Lleucu Roberts Afallon Yr Ynys Hadau

Lleucu Roberts a’r drioleg wedi’i seilio yn y dyfodol / and the futuristic trilogy: Yma- Yr Ynys, Hadau & Afallon

Sut ydy rhywun mynd ati greu cyfres o dri llyfr wedi’i seilio yn y dyfodol? Yma mae Lleucu Roberts, sydd wedi ennill gwobr Tir na n-Og dwywaith ac enillodd Wobr Goffa Daniel Owen a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, yn esbonio mwy...

How does someone go about creating a series of three books set in the future? Here Lleucu Roberts, who has won the Tir na n-Og award twice and she has won the Daniel Owen Memorial Prize and the Prose Medal at the 2014 National Eisteddfod in Carmarthenshire, explains more...

Afallon yw’r olaf yn nhrioleg Yma, sef tair nofel ar gyfer rhai 14 oed a hŷn. Yr Ynys a Hadau yw enwau’r ddwy nofel arall. Er mai i bobl ifanc roeddwn i’n ysgrifennu, doeddwn i ddim am gyfyngu fy hun i’r grŵp oedran hwnnw, a dwi’n falch o glywed bod oedolion hefyd yn darllen y gyfres.

Fel arfer, mae pobl ifanc yn chwilio am nofelau gyda llawer o bethau’n digwydd ynddyn nhw a llwybrau storïol cymhleth gyda llawer o bethau i gnoi cil arnyn nhw, a dwi’n gobeithio bod cyfres Yma yn gallu cynnig hynny iddyn nhw, ac i bawb sy’n ei darllen.

Y brîff oedd tair nofel wedi’i seilio yn y dyfodol neu ffantasi. Rhaid i mi gyfaddef, doedd dim llawer o syniad gen i ble i gychwyn meddwl am stori. Roedd y syniad o sgwennu cyfres yn codi ofn arna i braidd. Sut oedd cynnal diddordeb darllenwyr ifanc dros dair nofel? Sut oedd cynnal fy niddordeb i dros dair nofel?

A’i seilio yn y dyfodol neu ffantasi? Cyfaddefiad pellach: dwi ddim yn un am ddarllen ffantasi. Wnes i erioed gladdu fy hun mewn anturiaethau Potteraidd, na llyncu llyfrau Philip Pullman fesul llathen. Fel arfer, rwy’n cadw’n glir o’r arallfydol (gan wybod ar yr un pryd cymaint o golled yw hynny i mi fel darllenydd). Felly, os nad oeddwn i’n llwyddo i ddarllen nofelau ffantasi, pa obaith yn y byd oedd gen i o ysgrifennu nofelau o’r fath?

Ar y llaw arall, roedd yna apêl pendant i osod stori yn y dyfodol. Mae’n hollol wahanol i’r arallfydol am mai dechrau wrth eich traed, yn heddiw, rydych chi mewn gwirionedd, ac estyn carped cyfan o ‘beth os?’ allan o’ch blaen dros y degawdau i’r dyfodol. Gallwch greu eich byd eich hun o fewn cyfyngiadau rhesymegol y byd hwn, a dilyn eich trwyn fel petai, i weld lle mae’n eich arwain.

Dwi’n edmygu gwaith dyfodolaidd neu ôl-apocalyptig fel Y Dŵr gan Lloyd Jones, Titrwm gan Angharad Tomos, Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ross ac Ebargofiant gan Jerry Hunter, a gwaith Margaret Atwood, George Orwell a Cormac McCarthy, ac yn sicr, mae’r rhain wedi dylanwadu ar y ffordd dwi’n ysgrifennu. Ddeng mlynedd yn ôl, ysgrifennais nofel ddyfodolaidd o’r enw Annwyl Smotyn Bach a oedd yn olrhain hanes mam feichiog oedd yn byw dan drefn ormesol a geisiai gael gwared ar bopeth lleiafrifol, gan gynnwys llyfrau Cymraeg a defnydd o’r Gymraeg.

Hanes Gwawr a Cai sydd yn y gyfres Yma. Maen nhw’n byw 120 o flynyddoedd yn y dyfodol, yn 2140, ar ynys yng nghylch yr arctig. Maen nhw hefyd yn siarad Cymraeg, fel mae llawer o drigolion yr Ynys, am fod Rhian, neu Mam Un, bum cenhedlaeth ynghynt, wedi ymrwymo i gadw’r iaith yn fyw ar dafodau ei disgynyddion ar ôl y Diwedd Mawr, pan gafodd y rhan fwyaf o boblogaeth y byd eu difa mewn rhyfel niwclear.

Adrodd hanes taith Gwawr a Cai yn ôl i Gymru mae Yr Ynys, yn ôl i Aberystwyth o lle roedd Mam Un wedi dod dros ganrif ynghynt. Maen nhw’n meddwl eu bod nhw’n dychwelyd i wlad heb unrhyw bobl yn byw ynddi, ond maen nhw’n cael sioc wrth weld olion pobl, a’r rheini’n olion diweddar.

Yn Hadau arhoswn gyda Gwawr a Cai a’r teithwyr eraill o’r Ynys, wrth iddyn nhw ddod i gysylltiad â llwyth y Ni, sy’n addoli llygod mawr, a’u harweinydd Bwmbwm, ac Anil annwyl, sy’n dod yn gyfaill agos iawn i Cai a Gwawr.

Erbyn Afallon, daw trigolion Aberystwyth wyneb yn wyneb â heriau eraill, a thaith arall i le gwahanol iawn y tro hwn.

Drwy anturiaethau Gwawr a Cai, dwi’n gobeithio fy mod wedi cyffwrdd â llawer o themâu sydd yr un mor berthnasol i bobl heddiw ag y maen nhw i’r cymeriadau hyn sy’n byw yn y dyfodol – pethau fel crefydd, bod yn ‘wahanol’ a’r ‘Arall’, a gormes grym ar hawliau a bywydau pobl debyg iawn i ni.

Ond yn fwy na dim, dwi’n gobeithio ei bod hi’n drioleg y gall pobl o bob oed ei mwynhau ac ymgolli ynddi.

I osod stori yn y dyfodol yn hollol wahanol i’r arallfydol am mai dechrau wrth eich traed, yn heddiw, rydych chi mewn gwirionedd, ac estyn carped cyfan o ‘beth os?’ allan o’ch blaen dros y degawdau i’r dyfodol.

Fersiwn dwyieithog / Bilingual version

Afallon yw’r olaf yn nhrioleg Yma, sef tair nofel ar gyfer rhai 14 oed a hŷn. Yr Ynys a Hadau yw enwau’r ddwy nofel arall. Er mai i bobl ifanc roeddwn i’n ysgrifennu, doeddwn i ddim am gyfyngu fy hun i’r grŵp oedran hwnnw, a dwi’n falch o glywed bod oedolion hefyd yn darllen y gyfres.Afallon (Avalon) is the last in the YMA trilogy, three novels for 14+ year olds. The other two novels are Yr Ynys (The Island) and Hadau (Seeds). Although I was writing for young people, I didn't want to restrict myself to that age group, and I am pleased to hear that adults are also reading the series.
Fel arfer, mae pobl ifanc yn chwilio am nofelau gyda llawer o bethau’n digwydd ynddyn nhw a llwybrau storïol cymhleth gyda llawer o bethau i gnoi cil arnyn nhw, a dwi’n gobeithio bod cyfres Yma yn gallu cynnig hynny iddyn nhw, ac i bawb sy’n ei darllen.Usually, young people look for novels with plenty of things going on and complex storytelling with lots of things to think about, and I hope that the Yma series can offer them this, along with everyone else who reads them.
Y brîff oedd tair nofel wedi’i seilio yn y dyfodol neu ffantasi. Rhaid i mi gyfaddef, doedd dim llawer o syniad gen i ble i gychwyn meddwl am stori. Roedd y syniad o sgwennu cyfres yn codi ofn arna i braidd. Sut oedd cynnal diddordeb darllenwyr ifanc dros dair nofel? Sut oedd cynnal fy niddordeb i dros dair nofel?The brief was three futuristic or fantasy novels. I must confess, I didn't have much of an idea where to start thinking about a story. The idea of writing a series was a bit scary. How would I manage to keep young readers interested over three novels? How would I manage to keep myself interested over three novels?
A’i seilio yn y dyfodol neu ffantasi? Cyfaddefiad pellach: dwi ddim yn un am ddarllen ffantasi. Wnes i erioed gladdu fy hun mewn anturiaethau Potteraidd, na llyncu llyfrau Philip Pullman fesul llathen. Fel arfer, rwy’n cadw’n glir o’r arallfydol (gan wybod ar yr un pryd cymaint o golled yw hynny i mi fel darllenydd). Felly, os nad oeddwn i’n llwyddo i ddarllen nofelau ffantasi, pa obaith yn y byd oedd gen i o ysgrifennu nofelau o’r fath?And fantasy or futuristic? One further confession: I'm not one for reading fantasy. I have never buried myself in Potterish adventures, nor swallowed Philip Pullman's books by the yard. I usually keep clear of the supernatural (whilst knowing that I’m losing out as a reader). So, if I didn't read fantasy novels, what hope did I have of writing such novels?
Ar y llaw arall, roedd yna apêl pendant i osod stori yn y dyfodol. Mae’n hollol wahanol i’r arallfydol am mai dechrau wrth eich traed, yn heddiw, rydych chi mewn gwirionedd, ac estyn carped cyfan o ‘beth os?’ allan o’ch blaen dros y degawdau i’r dyfodol. Gallwch greu eich byd eich hun o fewn cyfyngiadau rhesymegol y byd hwn, a dilyn eich trwyn fel petai, i weld lle mae’n eich arwain. On the other hand, there was a definite appeal in setting a story in the future. It is completely different from fantasy because you are actually starting at your feet, here, today, and you lay down before you a whole carpet of ‘what ifs’ to stretch out over the decades into the future. You can create your own world within the logical limits of this world, and follow your nose as it were, to see where it leads you.
Dwi’n edmygu gwaith dyfodolaidd neu ôl-apocalyptig fel Y Dŵr gan Lloyd Jones, Titrwm gan Angharad Tomos, Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ross ac Ebargofiant gan Jerry Hunter, a gwaith Margaret Atwood, George Orwell a Cormac McCarthy, ac yn sicr, mae’r rhain wedi dylanwadu ar y ffordd dwi’n ysgrifennu. Ddeng mlynedd yn ôl, ysgrifennais nofel ddyfodolaidd o’r enw Annwyl Smotyn Bach a oedd yn olrhain hanes mam feichiog oedd yn byw dan drefn ormesol a geisiai gael gwared ar bopeth lleiafrifol, gan gynnwys llyfrau Cymraeg a defnydd o’r Gymraeg.I admire futuristic or post-apocalyptic work such as the Y Dŵr (The Water) by Lloyd Jones, Titrwm by Angharad Tomos, Llyfr Glas Nebo (Blue Book of Nebo) by Manon Steffan Ross and Ebargofiant by Jerry Hunter, and works by Margaret Atwood, George Orwell and Cormac McCarthy. These have certainly influenced the way I write. Ten years ago, I wrote a futuristic novel called Annwyl Smotyn Bach (Dear Little Spot) which traced the story of a pregnant mother who lived under an oppressive regime that sought to eliminate all minorities, including Welsh books and use of the Welsh language.
Hanes Gwawr a Cai sydd yn y gyfres Yma. Maen nhw’n byw 120 o flynyddoedd yn y dyfodol, yn 2140, ar ynys yng nghylch yr arctig. Maen nhw hefyd yn siarad Cymraeg, fel mae llawer o drigolion yr Ynys, am fod Rhian, neu Mam Un, bum cenhedlaeth ynghynt, wedi ymrwymo i gadw’r iaith yn fyw ar dafodau ei disgynyddion ar ôl y Diwedd Mawr, pan gafodd y rhan fwyaf o boblogaeth y byd eu difa mewn rhyfel niwclear.The series Yma tells the story of Gwawr and Cai. They live 120 years in the future, in 2140, on an island in the arctic circle. They also speak Welsh, as do many of the residents of the Island because Rhian, or Mam Un (Mother One), five generations earlier, was committed to keeping the language alive on the tongues of her children and descendants after the Great End when when most of the world's population were killed in a nuclear war.
Adrodd hanes taith Gwawr a Cai yn ôl i Gymru mae Yr Ynys, yn ôl i Aberystwyth o lle roedd Mam Un wedi dod dros ganrif ynghynt. Maen nhw’n meddwl eu bod nhw’n dychwelyd i wlad heb unrhyw bobl yn byw ynddi, ond maen nhw’n cael sioc wrth weld olion pobl, a’r rheini’n olion diweddar.Yr Ynys tells the story of Gwawr and Cai's journey back to Wales from where Mam Un had come over a century earlier. They think they are returning to a country with no people living in it, but they are shocked to see the remains of people, and recent remains at that.
Yn Hadau arhoswn gyda Gwawr a Cai a’r teithwyr eraill o’r Ynys, wrth iddyn nhw ddod i gysylltiad â llwyth y Ni, sy’n addoli llygod mawr, a’u harweinydd Bwmbwm, ac Anil annwyl, sy’n dod yn gyfaill agos iawn i Cai a Gwawr.In Hadau, we stay with Gwawr and Cai and the other travellers from the Island, as they come face to face with the tribe of the Ni, who worship rats, and their leader, Bwmbwm, and the gentle Anil, who becomes a very close friend of Cai and Gwawr.
Erbyn Afallon, daw trigolion Aberystwyth wyneb yn wyneb â heriau eraill, a thaith arall i le gwahanol iawn y tro hwn.By Afallon, the residents of Aberystwyth face other challenges, and another journey, to a very different place this time.
Drwy anturiaethau Gwawr a Cai, dwi’n gobeithio fy mod wedi cyffwrdd â llawer o themâu sydd yr un mor berthnasol i bobl heddiw ag y maen nhw i’r cymeriadau hyn sy’n byw yn y dyfodol – pethau fel crefydd, bod yn ‘wahanol’ a’r ‘Arall’, a gormes grym ar hawliau a bywydau pobl debyg iawn i ni.Through the adventures of Gwawr and Cai, I hope that I have touched on many themes that are as relevant to people today as they are to these characters who live in the future - things like religion, being ‘different’, the 'Other ', and the repression of the rights and lives of people very similar to us.
Ond yn fwy na dim, dwi’n gobeithio ei bod hi’n drioleg y gall pobl o bob oed ei mwynhau ac ymgolli ynddi.But above all, I hope that it is a trilogy that people of all ages can enjoy and lose themselves in its twists and turns.

ylolfa.com/awduron/475/lleucu-roberts / YLolfa

 

Lleucu Roberts Yr Ynys

Lleucu Roberts Hadau

Lleucu Roberts Afallon

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Informal