Mae Wynne Evans yn fyd-enwog am ganu fel tenor a bod yn rhan o hysbysebion Go Compare. Yn ogystal, mae e wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn. Yn ei lyfr cyntaf, fel rhan o'r Gyfres Amdani, mae'n siarad am ei fywyd, ei deulu, yr heriau ar hyd y ffordd a pham mae'r iaith mor bwysig iddo fe nawr. Yma, mae parallel.cymru yn cyflwyno cipolwg o’r llyfr...
Wynne Evans is world-famous for singing as a tenor and being part of Go Compare adverts. In addition, he has learnt Welsh as an adult. In his first book as part of the Amdani series, he speaks about his life, family, the challenges that have come along the way and why the Welsh language is so important to him now. Here, parallel.cymru presents a glance at the book...
Author: Wynne Evans with Elin Meek
twitter.com/wynneevans
Price: £4.99
Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page.
Level: Mynediad / Entry
Publisher: CAA Cymru
Buy: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781845216856
Wynne Evans yn lansio’i fywgraffiad yn Sioe Fawr Llanelwedd
Cafodd digwyddiad hwyliog ei gynnal yng nghwmni’r canwr enwog, Wynne Evans, yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd. Bu Wynne yn sgwrsio ag Alun Williams, cyflwynydd Dal Ati: Bore Da (S4C) am ei lyfr newydd sbon yn y lansiad, sef Wynne Evans – O Gaerfyrddin i Go Compare.
Mae’r llyfr, sef bywgraffiad gonest a difyr y tenor a ddaeth yn adnabyddus drwy’r hysbysebion teledu enwog, yn un o lyfrau Cyfres Amdani. Ysgrifennwyd y llyfr gan Elin Meek, a’i gyhoeddi gan CAA Cymru, ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg ar y cwrs lefel Mynediad neu uwch.
Cafodd y gynulleidfa gyfle i brynu copi o’r llyfr wedi’i arwyddo gan Wynne yn dilyn y digwyddiad – gan gynnwys Steve Hughson, Prif Weithredwr y Sioe. Dysgwr Cymraeg yw Steve hefyd. a phwysleisiodd wrth siarad ar y llwyfan pa mor bwysig yw hi i ‘fynd amdani’ trwy ymarfer a darllen cymaint â phosibl wrth ddysgu’r iaith.
Cyfres wedi ei datblygu’n benodol ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg yw Cyfres Amdani, ac mae’r llyfrau wedi’u graddoli ar bedair lefel – Mynediad, Sylfaen, Canoradd ac Uwch. Ariennir y project gan Gyngor Llyfrau Cymru, ac fe’u cyhoeddir ar y cyd rhwng pedwar cyhoeddwr blaenllaw, gyda chefnogaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Wrth gyhoeddi Wynne Evans – o Gaerfyrddin i Go Compare, meddai Delyth Ifan, Cyfarwyddwr CAA Cymru, "Rydym yn hynod falch o gyflwyno’r llyfrau newydd hyn i oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Yn ogystal â bod yn addas ar gyfer dysgwyr, mae’r llyfrau yn addas ar gyfer pobl sydd yn rhugl ond yn llai hyderus wrth ddarllen. Bydden ni hefyd yn annog unrhyw un sydd am ailgydio yn yr iaith i’w darllen."
Cynhelir digwyddiadau eraill i hyrwyddo Cyfres Amdani yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym mis Awst, a chyhoeddir gweddill llyfrau’r gyfres erbyn dechrau mis Hydref 2018.
Gan Fflur Davies (Cyfarwyddwr Cynorthwyol, CAA Cymru)
Wynne Evans launches his biography at the Royal Welsh Show
An event to launch the honest and compelling biography of the famous singer, Wynne Evans, was held at the Royal Welsh Show. Wynne Evans chatted on stage with Alun Williams, presenter of Dal Ati: Bore Da (S4C) about his new book, Wynne Evans – O Gaerfyrddin i Go Compare.
The book, written by author Elin Meek and published by CAA Cymru, is aimed at adults who are learning Welsh at the Mynediad (Entry) level or above, and tells the story of the tenor who became famous for his role in the Go Compare television advertisements.
The audience had the opportunity to buy signed copies following the event – including Steve Hughson, RWS Chief Executive. Steve is also a Welsh learner and he emphasized on stage how important it is to ‘have a go’, and to practise and read as much as possible whilst learning the language.
The book is part of the Amdani series, which has been developed specifically for adults learning Welsh, and have been graded at four levels – Entry, Foundation, Intermediate and Advanced. The project is funded by the Welsh Books Council, and will be published jointly by four leading publishers, with the support of the National Centre for Learning Welsh.
On publishing Wynne Evans – o Gaerfyrddin i Go Compare, Delyth Ifan, CAA Cymru Director said: “We're delighted to present these new books for adults learning Welsh. As well as being suitable for learners, these books are suitable for people who may be fluent Welsh speakers but lack confidence in reading the language. I would also encourage anyone wanting to reacquaint themselves with the language to read them."
Other events to promote Cyfres Amdani will be held at the National Eisteddfod in Cardiff in August, and the remaining titles in the series will be published in October 2018.
By Fflur Davies (Assistant Director, CAA Cymru)
Wynne gyda Helen Prosser (Cyfarwyddwr Strategol, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol), Rhiannon Thomas (Golygydd, Cyngor Llyfrau Cymru) & Delyth Ifan (Cyfarwyddwr CAA Cymru)
Wynne yn arwyddo ei lyfr
Wynne ac Alun Williams (sioe teledu Bore Da) ar y llwyfan, gyda chyfweliad isod
Blas o'r llyfr
On this parallel.cymru page, press or click the highlighted word to show the English equivalent.
Enw: Wynne Evans
Blwyddyn geni: 1972
Dod yn wreiddiol: o Gaerfyrddin
Byw nawr: yng Nghaerdydd
Gwaith: Tenor, cyflwynydd ar Radio Wales, Radio 3 a Classic FM
Enwog iawn am fod yn: Gio Compario ar hysbysebion Go Compare
Beth yw hanes y teulu? Roedd teulu Dad yn dod o Langynog, ar bwys Caerfyrddin. Ffermwyr o'n nhw. Roedd teulu fy nhad yn siarad Cymraeg. Cymraeg oedd iaith gyntaf fy nhad. Mae hanes teulu Mam dipyn bach yn wahanol. Roedd fy mamgu (mam fy mam) yn dod o Gaerfyrddin, ond roedd fy nhad-cu (tad fy mam) yn dod o Frwsel, Gwlad Belg.
Sut cwrddon nhw? Yn yr Ail Ryfel Byd, roedd fy nhad-cu'n swyddog gyda byddin Gwlad Belg. Roedd e'n byw yn Ninbych-y-pysgod. Cwrddodd e â fy mam-gu. Roedd e'n dod ar y trên o Ddinbych-y-pysgod i Gaerfyrddin i weld fy mam-gu.
* * * * * * * * * * * * * * *
Dych chi wedi teimlo'n nerfus? Do'n i ddim yn teimlo'n nerfus. Ond wedyn, ces i amser anodd pan fuodd fy mam farw. Ces i sioc fawr. Yna, yn sydyn, collais i fy hyder. Do'n i ddim yn gallu mynd ar y llwyfan dim ots lle roedd y llwyfan - llwyfan mewn neuadd fach, neu lwyfan mewn tý opera mawr - ro'n i'n nerfus dros ben. Ro'n i'n poeni. Roedd e'n amser anodd iawn i fi. Roedd teulu ifanc gyda ni a doedd dim llawer o arian gyda ni. Diolch byth, daeth pethau 'nôl yn iawn ar ôl ychydig bach o amser.
Dych chi wedi colli eich rhieni erbyn hyn. Ydw, dw i'n gweld eisiau fy rhieni'n fawr. Collon ni fy mam yn sydyn iawn. Roedd fy mam yn gwneud llawer yng Nghaerfyrddin. Roedd hi'n berson penderfynol iawn – os oedd hi eisiau gwneud rhywbeth, doedd dim byd yn stopio fy mam. Doedd hi ddim yn dilyn y rheolau weithiau! Ond roedd hi'n llwyddo i wneud pethau – fel achub y Lyric. Roedd hi'n fam dda, ond roedd hi'n anodd byw gyda hi weithiau. A dweud y gwir, doedd hi ddim yn gofalu amdani ei hunan.
* * * * * * * * * * * * * * *
Rhai o hoff bethau Wynne
Hoff gân i'w chanu
Dw i'n hoffi canu 'The Impossible Dream'- hoff gan fy mam. Dw i'n hoffi caneuon Ivor Novello, fel 'Shine Through My Dreams' a 'My Life Belongs To You'. Mae'r caneoun mewn operâu yn grêt hefyd. Yn ddiweddar, daeth operâu comig yn boblogaidd. Ro'n i'n wrth fy modd- ro'n i'n gweithio trwy'r amser.
Hoff gar
Dw i'n dwlu ar geir. Roedd sawl Afla Romeo gyda fi. Ces i brofiad gwael gyda Saab. Pryniais i gar Saab, a bron yn syth, aeth cwmni Saab i'r wal. Collais i warant a phopeth. Dw i'n cael nawdd gyda Mercedes nawr. Mae hynny'n grêt! Mae un car dwy sedd gyda fi, ac un car 4x4.
* * * * * * * * * * * * * * *
Lluniau o album Wynne
Ysgol Pentrepoeth, 1982. Dw i yn y cefn, y 4ydd o'r dde.
Bugsy Malone yn Ysgol Cambria, 1985. Fi oedd Fat Sam.
Adolygiad gan Phyl Brake, cydlynydd Dysgu Cymraeg i Brifysgol Aberystwyth:
Hanes gonest, difyr a chymhellol o’r canwr o dde Cymru sydd wedi dod yn adnabyddus ledled Prydain diolch i hysbysebion teledu poblogaidd gwefan cymharu gwasanaethau ariannol Go Compare. Fe’i hysgrifennwyd gan rywun a chanddi flynyddoedd lawer o brofiad ym maes Dysgu Cymraeg fel tiwtor, ac awdures ac fel ysgrifennwr cyrsiau ei hunan.
Mae’r eirfa a’r patrymau iaith a ddefnyddir yn berthnasol ac yn strwythuredig, ac mae rhestr fer o eirfa newydd ar waelod pob tudalen. Yn ogystal mae’r geiriau hyn i gyd yn ailymddangos mewn geiriadur bach fel atodiad ar ddiwedd y llyfryn. Mae hanes Wynne Evans yn ddigon gafaelgar i gynnal diddordeb y darllenydd drwyddi draw, tra, ar yr un pryd, mae ailadrodd cyson yn sicrhau fod dysgwyr ar bob lefel, yn ymgyfarwyddo’n isymwybodol â geirfa berthnasol a phatrymau iaith sylfaenol.
Mae hyn oll yn golygu fod Wynne Evans – o Gaerfyrddin i Go Compare, ynghyd â’r llyfrau eraill sy’n rhan o’r un gyfres, yn adnawdd dysgu defnyddiol iawn ar gyfer dysgwyr y Gymraeg.
Review by Phyl Brake, Teach Welsh coordinator at Aberystwyth University:
The book is the honest, entertaining and compelling account of the singer from south Wales who has become well known throughout the UK thanks to the popular television adverts for the Go Compare financial comparison services website. The book was co-written by someone who has many years experience in teaching Welsh as a tutor, author and as a course writer herself.
The vocabulary and language patterns used are relevant and structured, and a short list of new vocabulary can be found at the bottom of each page. In addition all these words reappear in a small dictionary as an addendum at the end of the booklet. Wynne Evans’ story is sufficiently gripping to sustain the reader’s interest throughout, while, at the same time, constant repetition ensures that learners at all levels, familiarise themselves subconciously with relevant vocabulary and basic language patterns.
All of this means that Wynne Evans – from Carmarthen to Go Compare, together with the other books that are part of the same series, is a very useful learning resource for Welsh learners.