Yn y llyfr hwn fel rhan o'r Gyfres Amdani, mae Jon Gower yn mynd â'r darllenydd i 30 o leoliadau sy'n gysylltiedig â hanes Cymru. Mae'n esbonio pam mae'r lleoliadau yn bwysig yn hanes Cymru, ac mae e'n disgrifio eu harddwch a'u naws yn ei ffordd arbennig ei hun. Dyma flas i chi o’r llyfr...
In this book as part of Cyfres Amdani, Jon Gower takes the reader to 30 different locations connected to Wales' history. He explains why these places are important to Welsh history and describes their beauty and atmosphere in his own special way. Here is a taste of the book for you...
Awdur: Jon Gower
twitter.com/JonGower1
Price: £6.99
Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page.
Level: Sylfaen / Foundation
Publisher: CAA Cymru
Buy: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781845216870
Abaty Tyndyrn, Cas-gwent
Wnaeth mynachod Sistersaidd sefydlu yr abaty yma ar lan afon Gwy yn 1131. Roedd byw yn agos at natur yn bwysig iawn i’r mynachod. Roedden nhw am ddysgu pethau newydd yn y coed – pethau doedden nhw ddim yn eu dysgu mewn llyfrau. Dyma’r abaty Sistersaidd cynharaf yng Nghymru. Abaty Tyndyrn oedd yr abaty mwyaf cyfoethog yng Nghymru. Roedd un deg tri mynach yn creu incwm o £192 yn 1532.
Yn anffodus, gaeth yr abaty ei ddinistrio yn yr 1540au. Harri VIII oedd wedi dweud bod angen dinistrio’r abaty. Gaeth y plwm ei dynnu o’r to. Dim ond adfail ydy Abaty Tyndyrn heddiw, ond mae’n adfail mawreddog. Ysgrifennodd William Wordsworth gerdd enwog am yr abaty. Ewch i sefyll rhwng y pileri Gothig.
Edrychwch i fyny ar y ffenestri heb wydr. Mae hi’n hawdd dychmygu’r mynachod yn gweddïo ac yn trin gwlân.
Erddig, ger Wrecsam
Mae’r newyddiadurwr Simon Jenkins yn disgrifio Erddig fel ‘gem fawr yng nghoron tai cefn gwlad Cymru’. Dydy Erddig ddim mor drawiadol â Chastell Powis. Dydy e ddim mor gyffrous â gwylio tân gwyllt yng Nghastell Caerdydd. Beth sydd yn Erddig ydy’r teimlad bod pobl go iawn wedi byw yma. Mae’r hanes yn dod yn fyw i ymwelwyr.
Dyma’r hanes yn gryno: gaeth Joshua Edisbury ei wneud yn Uchel Siryf Sir Ddinbych yn 1682. Fe benderfynodd e wario arian mawr ar dŷ crand. Cyn hir roedd Joshua druan yn dlawd fel llygoden eglwys! Gaeth Erddig ei werthu i un person ar ôl y llall. Cyfreithiwr o’r enw John Mellor wnaeth newid yr adeilad o fod yn gartref cefn gwlad i fod yn gartref crand. Fe wnaeth e hyn cyn i deulu newydd yr Yorkes gyrraedd. Wrth gerdded o amgylch Erddig, gallwch weld sut roedd teulu’r Yorkes a’u staff yn byw – roedd y stad yn cynnal ei hun, gyda stabl a hufenfa, becws, gefail a chegin enfawr. Un o’r pethau hyfryd am deulu’r Yorkes oedd eu bod yn ysgrifennu cerddi byr, ysgafn am eu cartref. Roedden nhw hefyd yn ysgrifennu cerddi byr am y bobl oedd yn gweithio ar y stad. Gallwch chi weld y cerddi hyn wrth gerdded ar hyd y stad. Hefyd, fe welwch chi fod portreadau o’r gweision ar y waliau, sy’n awgrymu bod teulu’r Yorkes yn bobl deg ac arbennig.
Gresffordd, ger Wrecsam
Wnaeth yr hanesydd John Davies ddisgrifio Eglwys yr Holl Eneidiau yng Ngresffordd fel yr eglwys blwyf orau yng Nghymru. Mae hi’n eglwys arbennig o’r unfed ganrif ar bymtheg. Mae clychau’r eglwys yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Mae’r ffenestri gwydr lliw yn hardd iawn hefyd. Y tu allan i’r eglwys yn y fynwent mae coed ynn sy’n hen iawn. Ond y peth mwyaf trawiadol efallai ydy’r darn glo sydd yno. Darn glo o bwll glo Gresffordd ydy e. Ar 22 Medi 1934 gaeth 266 glöwr eu lladd yn y pwll glo. Roedd y glöwr ifancaf yn 14 mlwydd oed a’r glöwr hynaf yn 87 oed. Gaeth y darn glo ei roi ger yr eglwys ar ddiwrnod y ddamwain. Roedd pobl o bob rhan o ogledd-ddwyrain Cymru yn gweithio yn y pwll glo yng Ngresffordd. Gaeth y ddamwain effaith ar ardal fawr o ogledd-ddwyrain Cymru.
Yr Hen Goleg, Aberystwyth
Er bod Owain Glyndŵr wedi awgrymu creu prifysgol i Gymru yn y bymthegfed ganrif, ddaeth ei freuddwyd ddim yn wir tan yr ugeinfed ganrif. Roedd y dewis o safle yn ddiddorol, sef hen westy ar lan y môr yn Aberystwyth. Gaeth y gwesty ei gynllunio i gystadlu gyda’r gwestai crand yn St Pancras yn Llundain ac yn Scarborough. Y bwriad oedd troi Aberystwyth yn Brighton Cymreig, a denu miloedd o dwristiaid. Ond doedd y gwesty ddim yn llwyddiant ac aeth y perchennog i ddyled ar ôl blwyddyn. Wnaeth pwyllgor o bobl brynu’r gwesty am £10,000. Roedd y pwyllgor eisiau sefydlu prifysgol Cymru yno. Mae’r adeilad o’r tu allan yn edrych fel cymysgedd o gastell Cymreig a château Ffrengig, achos bod ganddo sawl tŵr a ffenestri gwahanol. Yn ôl un stori, daeth y pensaer enwog Nikolaus Pevsner i Aberystwyth. Wnaeth e edrych ar yr adeilad a dweud, ‘Good God!’ Beth bynnag, mae’r Hen Goleg yn symbol o freuddwyd cenedl a pharch pobl Cymru at addysg.
Ogof Pen-y-fai, Rhosili
Ogof ar Penrhyn Gŵyr ydy Ogof Pen-y-fai. Enw arall ar yr ogof ydy ‘Twll yr Afr’. Mae’r ogof ger pentref Rhosili. Gaeth dyn ei gladdu yma tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Dyma’r angladd ‘This triggers the tooltip’ gyntaf yng Nghymru. Roedd y sgerbwd yn gorwedd yma yn dawel, uwchben y môr, tan 1823. Wedyn daeth archeolegydd o’r enw William Buckland yma o Brifysgol Rhydychen. Wnaeth Buckland ffeindio esgyrn dynol.Wnaeth e ffeindio pethau eraill o’r un cyfnod – pethau fel cregyn ac ifori. Mae hyn yn dangos bod anifeiliaid gwyllt fel y rhinoseros, y teigr enfawr a’r mamoth wedi byw yn yr ardal.
Roedd y pethau hyn wedi cael eu defnyddio yn yr angladd. Esgyrn menyw oedden nhw – dyna roedd pobl yn credu i ddechrau. Dyna pam roedd pobl yn siarad am ‘Ddynes Goch Paviland’. Wedyn roedd pobl wedi nabod yr esgyrn oedd yn gorwedd ar y pridd coch yn yr ogof fel esgyrn dyn ifanc, nid esgyrn menyw. Roedd y pridd wedi lliwio’r esgyrn. Heddiw mae’r sgerbwd yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain. Mae’n dawel fel y bedd yn Ogof Pen-y-fai!