Welsh Whisperer- Ffyrdd y Wlad

Welsh Whisperer: Ffyrdd y Wlad

Mae’r Welsh Whisperer wedi bod yn teithio Cymru bron yn ddi-dor yn y blynyddoedd diweddar ac wedi denu cefnogwyr ffyddlon o bob oed ym mhob rhan o’r wlad, ond beth yw’r stori tu ôl ei fywyd unigryw ar ffyrdd y wlad yng Nghymru? Yn ei lyfr cyntaf, Ffyrdd y Wlad, mae'n cyflywno hanes rhai o’i helyntion wrth lenwi neuaddau rhai o gymunedau mwyaf anghysbell y wlad yn ogystal â gwisgo cordyn bêl fel belt yng nghanol ein trefi a dinasoedd wrth ddenu digon o sylw wrth wneud!

The Welsh Whisperer has toured Wales relentlessly in recent years and has recruited loyal supporters of all ages all over the country, but what’s the story behind his unique life on the road as Wales’ answer to Daniel O’Donnell, Justin Bieber and Dafydd Iwan combined? In his first book, Ffyrdd y Wlad, he presents tales of his adventures from filling halls in some of the country’s most remote communities to wearing his iconic baler twine belt and rigger boots in our towns and cities whilst attracting lots of attention!

Y gwerthiant llyfrau uchel / The high book sales

Beth sydd wedi fy synnu yn ogystal â'r gwerthiant arbennig mewn amser byr yw'r ystod oedranau sydd wedi dangos diddordeb yn y llyfr. Yr oedran mwyaf poblogaidd siŵr o fod ydy disgyblion ysgol Uwchradd sy'n wych achos dwi'n gwbod bod nifer ohonynt yn darllen llyfr Cymraeg am y tro cyntaf erioed. Mae'r sesiynau arwyddo wedi bod yn arbennig hefyd a sawl un o bob oed yn mwynhau gwahnaol elfenau o'r straeon a'r drygioni!What's surprised me as well as the high sales in a short time is the age range that has shown an interest in the book. The most popular age is likely high school pupils, which is great because I know that many of them are now reading a Welsh language book for the first time ever. Signing sessions have also been special and many of all ages enjoy the elements of the stories and the mischief!
Dwi wastad wedi dweud taw'r peth gorau am y gêm yma yw teithio Cymru a chyfarfod pobl o bob man, ac rwy'n falch bod hyrwyddo'r llyfr yma yn esgus arall i wneud hynny!I've always said that the best thing about this game is to travel Wales and meet people everywhere, and I'm glad that promoting this book is another excuse to do that!

Gwerthu nwyddau / Selling merchandise

Un peth sydd wedi dod allan o nunlle yw’r fyddin o blant sy’n ffyddlon i mi ac sy’n nagio eu rhieni i ddod i fy nosweithiau, ac yn gofyn i Siôn Corn am fy nwyddau yn yr hosan! Roedd e wedi fy nharo i reit ar y cychwyn bod yna ddiffyg nwyddau neu merchandise yn y byd cerddoriaeth Cymraeg yn gyffredinol. One thing that has come from nowhere is the hordes of children who are loyal to me and who nag their parents to come to my gigs, and ask Santa for my items in their stocking! It struck me down right the outset that there was a lack of goods or merchandise in the world of Welsh music in general.
Buais i’n pendroni pam nad oedd hwdis Dafydd Iwan ar gael, neu gwpanau John ac Alun i gydfynd â'r coasters? Bellach mae gwerthu nwyddau yn rhan arferol o bob ymddangosiad byw gan y Welsh Whisperer ac mae gen i CDs, crysau t, capiau, sticeri car, bathodynnau, magnets i’r oergell a llawer mwy – ac mae’r llyfr hwn yng nghanol y cwbwl nawr wrth gwrs! Dywedodd Geraint o siop Awen Teifi yn Aberteifi, Ceredigion, bod angen ‘symud yn gloi’ wrth werthu nwyddau fel hyn a hynny tra bod gan bobol ddiddordeb. Fe ddisgrifiodd Richard Fflach Geraint Awen Teifi fel ‘good sales barometer’, felly doedd dim angen i mi cael cyngor gan neb arall!'I wondered why Dafydd Iwan hoodies were not available, or John and Alun cups to go with the coasters? Sale of goods is now a normal part of every live appearance by the Welsh Whisperer and I have CDs, t-shirts, caps, car stickers, badges, magnets for the fridge and much more - and this book is in the middle of the all this of course! Geraint from Awen Teifi's shop in Cardigan, Ceredigion, said there was a need to 'move quickly' when selling such goods while people have an interest. Richard Fflach described Geraint Awen Teifi as 'a good sales barometer', so I did not need to get advice from anyone else!'

Darn o'r llyfr / A sample of the book

Mae’n ddeg o’r gloch y nos mewn sied fawr ac iddi lawr concrit a waliau metal. Nid gwartheg, defaid, moch na ieir sydd i lawr ar y gwellt heno ond punters cefn gwlad. Mae’r goleuadau yn fflachio (gwifren lac siŵr o fod), a does dim angen un o’r ffans mawr ’na ar flaen y llwyfan i chwythu gwallt y backing singers ’nôl yn bert achos mae drafft uffernol ’ma. Does dim angen bar go iawn, na thrwydded gwerthu cwrw, (neu oes ’na? Sai’n siŵr), dim ond bwrdd o’r neuadd bentref agosaf a digon o ganiau lager a chwerw i ail-greu Llyn Tegid yn Llanboidy (os nad ydyn nhw’n yfed y cwbwl gyntaf). Na, nid Hollywood na Las Vegas mohono, ond yn ddigon agos. Croeso i fy mywyd i ar y rhewl ac ar daith trwy’r sin Cymru & Western ar ei orau.It's ten o'clock at night in a large shed with concrete and metal walls. It's not cattle, sheep, pigs or chickens that are on the straw tonight but countryside punters. The lights are flashing (a loose wire probably), and there's no need for one of the big fans on the front of the stage to ripple the hair of the pretty backing singers because there is a hell of a draft. There is no need for a real bar, or a beer license, (or is there? I'm not sure), just a table from the nearest village hall and plenty of lager and bitter cans to recreate Llyn Tegid at Llanboidy (if they do not drink it all first). No, this isn't Hollywood or Las Vegas, but close enough. Welcome to my life on the road and on its trip through the Wales & Western scene at its best.
Daeth Dafydd Iwan mewn trwy’r drws ochr a rhuthro i’r llwyfan gyda’i gitâr, gan sefyll o flaen y dorf ac ymddiheuro am yr oedi. ‘Sori pawb, o’n i methu gweld yr arwyddion o gwmpas Llanboidy o gwbwl,’ meddai, cyn i rywun weiddi o’r cefn, ‘Jiw, jiw, Dafydd, ti yw’r un sy wedi’u tynnu nhw i lawr i gyd, achan!'Dafydd Iwan came through the side door and rushed to the stage with his guitar, standing in front of the crowd and apologised for the delays. 'Sorry everyone, I couldn't see the signs around Llanboidy at all,' he said, before someone shouted from the back, 'Crikey, Dafydd, it's you that has pulled them all down!
Dwi'n cofio canu Loris Mansel Davies am y tro cyntaf erioed yn Hotel a Motel Nant-y-Ffin yn Llandissilio, Sir Benfro ac anghofio’r geiriau hanner ffordd trwy’r gân! Y noson honno, dywedodd Clive Edwards y byddai Kaye Mansel, y perchennog, yn rhoi llun ohona i ar fwrdd darts cyn bo hir!I remember singing Loris Mansel Davies for the first time ever in Nant-y-Ffin Hotel and Motel in Llandissilio, Pembrokeshire and forgetting the words halfway through the song! That evening, Clive Edwards said that Kaye Mansel, the owner, would be putting a picture of it on board darts soon!

ylolfa.com/welsh-whisperer-ffyrdd-y-wlad / welshwhisperer.cymru

welshwhisperer / welshwhisperer

Geiriau Cân: Shiffto Trwy’r Prynhawn

Codi’n gynnar yn y bore, mas yn gweithio oriau mawr
Yn shifto trwy’r prynhawn ma nhw’n neud y job yn iawn
A lawr i’r dafarn i yfed tan y wawr

Ma na foi o Drelech sy’n gallu torri llech
Ac yn teilio tai pentrefi dros y sir
Ond un diwrnod ar y top gath o gormod o pop
Ac odd e’n hongian off y sgaffald am hir!

Beth am Joni Efailwen? Dyn sy’n hoffi torri pren
Yn chwysu chwifio bwyell ar y top
Odd e’n torri ar y bryn ar ôl bwced fach o gin
Ond gath e sioc pan nath y bwyell dal ei ****

Codi’n gynnar yn y bore, mas yn gweithio oriau mawr.
Yn shifto trwy’r prynhawn ma nhw’n neud y job yn iawn
A lawr i’r dafarn I yfed tan y wawr.

Ma na ffarmwr o Sanclêr sy’n gallu bod yn fler
Yn hoffi joch fach wrth weithio ar y tir,
Odd e wrthi’n stacio bêls ar ôl bod ar yr ales.
Ac os yw’r glas yn gofyn paid a dweud y gwir!

Ma fe’n gweithio oriau mawr yn cneifio fel y diawl
Yn ennill i afforddio gwyliau braf
Ond sdim ishe mynd yn bell, ma da fe syniad gwell
Chaso merched y wawr ar daith yr haf

Cyn pasio hanner awr oedd e’n meddwi fel y diawl
Yn fflirtio da golygydd papur bro
Ond erbyn diwedd y mis mi dalodd e’r pris
Odd e’n WANTED am chaso merched ‘to!

Codi’n gynnar yn y bore, mas yn gweithio oriau mawr.
Yn shifto trwy’r prynhawn ma nhw’n neud y job yn iawn
A lawr i’r dafarn i yfed tan y wawr.

Codi’n gynnar yn y bore, mas yn gweithio oriau mawr.
Yn shifto trwy’r prynhawn ma nhw’n neud y job yn iawn
A lawr i’r dafarn i yfed tan y wawr.

Geiriau Cân: Eto’n Dal i Fyd

Yn y flwyddyn nôl yn ‘98 yng nghefn gwlad Pen Llŷn
Roedd dyn o’r enw Dewi yn byw ar ben ei hun
Dim byd ar ôl yn ffarmio, yn amlwg i bob un
Prisiau cig yn disgyn, a llefrith ar ei din
Gyda nifer fach o gaeau, doedd tyfiant byth yn dda
Defaid, gwartheg, moch a ieir, fel gors yn yr haf
Ar ôl llond bol o’r bywyd ma wrth eistedd ar y graig Meddyliodd am sut yn y byd oedd posib ffeindio gwraig

Aeth at bapurau newydd, y classifieds i gyd
Doedd y ladies yn y showdance, ddim cweit at ddant y dyn
Fe ffoniodd Radio Cymru yn fyw am chwarter awr
I ffeindio merch o Gymru, i leddfu’r dristch mawr

Roedd Neli o Bwllheli, a Glain o Abergwaun, Rhian o Frynaman a Gwen o Borthdinllaen Roedd Manon o Dregaron, a Lyn o Hendy Gwyn, pob un wedi cael bus pass ond eto’n dal i fynd!

O druan ar hen Dewi, ei law dros ei geg
Y dyn o dan yr argraff, bod pob un o dan 30
Roedd pob un wedi priodi a bellach braidd yn hen
Yn herio dynion ifanc, da winc fach slei a gwên

Un diwrnod cafodd lythyr gan Dawn o Ynys Môn
Yn eisiau partner newydd a bywyd ar y lôn
Haleliwia meddai Dewi, ac ateb ‘Ie glei!’
Cyn welodd e gwallt y fenyw mwy na 50 shades of grey

Roedd Neli o Bwllheli, a Glain o Abergwaun, Rhian o Frynaman a Gwen o Borthdinllaen Roedd Manon o Dregaron, a Lyn o Hendy Gwyn Pob un wedi cael bus pass ond eto’n dal i fynd!

Fe gwrddodd e da merch o Ffrainc o’r enw Celine
ac aetho nhw i’r gwinllan am sesiwn ar y gwin
Aeth Dewi mas â hi am dro, i orwedd yn y shed
Cyn iddo sylweddoli roedd hi’n hŷn na’r ‘vintage red’.

Y nesaf oedd yn wraig i’r bwtchwr bach ym Mhontypridd
A Dewi’n dechre meddwl am ddiscownts ar ei gig
Ond cyn ddaeth two for 1 neu hanner pris ar ‘pownd o mince’
Doedd Dewi methu copio da oglau’r hen blue rinse!

Roedd Neli o Bwllheli, a Glain o Abergwaun, Rhian o Frynaman a Gwen o Borthdinllaen Roedd Manon o Dregaron, a Lyn o Hendy Gwyn Pob un wedi cael bus pass ond eto’n dal i fynd!

Wedi cael llond bola o helyntion ffindio merch
A cheisio swyno partner ‘da’i hen ganeuon serch
Aeth Dewi nôl i’r ffermdy, i gysgu gyda’r ci
Mae’r ci yn chwyrnu lot llai na rhai o’r O.A.P.s!

Roedd Neli o Bwllheli, a Glain o Abergwaun, Rhian o Frynaman a Gwen o Borthdinllaen Roedd Manon o Dregaron, a Lyn o Hendy Gwyn Pob un wedi cael bus pass ond eto’n dal i fynd!
Ie pob un wedi cael bus pass ond eto’n dal i fynd!

The Welsh Whisperer Ffyrdd y Wlad

Welsh Whisperer Y Dyn o Gwmfelin Mynach

Welsh Whisperer Dyn Y Diesel Coch

Y diweddaraf oddi wrth Informal