Elin Meek- Cymru Ar Y Map

Elin Meek & Lynda Tunnicliffe: Rhoi Cymru ar y Map / Putting Wales on the Map

Mae Cymru ar y Map wedi enill y wobr Tir na-nOg mewn seremoni yn Eisteddfod yr Urdd, mis Mai 2019, Bae Caerdydd.
Cymru ar y Map has won the Tir na-nOg Welsh-language awards children’s book award in a cermony at the Urdd Eisteddfod, May 2019, Cardiff Bay.

Mae Cymru’n gwlad y gân, cennin pedr, defaid, mynyddoedd, Gareth Bale, a llawer, llawer mwy! Mae llyfr newydd, Cymru ar y Map, yn cyflwyno hyfrydwch ein gwlad mewn modd ffres, i genhedlaeth newydd o blant Cymraeg a di-Gymraeg. Yma, mae’r awdures, Elin Meek, yn esbonio mwy…

Wales is country of song, daffodils, sheep, mountains, Gareth Bale, and much, much more! A new book, Wales on the Map, presents the joy of our country in a fresh way, to a new generation of Welsh and non-Welsh speaking children. Here, the author, Elin Meek, explains more…

Yn haf 2017, ces i e-bost oddi wrth Lynda o wasg Rily. Roedd hi’n gofyn a fasai diddordeb gyda fi mewn ysgrifennu llyfr ffeithiol i blant am Gymru. Atebais i ar unwaith a dweud fy mod i’n awyddus iawn. Gofynnodd Lynda am enghraifft o dudalen ar un sir yng Nghymru, a dewisais i sir Benfro.In the summer of 2017, I had an email from Lynda from Rily Publications. She was asking whether I would be interested in writing a factual book about Wales for children. I answered immediately and said I was very keen. Lynda asked for an example of a page on one county in Wales, and I chose Pembrokeshire.
Ar y pryd, do’n i ddim yn adnabod yr arlunydd a’r dylunydd. Ond cyn hir, daeth lluniau sir Benfro yn ôl, ac ro’n i wrth fy modd! Roedd Valériane Leblond wedi tynnu lluniau hyfryd dros ben, a Tanwen Haf wedi gwneud gwaith gwych yn gosod y testun a’r lluniau ar fap o’r sir.At the time, I didn’t know the artist and the designer. But before long, the Pembrokeshire illustrations came back, and I was delighted. Valériane Leblond had drawn really lovely pictures, and Tanwen Haf had done excellent work placing the text and the illustrations on a map of the county.
Ychydig yn ddiweddarach, gaethon ni wybod bod Cyngor Llyfrau Cymru yn barod i roi grant i wasg Rily i ddatblygu’r llyfr. Felly, gaethon ni gyfarfod yn Aberystwyth gyda’r golygydd, Catrin Wyn Lewis, i drafod beth fasai’n mynd ar bob tudalen yn y llyfr. Penderfynon ni fod angen dwy dudalen i bob sir, a hefyd tudalennau am ffeithiau cyffredinol am Gymru ar y dechrau, a thudalennau am themâu arbennig fel Bwyd, Byd Natur, y Celfyddydau, Chwedlau a Chwaraeon ar y diwedd. Yn ddiweddarach, penderfynon ni ychwanegu tudalennau am Gymru fel gwlad werdd, gyda’r teitl ‘Gofalu am ein Gwlad’.A little later, we got to know that the Welsh Books Council were prepared to give Rily Publications a grant to develop the book. So, we had a meeting in Aberystwyth with the editor, Catrin Wyn Lewis, to discuss what would go on each page in the book. We decided that two pages were needed for each county, and also pages on general facts about Wales at the beginning, and specific themes such as Food, Nature, the Arts, Legends and Sport at the end. Later on, we decided to add pages about Wales as a green country, entitled ‘Taking Care of Our Country’.
Roedd y broses ysgrifennu’n ddiddorol iawn. Roedd rhaid cynnwys y wybodaeth fwyaf amlwg am y siroedd – hanes, daearyddiaeth, enwogion ac ati. Roedd cymaint o wybodaeth am Wynedd a Phowys, roedd rhaid iddyn nhw gael pedair tudalen yr un yn y diwedd! Wrth weithio drwy’r siroedd, ro’n i’n casglu gwybodaeth hefyd i’r tudalennau ‘arbenigol’ ar y diwedd.The writing process was very interesting. The most obvious information had to be included about the counties – history, geography, famous people and so on. There was so much information about Gwynedd and Powys, they had to have four pages each in the end. As I worked through the counties, I also collected information for the ‘specific’ pages at the end.
Dw i’n dod o dde-orllewin Cymru, felly daeth tudalennau sir Gaerfyrddin, sir Benfro a Cheredigion yn weddol hawdd. Ond roedd angen i mi wneud llawer mwy o ymchwil i rai siroedd eraill, er enghraifft sir y Fflint, Blaenau Gwent a sir Fynwy. Dysgais i lawer o ffeithiau newydd a diddorol, rhaid dweud. Wedyn, roedd Valériane yn dewis tua 13 i 15 o eitemau o bob sir ac yn tynnu eu lluniau. Mae hi’n gallu tynnu llun popeth – adeiladau, pobl, anifeiliaid – mae hi mor ddawnus. Pan o’n ni i gyd yn hapus gyda’r testun a’r darluniau, roedd Tanwen Haf yn gosod popeth ‘ar y map’ yn llythrennol, ac yn ychwanegu’r afonydd a’r mynyddoedd ac ati.I come from south-west Wales, so the Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire pages came fairly easily. But I had to do much more research into some other counties, for example Flintshire, Blaenau Gwent and Monmouthshire. I learnt so many new and interesting facts, I must say. Afterwards, Valériane would choose around 13 to 15 items from each county and would prepare the illustrations. She can illustrate everything – buildings, people, animals – she’s so talented. When we were all happy with the text and the illustrations, Tanwen Haf placed everything literally ‘on the map’, adding the rivers and the mountains and so on.

Elin Meek- Cymru Ar Y Map delweddau

Gan fod fersiynau Cymraeg a Saesneg, roedd angen cynnwys pethau fasai o ddiddordeb i Gymry Cymraeg, i Gymry di-Gymraeg, a hefyd efallai, i ymwelwyr â Chymru. Roedd y broses ddewis a dethol yn ddiddorol iawn. Gwnaeth y broses i mi ystyried pa ddarnau o wybodaeth am Gymru ’dyn ni eisiau rhoi gwybod i blant amdanyn nhw. As there are Welsh and English versions, one needed to include things which would be of interest to Welsh speakers, non-Welsh speakers, and also perhaps, those visiting Wales. The selection process was very interesting. The process made me consider what pieces of information about Wales we want to let children know about.
Ro’n i’n meddwl am y llyfr drwy’r amser am fisoedd, ac yn poeni y baswn i’n gadael gwybodaeth bwysig allan. Pan o’n i yng Nghaerdydd un tro, roedd ychydig o amser sbâr gyda fi, ac es i am dro i’r Amgueddfa Genedlaethol i weld yr orielau sy’n dangos llestri o Gymru. Sylweddolais i’n sydyn, er fy mod i wedi cynnwys llestri Nantgarw, nad o’n i wedi cynnwys gwybodaeth am lestri Abertawe a llestri Llanelli. Felly roedd rhaid anfon neges ar frys at Catrin, y golygydd, ar ôl cyrraedd adre.I was thinking about the book all the time for months, and worrying that I would omit important information. When I was in Cardiff once, I had a little spare time, so I went to the National Museum to see the galleries showing pottery. I suddenly realised, although I had included Nantgarw pottery, that I hadn’t included information on Swansea and Llanelli pottery. So I had to send an urgent message to Catrin, the editor, after I got home.
Hyd yn oed pan oedd y llyfr wedi mynd i’r wasg, digwyddodd rhywbeth pwysig iawn ro’n i eisiau ei gynnwys yn y llyfr – enillodd Geraint Thomas ras Tour de France! Drwy lwc, roedd pawb arall yn y tîm yn cytuno bod rhaid cynnwys hyn yn y llyfr. Os edrychwch chi ar dudalen 55, gwelwch chi sticer bach gaeth ei ychwanegu.Even when the book had gone to print, something very important happened that I wanted to include in the book – Geraint Thomas won the Tour de France! Luckily, everyone else in the team agreed that this had to be included in the book. If you look at page 55, you’ll see a small sticker which was added.
Felly, dw i’n gobeithio fy mod i wedi cofio popeth pwysig ac y byddwch chi’n mwynhau darllen y llyfr yn Gymraeg, yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith!So, I hope I’ve remembered everything important and that you will enjoy reading the book – in Welsh, in English or in both languages!
Mae dau lyfr arall yn y ddwy iaith i’w mwynhau hefyd. Mae Tanwen Haf wedi paratoi Llyfr Gweithgareddau Cymru ar y Map i blant iau. Hefyd, mae cannoedd o gwestiynau yn Llyfr Cwis Cymru ar y Map (Sioned Lleinau yw’r golygydd) i weld beth dych chi’n ei gofio ar ôl darllen Cymru ar y Map!There are two other books in both languages to enjoy. Tanwen Haf has prepared Wales on the Map Activity Book. The Wales on the Map Quiz Book (edited by Sioned Lleinau) includes hundreds of questions to see what you remember after reading Wales on the Map!

Gan fod fersiynau Cymraeg a Saesneg, roedd angen cynnwys pethau fasai o ddiddordeb i Gymry Cymraeg, i Gymry di-Gymraeg, a hefyd efallai, i ymwelwyr â Chymru.

Lynda Tunnicliffe, Perchnogwr / Owner, Rily Publications:
Fy Stori Bersonol y tu ôl i “Cymru ar y Map” / My Personal Story behind “Wales on the Map”

2018 oedd blwyddyn waethaf fy mywyd. Bu farw fy Mam arbennig o ganser y stumog. Fe aeth hi mor sydyn - cafodd wybod ei bod hi'n sâl un mis ac roedd hi wedi mynd y nesaf! 2018 was the worst year of my life. My wonderful Mam died of stomach cancer. It was so sudden – she found out she was ill one month and was gone the next!
Fe wnaeth sioc ei cholled wneud i mi sylweddoli pa mor hanfodol yw rôl mam gref, ysbrydoledig yng Nghymru ac mae ei habsenoldeb wedi achosi galar torcalonnus o fewn fy holl deulu. The shock of her loss made me realise how vital the role of a strong, inspiring Welsh mam is and her absence has caused a gulf of heartbreak in my whole family.
Penderfynais gyflwyno ein llyfrau ‘Cymru ar y Map’ a ‘Wales on the Map’ i fy mam ac mae'r deyrnged yn darllen:I decided to dedicate our books ‘Wales on the Map’ and ‘Cymru ar y Map’ to my mam and the tribute reads:
“Cymru oedd ‘Gwlad fy Mam’, ac mae’r llyfr hwn yn gyflwynedig i’r anhygoel, y galonogol a’r eithriadol Mairwen Thomas, ac i bob un o’n mamau rhyfeddol.”
“Wales was the ‘Land of my Mother’ and this book is dedicated to the exquisite, encouraging and exceptional Mairwen Thomas, and to all of our wonderful mothers.”
Roeddwn i'n ddigon ffodus i rannu'r llyfr hwn gyda hi yn ei ddrafftiau cynnar ac roedd hi wrth ei bodd yn ei weld yn datblygu proflen wrth broflen. Roedd ganddi syched am wybodaeth ac roedd yn chwilfrydig am bobl a'r gorffennol. Dyma nodweddion a rannwyd rhwng y ddwy ohonom a gwn y byddai'n hynod falch o weld y llyfrau gorffenedig ar werth.I was lucky enough to share this book with her in its early drafts and she thrived on seeing it develop spread by spread. She had a thirst for information and was curious about people and the past. These are traits that we shared and I know that she would be incredibly proud to see the finished books on sale.
Yn ystod fy mhlentyndod hyfryd, buom yn teithio Cymru mewn carafán. Doedden ni ddim yn gyfoethog yn yr ystyr ariannol, ond roedd gennym fywyd teuluol sefydlog, cariadus a llawn hwyl. Pwy allai fod eisiau mwy? During my idyllic childhood, we explored Wales in a tourer caravan. We were not wealthy in the financial sense, but had a stable, loving and fun-filled family life. Who could want for more?
Rhai o'm hatgofion mwyaf hoffus yw'r swper sglodion pysgod ym Mhorthcawl; mynd ar goll ar y ffordd i Aberystwyth a hyd yn oed y car yn torri i lawr ger Abermaw ar ein ffordd i'r Rhyl! Roedd y rhain cyn diwrnodau sat nav, ffonau symudol a hyd yn oed y rhyngrwyd! Allwch chi ddychmygu hynny!Some of my most cherished memories are the fish n chip suppers in Porthcawl; getting lost on the way to Aberystwyth and even the car breaking down near Barmouth on our way to Rhyl! These were the days before sat nav, mobile phones and even the Internet! Can you imagine that!!!
Roedd pob gwyliau fel arfer yn ein cynnwys ni’n gwlychu o’n corun i’n sawdl - mae tywydd Cymru, hyd yn oed yn yr haf, yn ddieithriad yn anrhagweladwy. Eto i gyd, ni fyddwn yn newid yr un eiliad o fy mhlentyndod. Roedd y gwyliau carafan di-ri yn gyfle i ni anturio o amgylch Cymru ac fe ddatgelodd i mi harddwch naturiol a thrysorau cudd ein gwlad anhygoel; yr hyn y mae rhai pobl yn eu cymryd yn ganiataol.Every holiday usually featured a time when we got absolutely soaked to our skins – the Welsh weather, even in the summer, is invariably unpredictable. Yet, I wouldn’t change a single moment of my childhood. The countless caravan holidays provided us with the opportunity to ‘adventure around Wales’ and it revealed to me the natural beauty and hidden treasures of our amazing country; that some people just take for granted.
Fy mam, Mair, fydd y person mwyaf ysbrydoledig am byth yn fy mywyd. Roedd yn weithgar, yn ofalgar ac yn angerddol am ei theulu a'i chymuned leol. Doedd hi byth yn ofni cymryd rhan ac fe fuodd hi’n ymgyrchu dros ffordd osgoi i'n pentref i leihau llygredd ger yr ysgol gynradd leol a hyd yn oed drefnu carnifalau haf bob blwyddyn gyda fflotiau lliwgar yn gorymdeithio drwy'r strydoedd. My mam, Mair, will always be the most inspirational person in my life. She was hardworking, caring and passionate about her family and her local community. She was never afraid to be involved and she campaigned for a bypass for our village to reduce pollution near the local primary school and even organised summer carnivals every year with colourful floats parading through the streets.
Ganed mam yn Dowlais, Merthyr Tudful yn 1945, roedd yn ‘rhoi er mwyn eraill’ ac rwy'n ymdrechu i ddilyn ei hesiampl ddisglair bob dydd. Roedd ei thad yn siaradwr Cymraeg cynhenid ond cafodd cenhedlaeth fy mam ei chosbi yn greulon yn yr ysgol os oeddent yn siarad Cymraeg ac felly, dros amser, daeth yn rhan o'r genhedlaeth erledigaeth a ‘anghofiodd’ eu hiaith eu hunain. Mae ein llyfrau hudolus wedi'u cyflwyno’n frwdfrydig er cof amdani ac i bob un o'r mamau gwych ledled Cymru.Born in Dowlais, Merthyr Tydfil in 1945, mam was a person who ‘gave to others’ and I strive to follow her shining example every day. Her father was a native Welsh speaker but my mam’s generation was cruelly punished in school if they spoke Welsh and so, over time, she became part of the persecuted generation who ‘forgot’ their own language. Our enchanting books are lovingly dedicated to her memory and to all of the wonderful mams throughout Wales.
Byddai fy mam hefyd wedi bod yn falch bod y llyfrau hyn wedi cael eu creu gan dîm o fenywod. Yn wir, mae pob un ohonom ar y tîm hefyd yn famau ein hunain hefyd. Dyma'r gofrestr anrhydedd: My mam would have also been proud that these books were created by an all-woman team. In fact, all of us on the team are also mothers in our own right too. Here is the roll of honour:
• Awdur - Elin Meek
• Golygydd - Catrin Wyn Lewis
• Darlunydd - Valériane Leblond
• Dylunydd - Tanwen Haf
• Golygyddion copi - Anwen Pierce, Sioned Lleinau ac Eleri Huws
• Author – Elin Meek
• Editor – Catrin Wyn Lewis
• Illustrator – Valériane Leblond
• Designer – Tanwen Haf
• Copy editors – Anwen Pierce, Sioned Lleinau and Eleri Huws
Hoffwn estyn “diolch” enfawr i dîm fy mreuddwydion o famau gwych! Chi yw'r gorau yn y diwydiant ac mae wedi bod yn fraint gweithio gyda chi ar y llyfrau hyn. Diolch o galon!I wish to extend a huge “thanks” to my dream team of super mams! You are the best in the industry and it has been a privilege to work with you on these books. Diolch o galon!
Rwy'n credu, yn y gorffennol, ein bod wedi bod yn betrusgar i weiddi'n uchel a dathlu popeth sy'n wych am Gymru. Rydym hefyd yn swil o ran cydnabod a dathlu modelau rôl gadarnhaol ac, yn benodol, menywod Cymreig ysbrydoledig. Felly, roeddwn i eisiau sicrhau bod nifer o'r menywod anhygoel hyn (rhai'n fyw a rhai o'r gorffennol) wedi'u cynnwys yn y llyfrau, fel: I believe, in the past, we have been hesitant to shout out loud and celebrate all that is fantastic about Wales. We are also a bit shy in recognising and celebrating positive role models and, in particular, inspirational Welsh women. So, I wanted to ensure that a number of these extraordinary women (some living and some from the past) were featured in the books, such as:
• Laura Ashley - dylunydd ffasiwn a menyw fusnes
• Yr Arglwyddes Charlotte Guest - fe gyfieithodd hanesion y Mabinogi o'r Gymraeg i'r Saesneg
• Jade Jones - person chwaraeon sy'n gwneud taekwon, enillodd aur yn y Gemau Olympaidd, ddwywaith!
• Mererid Hopwood - y fenyw gyntaf i ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol
• Tywysoges Gwenllian - arweiniodd fyddin ei gŵr (Gruffudd ap Rhys) yn erbyn y Normaniaid
• Kathleen Thomas - y person cyntaf i nofio ar draws Môr Hafren o Benarth i Wester-super-Mare yn 1927
• Elizabeth Andrews - ymgyrchydd cymdeithasol, llwyddodd i gyflwyno baddonau pwll glo i lowyr ac agorodd yr ysgol feithrin gyntaf yn y Rhondda.
• Laura Ashley - fashion designer and business woman
• Lady Charlotte Guest - she translated the tales of the Mabinogi from Welsh into English
• Jade Jones - taekwon-do sport person, won gold in the Olympic Games, twice!
• Mererid Hopwood - first woman to win the chair at the National Eisteddfod
• Princess Gwenllian - led her husband’s (Gruffudd ap Rhys) army against the Normans
• Kathleen Thomas - first person to swim across the Bristol Channel from Penarth to Wester-super-Mare in 1927
• Elizabeth Andrews - social campaigner, she managed to introduce pit-head baths for miners and opened the first nursery school in the Rhondda
Gadewch i ni lawenhau ym mhrydferthwch Cymru a gadewch i ni gydnabod a bod yn ddiolchgar i bob un o fenywod rhyfeddol Cymru sydd wedi helpu i lywio ein cenedl wych. Rydym yn sefyll ar eu hysgwyddau, rydym yn eu cydnabod a byddwn yn eu caru a'u coleddu am byth. Bydd hanes yn sicrhau na fydd y merched cryf, dewr a deallus hyn yn cael eu hanghofio.Let us rejoice in the beauty of Wales and let us recognise and be thankful to all of the remarkable Welsh women who have helped to shape our great nation. We stand on their shoulders, we acknowledge them and we will love and cherish them, forever. History will ensure that these strong, brave and intelligent women will never be forgotten.
Nos da, Mam, cariad xxx

Cymru ar y Map / Wales on the Map / Rily Publications

Cymru ar y Map

 

Llwytho i Lawr fel PDF


Elin Meek: Cyfieithu llyfrau Roald Dahl i’r Gymraeg / Translating Roald Dahl’s books into Welsh

Awdur a chyfieithydd Elin Meek: Cyfieithu llyfrau Roald Dahl i'r Gymraeg


Llyfr y Mis ar parallel.cymru

Y diweddaraf oddi wrth Informal