Gomer ar eich gwyliau 2019

Gomer ar eich gwyliau / Gomer on your holidays 2019

Mae gwyliau’r haf yn prysur nesáu ac mae pawb yn Gwasg Gomer wedi dechrau paratoi at fynd ar eu gwyliau. Ond mae un peth sydd wastad yn fwy anodd nag unrhyw beth arall... Sut ar wyneb y ddaear wyt ti’n dewis pa lyfrau i fynd â chi i ffwrdd? Yn lwcus, dan ni wedi rhoi ein pennau at ei gilydd a dod fyny â rhestr o’n teitlau diweddaraf sy’n berffaith ar gyfer gorwedd dan yr haul a phori’n hamddenol drwy’r tudalennau. Os ydach chi am brynu rhai o’r teitlau hyn, maen nhw i gyd ar gael o siopau llyfrau ledled Cymru.

The summer holidays are fast approaching and everyone at Gomer Press has started getting ready to go away. But there’s one thing that’s always harder than anything else… How on earth do you choose which books to take with you on holiday? Luckily we have put our heads together and come up with a list of our latest titles which are perfect for lying in the sun and leisurely browsing the pages. If you’d like to buy any of these titles, they’re all available from bookshops across Wales.

Oedolion Cymraeg / Welsh language adult titles:

Os ydach chi’n licio rhaglenni teledu megis Y Gwyll ac Un Bore Mercher mae’n siŵr byddwch chi’n hoff o nofel drosedd newydd Gareth W. Williams sydd wedi’i lleoli yn erbyn cefnlen y diwydiant fisitors yn y Rhyl - ym myd bingo, chips, candi-fflos ac arcêd Mexico Joe ar y prom. Mae grŵp o ffrindiau yn dod yn ôl at ei gilydd yn ystod haf ‘69, yn breuddwydio am gariad rhydd a mwynhau. Wrth ddod wyneb yn wyneb ag is-fyd y dref, maen nhw'n sylweddoli bod eu realiti yn llai addfwyn na byd y capel.

Cyhoeddir y nofel hon mewn da bryd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, ac mi fydd yn llyfr da ar gyfer nosweithiau hir yn y maes carafanau.

Dyddiad: Awst 2019

“Nofel fachog a chŵl sy'n llawn nostalgia'r 60au” – Siôn Hughes

Gareth W. Williams: Promenâd y Gwenoliaid

Gareth W Williams Prominâd Y Gwenoliaid

If you like television shows like Hinterland and Keeping Faith you will definitely enjoy Gareth W. Williams latest crime fiction offering which is set against the ‘Visitors’ industry in Rhyl – bingo, chips, candyfloss and Mexico Joe's arcade on the prom. A group of friends come back together during the summer of 69, dreaming of free love and fun. But when they come against the town's dark underworld, they come to realise that their reality is far less pleasant than chapel life.

This book will be published in time for the National Eisteddfod in Llanrwst this year and will make good reading for long nights on the caravan site.

Date: August 2019.

“A catchy and cool novel that is full of 60s nostalgia” – Siôn Hughes

Dydy darllen nofelau ddim at ddant pawb, felly os ydy’n well gennych chi dreulio’ch amser yn bod yn fwy creadigol dyma’r llyfr i chi! Mae Lliwio’r Gorllewin yn cynnwys arlunwaith wreiddiol gan Hannah Edwards i chi ei liwio. Mae’n dangos rhai o olygfeydd mwyaf hardd a phoblogaidd yng ngorllewin Cymru o Aberystwyth i Dyddewi a thu hwnt.

Bydd y gyfrol hon yn ffrind da i chi oddi gartref, ond peidiwch ag anghofio eich pensiliau!

Dyddiad: Gorffennaf 2019.

Hannah Edwards: Lliwio’r Gorllewin

Hannah Edwards LlGCtW

 

Not everyone is fond of reading novels, so if you prefer spending your time in a more creative way then this is the book for you! Lliwio’r Gorllewin / Colouring West Wales features original artistry by Hannah Edwards for you to colour in. It shows some of the most beautiful and popular views in West Wales, from Aberystwyth to Saint David’s and beyond.

This book will be a great companion when away from home, just don’t forget your colouring pencils!

Date: July 2019.

Nofel sy’n dilyn Helen a John, mam a mab. Mae gan Helen gyfrinach a phan ddaw'r amser bydd yn rhaid iddi rannu'r gyfrinach hon â'i mab. Canlyniad eu cyfrinach yw bod yn rhaid iddynt symud i ran arall o'r wlad bob pymtheg mlynedd gan achosi newidiadau yn eu perthynas â'i gilydd. Daw Helen i brofi cariad mewn sawl gwedd ac mae hi a'i theulu'n gorfod ymgodymu â'r gwahanu sydd ar y gorwel.

Dyma nofel wreiddiol sy’n gafael yn ei darllenwyr a gallwch chi ei darllen mewn diwrnod.

“Dyma berl o nofel” – Gruff Owen

Sian Northey: Perthyn

Siân Northey Perthyn

This novel follows two characters Helen and John, a mother and son. Helen has a secret and when the time comes she will have to share this secret with her son. As a result they have to move house to a different part of the country every fifteen years or so, having to change the nature of their relationship with each other at the same time. Helen learns to experience love in many ways as she and her family grapple with the separation that is fast approaching.

An original novel which grips its readers from the start and is one to read in a single day.

“This is a pearl of a novel” – Gruff Owen

Pan fo ei frawd ieuengaf yn listio yn y Rhyfel Mawr, mae Owen Humphreys yn teimlo dan bwysau listio hefyd, gan adael ei deulu a'i gariad ar ôl. Rai misoedd wedyn daw'r newyddion bod Owen a'i frawd wedi'u lladd. Ond beth sy'n digwydd pan ddychwela Owen i'w gartref ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r ysbyty, a pha gyfrinachau fydd yn cael eu datgelu..?

Stori droellog wedi’i gosod yn erbyn cefnlen y Rhyfel Mawr, yn mynd â’r darllenydd o Fôn i faes y gad ac yn ôl.

Parallel.cymru: Siôn Hughes: Ysgrifennu'r nofel newydd Y Milwr Coll

“Nofel hynod ddarllenadwy a gafaelgar” – John Ogwen

Siôn Hughes: Y Milwr Coll

Sion Hughes Y Milwr Coll

When his youngest brother enlists in the Great War, Owen Humphreys feels pressured to sign up as well, leaving his family and his girlfriend behind. Some months later news arrives that Owen and his brother have been killed. But what happens when Owen returns home upon being released from hospital, and which secrets are waiting to be uncovered..?

A twisting story set against the backdrop of World War One, taking the reader from Anglesey to the battlefields of France and back.

Siôn Hughes: Writing the new novel Y Milwr Coll

“A highly readable and engaging novel” – John Ogwen

I’r rheiny sy’n licio straeon iasoer ac ysgytwol mae nofel ddiweddaraf Meleri Wyn James.

Mae gan Dafydd a Helen ddau o blant, Magw a Pryderi. Un noson oer yn Ionawr mae'r ddau fach yn cysgu yn eu gwlâu pan ddaw rhywbeth dieflig drwy'r ffenest agored, bwystfil. Caiff Magw ei hanafu ac mae Pryderi'n gorwedd yn farw yn ei wely. Mae bywydau Dafydd a Helen yn cael eu troi wyneb i waered. Er gwaethaf eu galar mae pob math o gyhuddiadau ac ensyniadau'n cael eu taflu tuag atynt.

“Stori bwerus sy'n gafael o'r cychwyn cyntaf” – Fflur Dafydd

Meleri Wyn James: Blaidd wrth y Drws

Meleri Wyn James Blaidd Wrth y Drws

For those who like dark and shocking stories there is Meleri Wyn James’s latest novel.

Dafydd and Helen have two children, Magw and Pryderi. One cold January evening the two children are sleeping in their beds when something nasty comes through the open window, a monster. Magw is injured and Pryderi ends up lying dead in his bed. Dafydd and Helen’s lives are turned upside down in the ensuing months. Despite their grief all kinds of accusations and insinuations are thrown at them.

“A powerful story which grips from the very beginning” – Fflur Dafydd

Dydi Madog, gyrrwr tacsi o Fangor, ddim yn cael diwrnod da. Yn y bore, mae'n hebrwng corff ei fam i'r amlosgfa. Erbyn diwedd y dydd, bydd hefyd wedi colli'i gariad mawr. Ond pam ei bod hi wedi diflannu? Wrth dalu am wasanaeth y cyn-dditectif Ian Robertson i ymchwilio i'r mater, mae Madog yn codi cwr y llen ar sawl cyfrinach dywyll ac annymunol.

“O fewn dim, roeddwn mewn byd llawn dihirod dialgar, gangsters treisgar, rhyw, cyffuriau, cariad a thwyll... a llofrudd didrugaredd o ddwyrain Ewrop. Roeddwn i wrth fy modd!” – Dewi Prysor

Alun Cob: Tacsi i’r Tywyllwch

Alun Cob Tacsi i'r Tywyllwch

Madog, a taxi driver from Bangor, isn’t having a good day. In the morning he’s accompanying his mother’s body to the crematorium. By the end of the day he will have lost the love of his life as well. But why does she disappear? By paying for the services of ex-detective Ian Robertson to investigate the situation, Madog exposes many dark and unpleasant secrets.

“Within a moment, I was in a world full of rebellious villains, violent gangsters, sex, love, drugs and fraud… and a merciless killer from eastern Europe. I loved it!” – Dewi Prysor

Dysgwyr Cymraeg / Welsh Learners’ titles

Mae’n siŵr bod pawb yn ymwybodol o lyfrau Amdani, cyfres o gyfrolau sydd wedi’u datblygu i gyd-fynd â chyrsiau Dysgu Cymraeg (Cymraeg i Oedolion o’r blaen). Erbyn hyn mae Gomer wedi cyhoeddi pum llyfr yn y gyfres hon, felly beth am fynd â’ch Cymraeg o’r ystafell ddosbarth ac mewn i’r byd go iawn?

As I’m sure you’re all aware of the Amdani books, a series of books which have been developed to accompany the Learn Welsh courses (previously Welsh for Adults). Gomer have published five books int his series so far, so how about taking your Welsh from the classroom and into the world?

Mae Lucy Owen yn darllen y newyddion ar y teledu ac mae hi’n dysgu Cymraeg. Mae Lucy yn hoffi hwfro! Mae Rhodri Owen, ei gŵr, yn cyflwyno rhaglen deledu Heno. Mae’r cwpwl fynd allan am y diwrnod i fwynhau picnic gyda Gabriel, eu mab 10 oed. Mae llawer o bethau’n mynd yn anghywir. Mae Rhodri yn gweithio’r noson honno ar raglen deledu ond fydd e’n cyrraedd y gwaith ar amser ac mewn un darn? Fydd e’n edrych yn ddigon taclus i fynd o flaen y camera?

Lefel: Mynediad

Rhodri a Lucy Owen/Mari George/Hywel Griffiths (darluniau): Pass y Sugnydd Llwch Darling

Pass y Sugnydd Llwch Darling

Lucy Owen reads the news on the television and she is learning Welsh. Lucy likes hoovering! Rhodri Owen, her husband, presents the television programme Heno. The couple go out for the day to have a picnic with their ten year old son, Gabriel. Lots of things go wrong. Rhodri is working that evening on a television programme but will he get to work on time and in one piece? Will he look tidy enough to go on camera?

Level: Mynediad/Entry

Mae Elsa Bowen yn gweithio fel ditectif preifat; fel arfer mae'n ymchwilio i dwyll yswiriant. Ond mae hynny'n newid ar y bore Mercher yma. Mae sylw Elsa B ar siop lyfrau Cymraeg yn nhre Caernarfon lle mae pethau annisgwyl yn digwydd.

Parallel.cymru: Cyfweliad â Pegi Talfryn

Lefel: Mynediad

Pegi Talfryn / Hywel Griffiths (darluniau): Gangsters yn y Glaw

Cyfres Amdani Gangsters yn y Glaw clawr mawr

Elsa Bowen works as a private detective; usually she looks for insurance fraud. But that changes on this Wednesday morning. Elsa B’s attention falls on a Welsh language bookshop in Caernarfon where unexpected things are happening.

Parallel.cymru: Interview with Pegi Talfryn

Level: Mynediad/Entry

Un noson. Un stryd. Ac mae gan bob person ym mhob tŷ broblem. Sut mae Nina yn mynd i ddweud ei newyddion wrth Dafydd? Pam mae Magi yn gorfod ail feddwl am Xavier? Beth mae Sam yn mynd i wneud am y broblem fawr? Sut bydd bywyd Huw yn mynd i newid am byth? Bydd un nos Wener yn newid popeth.

Parallel.cymru: Mared Lewis: Creu Fi a Mr Huws, Y Stryd & Llwybrau Cul

Lefel: Sylfaen

Helen Naylor / Mared Lewis (addasiad): Y Stryd

Mared Lewis Y Stryd

One night. One street. And everyone in every house has a problem. How is Nina going to tell Dafydd the news? Why does Magi have to rethink Xavier? What will Sam do about the big problem? How will Huw’s life change for ever? One Friday night will change it all.

Parallel.cymru: Mared Lewis: Creating Fi a Mr Huws, Y Stryd & Llwybrau Cul

Level: Sylfaen/Foundation

Nofel ysgafn am ddyn sy'n syrthio mewn cariad â'i diwtor Cymraeg. Mae Liam yn newydd i ddosbarth Liz ym mis Medi. Ar yr wyneb mae'n hollol wahanol i'w diwtor, mae’n byw mewn camperfan lliwgar ac yn licio cerdded yn y mynyddoedd, lle mae Liz yn gofali am ei theulu trwy’r amser. Er gwaetha'r gwahaniaeth oed mae carwriaeth yn datblygu rhwng y ddau, a Liz yn wynebu creisus tipyn mwy cymhleth na sut i gyflwyno treigladau...

Parallel.cymru: Beca Brown: Ysgrifennu'r nofel i ddysgwyr, Gwers Mewn Cariad 

Lefel: Canolradd

Beca Brown / Hywel Griffiths (darluniau): Gwers Mewn Cariad

Beca Brown Gwers Mewn Cariad

A light novel about a man who falls in love with his Welsh tutor. Liam is new to Liz’s class in September. On the surface he’s completely different to his tutor, he live in a colourful campervan and likes walking in the mountains, whereas Liz looks after her family all the time. Despite the age difference love begins to develop between the two, and Liz faces a crisis a little more complicated than explaining mutations…

Parallel.cymru: Beca Brown: Writing the novel for learners, Gwers Mewn Cariad

Level: Canolradd/Intermediate

Pan fo tri byd yn taro yn erbyn ei gilydd, ydy unrhyw beth yn gallu aros yr un fath? Dydy Alfan ddim yn deall i ddechrau pam mae’r Siwan gyfoethog yn dangos diddordeb ynddo fo, rhywun sy’n byw ar y stryd, heb ddim byd i’w gynnig iddi hi. Mae hi’n gofyn iddo ddod i barti teuluol yng nghefn gwlad Cymru. Mae o’n cytuno ac yn penderfynu ei bod yn well peidio holi gormod. Ar ôl cyfarfod â’i brawd, Cai, daw Alfan i sylweddoli nad ydy bywyd mor syml â hynny. Yn ystod y penwythnos, daw cyfrinachau i’r wyneb sy’n clymu’r tri i’w gilydd am byth.

Parallel.cymru: Mared Lewis: Creu Fi a Mr Huws, Y Stryd & Llwybrau Cul

Lefel: Uwch

Mared Lewis: Llwybrau Cul

Mared Lewis Llwybrau Cul

When three worlds meet, is anyone able to stay the same? Alfan doesn’t understand at first why the wealthy Siwan is interested in him, someone who lives on the streets, with nothing to offer her. She invites him to a family party in rural Wales. He agrees to go with her and decides it would be best not to ask too much. After meeting her brother, Cai, Alfan realises that life isn’t always as simple as it seems. During the weekend, secrets come to light that forever bind the three together.

Parallel.cymru: Mared Lewis: Creating Fi a Mr Huws, Y Stryd & Llwybrau Cul

Level: Uwch/Advanced

Oedolion Ifainc Cymraeg / Welsh language young adult titles

Mae'r enw'n gyfarwydd, siawns. I lawer, mae Ifor Bach yn gysylltiedig ag ymosodiad beiddgar ar Gastell Caerdydd, ac â'r ysgol gynradd yn Abertridwr a enwyd ar ei ôl – ac â'r clwb nos enwog, wrth gwrs! Ond pwy oedd Ifor? Neu'n hytrach, pwy yw Ifor? Beth yw ei stori – beth fedrai'r stori honno fod – ac a yw hi'n berthnasol inni heddiw?

Parallel.cymru: Aneirin Karadog, Professor Ann Parry Owen, Eurig Salisbury, Natalie Ann Holborow & Norena Shopland: Cyflwyno Beirdd Cymreig

Eurig Salisbury: Ifor Bach

Eurig Salisbury Ifor Bach

You may be familiar with the name. To many, Ifor Bach is connected to the daring attack on Cardiff Castle, and to the school in Abertridwr which was named after him – and to the famous night club, of course! But who was Ifor? Or rather, who is Ifor? What is his story – what could the story be – and is it relevant to us today?

Parallel.cymru: Aneirin Karadog, Professor Ann Parry Owen, Eurig Salisbury, Natalie Ann Holborow & Norena Shopland: Introducing Welsh Poets

Plant Cymraeg / Welsh language children’s titles:

I ddathlu 50 mlynedd ers cyhoeddi’r llyfr cyntaf am Sali Mali a’i ffrindiau, dyma gyfrol hardd fydd yn anrheg arbennig i unrhyw blentyn bach neu deulu. Mae 12 o awduron enwog a phoblogaidd Cymru yn creu straeon i'w darllen i blant am anturiaethau Sali Mali, Jac Do a'u ffrindiau. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys clawr realiti estynedig, y cyntaf o’i fath ar gael ar glawr cyfrol Gymraeg.

Awduron: Eigra Lewis Roberts, Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Gruffudd Owen, Heledd Cynwal, Elen Pencwm, Bethan Gwanas, Rhys Ifans, Elis James, Aneirin Karadog, Tudur Owen, Ifana Savill.

Oedran: 3 – 7

Awduron Amrywiol: Straeon Nos Da Sali Mali

Straeon_Nos_Da_Sali_Mali

To celebrate 50 years since first publishing books about Sali Mali and her friends, this beautiful book will make a special present for any child or family. 12 famous and popular Welsh authors have created stories to read to children about the adventures of Sali Mali, Jac Do and their friends. The book also includes an augmented reality cover, the first of its kind on a Welsh language book.

Authors: Eigra Lewis Roberts, Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Gruffudd Owen, Heledd Cynwal, Elen Pencwm, Bethan Gwanas, Rhys Ifans, Elis James, Aneirin Karadog, Tudur Owen, Ifana Savill.

Age: 3 – 7

Wrth yr arhosfan bws, hanner ffordd rhwng ei gartref newydd a'i ysgol, mae Rhys yn dod ar draws yr union fan lle mae byd chwedlau a helyntion y byd go iawn yn cwrdd. Cowbois yn canu, creadur gwyrdd y cloddiau, y ferch gyflymaf ar ddwy olwyn, ymhlith eraill - a fydd y criw brith yma'n ddigon i'w achub rhag y gelyn peryclaf y gwyddon ni amdano?

Nofel antur gyffrous wedi’i haddasu o nofel Gymreig wreiddiol.

Ar gael yn Saesneg fel: The Bus Stop at the End of the World (Gomer 2017).

Oedran: 7 – 11

Dan Anthony / Ioan Kidd (addasiad) / Huw Aaron (darluniau): Arhosfan ym Mhen Draw’r Byd

Dan Anthony Arhosfan Ymhen Draw'r Byd

At the bus stop, halfway between his new home and school, Rhys has stumbled upon the spot where myth and real trouble get mixed up. Singing cowboys, green creatures from the hedge and the fastest girl on two wheels might not be enough to save him from the most dangerous enemy known to man.

An exciting adventure novel adapted from an original Welsh book.

Available in English as: The Bus Stop at the End of the World (Gomer 2017).

Age: 7 – 11

Dyma gyfres o bum nofel sy’n dilyn hynt a helynt grŵp o blant o ysgol Gwaelod y Garn a’i hathrawes hud, Miss Prydderch. Ymunwch â’r criw wrth iddyn nhw hedfan ar garped hud, trechu neidr dwyllodrus, cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac achub eu hysgol.

Dyma nofelau bywiog o Gymru sy’n cyflwyno idiomau a geiriau Cymraeg llai cyfarwydd i’w darllenwyr mewn modd cyfoes. Mae ‘na hefyd gynnwys ychwanegol ar gael ar wefan: www.missprydderch.cymru

Cyhoeddir chweched nofel yn y gyfres ym mis Awst 2019.

Oedran: 7 – 11

 Mererid Hopwood / Rhys Bevan Jones (darluniau): Cyfres Dosbarth Miss Prydderch

Mererid Hopwood Dosbarth Miss Prydderch 6

This series of five novels follows the adventures of a groups of school children from Ysgol Gwaelod y Garn and their magical teacher, Miss Prydderch. Join the crew as they fly on a magic carpet, defeat a deceitful snake, compete in the National Eisteddfod, and save their school.

These lively stories from Wales introduce lesser known Welsh language idioms and words to their readers in a modern way. There is also extra content available online at: www.missprydderch.cymru

The sixth novel in the series will be published in August 2019.

Age: 7 – 11

Mae’n anodd i ddiddanu’r plant ar wyliau, yn enwedig os ydy’r haf Cymreig yn bwrw glaw eto. Felly beth am nofel ffantasi gyffrous gyda darluniau lliwgar a diweddglo hapus?

Mae angen ddau beth ar fwbach – cartref i ofalu amdano a theulu i'w warchod. Felly beth gall Bwbach druan ei wneud pan gaiff ei dŷ ei ddatgymalu yn llythrennol o'i flaen? Mynd ar ei ôl, wrth gwrs! Ar ei ffordd mae'n cwrdd â chadnoid cyfeillgar, hebogiaid hylaw, ac amrywiaeth o anifeiliaid chwedlonaidd.

Darluniwyd y gyfrol hon gan yr awdur Graham Howells. Seiliwyd tŷ’r Bwbach ar un o dai hanesyddol amgueddfa Sain Ffagan.

Ar gael yn Saesneg fel: The Lonely Bwbach (Gomer 2018).

Oedran: 7 – 9

Graham Howells / Angharad Elen (addasiad): Y Bwbach Bach Unig

Graham Howells Y Bwbach Bach

 

It’s hard to keep children entertained on holiday, especially when the traditional Welsh summer starts raining. How about an exciting fantasy novel with colourful illustrations and an uplifting conclusion?

Every Bwbach needs two things - a house to take care of and a family to look after. So what's a poor Bwbach to do when his home is literally dismantled around him? Go after it, of course! On the way, he will meet friendly foxes, helpful hawks, and a variety of mythical beasts, the most puzzling of which: human children. Will the poor Bwbach ever find his cottage again?

The story has been illustrated by the author Graham Howells. The Bwbach’s house is based on one of the historic buildings at the Saint Fagan’s museum.

Available in English as: The Lonely Bwbach (Gomer 2018).

Age: 7 – 9

Oedolion Saesneg / English language adult’s titles:

Os nad ydach chi’n licio darllen ffuglen drwy’r amser, efallai mai dyma’r llyfr perffaith i chi fynd gyda chi ar eich gwyliau.

Ar ôl i'w phlant adael y nyth, mae Megan Lewis, un o fridwyr ceffylau mwyaf adnabyddus Prydain, yn penderfynu gwireddu un o'i breuddwydion sef teithio ar hyd Mur Mawr Tseina ar gefn ceffyl. Rhan o'i thaith epig o Beijing i Lundain yw'r fenter hon.

Mae’r gyfrol yn croniclo’r antur fawr ac yn cynnwys 42 o luniau lliw llawn.

“One ambitious journey, one inspirational story” – Tori James

Megan Knoyle Lewis: In the Shadow of the Great Wall

Megan Knoyle Lewis In_the_Shadow_of_the_Great_Wall

If you aren’t a fan of fiction, maybe this book will appeal with you for your holidays?

When her children fly the nest, Megan Lewis, one of UK's leading pony breeders, sets out to fulfil a lifelong dream of travelling the length of the Great Wall of China on horseback. This venture marks just one leg in her epic journey from Beijing to London. 48 colour photographs.

This book chronicles Megan’s great adventure and includes 42 colour images of her trip.

“One ambitious journey, one inspirational story” – Tori James

Un i holl ffans Agatha Christie yw’r nofel nesa ‘ma.

Nofel ddirgelwch wedi'i gosod mewn pentref gwledig yng ngorllewin Cymru. Daw athrawes ifanc o hyd i ddau gorff mewn ffermdy yn Sir Benfro, yng nghanol eira mawr 1947. Mae achos eu marwolaeth yn amlwg i lawer o'r gymdeithas - ac yn gyfleus i eraill.

Wrth i ganlyniad malais y ddau ledu trwy'r fro a thu hwnt, delir cymeriadau diniwed yn ei sgil, a rhaid i rai holi a ddylent ddweud y gwir i gyd ynteu cadw'n dawel a chyfri'r gost.

Addasiad gan yr awdur o Gwyn Eu Byd (Gomer 2010).

Mae dilyniant “Cyw Melyn y Fall” ar gael yn awr, a chyhoeddir trydedd nofel y gyfres hon “Gwawr Goch ar y Gorwel” yn hwyrach yn 2019.

“Intriguing and well-observed” – Chris West

Gwen Parrott: Dead White

Gwen Parrott Dead White

This is one for all the Agatha Christie fans out there.

It's 1947 and Della Arthur, the new schoolmistress, has just arrived in rural Pembrokeshire during the worst snowstorms the area has suffered in years. Forced to take shelter in a nearby farmhouse, what she discovers within will draw her into an investigation hampered by a community knotted in secrets.

Why isn't anyone mourning Glenys and Leonard Hughes? Why does no one want to involve the police? Why must the bodies be moved under cover of darkness? Inquisitive and determined, Della sets out in search of the truth, accompanied by the most unexpected of allies.

Adaption by the author of Gwyn Eu Byd (Gomer 2010).

A sequel “Cyw Melyn y Fall” is also available, and a third novel in this series “Gwawr Goch ar y Gorwel” will be published later in 2019.

“Intriguing and well-observed” – Chris West

Pontypridd, 1893. Mae yna ddamwain trên erchyll, ac yn anhrefn y drychineb mae llofrudd yn cuddio olion ei weithred, ond mae un o ddioddefwyr y ddamwain yn cael ei adnabod trwy'i watsh boced. Ddwy flynedd yn ddiweddarach mae Thomas Chard yn cyrraedd y dref i ddechrau swydd newydd fel arolygydd yr heddlu, ac ar yr un pryd darganfyddir corff yn Afon Taf.

Nofel drosedd sy’n dangos mai nid yn unig yn Whitechapel gall llofruddiaethau ddigwydd trwy ddatguddio ochr dywyll yn hanes tref Pontypridd.

“A wonderful crime romp in Victorian Ponty, alive with delicious contrasts: the town’s golden blackened ages; full of warmth... and murder” – Eddie Butler

Leslie Scase: Fortuna’s Deadly Shadow

Leslie Scase Fortunas Deadly Shadow

Pontypridd, 1893. A train crashes, and in the chaos of the disaster a killer covers the trail of a violent murder, but one of the crash victims is identified by means of a pocket watch. Two years later, Thomas Chard's arrival in town to take up his post as inspector in the burgeoning police force coincides with the grisly discovery of a body in the River Taff.

A crime novel that shows that murders can happen anywhere, and not just in Whitechapel, by revealing a dark side in the history of Pontypridd.

“A wonderful crime romp in Victorian Ponty, alive with delicious contrasts: the town’s golden blackened ages; full of warmth... and murder” – Eddie Butler

Wrth feddwl am hanes Cymru mae’n rhwydd iawn cael eich dal gan straeon Owain Glyndŵr a’r Chwyldro Diwydiannol, ond dyma nofel hanesyddol sy’n delio â themâu mwy cyfoes, sef datganoli.

Wedi'i gosod yn y 1970au mae Ten Million Stars Are Burning yn adlewyrchu gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru mewn cyfnod cyffrous a therfysglyd. Adroddir y stori drwy lygaid dau gymeriad sef Owen James, newyddiadurwr, a Rhiannon Jones-Davies, ymgyrchydd dros y Gymraeg, myfyrwraig a chynhyrchydd teledu yn ddiweddarach yn ei bywyd.

Ten Million Stars Are Burning captures the zeitgeist of the times we’ve lived through. I found it gripping, fascinating and convincing. Nothing like it has been done before” – Cynog Dafis, former AM and MP for Ceredigion

John Osmond: Ten Million Stars Are Burning

John Osmond- Ten Million Stars are Burning

When thinking of Welsh history it’s easy to get caught up in stories of Owain Glyndŵr and the Industrial Revolution, but here is a historical novel that deals with more contemporary themes, namely devolution.

Set in the 1970s, this documentary novel is set against the political and cultural events experienced in Wales during this tumultuous and exciting era. The story is told through the eyes of two fictional characters: Owen James, a journalist and Rhiannon Jones-Davies, a language activist, student, and later a television producer.

Ten Million Stars Are Burning captures the zeitgeist of the times we’ve lived through. I found it gripping, fascinating and convincing. Nothing like it has been done before” – Cynog Dafis, former AM and MP for Ceredigion

Oedolion Ifainc Saesneg / English language young adult titles:

Pwy sydd ddim yn hoffi straeon ysbrydion i godi ofn arnyn nhw cyn mynd i’r gwely? Dyma gyfrol am gyfeillgarwch a dealltwriaeth sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau bywyd a thranc.

Dydy Emlyn ddim yn credu bod ei gartref, The Skirrid Inn, yn llawn ysbrydion a bwganod. Ond mae popeth yn newid ar ôl i'w fam roi hen gloch forwyn iddo sy’n galw ysbryd Fanny Price yn ôl o'i bedd...

Parallel.cymru: Karla Brading: Defnyddio Aberfan a thafarn fwyaf ysbrydoledig Cymru i ysbrydoli ysgrifen oedolion ifanc

“A fantastic book that I couldn’t put down” – Yvette Fielding

Karla Brading: The Inn of Waking Shadows

Karla Brading The Inn Of Waking Shadows

Who doesn’t enjoy ghost stories to scare yourself before going to bed? This is a book about friendship and understanding which crosses the bounds of life and death.

Emlyn doesn't believe that his home, the Skirrid Inn, is haunted. But all that changes when his mum gifts him an old servant's bell and he summons the spirit of Fanny Price...

Parallel.cymru: Karla Brading: Using Aberfan and Wales’ most haunted pub to inspire young adult writing

“A fantastic book that I couldn’t put down” – Yvette Fielding

Mae Clint yn fachgen da sy’n meddwl ei fod yn gallu perswadio’i athrawon yn yr ysgol i gredu'r un peth - nes iddo gael ei daflu allan. Dyw Clint ddim yn gallu ymdopi gyda marwolaeth ei dad, galar ei fam, a'r ysgol i blant trafferthus. Ond beth sy’n digwydd pan ddaw Clint ar draws Parchman Farm a’r cymeriadau rhyfedd sy’n byw yno, a beth yn union yw “The Last Big One”...

Dan Anthony: The Last Big One

Dan Anthony- The Last Big One

Clint is a decent kid, and thinks he might even be able to convince his teachers of that – until an accident gets him expelled. Unable to face the death of his father, his emotionally distant, grieving mother, and a last-resort school for troubled kids, Clint runs away. But what happens when Clint comes across Parchman Farm and the strange characters who live there, and what exactly is “the Last Big One”…

Plant Saesneg / English language children’s titles:

Dyw Rich ddim yn gallu aros i’w benblwydd gyrraedd. Mi fydd yn cael PS4 o'r diwedd - mae'n sicr! Pan ddaw'r bore arbennig, ond mae'n brysio i lawr y grisiau ac yn darganfod gêm bwrdd a bocs llawn llyfrau yn ei le. Achos hyn mae'n benderfynol o godi'r arian i brynu PS4 ei hun, sut bynnag y gallith, ac yn cael gwers pwysig am gyfoeth a gwerth.

Dyma lyfr llawn moesau sy’n dysgu gwersi pwysig i blant.

Oedran: 7 – 10

“I loved this book... funny, moving, and thought-provoking” – Jenny Sullivan

Paul Manship: Kerching!

Paul Manship Kerching!

Rich can't wait for his birthday. He's finally going to get a PS4 – he knows it! When, on the special morning, he rushes downstairs to find a board game and a box of books in its place, he sets out to raise the money to buy his own, by any means necessary, and learns some very important lessons about wealth and value along the way.

This is a book filled with morals and important lessons for children.

Age: 7 – 10

“I loved this book... funny, moving, and thought-provoking” – Jenny Sullivan

Mae pawb yn hoffi darn o gacen i bwdin, ond mae’r deisen hon ar gyfer mwy na’r dant melys...

Pentref bach gyda chyfrinach yw Cwmbach: cyfrinach sbringar a blasus. A phan fo Charlie bach yn gollwng y gath o'r cwd ar ddamwain, bydd yn rhaid iddo roi ei fedrau athletig a'i onestrwydd ar brawf er mwyn cadw'r gyfrinach a'i bentref yn saff. Ond mae cymdogion drwg a throseddwyr barus ar y ffordd... A fydd Charlie yn llwyddo?

Oedran: 8 – 11

“A story with all the ingredients of a fun, whacky adventure” – Andy Seed

Laura Sheldon: Bananabeeyumio

Laura Sheldon Bananabeeyumio

Everyone likes a slice of cake for pudding, but this cake is for more than just a sweet tooth…

Cwmbach is a village with a secret: a springy, delicious, banana flavoured secret. When 11-year-old Charlie accidentally lets the cat out of the bag, he will have to put his athletic ability and his integrity to the test to keep the secret, and his village, safe. But there are bad neighbours and greedy criminals on the way… Will Charlie succeed?

Age: 8 – 11

“A story with all the ingredients of a fun, whacky adventure” – Andy Seed

Dyma saith o straeon cysylltiedig am blant Aberteg, pentref ffuglennol yng gorllewin Cymru, yn yr amser yn syth wedi'r Ail Ryfel Byd. O oresgyn salwch, i wneud ffrindiau mewn lleoedd annisgwyl, a hyd yn oed achub mochyn gyda thipyn bach o golur, mae'r straeon hyn yn dysgu plant am gystadleuaeth rhwng brodyr a chwiorydd, colled, bwlio a chyfeillgarwch.

Oedran: 5 – 8

“A wonderfully inventive and charming book of tales” – Michael and Clare Morpurgo

Sue Reardon Smith: Juliet Jones and the Ginger Pig

Sue-Reardon-Smith-JulietJonesandtheGingerPig

Seven interconnected stories about the children of Aberteg, a fictional West Wales village, just after the Second World War... From overcoming illnesses to making friends in unexpected places, and even saving a pig with a make-over, these tales teach children about sibling rivalry, loss, bullying and friendship.

Age: 5 – 8

“A wonderfully inventive and charming book of tales” – Michael and Clare Morpurgo

Y diweddaraf oddi wrth Authors: How and Why I Wrote