Myfanwy first line song lyric

Myfanwy: Geiriau Cân / Lyrics

Mae'r enw Myfanwy yn dod o'r gair Annwyl. Cyfansoddwyd y gân yn 1875 gan Joseph Parry (alaw) a Richard Davies (geiriau) a’r gân hon yw You've Lost That Loving Feeling y byd Cymraeg. Mae'r geiriau yn ffurfiol iawn ac yn anodd i ddysgwyr eu deall, ond mae'r cyfieithiad yn glir iawn.Dyma hoff gân corau led led Cymru, a chaeth ei chyflwyno yn y nofel How Green Was My Valley a ffilmiau Hedd Wyn a Twin Town.

The name Myfanwy comes from the word Beloved/Darling. The song was composed in 1875 by Joseph Parry (tune) and Richard Davies (words) and is the You've Lost That Loving Feeling of the Welsh world. The words are very formal and difficult for learners to understand, but the translation is very clear. It is a favourite song of choirs across the country and has been featured in the the book How Green Was My Valley and films Hedd Wyn and Twin Town.

Paham mae dicter, O Myfanwy,
Yn llenwi'th lygaid duon di?
A'th ruddiau tirion, O Myfanwy,
Heb wrido wrth fy ngweled i?
Pa le mae'r wên oedd ar dy wefus
Fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon ffôl?
Pa le mae sain dy eiriau melys,
Fu'n denu'n nghalon ar dy ôl?
Why so the anger, Oh Myfanwy,
That fill your dark eyes
Your gentle cheeks, Oh Myfanwy,
No longer blush beholding me?
Where now the smile upon your lips
That lit my foolish faithful love?
Where now the sound of your sweet words,
That drew my heart to follow you?
Pa beth a wneuthum, O Myfanwy
I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?
Ai chwarae oeddit, O Myfanwy
 thanau euraidd serch dy fardd?
Wyt eiddo im drwy gywir amod
Ai gormod cadw'th air i mi?
Ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy,
Heb gael dy galon gyda hi.
What was it that I did, Oh Myfanwy,
To deserve the frown of your beautiful cheeks?
Was it a game for you, Oh Myfanwy,
This poet's golden flame of love?
You belong to me, through true promise,
Too much to keep your word to me?
I'l never seek your hand, Myfanwy,
Unless I have your heart with it.
Myfanwy boed yr holl o'th fywyd
Dan heulwen ddisglair canol dydd.
A boed i rosyn gwridog iechyd
I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd.
Anghofia'r oll o'th addewidion
A wneist i rywun, 'ngeneth ddel,
A dyro'th law, Myfanwy dirion
I ddim ond dweud y gair "Ffarwél".
Myfanwy, may your life entirely be
Beneath the midday sun's bright glow,
And may a blushing rose of health
Dance on your cheek a hundred years.
I forget all your words of promise
You made to someone, my pretty girl
So give me your hand, my sweet Myfanwy,
For no more but to say "farewell".
cy.wikipedia.org/wiki/Myfanwy / en.wikipedia.org/wiki/Myfanwy

Dyma'r côr enwog, Morriston Orpheus Male Voice Choir:


John Owen Jones:


Tri Tenor:


About this site

Mae Parallel.cymru yn gylchgrawn arlein i roi llais i unrhyw un sydd yn gwneud pethau trwy Iaith y Nefoedd, ac i gyflwyno erthyglau, straeon, diwylliant Cymraeg a llyfrau i’r byd.

Parallel.cymru is an online magazine that gives a voice to anyone who is using the language of heaven, and to introduce articles, stories, Welsh culture and books to the world.

Mae pobl yn profi’r Gymraeg ar gontinwwm o alluoedd gwahanol, ond y ffordd draddodiadol o gynhyrchu deunydd yw mewn dull deuol. Trwy gyflwyno cynnwys unigryw ochr yn ochr, yn ‘paralel’, ac wedi’u graddoli yn ôl hyfedredd (Anffurfiol, Ffurfiol, Llenyddol), gall darllenwyr o bob gallu fwynhau darllen a sicrhau bod y Gymraeg yn hygyrch i bawb.

People experience Welsh on a continuum of abilities, but the traditional way of producing material is as binary Welsh or English. By presenting unique content side by side, in parallel, sequenced by level of proficiency (Informal, Formal, Literary), readers of all abilities can enjoy reading and ensure the language is accessible to all.

Articles By Month
Popular Resources

Ask Dr Gramadeg

Ffilmiau i Lawrlwytho

Geiriadur i Ddysgwyr Arlein

Llefydd i Siarad Cymraeg

Silff Llyfrau Digidol

Y diweddaraf oddi wrth Song Lyrics