Mewn nifer o wledydd ledled y byd, Chwefror 14 – Dydd Gŵyl San Ffolant – yw diwrnod y cariadon. Ond yng Nghymru mae dyddiad arall gennym: Ionawr 25, sef Dydd Gŵyl Dwynwen. Beth, felly, yw hanes Dwynwen, a beth yw rôl ei gŵyl yn y Gymru gyfoes? Yma, mae Dylan Foster Evans, arbenigwr ar lenyddiaeth ganoloesol a phennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn esbonio mwy.
February 14 is the day marked for lovers in many countries around the world, but in Wales there is another date traditionally associated with romance: St Dwynwen’s Day, January 25. What is the story of the legend and what role does Dwynwen play in modern Wales? Here, Dylan Foster Evans, a specialist on medieval literature and the head of the School of Welsh at Cardiff University, explains more.
Ymddangosodd y fersiwn Saesneg o’r erthygl hon yn wreiddiol yn The Conversation, gyda chyfres o erthyglau sydd yn cynnwys Cymru yma.
The English version of this article originally appeared in The Conversation, with a series of articles that feature Wales here.
Mewn nifer o wledydd ledled y bydd, Chwefror 14 - Dydd Gŵyl San Ffolant – yw diwrnod y cariadon. Ond yng Nghymru mae dyddiad arall gennym: Ionawr 25, sef Dydd Gŵyl Dwynwen. | February 14 is the day marked for lovers in many countries around the world, but in Wales there is another date traditionally associated with romance: St Dwynwen’s Day, January 25. |
Yn ôl y chwedl, merch i frenin canoloesol oedd Dwynwen a ddaeth i fod yn nawddsant cariadon Cymru. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae ganddi ei stori garu ei hun. Ond nid yw’n un y byddem ni heddiw yn ei hystyried yn arbennig o ramantus. | Dwynwen – pronounced [dʊɨnwɛn] – was the daughter of an early medieval king who became the Welsh patron saint of lovers. As you might expect, she has her own love story – although it’s not quite what we today would consider a romantic one. |
Yn ôl y fersiwn cynharaf o’i chwedl, ymserchodd Dwynwen mewn gŵr ifanc o’r enw Maelon Dafodrill. Ond pan geisiodd ef droi’r berthynas yn un gorfforol, a hynny cyn priodi, fe ddychrynodd Dwynwen a’i adael. A hithau’n drist ac yn ofni ymateb Maelon, gweddïodd Dwynwen ar Dduw. Yn fuan iawn, fe oerodd nwydau ei chyn-gariad mewn modd digamsyniol – fe’i trowyd gan Dduw yn blocyn o iâ. Ac am iddi wrthod cynlluniau annhymig Maelon, fe ganiataodd Duw dri dymuniad i Dwynwen. | As the earliest version of her tale goes, Dwynwen was deeply in love with a young man called Maelon Dafodrill, but when she rebuffed his premarital sexual advances, he became enraged and left her. Saddened and fearful, Dwynwen prayed to God, and soon enough her former suitor’s ardour was decisively cooled – he was turned into a block of ice. And for rejecting Maelon’s untimely advances, God allowed Dwynwen three wishes. |
Ei dymuniad cyntaf oedd dadrewi Maelon ar unwaith. Yr ail oedd i Dduw wrando ar ei gweddïau ar ran "serchogion cywirgalon", fel y byddent oll naill ai’n "cael eu cariadon" neu’n "cael gwellhad o’u cariadgur". Ei dymuniad olaf oedd na ddylai hi byth orfod priodi; dywed y stori iddi dreulio gweddill ei hoes yn lleian yn yr eglwys anghysbell a enwir ar ei hôl, Llanddwyn ar Ynys Môn. | Her first wish was that Maelon should be defrosted at once. The second was that her prayers on behalf of “all true-hearted lovers” should be heard, so that “they should either obtain the objects of their affection, or be cured of their passion”. Her final wish was that she should never have to marry; she is said to have ended her life as a nun at the isolated church named after her, Llanddwyn, on the island of Anglesey. |
Llunio’r chwedlEr bod y stori hon yn adleisio bucheddau seintiau eraill o’r Oesoedd Canol, y tro cyntaf iddi ymddangos oedd yng ngwaith y polymath hunanaddysgedig hwnnw Edward Williams (1747–1826), gŵr sy’n fwy hysbys i bawb dan yr enw Iolo Morganwg. Gan ddibynnu ar eich safbwynt, roedd Iolo naill ai’n athrylith creadigol neu’n ffugiwr digydwybod. Y naill ffordd neu’r llall, mae’n debyg nad yw stori Dwynwen yn ganoloesol o gwbl, ond yn hytrach yn gynnyrch dychymyg byw Iolo Morganwg. | Creating a legendAlthough it echoes other medieval saints’ lives, Dwynwen’s story only appeared for the first time in the writings of the self-taught polymath Edward Williams (1747-1826), better known by his bardic name Iolo Morganwg. Now Iolo Morganwg, depending on your point of view, was either a creative literary genius or a shameless forger. Either way, it seems certain that Dwynwen’s story is not medieval at all, but rather a product of Iolo Morganwg’s vivid imagination. |
Fodd bynnag, mae’n bosibl fod Dwynwen ei hun wedi bodoli go iawn: fe’i henwir mewn achau cynnar fel un o ferched niferus a dwyfol y brenin lled-chwedlonol hwnnw o’r bumed ganrif, Brychan Brycheiniog. Mae rhan o offeren Ladin o ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg yn nodi iddi gerdded ar y dŵr o Iwerddon i ddianc o afael y brenin Maelgwn Gwynedd – er efallai y buasai ffoi i Iwerddon yn gynllun gwell. | However, Dwynwen may well have been a real woman: she is mentioned in early genealogies as one of the numerous saintly daughters of the semi-legendary fifth-century king, Brychan Brycheiniog. Part of a Latin mass from the early 16th century states that she walked on water from Ireland to escape the clutches of the Welsh king Maelgwn Gwynedd – although fleeing to Ireland might have been a better plan. |
The church of Llanddwynwen or Llanddwyn in the 18th Century
Mae ein gwybodaeth am gwlt Dwynwen wedi ei seilio’n bennaf ar ddwy gerdd Gymraeg. Cyfansoddwyd yr enwocaf gan fardd canoloesol mwyaf Cymru, Dafydd ap Gwilym, tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd y gerdd hon yn sicr yn hysbys i Iolo Morganwg. Ynddi, mae’r bardd cariadus yn galw am gymorth Dwynwen fel ‘llatai’ (negesydd serch) iddo ef a’i gariad Morfudd, a oedd yn briod â gŵr arall. Gan ei fod yn ymwybodol ei fod yn ymddwyn mewn modd moesol amheus, a dweud y lleiaf, mae Dafydd yn addo i’r santes na fydd hi’n colli ei lle yn y nefoedd trwy helpu’r cariadon. Yn wir, gan sicrhau ei fod wedi darparu ar gyfer pob achlysur, mae Dafydd hefyd yn galw ar Dduw i gadw gŵr Morfudd rhag ymyrryd pan fydd y cariadon yn cwrdd i garu yn y goedwig. | Our knowledge of the cult of Dwynwen is mainly based on two Welsh-language poems. The most famous was composed by medieval Wales’s greatest poet, Dafydd ap Gwilym, around the middle of the 14th century, and was certainly known to Iolo Morganwg. In it, the amorous poet calls for Dwynwen’s assistance as a “llatai”, or love-messenger, for him and his married lover Morfudd. Aware that his actions are, to say the least, morally dubious, Dafydd promises the saint that she won’t lose her place in heaven by helping the lovers. Indeed, ensuring that his back is at least metaphorically covered, he also calls on God himself to keep Morfudd’s interfering husband from interrupting the lovers in their woodland trysts. |
Mae’r gerdd arall, gan y bardd-offeiriad Dafydd Trefor, yn dyddio o tua 1500 ac mae’n disgrifio’r pererinion a fyddai’n tyrru i’w heglwys i weld delwedd o Dwynwen ac i geisio adferiad yn ei ffynhonnau sanctaidd. Parodd eu hoffrymau ariannol i’r eglwys dyfu’n gyfoethog. Ond ar ôl y Diwygiad Protestannaidd - yn anorfod felly – fe leihaodd enwogrwydd y santes. Er hynny, nid aeth Dwynwen erioed yn gwbl angof. | The other poem, by the priest-poet Dafydd Trefor, dates from around 1500 and describes the pilgrims that thronged to her church to see her image and to seek restoration from her holy wells. Their offerings ensured that the church grew wealthy although Dwynwen’s fame – inevitably – receded after the Reformation. But she never slipped into complete obscurity. |
Ailweithio stori DwynwenDaeth Dwynwen i’r amlwg unwaith eto pan gyhoeddwyd detholiadau o lawysgrifau Iolo Morganwg, ynghyd â chyfieithiadau Saesneg, yn 1848. Fesul tipyn, fe sicrhaodd ei stori droedle iddi ei hun yn nychymyg y Cymry. Yn 1886, er enghraifft, cyfansoddodd Joseph Parry y gerddoriaeth ar gyfer ‘Dwynwen’, corws angerddol i’w ganu gan gorau meibion. Ac ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, byddai papurau newydd yn y ddwy iaith o bryd i’w gilydd yn adrodd hanes Dwynwen, y ‘Celtic Venus’. | Modern reworkingsDwynwen’s re-emergence began in earnest when extracts from Iolo Morganwg’s manuscripts were published with English translations in 1848. As a result, her story slowly but surely gained a foothold in the Welsh imagination. In 1886, for instance, composer Joseph Parry wrote the music for 'Dwynwen', a rousing chorus for male voice choirs. And in the late 19th and early 20th centuries, Welsh newspapers in both languages would occasionally relate the story of the 'Celtic Venus'. |
Yn y 1960au, wrth i’r broses o fasnacheiddio Dydd Gŵyl San Ffolant gynyddu ar garlam, cynhyrchwyd y cardiau Dydd Gŵyl Dwynwen cyntaf yng Nghymru. Ond yn wahanol i’r Ddwynwen ganoloesol – a oedd, fel y gwyddom, yn chwannog i doddi iâ – yn araf deg y llosgai fflam y Ddwynwen fodern. Yn wir, yn 1993 nododd un sylwebydd fod ymdrechion i greu traddodiad newydd iddi’n edwino. | In the 1960s, as the commercialisation of St Valentine’s Day continued apace, the first St Dwynwen’s Day cards were produced in Wales. Yet unlike her ice-melting prototype, the modern Dwynwen proved to be a slow burner. Indeed, by 1993 a commentator stated that attempts to create a Dwynwen tradition were withering away. |
Ond yn y ganrif hon, mae Dydd Gŵyl Dwynwen yn ffynnu unwaith eto, wedi ei hybu gan y cyfryngau a’r un math o gynigion arbennig ag a geir adeg Dydd Gŵyl San Ffolant. Ac er bod Dydd Gŵyl Dwynwen yn fwy cyfarwydd i siaradwyr Cymraeg nag i’r rheini nad ydynt yn medru’r iaith, mae hynny hefyd yn graddol newid. | But in the current century St Dwynwen’s Day is once more flourishing, bolstered by the media and the same kind of special offers that you see around St Valentine’s Day. And although St Dwynwen’s Day is more familiar to those who speak Welsh than to those who don’t, even this is slowly changing. |
Tybed, felly, a yw’n dweud rhywbeth am y Cymry fel cariadon fod ganddynt ddwy ŵyl i ddathlu serch: gwyliau Ffolant a Dwynwen? Mae'n debyg nad ydyw! Ond mae’r berthynas rhwng y ddwy ŵyl hyn yn ddifyr o amwys. | Does it say something about the passion of the Welsh that they have two days for lovers, Valentine – 'Ffolant' as he is known in Welsh – and Dwynwen? Probably not. But the relationship between the two is revealingly ambivalent. |
I ryw raddau, mae Dydd Gŵyl Dwynwen yn brotest erbyn y globaleiddio masnachol sy’n nodweddiadol o Ddydd Gŵyl San Ffolant. Ond mae hefyd yn ymgais i ddod o hyd i le yn yr un farchnad ar gyfer cynnyrch sy’n benodol Gymreig. Yn sicr, ni ddylid meddwl am Ddydd Gŵyl Dwynwen fel mater o ailbecynnu Dydd Gŵyl San Ffolant ar gyfer cynulleidfa Gymreig – byddai hynny fel marchnata Dewi Sant ar y sail mai ef yw ‘the St George of Wales’! | St Dwynwen’s day is in part a protest against the globalising commercialisation of St Valentine’s Day. But it’s also an attempt to find a place in the same marketplace for a distinctively Welsh product. It certainly shouldn’t be seen as a repackaging of St Valentine’s Day for a Welsh audience – that would be like marketing St David as the 'St George of Wales'. |
Felly, os cewch y cyfle ar Ionawr 25, gwnewch eich gorau i ddilyn dyheadau eich calon. Yr unig gyngor y byddwn i’n ei roi ichi yw hyn: peidiwch byth â galw Dwynwen ‘the Welsh Valentine’! | If you find yourself in Wales on January 25, do make the most of the opportunity to follow your heart’s desires. The only advice I’d give you is this: don’t call Dwynwen the 'Welsh Valentine'! |
Ail ddymuniad Dwynwen oedd i Dduw wrando ar ei gweddïau ar ran “serchogion cywirgalon”, fel y byddent oll naill ai’n “cael eu cariadon” neu’n “cael gwellhad o’u cariadgur”.