy ngwraig yn fyw. Rydym ni’n siarad Hebraeg. Felly, mae’r iaith Hebraeg yn fyw.”
"Excuse me, sir. That language you two talk. What is it?"
"Hebrew", Eliezer replied.
"Hebrew! But people don't speak Hebrew. It's a dead language!"
"You are wrong, my friend," Eliezer replied with fervour. "I am alive. My wife is alive. We speak Hebrew. Therefore, Hebrew is alive."
Yn ôl Ethnologue, mae’r iaith Hebraeg yn cael ei siarad gan tua 4 miliwn o bobl yn Israel ac iaith bywyd cyhoeddus yw hi bellach. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys siaradwyr iaith gyntaf yn ogystal â rhai sy wedi dysgu Hebraeg fel ail iaith i raddau gwahanol o hyfedredd. Roedd y sefyllfa yn hollol wahanol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, pan roedd bron pawb yn derbyn bod Hebraeg wedi marw fel iaith lafar dros 1,500 o flynyddoedd yn ôl. Gweledigaeth a dyfalbarhad un dyn cychwynnodd y symudiad ac achosodd y trawsffurfiad hwn Eliezer Ben-Yehuda (1858 – 1922), Iddew Pwyleg o Lithwania a ymgartrefodd yng Nghaersalem yn 1881.According to Ethnologue, Hebrew is spoken by about 5 million people in Israel and is now the language of public life. This figure includes native language speakers and those for whom it is a second language learned to varying degrees of proficiency. The situation was completely different at the end of the nineteenth century when it was almost universally accepted that the Hebrew tongue had died as a spoken language over 1,500 years previously. The vision and determination of one man began the movement which effected this transformation- Eliezer Ben-Yehuda (1858-1922), a Polish Jew from Lithuania who settled in Jerusalem in 1881.
Ym 1994 rhoddodd Chris Rees, a ddaeth yn adnabyddus fel Tad yr WLPAN, deyrnged i ddyfalbarhad Ben-Yehuda o ran creu Hebraeg cyfoes ac i’w arwyddocâd i Gymru.In 1994 Chris Rees, who became known as Tad yr WLPAN, paid tribute to Ben-Yehuda's perseverance in creating contemporary Hebrew and his significance to Wales:
O edrych ar hanes yr Hebraeg yn yr ugeinfed ganrif mae dyn yn sylweddoli nad yw geiriau fel 'byw' a 'marw' i'w deall yn llythrennol pan maen nhw'n cyfeirio at ieithoedd. Metafforau ydyn nhw a metafforau digon arwynebol. Nid rhywbeth fel coeden neu aderyn yw iaith. Does dim tranc anochel yn ei haros. Nid iaith farw felly oedd yr Hebraeg oherwydd nid marw y mae ieithoedd. Camp Ben-Yehuda oedd gweld hyn.
"Heddiw rydym yn siarad ieithoedd eraill," meddai. "Fory byddwn yn siarad Hebraeg."
A glance at the history of Hebrew in the twentieth century makes one realise that the words 'living' and 'dead' are not to be taken literally when referring to languages. They are metaphors and indeed quite superficial metaphors. A language is not like a tree or a bird awaiting its inevitable demise. Hebrew was therefore not a dead language, as languages do not die. Recognising this fact was Ben-Yehuda's great feat.
"Today we speak other languages" he said. "Tomorrow we will speak Hebrew."
Ond nid dim ond gweld a wnaeth. Gweithredodd. Profwyd fod modd dod ag unrhyw iaith o'r cysgodion i ganol prif lifeiriant bywyd cyfoes a'i defnyddio'n gyfrwng popeth. Rhaid dysgu peidio â dibynnu ar ieithoedd eraill, dyna'r cyfan. Mater o benderfyniad ac ewyllys yw. Dyna arwyddocâd Ben-Yehuda i Gymru.However, he did not stop at recognition. He took action. He showed that it is possible to rescue any language out of obscurity into the centre of the main stream of contemporary life and use it for everything. It is simply a question of learning not to depend on other languages, that's all. Willpower and resolution are all that are required. That's the significance of Ben-Yehuda for Wales.
Mae cysylltiad petrus rhwng adfywiad yr iaith Hebraeg a Chymru yn bodoli. Pan roedd Ben-Yehuda’n fyfyriwr yn Dűnaburg cafodd Daniel Deronda, nofel olaf George Eliot ei chyhoeddi. Mae’r nofel yn disgrifio Iddew yn ailddarganfod ei wreiddiau, ac yn dysgu iaith ei wlad; daeth y stori hon yn ysbrydoliaeth i Ben-Yehuda pan roedd e’n ifanc. Roedd Lewis Valentine wastad yn awyddus i ddangos y cysylltiad rhwng Ben-Yehuda a Chymru. Sylwodd e ym 1952:A tentative link existed between the revival of the Hebrew language and Wales. When Ben-Yehuda was a student in Dünaburg, George Eliot's last novel, Daniel Deronda, was published. The novel describes a Jew who rediscovers his roots and learns the language of his country; the story became young Ben-Yehuda's inspiration. Lewis Valentine, always eager to show the connection between Ben-Yehuda and Wales commented in 1952:
"Y mae'n ddiddorol cofio mai'r llyfr hwn a ysgrifennodd George Eliot, oedd a'i gwreiddiau yn Llaneurgain, Sir Fflint, a roes nerth i Ben-Iehwda i ymlafnio ac ymlafurio i edfryd yr Hebraeg i Balestina, a llwyddo! Pwy a ddyry y Gymraeg drachefn ar dafod y plant yng Nghwm Rhondda!""It's interesting to note that this book written by George Eliot whose roots were in Llaneurgain, Flintshire, strengthened Ben-Yehuda to strive and toil to restore Hebrew to Palestine and succeed! Who will put Welsh back on to the children's tongues in the Rhondda Valley?"
Ar ôl i Ben-Yehuda a’i wraig ymsefydlu yn y wlad sydd Israel bellach cynyddodd y nifer o siaradwyr Hebraeg yn hynod o gyflym. Ar ôl iddo fe ymchwilio ynganiad Hebraeg yn y Dwyrain Canol daeth Beh-Yehuda o hyd i uchelgais ei fywyd sef adfywio Hebraeg ar lafar a chyflwyno ei defnydd i fywyd bob dydd. Nid dim ond yn ei chyd-destunau diwylliannol a chrefyddol yn unig byddai’n cael ei defnyddio o hyn ymlaen.The increase in Hebrew speakers in what is now Israel was remarkably rapid after Ben-Yehuda and his wife settled there in 1881. After researching Hebrew pronunciation in the Middle East, Ben-Yehuda made it his life's ambition to revive spoken Hebrew and introduce its use into daily life, no longer to be used merely in its traditional cultural and religious contexts.
Ei gartref ei hun oedd targed cyntaf ei ymdrech. Ar ôl i enedigaeth eu plentyn cyntaf ym 1882 penderfynon nhw byddan nhw’n siarad dim ond yr iaith Hebraeg gartref. Felly daeth ei fab y plentyn cyntaf ers dros 1500 o flynyddoedd i siarad Hebraeg fel mamiaith. Er gwaethaf amheuaeth a gwatwar o sawl cwr, gwnaeth teuluoedd eraill yr un peth ac o ganlyniad rhai o’r ysgolion cynradd addysgodd trwy gyfrwng yr Hebraeg ddiwedd y 1880au. Ym 1921 cafodd Hebraeg ei chydnabod fel un o’r tair iaith swyddogol ym Mhalestina, yn ogystal â Saesneg ac Arabeg. Erbyn 1925 roedd Prifysgol Caersalem yn defnyddio Hebraeg fel cyfrwng addysgu a sefydlwyd academi i greu termau yno. Roedd Ben-Yehuda yn gweithio ar y geiriadur Hebraeg modern cyntaf ac roedd Shalom Abrahamovitch yn ysgrifennu barddoniaeth gyfoes yn yr Hebraeg. Erbyn 1950 roedd 90% o addysg Israel drwy gyfrwng yr Hebraeg, cafodd papurau dyddiol eu sefydlu yn yr Hebraeg a chafodd llawer o lyfrau modern eu cyfieithu i’r Hebraeg.His own home was the first target in his campaign. Following the birth of their first child in 1882, they decided that the Hebrew language alone would be spoken in the home. Thus his son became the first child for over 1,500 years with Hebrew as his mother tongue. Despite scepticism and derision from many quarters, other families followed suit so that in the late 1880s some primary schools taught through the medium of Hebrew. By 1906 some secondary schools emerged. In 1921 Hebrew was recognised as one of three official languages in Palestine alongside English and Arabic. By 1925, Hebrew was being used as the teaching medium at the University of Jerusalem, where an academy was established to create modern terms. Ben-Yehuda was working on the first modern Hebrew dictionary and Shalom Abrahamovitch was writing contemporary poetry in Hebrew. By 1950 90% of Israel's education was in Hebrew, daily newspapers were founded in Hebrew and many modern books were translated into the Hebrew tongue.
Cynhaliwyd cyfrifiad ar ôl i Israel gael ei hailffurfio’n wladwriaeth ym 1948. Dangosodd fod 80% o’r boblogaeth yn gallu siarad Hebraeg ac 54% oedd yn ei defnyddio hi yn eu bywydau bob dydd. O gofio bod yn ystod y 1880au dim ond un teulu oedd yn siarad yr Hebraeg roedd hyn yn ddatblygiad syfrdanol.A census taken just after Israel was reconstituted as a state in 1948 revealed that 80% of the population could speak Hebrew and 54% used it in everyday life. Considering that in the 1880s only one family spoke Hebrew this was astounding progress.
Eliezar Ben Yehuda ULPAN
Eliezar Ben-Yehuda
Pan ddechreuodd Ben-Yehuda hybu’r Hebraeg yn Israel yn yr 1880au roedd y dull uniongyrchol yn dechrau ennill credadwyaeth ym myd dysgu ieithoedd. Datblygodd y dull uniongyrchol fel ymateb i’r fethodoleg draddodiadol wedi’i seilio ar ramadeg a chyfieithu. Roedd hon yn parchu astudiaeth fanwl rheolau gramadegol, yn pwysleisio cyfieithu brawddegau’n gywir, ac roedd wastad yn defnyddio mamiaith y myfyriwr fel cyfrwng dysgu. Ymosododd arloeswr cynnar y dull uniongyrchol, o’r enw Viëtor, ar ddulliau traddodiadol gan nad oedden nhw’n werthfawr na boddhaol i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr. Der Sprachunterricht muß umkehren (rhaid i ddysgu iaith newid ei methodoleg) oedd ei gri e. Roedd e’n credu y dylai dysgu ieithoedd fod yn hwyl ac y dylai ddod â synnwyr o lawenydd a chyflawniad yn ei sgil.When Ben-Yehuda began promoting Hebrew in Israel in the 1880s the direct method was beginning to gain credibility in language teaching. Direct methodology evolved as a reaction to the traditional grammar-translation methodology which revered detailed study of grammar rules, emphasised accurate translation of sentences and always maintained the student's native language as a medium of instruction. An early direct methodology pioneer, Viëtor, attacked traditional methods as neither rewarding nor satisfying for most students. Der Sprachunterricht muß umkehren (language instruction must change its ways) was his cry. He believed language learning should be fun and bring some sense of joy and achievement with it.
Ymosodwyd ar y dull traddodiadol hefyd oherwydd ei fod yn gorfodi myfyrwyr i feddwl bod gair neilltuol mewn un iaith allai olygu’r un peth yn union â gair mewn iaith arall. Yn aml, does dim gair sy’n hollol gyfartal, ac mae’r dull hwn yn achosi i’r myfyriwr dybio fod geiriau yn y famiaith yn cyfateb yn uniongyrchol i eiriau yn yr ail iaith. Roedd cefnogwyr y dull uniongyrchol yn pwysleisio’r canlynol: ynganiad cywir, blaenoriaeth yr iaith lafar, dysgu gramadeg yn anwythol, osgoi cyfieithu lle byddai’n bosibl, a defnyddio’r iaith darged yn y sefyllfa ddysgu. Rydych chi’n gallu dod o hyd i fwy o fanylion ynglŷn â’r dull uniongyrchol yn Krashen, Pennod 5 (1982); Richardson, Penodau 2 a 3 (1983), a Richards a Rodgers, Pennod 1 (1986).The traditional method also came under attack for constraining students to think in terms of a word in one language meaning the same as a word in another language. Frequently there is not an exact equivalent and this method leads the student to the implicit assumption that words in the mother tongue have an exact equivalent in the second language. The direct methodologists emphasised correct pronunciation, the primacy of the spoken word, the learning of grammar inductively, avoidance of translation where possible and use of the target language in the learning situation. More details of the history and development of the direct method are found in Krashen, Chapter 5 (1982); Richardson, Chapters 2 & 3 (1983), and Richards and Rodgers, Chapter 1 (1986).
ULPANIM yn Israel
Ar ôl i 1948 aeth dros un filiwn o Iddewon yn ôl i famwlad eu hynafiaid o lawer o wledydd gwahanol ac ro’n nhw’n siarad llawer o ieithoedd gwahanol. Weithiau, roedd rhaid i fyfyrwyr dderbyn cymorth arbenigol i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle ac roedd rhaid darparu cyrsiau neilltuol i gyflawni anghenion mewnfudwyr sy’n anllythrennog, neu sy wedi derbyn dim ond yr addysg fwyaf sylfaenol lle roedden nhw’n siarad llawer o ieithoedd. Er mwyn sgwrsio a masnachu roedd rhaid iddyn nhw ddatblygu lingua franca a’r iaith Hebraeg wedi’i dysgu’n ddwys drwy’r dull ULPAN oedd y ffordd ddelfrydol o ddatrys y broblem. Ym 1949 cafodd y cwrs ULPAN cyntaf ei sefydlu yng Nghaersalem. Gair Aramaeg yw Ulpana. Mae’n gallu golygu ‘dysgu,’ ‘hyfforddi,’ neu ‘stiwdio’. Cafodd y gair ei newid i ULPAN fel y byddai’n swnio’n fwy tebyg i air Hebraeg. Lledodd y system ULPAN, wedi’i datblygu o’r dulliau dysgu roedd Ben-Yehuda wedi’u defnyddio yn y 1880au, ledled y wlad yn rhan o gynllun dychweliad yr Iddewon i’w mamwlad. Mae’r dull yn uniongyrchol, sef dysgu’r Hebraeg drwy’r Hebraeg, gyda dim ond ychydig bach o esbonio o ran gramadeg. O bryd i’w gilydd, byddai ambell air newydd yn cael ei gyfieithu i Saesneg neu i iaith arall y mae’r athro a’r disgyblion yn gyfarwydd â hi. Maen nhw’n gwneud defnydd helaeth o ymarferion, gemau, a dramâu.
ULPANIM in Israel
After 1948 over one million Jews returned to their ancestral homeland from many different lands, speaking numerous languages. Sometimes, it was necessary for the immigrants to receive specialist support in using the language in the workplace, and special courses had to be provided to answer the needs of those who were illiterate, or who had received no more than the most basic instruction where they were speaking many languages. In order to converse and conduct business a lingua franca was required and the Hebrew language taught intensively through the ULPAN method proved the ideal solution. In 1949 the first ULPAN course was established in Jerusalem. Ulpana is an Aramaic word which could be translated teaching, training or studio. The word was changed to ULPAN to make it sound more Hebrew. The ULPAN system, developed from the teaching methods Ben-Yehuda used in the 1880s, spread throughout the land as part of the repatriation scheme for the Jews. The method used is direct, Hebrew through Hebrew, with very little grammatical explanation. Occasionally isolated new words are translated into English or another language known to both teacher and pupils. Extensive use is made of drills, games and dramas.
Wrth i’r nifer o gyrsiau ULPAN gynyddu, cafodd adnoddau eu paratoi ar gyfer dysgwyr, sef nofelau wedi’u symleiddio, yn ogystal â chylchgronau wedi’u hysgrifennu’n syml, ynglŷn â phapur newydd dyddiol arbennig ar gyfer dysgwyr a rhaglenni radio. Er bod nifer o ULPANIM yn digwydd, byddai rhaglen nodweddiadol yn dysgu 1140 o eiriau dros 3 i 5 mis. Roedd myfyrwyr yn dysgu geirfa bob dydd am bynciau fel siopa a chludiant, a thermau gwleidyddol er mwyn gallu darllen papurau newydd, a gwrando ar ddarllediadau radio, mewn Hebraeg syml.As ULPAN schemes increased, resources were prepared specifically for learners: simplified novels as well as simply written magazines together with a special daily newspaper for learners and radio programmes. Whilst several ULPANIM were in operation a typical programme taught 1140 words over 3 to 5 months. Students learned words for everyday talk in domains such as shopping and transportation, and political terms for reading newspapers in easy Hebrew and listening to easy Hebrew radio broadcasts.
Roedd y cwrs yn disgwyl y byddai’r myfyrwyr yn defnyddio’r iaith darged i gyfathrebu cyn gynted â phosibl. Yn y cyfnodau cynnar o ddysgu, roedd y cwrs yn pwysleisio cyfathrebu yn hytrach na chywirdeb. Byddai’r dysgwyr yn perfformio caneuon a sioeau ar adegau, a bydden nhw’n mynd ar deithiau i leoedd diddorol, i wneud cysylltiadau rhwng profiad y myfyriwr unigol ac ideoleg a hunaniaeth trigolion Israel.Students were expected to use the target language to communicate as soon as possible. In the early stages of learning communication was stressed rather than accuracy. Songs and shows by learners were performed occasionally and trips arranged to places of interest, to forge links between the individual student's experience and Israeli ideology and identity.

Roedd y cwrs yn disgwyl y byddai’r myfyrwyr yn defnyddio’r iaith darged i gyfathrebu cyn gynted â phosibl. Yn y cyfnodau cynnar o ddysgu, roedd y cwrs yn pwysleisio cyfathrebu yn hytrach na chywirdeb.

Roedd cyrsiau ULPAN yn amrywio o ran pa mor hir a dwys oedden nhw, ond roedd y rhai cyntaf yn parhau am 6 mis, a chawson nhw eu cynnal am 6 awr y dydd. Rhai eraill wedi’u trefnu ar y kibbutz fyddai’n parhau am hanner diwrnod gwaith, tra byddai’r cyfranogion yn gweithio ar y tir am hanner arall y dydd. Roedd pob cwrs yn pwysleisio cyfathrebu ar lafar ,ac roedd dynwared yn chwarae rhan bwysig yn y gwersi, yn enwedig yn y cyfnodau cynnar. Serch hynny roedd y tiwtor yn eitha rhydd i ddefnyddio dulliau gwahanol yn yr ystafell ddosbarth, a chafodd e’i anogi i ddyfeisio gemau, chwarae rôl, a sgyrsiau. Y syniad y tu ôl i’r system yw hyn: cysylltiad cyson â’r iaith dros gyfnod byr yw’r ffordd orau i ddysgwr feistroli iaith, yn hytrach na chysylltiad gwan dros gyfnod hir.ULPAN courses varied in duration and intensity but the first ones lasted 6 months and were held for 6 hours a day. Others held at the kibbutz would be held for half a working day while the other half would be used for working on the land. All stressed oral communication, mimicry playing a large part in the lessons, particularly in the early stages. Nevertheless the tutor was allowed a good deal of freedom in the classroom as regards methods used and encouraged to make use of games, role play and dialogues. The philosophy behind the system is that frequent contact with the language over a short period is the best way for a learner to master a language, rather than weak contact over a long period.
Mae gan ULPAN strwythur syml. Er bod dosbarthiadau’n cael eu dewis weithiau yn ôl gallu’r myfyrwyr, allwn ni ddim cymharu gwahaniaethau rhwng y dosbarthiadau ULPAN â’r rhai mewn ysgol draddodiadol. Tîm o athrawon a chyfarwyddwr sy’n dysgu’r dosbarthiadau, ac nad ydyn nhw’n arbenigo mewn unrhyw bwnc, felly mae’n bosibl cyfnewid pob un gyda’i gilydd. Does braidd dim gwasanaethau ategol, a does dim labordai arbenigol. The ULPAN has a simple structure. Though classes are sometimes divided according to students’ abilities, differences between the classes could not be compared with a traditional school. Classes are taught by a team of teachers and a director, who have no specialization of their own and are interchangeable. Hardly any ancillary services exist and there are no specialised laboratories.
Weithiau, rhaid i fyfyrwyr dderbyn cymorth arbenigol i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle a rhaid darparu cyrsiau neilltuol i gyflawni anghenion mewnfudwyr sy’n anllythrennog, neu sy wedi derbyn dim ond addysg sylfaenol iawn.Sometimes students need specialised help to use the language in the workplace and special courses are also required to meet the needs of immigrants who are illiterate or received only the most basic education.
Llawer mwy nag ysgol iaith yw ULPAN. Ymddangosodd slogan yn y dyddiau cynnar, “Nid Berlitz yw ULPAN”, hynny yw, nid dim ond ysgol iaith ydy ynddo’i hun. Mae cysylltiad annatod rhwng bod yn rhugl yn yr iaith ac ailgartrefu’r genedl Iddewig ym Mhalestina, a dadeni gwleidyddol Israel.ULPAN is far more than a language school. A slogan emerged in the early days, “ULPAN is not Berlitz”, i.e. not just a language school per se. Fluency in the language is inextricably entwined with the resettlement of the Jewish people in Palestine and the political rebirth of Israel.
Yn ystod ymweliad diweddar i Israel, roedd ein tywysydd, Olga Smoldyreva, yn sôn am fynychu cwrs ULPAN, ac yn esbonio dydy’r fethodoleg ULPAN ddim wedi newid lawer ers y dyddiau cynnar. Yn anaml mae technoleg fodern yn cael ei defnyddio, ac mae’n well gan y tiwtoriaid ddefnyddio’r dull ‘sialc a siarad’. Gan fod Hebraeg drwy Hebraeg yn cael ei phwysleisio mae’r myfyrwyr yn gwneud cynnydd yn eithaf cyflym. Fodd bynnag, roedd Olga yn pwysleisio bod rhaid i’r myfyrwyr ddefnyddio’r iaith tu allan i’r dosbarth cyn gynted ag y bydd yn bosibl wrth ddysgu i adeiladu hyder ac i ddod yn rhugl.On a recent visit to Israel our tour guide Olga Smoldyreva spoke of her attendance on an ULPAN course and explained that ULPAN methodology has changed little since the early days. Rarely is modern technology used, with ‘chalk and talk’ still the preferred method and the emphasis on Hebrew through Hebrew means that progress is made quite quickly. Olga stressed however that students need to use the language outside class as early as possible when learning to build confidence and gain fluency.
I’r rhai sy eisiau darllen mwy am yr ULPAN Hebraeg yn fwy manwl, byddai llyfr gan Theodore Schuchat yn ddewis da. Mae Schuchat yn rhoi braslun o’r fethodoleg ULPAN, gan bwysleisio ei dull dwys o ddysgu. Dyna’r nodwedd fwyaf arbennig am yr WLPAN. Mae e’n adrodd stori ddifyr am ei brofiad fel dysgwr Hebraeg ar gwrs ULPAN yn Israel ar ôl iddo fe ymddeol. Mae e’n disgrifio’r math o ULPANIM sydd ar gael, yn cynnwys ULPANIM Hebraeg byd-eang, ac mae’n rhoi rhestr o Brifysgolion Alltud sy’n dysgu Hebraeg modern.For those who would like to read about the Hebrew ULPAN in more detail, Theodore Schuchat would be a good choice. Schuchat outlines the ULPAN methodology, stressing that the most distinctive feature is its intensive approach to learning. He provides an entertaining account of his experiences as a learner of Hebrew on ULPAN in Israel after his retirement. He describes the type of ULPANIM available, including Hebrew ULPANIM world-wide and a list of Diaspora Universities that teach modern Hebrew.
Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys crynodeb o ramadeg Hebraeg, ac ychydig o eirfa sylfaenol. Mae e wedi ysgrifennu rhannau o’r llyfr mewn arddull anecdotaidd. Serch hynny, mae e wedi gwneud llawer iawn o ymchwil. Mae’r llyfr yn darparu gwybodaeth fanwl am ddylanwad Ben-Yehuda ar yr iaith Hebraeg; am fanylion ULPAN a damcaniaethau dysgu ail iaith; ac am fanylion ynghylch ULPANIM mewn ieithoedd heblaw Hebraeg dros y byd. Er bod llawer o raglenni dwys yn bodoli dim ond cyrsiau Cymraeg a Basg sy’n dwyn yr enw ULPANIM, a dweud y gwir. Mae’r tudalennau 386 – 389 yn disgrifio dylanwad ULPAN Hebraeg ar Gymru, ac yn cyfeirio at ymweliad yr awdur ag WLPANAU Cymraeg yng Nghaerdydd a Llanbedr Pont Steffan, ac at ei gysylltiad â Chris ReesThe book also includes a summary of Hebrew grammar and some basic vocabulary. Whilst sections of the book are written in an anecdotal style it is nevertheless very well-researched. It provides detailed accounts of Ben-Yehuda's influence on the Hebrew language; the origins of ULPAN and theories of second language learning. and details of ULPANIM in languages other than Hebrew around the world. Whilst many intensive programmes exist it appears that only Basque and Welsh courses are actually referred to as ULPANIM. Pages 386-389 describe the influence of the Hebrew ULPAN on Wales and refer to the author's visit to Welsh WLPANs in Cardiff and Lampeter and his contact with Chris Rees.
Yr WLPAN Cymraeg
Prin oedd nifer yr oedolion yn dysgu’r Gymraeg yn ffurfiol fel ail iaith tan hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Yn aml y rhai gyda thueddiad at faterion academaidd neu lenyddol oedd yn gwneud hyn – er enghraifft, yr awduron William Barnes, Gerald Manley Hopkins a J.R.R. Tolkien, a’r gwleidydd, Enoch Powell – ac yn gyffredinol roedden nhw’n ymddiddori mwy mewn darllen yr iaith nag yn ei siarad hi.
The Welsh WLPAN
Hardly any adults learned Welsh as a second language formally until the latter half of the twentieth century. Those who did so were often of an academic or literary bent – such as the writers William Barnes, Gerald Manley Hopkins and J.R.R. Tolkien and the politician, Enoch Powell – who were generally more interested in reading than speaking the language.
Daeth Phyllis Kinney, gwraig i Meredydd Evans (Merêd) y cerddor eiconig oedd yn frwdfrydig dros yr iaith Gymraeg, i Gymru o’r UD yn y 1940au. Pan gyrhaeddodd hi, anaml oedd dosbarthiadau Cymraeg i oedolion. Roedd llawer o bobl yn credu bod yr iaith mor anodd dylai pobl ei dysgu’n blentyn neu beidio â’i dysgu o gwbl. Erbyn iddi hi ddychwelyd yn y 1960au, roedd llawer o ddosbarthiadau Cymraeg i oedolion wedi’u sefydlu, ac roedd y nifer ohonyn nhw ar gynnydd. Mae Phyllis yn sôn am newid sylweddol ar ôl mynychu cwrs dwys dros bythefnos ym 1992:When Phyllis Kinney, wife of the iconic musician and language enthusiast Meredydd Evans (Merêd) arrived in Wales from the USA in the 1940s, classes for adult Welsh learners were very thin on the ground and it was widely held that Welsh was such a difficult language it had to be learnt in childhood or not at all. By the time she returned in the 1960s, many Welsh classes for adults had been set up and were on the increase. Phyllis speaks of a dramatic change after attending a two-week intensive course in 1992:
"Mae’n hollol gywir i mi ddweud: Es i mewn yn siaradwr Saesneg, a des i allan bythefnos yn ddiweddarach yn siarad Cymraeg. Ddim yn berffaith, petrus, a llawn camgymeriadau – ond Cymraeg."
Ar ôl hyn cyflawnodd hi yrfa nodedig mewn darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg.
"It is perfectly true to say that I went in an English speaker and came out two weeks later speaking Welsh. Imperfect, halting and full of mistakes – but Welsh."
A distinguished career in broadcasting through the medium of Welsh followed.
Yn draddodiadol, pan fyddai oedolion a phlant yn astudio Cymraeg fel ail iaith, bydden nhw’n dysgu iaith eithaf llenyddol. Doedd hon ddim yn debyg iawn i’r Gymraeg y byddai dysgwyr yn eu clywed ar lafar yn y gymuned. Dyna oedd y sefyllfa nes i Gymraeg Byw gael ei gyflwyno yn y 1960au. Doedd arholiadau cyhoeddus ddim wedi pwysleisio sgiliau llafar, ac yn aml byddai oedolion wedi ennill cymwysterau yn yr iaith ond ddim yn gallu siarad. Mae Cymraeg Byw yn ceisio diffinio’r prif nodweddion ar Gymraeg lafar safonol, hynny yw, ffurf yr iaith sy’n rhywle rhwng Cymraeg lenyddol draddodiadol ar y naill law, a’r tafodieithoedd rhanbarthol lleol ar y llaw arall.Traditionally Welsh as a second language taught to adults and children was of a literary nature, bearing little resemblance to the Welsh learners would hear spoken in the community, until the introduction of Cymraeg Byw in the 1960s. Public examinations had laid little emphasis on oral skills and it was common for adults to have gained qualifications in the language and yet be unable to speak it. Cymraeg Byw is an attempt to define the main features of standard spoken Welsh i.e. the form of the language which lies somewhere between conservative literary Welsh on the one hand and the local regional dialects on the other.
Felly pan gafodd ULPAN ei gyflwyno i Gymru yn y 1970au roedd e’n dilyn degawd o newid chwyldroadol yn y ffordd roedd Cymraeg yn cael ei dysgu i oedolion. Roedd newidiadau mewn strategaeth ddosbarth yn annog gwaith llafar yn hytrach na gwaith ysgrifenedig, gan alluogi myfyrwyr i gyfathrebu’n haws gyda siaradwyr iaith gyntaf. Roedd y galw am ddosbarthiadau Cymraeg i oedolion yn parhau drwy’r 1970au. Ond roedd rhai myfyrwyr a thiwtoriaid yn anfodlon, ac yn gofyn cymaint oedd yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd – oedd siaradwyr newydd yn cael eu cynhyrchu neu oedden nhw’n datblygu dim ond diddordeb adfywiol yn yr iaith, ac ewyllys da tuag ati hi? Roedd pobl oedd yn awyddus i ddod yn rhugl yn teimlo eu bod nhw’n datblygu’n araf ac yn dysgu gyda phobl oedd eisiau dim ond crap ar yr iaith. Roedd Neil Caldwell yn cwyno ym 1992 fod y cyrsiau roedd e’n eu mynychu bob wythnos yn darparu dim ond ar gyfer y rhai ‘â pheth diddordeb’. Daeth e’n rhugl ar ôl iddo fynychu cwrs dwys, ac mae e’n priodoli ei lwyddiant i’r ffaith bod y cwrs yn pwysleisio defnyddio’r iaith lafar. Penderfynodd Prifysgol Cymru archwilio i gyrsiau Cymraeg i oedolion ym 1974 a chyflogon nhw Chris Rees fel swyddog ymchwil a datblygu.Thus when ULPAN was introduced into Wales in the 1970s it followed a decade of revolutionary change in the approach to teaching adults Welsh, as changes in classroom strategy in encouraging oral rather than written work enabled learners to communicate more easily with first-language speakers. The demand for adult classes in Welsh continued through the 1970s. But some students and tutors were dissatisfied and questioned how much was actually being achieved – were new speakers being produced or was there just renewed interest and goodwill towards the language? People who were eager to become fluent felt their progress was slow and that they were learning with people who only wanted a smattering. Neil Caldwell bemoaned in 1992 that the weekly courses he attended catered only for the ‘mildly interested'. He became fluent after he attended an intensive course and attributes his success to the emphasis on the spoken language used on the course. The University of Wales decided to investigate Welsh for Adults courses in 1974 and employed Chris Rees as a research and development officer.
Yn y 1960au a’r 1970au cynnar, roedd cryn ddiddordeb mewn efelychu esiampl Israel o ran cyrsiau dwys. Ym 1969, ysgrifennodd Gwynfor Evans, AS cyntaf Plaid Cymru, am y gwersi gwerthfawr roedd y Cymry’n gallu eu dysgu o Israel. Ym 1972, yng Nghaerdydd, llefarodd Shoshana Eytan o Adran Addysg y Sefydliad Iddewig Rhyngwladol am ei phrofiad hi ynglŷn â’r ULPANIM Hebraeg. Roedd Mrs Eytan wedi ennill cryn brofiad fel mora (tiwtor) cyn iddi hi symud i’r DU. Felly, pan aeth Chris Rees a Gwilym Roberts i Lundain i ymweld â Mrs Eytan yn Adran Addysg y Sefydliad Iddewig Rhyngwladol, yn y dyddiau cynnar o sefydlu’r Gymraeg, roedden nhw’n disgwyl cael gwybod am ddulliau anarferol, a byddai’n esbonio llwyddiant yr ULPANIM Hebraeg. Fodd bynnag, y cyfan roedd hi’n ei dweud wrthyn nhw oedd y byddai'r tiwtoriaid yn defnyddio sialc a siarad fel arfer, ac roedd llawer iawn yn dibynnu ar frwdfrydedd a phersonoliaeth y tiwtoriaid.In the 1960s and early 1970s there was considerable interest in emulating Israel’s example of intensive courses. Gwynfor Evans, the first Plaid Cymru MP, wrote of the valuable lessons the Welsh could learn from Israel in 1969. In 1972 Shoshana Eytan of the Education Department of the International Jewish Institute spoke in Cardiff about her experience of the Hebrew ULPANIM. Mrs Eytan had gained a great deal of experience as a mora (tutor) before moving to the UK. So, when Chris Rees and Gwilym Roberts went to London to visit Mrs Eytan at the Education Department of the International Jewish Institute, in the early days of establishing Welsh, they expected to learn of some unusual teaching methods to account for the success of the Hebrew ULPANIM. However, all she told them was that the ULPAN tutors used mainly chalk and talk and that a great deal depended on the enthusiasm and personality of the tutors.
Chris Rees WLPAN
Chris Rees, pedwerydd o'r chwith, mewn siwt.
Gwilym Roberts WLPAN
The irrepressible Gwilym Roberts.
Cafodd cwrs Cymraeg dwys ar gyfer athrawon ei gynnal yng Ngholeg y Bari ym 1966, ond ym 1973 y cychwynnodd y cyrsiau WLPAN ar gyfer y cyhoedd. Roedd Chris Rees a Gwilym Roberts yn rhedeg y cwrs WLPAN cyntaf yng nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd. Mae’r ddau ohonyn nhw’n gymeriadau eiconig o ran hybu’r Gymraeg, ac yn arloeswyr mewn dysgu’r iaith Gymraeg.An intensive Welsh course for teachers was held in Barry College in 1966, but it was in 1973 that the WLPAN courses for the general public began. Chris Rees and Gwilym Roberts, both iconic figures in Welsh language promotion and pioneers in Welsh language teaching, ran the first WLPAN course at the Urdd Centre in Cardiff.
Cafodd y cwrs ei ailenwi yn WLPAN i gydymffurfio â sillafu Cymraeg. Roedd y grŵp yn cyfarfod bum noson yr wythnos dros 10 wythnos, a chynhaliwyd penwythnos preswyl yng nghanolfan yr Urdd yn Llangrannog. Brasluniodd Chris Rees faes llafur, ac roedd grŵp brwdfrydig o diwtoriaid gwirfoddol yn dysgu’r sesiynau. Cychwynnodd un myfyriwr ar ddeg ar y cwrs 100 o oriau, a deg ohonyn nhw a gyflawnodd e. Roedd Gwilym Roberts yn un o’r tiwtoriaid, sef y dyn oedd wedi sefydlu’r cyrsiau unwaith yr wythnos yng Nghaerdydd bron yn ddeng mlynedd gynt. Disgrifiodd e’r canlyniadau fel ‘syfrdanol’ oherwydd bod y myfyrwyr wedi dysgu yn ystod deg wythnos cymaint â dysgwyr eraill wedi dysgu yn ystod dwy flynedd o wersi wythnosol.The course was renamed WLPAN to conform to Welsh spelling. The group met five evenings a week over 10 weeks, plus a residential weekend at the Llangrannog Urdd centre. Chris Rees prepared a skeleton syllabus, while an enthusiastic group of volunteer tutors, taught the sessions. Eleven students began the 100 hour course and ten completed. Gwilym, the instigator of the once-weekly Welsh classes in Cardiff nearly ten years previously, was one of the tutors. He described the results as “staggering” as students learnt as much in ten weeks as people would normally learn in two years of weekly lessons.
Roedd dwy brif ffurf o ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr Cymraeg o 1974: cyrsiau dwys a dosbarthiadau wythnosol, a gafodd eu cynnal fel rheol yn yr hwyr. Erbyn 1982, roedd 43 o gyrsiau WLPAN yng Nghymru. Roedd y cyrsiau’n amrywio o ran pa mor ddwys oedden nhw: roedd cyrsiau’n cael eu cynnal naill ai yn y dydd neu yn yr hwyr, dair gwaith yr wythnos o leiaf, ac weithiau bedair gwaith neu bump, dros 100 o oriau o leiaf. Roedd y cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg i blant ifainc yn yr un cyfnod wedi ysbrydoli llawer o oedolion i ddysgu’r Gymraeg. Yn aml, roedd y myfyrwyr oedd yn mynychu WLPANIM yn rhieni i blant oedd yn mynd i feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg. Wrth i’r ddarpariaeth ddwys dyfu, tyfodd hefyd gyrsiau uwch i ddilyn yr WLPANIM, yn ddwys ac yn wythnosol. Dros yr un cyfnod, dechreuodd cyrsiau preswyl dros y penwythnos ac weithiau am wythnos gyfan. From 1974 adult provision for Welsh learners took two main forms: intensive courses and classes attended weekly, initially mainly in the evenings. By 1982 there were 43 WLPAN courses in Wales. Courses varied in intensity: classes were held at least three and, in some cases, four or five times per week in the day or evening, for at least 100 hours. The expansion of Welsh-medium education for young children during the same period inspired many adults to learn Welsh and often students attending WLPANIM were parents of young children attending Welsh-medium nursery schools. As the intensive provision grew so did more advanced courses to follow the WLPANIM, both intensive and weekly. Over the same period, weekend and week-long residential courses also took off.
Yn haf 1980, denodd cwrs WLPAN preswyl dros wyth wythnos yn Llanbedr Pont Steffan, Gorllewin Cymru, tua 40 o fyfyrwyr. Pan fyddai myfyrwyr yn cael eu cyflwyno â 3,000 i 3,500 o eitemau o eirfa weithredol, fe fyddan nhw’n gallu cynnal sgwrs am weithgareddau pob dydd ar ddiwedd cwrs 400 o oriau. Mae digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd yn cryfhau’r iaith wedi’i chyflwyno yn yr ystafell ddosbarth; roedd siaradwyr iaith gyntaf yn cael eu gwahodd i siarad â myfyrwyr mewn dosbarthiadau neu dros y penwythnos; ac roedd y tiwtoriaid yn disgwyl i’r myfyrwyr ymarfer yn y gymuned leol. Cafodd y cwrs ei lysenwi’n ‘Cymraeg â dagrau’ oherwydd yr ymdrech roedd rhaid i’r myfyrwyr eu gwneud; cafodd un o’r cyfranogion ar y cwrs yn 2001 ei chlywed yn sylwi bod ei hymennydd yn brifo oherwydd pa mor ddwys oedd e.In summer 1980, an eight-week residential WLPAN course at Lampeter, west Wales, attracted approximately 40 students. Students, presented with 3,000 to 3,500 items of active vocabulary are able to hold a conversation about everyday activities at the end of the 400 hour course. Regular social events reinforce the language presented in the classroom; native speakers are invited to speak to students in class on weekends; and students are expected to practise in the local community. The course was nicknamed ‘Welsh with tears’ because of the effort students need to expend; one of the participants on the 2001 course was heard to comment that her brain was hurting because of the intensity.
Fel yn yr ULPAN Hebraeg, cyfathrebu ar lafar sy’n cael ei bwysleisio, a’r dull uniongyrchol sy’n ennill. Cymraeg drwy gyfrwng Cymraeg. Ar gyfnod cynnar, fel rheol ar ôl tua 15 o oriau o ddysgu, mae’r myfyrwyr yn cael eu hannog yn gryf i beidio â defnyddio Saesneg, ac mae disgwyl i’r myfyrwyr ddefnyddio’r Gymraeg hyd yn oed am eu hamser brêc. Disgrifiodd Chris Rees y fethodoleg WLPAN fel eclectig: mae iaith yn cael ei dysgu mewn llawer o ffyrdd, ac mae tiwtoriaid yn benthyca gan amryw ddulliau fel suggestopedia, ymateb corfforol llwyr, a’r dull cyfathrebu. (Gweler: Newcombe, 2002b, Pennod 3 am fwy o fanylion ynghylch dulliau dysgu iaith.)As in the Hebrew ULPAN oral communication is emphasised and the direct method prevails, Welsh through the medium of Welsh. At an early stage, usually after about 15 hours tuition, use of English is strongly discouraged and students are even expected to use Welsh in break times. Chris Rees described the WLPAN methodology as eclectic: language is taught in a variety of ways and tutors borrow from a variety of methods such as suggestopedia, total physical response and the communicative approach. (See Newcombe, 2002b, Chapter 3 for more details about language learning methodologies.)
Roedd darpariaeth yn dal i gynyddu yn ystod y 1980au a’r 1990au. Fe fyddai raid yn gyffredinol i’r myfyriwr llwyddiannus brofi cwrs dwys neu ryw elfen o drochi yn yr iaith. Gweler, er enghraifft, John Gillibrand 1992, Neil Caldwell, 1992. Daeth Janet Ryder yn dra rhugl ar ôl dysgu Cymraeg ar gwrs WLPAN, ac efallai mai’r sgìl hwn a gyfrannai pan gafodd hi ei hetholi fel maer Rhuthun ym 1998, ac wedyn fel aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru.The 1980s and 1990s were a time of continuing expansion of provision. An intensive course or some immersion element generally figured in the successful Welsh learner’s experience. See for instance John Gillibrand 1992, Neil Caldwell, 1992. Janet Ryder attained a high degree of fluency after learning Welsh on an WLPAN, a skill which may well have contributed to her election as mayor of Ruthin in 1998 and subsequently as a member of the Welsh Assembly Government.
Roedd llwyddiant y mentrau hyn mor fawr bod rhaid i ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr uwch gynyddu hefyd, gan greu cyfleoedd i ddysgwyr rhugl ymuno â siaradwyr iaith gyntaf ar gyrsiau uwch fel Gloywi Iaith yn ogystal â sawl cwrs llenyddiaeth a chyfieithu. Ehangodd darpariaeth Cymraeg yn y gweithle hefyd ac mae cyrsiau ar gael bellach gyda’r lefel o arddwysedd yn amrywio.The success of these initiatives was such that provision for more advanced students also needed to expand, with opportunities for fluent learners to join native speakers on advanced courses such as Gloywi Iaith [polishing language] and various literature and translation courses. Provision for Welsh in the workplace also expanded with varying degrees of intensity available.
Erbyn y 1990au, roedd y rhwystrau seicolegol sy wedi bod yn digalonni oedolion rhag dysgu’r iaith yn chwalu. Nid yn unig roedd Y Gymraeg iaith y gallai oedolion ei dysgu, ond yn ogystal roedd yn bosibl y gallai llwyddiant dysgwyr aeddfed yng Nghymru ysbrydoli dysgwyr yn lleoedd eraill, yn cynnwys y rhai oedd yn dysgu Gaeleg yn yr Alban, ac yn bellach i ffwrdd, dysgwyr yn Corsica, a hyd yn oed oedolion yn dysgu Maori yn Seland Newydd.By the 1990s, the psychological barriers which discouraged adults from learning the language were breaking down. Welsh was not only a language that could be learned in adulthood, but the success of adult learners in Wales had the potential to inspire language learners elsewhere, including Gaelic learners in Scotland, and further afield Corsican and even Maori in New Zealand.
Mae nifer y cofrestriadau ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion wedi tyfu ers y mileniwm newydd. Dechreuodd cyrsiau e-ddysgu, yn ogystal â chyrsiau cyfunol, ac roedd y ddau lwybr hyn ar gael gyda lefelau gwahanol o ddwysedd.The new millennium witnessed a steady growth in the number of enrolments on Welsh classes. E-learning and courses that blended classroom learning with e-learning became available with varying degrees of intensity.
Nid pob darparwr sydd yn rhoi’r enw WLPAN i’w cyrsiau dwys. Mae cyrsiau Cymraeg i Oedolion (CiO) yn cael eu dosbarthu’n Gwrs Blasu, Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch, a Hyfedredd. Mae Mynediad a Sylfaen yn cyfateb i gyrsiau WLPAN cynnar fwy neu lai, ond SuperWLPAN yw rhai ohonyn nhw ac os byddan nhw’n treulio mwy o oriau ar y gwaith, gallen nhw orymylu ar y cyrsiau Canolradd.Not all providers call their intensive courses WLPAN. Welsh for Adults (WfA) classes are divided into Taster Course, Entry, Foundation, Intermediate, Advanced and Proficiency. Entry and Foundation are roughly equivalent to the early WLPAN courses, but with some courses being SuperWLPAN and spending more hours on the work they could overlap into Intermediate.
Dim ond dynwarediad egwan o’r model Hebraeg oedd yr WLPAN Cymraeg. Yn Israel, roedd yn beth arferol i fyfyrwyr ULPAN gael sawl mis i ffwrdd o’r gwaith ar draul y llywodraeth, er mwyn dysgu’r Hebraeg. Mae myfyrwyr yn treulio llawer llai o oriau’n astudio ar gwrs WLPAN Cymraeg na’r rhai yn Israel. Ar ben hynny, yng Nghymru, prin y mae myfyrwyr yn cael eu rhyddhau o’u cyfrifoldeb yn y gweithle, ac maen nhw’n aberthu eu hamser hamdden drudfawr i ddysgu’r Gymraeg. Er hynny, mae llawer o bobl sy’n siaradwyr rhugl bellach, yn olrhain eu hysbrydoliaeth nhw o ran dysgu yn ôl at fynychu cyrsiau WLPAN. Fel rheol bydd y terfynwyr yn y gystadleuaeth o’r enw Dysgwr y Flwyddyn wedi mynychu cwrs dwys rywbryd neu'i gilydd.The Welsh WLPAN was a pale reflection of the Hebrew model. In Israel it was commonplace for ULPAN students to have several months free from work at the government’s expense to learn Hebrew. The hours spent on a Welsh WLPAN are far fewer than those in Israel and students are rarely released from work responsibilities and sacrifice precious leisure time to learn Welsh. Nevertheless, many now fluent Welsh-speakers trace their inspiration in learning back to attending WLPAN courses and the finalists in the Welsh Learner of the Year competition have usually attended an intensive course at some point.
Mae ymchwil ar WLPAN dros y blynyddoedd wedi dangos bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi cael budd o’r method WLPAN. Fodd bynnag, dyw WLPAN ddim yn addas i bawb, ac wrth gwrs, efallai fod y rhai anfodlon yn gadael yn gynnar, neu cyn i’r cyrsiau gael eu gwerthuso ganddyn nhw. Dyw rhai myfyrwyr ddim yn hoff iawn o ddysgu dweud ymadroddion cyn iddyn nhw eu gweld nhw, er bod llawer ohonyn nhw’n dod i arfer â hyn wrth i’r cwrs fynd ymlaen. Byddai rhai eraill yn hoffi mwy o bwyslais ar ramadeg yn hytrach nag ar sgwrsio yn gynnar yn y cwrs. Eto i gyd, byddai’n well gan fyfyrwyr eraill llai o bwyslais ar ramadeg. Mae rhai’n ystyried dyw’r fethodoleg wedi’i defnyddio ddim yn cydnabod bod myfyrwyr yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol. Dych chi’n gallu darllen mwy am hyn yn y llyfr Welsh in a Year! gan Jen Llywelyn. Yn negawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain, daeth darparwyr yn fwy hyblyg, gan adael i fyfyrwyr weld y deunydd WLPAN cyn gwneud yr ymarferion. Mae hyn wedi digwydd o ganlyniad i dystiolaeth ymchwil ddiamau’n dangos bod myfyrwyr yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol ac mae llawer ohonyn nhw yn ddysgwyr gweledol.Research on WLPAN over the years has shown that most students have benefited from the WLPAN method. However, it does not suit everyone and of course the disaffected may have left earlier on before any course evaluation. Some students do not like learning to say phrases before they see them, although many get used to this as the course progresses. Others would like more emphasis on grammar rather than conversation early in the course. Yet others would prefer less stress on grammar. Some people consider the methodology used does not acknowledge that learners learn in different ways. You can read more about this in Jen Llywelyn’s Welsh in a Year! In the noughties, providers became more flexible about allowing students to see the WLPAN material before drilling, following overwhelming research evidence that learners learn in different ways and that many are visual learners.
Mae Hilda Hunter a Caroline Williams yn eu llyfr Dysgu Cymraeg/Venturing in Welsh wedi herio’r ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu yn CiO. Maen nhw’n galw am ddosbarthiadau llai, a byddan nhw’n hoffi llawer mwy o gywiro camgymeriadau. Am ddegawdau mae ysgolheigion wedi bod yn ymryson dros y cwestiwn: beth yw’r pwysicaf, ai bod yn rhugl, neu fod yn fanwl gywir? Ar gyrsiau CiO, fydd myfyrwyr ddim yn cael eu cywiro’n uniongyrchol fel rheol, ond bydd y tiwtor yn pwysleisio’r ffurf gywir, ac yn disgwyl i’r myfyriwr ei hailadrodd. Pan oedd tiwtoriaid yn cael eu hyfforddi yn nyddiau cynnar WLPAN, byddai Chris Rees yn pwysleisio pa mor bwysig oedd peidio â gwneud i fyfyrwyr deimlo’n anesmwyth drwy eu gorgywiro nhw. Gallai hyn rwystro’r datblygiad o ruglder. Y ddadl oedd y byddai’r dysgwr brwd yn dysgu’r ffurfiau cywir maes o law. Ymhellach, gwneud camgymeriadau wrth siarad yw rhan o’r proses dysgu. Os bydd myfyrwyr eisiau cael eu cywiro bob tro y byddan nhw’n gwneud camgymeriad, dylen nhw wneud hyn yn blaen. Wedi dweud hynny, yn y cyfnodau cynnar o ddysgu, byddai sgyrsiau’n eithaf annaturiol os pe bai cywirdeb yn cael ei bwysleisio gormod.Hilda Hunter and Caroline Williams in their book Dysgu Cymraeg/Venturing in Welsh have challenged the way WfA is taught. They call for smaller classes and would like far more error correction. The issue of fluency versus accuracy has been a bone of contention amongst scholars for decades. On WfA courses students are not usually corrected directly but the correct form is emphasised by the tutor and the student is expected to repeat it. When tutors were trained in the early days of WLPAN, Chris Rees stressed the importance of not making the learner feel uncomfortable by over-correcting. This could hinder the development of fluency. The keen learner, it was argued, would eventually learn the correct forms. Moreover, making mistakes when speaking is part of the learning process. If students wish to be corrected every time they make a mistake they should make this plain. However, in the earlier stages of learning, conversations will be rather contrived if too much emphasis is placed on accuracy.
Ffafriol yw’r gyfradd golli ar gyrsiau WLPAN o’i chymharu ag ystadegau ynghylch dosbarthiadau iaith yn Lloegr a Chymru. Argaeledd y cyrsiau dwys hyn yw’r brif elfen sy’n gwahaniaethu rhwng dysgu CiO ar hyn o bryd a dysgu ieithoedd estron i oedolion yng Nghymru. Datblygu’n gyson y mae’r WLPAN, a byddai’r arloeswyr cynnar yn synnu o weld y materion dysgu lliwgar, y llyfrau ymarfer, yr e-ddysgu, a’r cyrsiau cyfunol, ond mae’r egwyddor sylfaenol yn aros: cyfathrebu ar lafar a Chymraeg drwy'r Gymraeg.The drop-out rate for WLPAN compares favourably with statistics for language classes in England and Wales. The availability of these intensive courses is the main factor that differentiates the current teaching of WfA from teaching foreign languages to adults in Wales. The WLPAN is continually evolving and the early pioneers would be stunned to see the colourful teaching material, the practise books and the introduction of e-learning and blended courses but the underlying principle remains: oral communication and Welsh through Welsh.

Datblygu’n gyson y mae’r WLPAN, a byddai’r arloeswyr cynnar yn synnu o weld y materion dysgu lliwgar, y llyfrau ymarfer, yr e-ddysgu, a’r cyrsiau cyfunol, ond mae’r egwyddor sylfaenol yn aros: cyfathrebu ar lafar a Chymraeg drwy'r Gymraeg.


Lynda Pritchard Newcombe: Bywgraffiad / Biography

Ces i fy magu yn y Cymoedd. Ro’n i’n gwybod llawer o Gymraeg o’r teulu, yr ysgol a’r capel ond des i yn siaradwr rhugl ar ôl bod ar gwrs WLPAN a chyrsiau eraill ym Mhrifysgol Caerdydd. Dw i wedi gweithio fel tiwtor ieithoedd am dros ddeg ar hugain o flynyddoedd i’r awdurdod lleol, cwmnïau preifat, y Brifysgol Agored a Phrifysgol Caerdydd.  Dw i wedi gweithio hefyd fel ymchwilydd ar ddwyieithrwydd ar ôl i mi ennill gradd M.Ed. ar ddysgu oedolion gan gynnwys traethawd ar yr WLPAN.  Mae Ph.D yn ieithyddiaeth gymdeithasol gyda fi.  Astudiais i beth sy’n digwydd pan mae dysgwyr yn defnyddio’r Gymraeg tu allan i’r dosbarth.

I grew up in the South Wales valleys with a knowledge of Welsh from family, school and chapel but I did not become a fluent speaker until I attended an WLPAN course and follow on courses at Cardiff University. My main work background is in teaching languages and I have over thirty years’ experience working for the local authority, private companies, the Open University and Cardiff University.  I have also been involved in research on bilingualism after gaining an M.Ed. in adult education which included writing a dissertation on the WLPAN. I have a Ph.D in sociolinguistics. I researched issues that arise when learners use Welsh outside class.


Dw i wedi ysgrifennu tri llyfr am ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned a wedi bod yn gydawdur ar bennodau mewn llyfrau eraill.
I have written three books on using Welsh in the community and co-authored chapters in books on language learning.

Mae'r llyfr Speak Welsh Outside Class ar gael o Y Lolfa / Speak Welsh Outside Class is available from Y Lolfa.

Speak Welsh Outside Class gan Lynda NewcombeLynda Pritchard Newcome Lynda Pritchard Newcome- Think without Limits- You can speak WelshSocial Context and Fluency in L2 Learners – the Case of Wales

Lynda Pritchard Newcombe: Llyfryddiaeth / Bibliography

Black, R., Gillies, W., Ó Maolalaigh, R. (Eds.) (1999) CELTIC CONNECTIONS, proceedings of the tenth international congress of celtic studies. (pp. 425 – 456) East Lothian: Tuckwell Press

Caldwell, N. (1992) In Davies, O. & Bowie, F. (1992) 'Welsh by Proxy' pp. 157 – 162

Crowe, R. (1988) Yr WLPAN yn Israel, Canolfan Ymchwil Cymraeg i Oedolion, Aberystwyth

Crowe, R. & Solomonik, A. (1988) Adfywiad yr Hebraeg. Canolfan Ymchwil Cymraeg i Oedolion, Aberystwyth

Davies, O. & Bowie, F. (Eds.), (1992). Discovering Welshness, Gomer, Llandysul

Dolève-Gandelman, T. (1989) “'Ulpan is not Berlitz;' adult education and the Ethiopian Jews in Israel”. Social Science Information,Vol. 28. No.1. pp. 121 - 143

Ellis P.B. & Mac a' Ghobhainn S. (1971) The Problem of Language Revival, Club Leabhar Ltd. Inverness

Emyr, J. (1988) Sut i Achub Iaith, Cefn, Caernarfon

www.ethnologue.com

Fellman, J. (1973) The Revival of a Classical Tongue, Mouton & Co. The Netherlands

Gillibrand, J. (1992) in Davies, O. & Bowie, F. (1992) ‘A Language   to Live By’ pp.31 – 34

Hunter, H. & Williams, C. (2008) Dysgu Cymraeg/Venturing in Welsh, Y Lolfa, Talybont, Ceredigion

Jones, C. (ed.) (2000) Cyflwyno’r Gymraeg Llandysul: Gomer

Jones, R.O. (1999) The Welsh Language. In Black, R., Gillies, W., Ó Maolalaigh, R. (Eds.) (1999) CELTIC CONNECTIONS, proceedings of the tenth international congress of celtic studies. (pp. 425 – 456) East Lothian: Tuckwell Press

Jones R. O., NEWCOMBE L. P., Morris S. Llyfryddiaeth– Cymraeg i Oedolion 1960 - 2009 (click to download PDF)

Kinney, P. (1992) in Davies, O., & Bowie, F. (1992) ‘A Hidden   Culture’ pp. 1 - 5

Krashen, S. (1982) Principles and Practice in Second Language Acquisition, Pergamon Press, New York

Loveday, L. (1982) The sociolinguistics of learning and using a non-native language. Oxford Pergamon Press

Llywelyn, J. (2004) Welsh in a Year! Y Lolfa, Talybont, Ceredigion

NEWCOMBE, L. (1995) An Evaluation of the WLPAN Method of learning Welsh at the Welsh Language Teaching Centre, University of Wales College of Cardiff, unpublished M.Ed. Thesis, Cardiff University

 NEWCOMBE, L.P. (2002a) “A Tough Hill to Climb Alone” – Welsh Learners Speak Hong Kong Journal of Applied Linguistics, 7 (2), 39-56

NEWCOMBE, L.P. (2002b) The Relevance of Social Context in the Education of Adult Welsh Learners, Unpublished Ph.D thesis, Cardiff University

NEWCOMBE, L.P. (2007) Social Context and Fluency in L2 Learners – the Case of Wales, Multilingual Matters, Clevedon

NEWCOMBE, L.P. (2009) Think without Limits: You can speak Welsh, Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst

NEWCOMBE, L.P. (2016) Speak Welsh outside class: You can do it! Y Lolfa, Talybont Ceredigion

Rees, C. (1994) ‘Adfer iaith i achub cenedl’, SBEC TV Wales. May 1st, 1994. p. 4

Rees, C. (1973) ‘Ysgolion Iaith i Oedolion’, Yr Athro. (24) 1973. pp. 153 -155

Rees, C. (1977) ‘Wedi'r Mudandod’, Barn, 176. pp 302 - 304

Rees, C. (2000) Datblygiad yr WLPAN pp. 27-44 In Jones, C. (ed.) (2000) Cyflwyno’r Gymraeg, Gomer, Llandysul

Richards, J. & Rodgers, T. (1986) Approaches and Methods in Language Teaching, Cambridge University Press

Richardson, G. (1983). Teaching Modern Languages, Croom Helm, London

Schuchat, T. (1990) Ulpan: How to learn Hebrew in a Hurry, Gefen, Jerusalem

Valentine, L. (1952) in Emyr, J. Nodiadau'r Golygydd, Seren Gomer, XLIV.2

WJEC (1992) Welsh for Adults. The Way Forward


Erthygl ar gael i lawrlwytho ar Apple Books, PDF & Kindle / Article available to download on Apple Books, PDF & Kindle:

Apple Books logo

PDF logo

Kindle logo


Lynda Newcombe- Speak Welsh Outside Class

Y diweddaraf oddi wrth Learners