D. Geraint Lewis- Amhosib

D. Geraint Lewis: Amhos!b: Ffeithiau a syniadau fydd yn newid dy fyd am byth / Impossible- Facts and ideas that will change your world forever

Amhos!b Amhos!b yw’r llyfr Cymraeg cyntaf ym maes Freaknonomics- dosbarth cyfan o lyfrau Saesneg poblogaidd sy’n datgelu sut mae darganfyddiadau gwyddonol yn dangos bod llawer o bethau rydym ni wedi credu’u bod yn anghywir mewn gwirionedd – ‘popeth’ os byddwn ni’n credu’r New Scientist a’r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer y gyfrol hon. Yma, mae Geraint, prif eiriadurwr yr iaith Gymraeg, yn cyflwyno ei lyfr….

Amhos!b (Impossible) is the first Welsh language book in the field of Freakonomics- a whole class of popular English books that reveals how scientific discoveries show that many things we have assumed to be taken for granted are false- if the New Scientist and the evidence gathered for this volume, is to be believed. Here Geraint, the Welsh language’s main lexicographer, introduces his book…

Man cychwyn y llyfr hwn yw’r gosodiad: ‘Mae popeth rwyt ti’n ei feddwl – yn anghywir!’. Mae’r sylw yn codi wrth i arbenigwyr ddeall yn well sut mae’r ymennydd dynol yn gweithio. Yn syml gellir ystyried fod yr ymennydd yn gweithio mewn dwy ffordd:

1. Mae un ffordd yn gyfrifol am ein meddyliau, ein teimladau a’n hatgofion.
2. Mae’r ffordd arall yn rheoli ein system nerfol a gweithrediad y corff – curiad y galon, yr ysgyfaint a symudiad ein dwylo a’n traed.

Erbyn hyn mae arbenigwyr yn gwybod cyn lleied o wir reolaeth sydd gennym dros weithgarwch ein hymennydd. Nid ydym yn gallu rheoli ein meddyliau na’n teimladau, na chwaith curiad y galon nag ymatebion greddfol ein cyhyrau.

Y syndod mwyaf i mi oedd deall nad ydym yn ‘gweld’ dim byd. Mae’r llygaid yn derbyn data neu wybodaeth mewn dau ddimensiwn a gyda chymorth y synhwyrau yn eu troi mewn i’r darlun tri dimensiwn yr ydym yn ei ‘weld’. Y ffordd y mae’n gwneud hyn yw trwy adnabod patrymau. Unwaith mae ein hymennydd wedi adnabod patrwm mae’n gallu anwybyddu’r holl ddata eraill sy’n ei gyrraedd drwy’r llygaid a chanolbwyntio ar yr un patrwm mae’n adnabod. Y gallu i adnabod patrymau (neu’r newid sy’n digwydd i batrwm arferol) sy’n gyfrifol am bron y cyfan o’n gwybodaeth feddyliol. Y ‘gwirionedd’ yw’r ffordd yr ydym yn edrych yn ôl at y gorffennol er mwyn adnabod patrymau ac egluro’r patrymau sydd y tu ôl i bob peth.

Mae’r gwyddonydd ar y llaw arall yn defnyddio’i allu i adnabod patrymau newydd sy’n seiliedig ar eu harsylwi a’u mesur. Yr enw ar batrwm newydd gwyddonol yw ‘damcaniaeth’.

Mae ‘gwyddonwyr’ yn gallu bod yn ddilornus o ‘wirioneddau’ nad oes iddyn nhw unrhyw sylfaen mewn mesuriadau a thystiolaeth wrthrychol. Mae credinwyr gwirioneddau traddodiadol (ni!) yn gwrthod derbyn damcaniaethau gwyddonol sy’n groes i’r ‘gwirioneddau’ yr ydym yn eu hadnabod – gwirioneddau fel bod y byd yn grwn ac yn troelli, neu yn fwy diweddar fod mater (gan ein cynnwys ni ein hunain) wedi’i wneud o egni.

Problem sy’n perthyn i’r ddwy ffordd yma o edrych ar y byd yw eu bod ond yn ystyried un patrwm allan o’r holl batrymau sy’n bosibl. Rhaid cydnabod bod rhai o’r patrymau a adnabuwyd yn llawer mwy defnyddiol na’i gilydd ac yn ein cynorthwyo ni ar ein taith drwy fywyd – fel y mae map neu lywiwr lloeren yn ein cynorthwyo i gyrraedd yn ddiogel o A – B, o gofio nad yw na fap na llywiwr lloeren ddim byd yn debyg i’r Ddaear, y belen sy’n troelli 1,000 o filltiroedd yr awr.

Fel gyda ‘map’ y mae gofyn cofnodi’r newidiadau sy’n digwydd i batrymau yn nhirlun ein bywydau, neu y byddwn yn colli’r ffordd. Y patrwm fel yr wyf i’n ei adnabod allan o hyn rwyf wedi’i gasglu, yw ein bod yn ceisio deall y byd a’i bethau drwy ei ddadansoddi, a’u torri’n ddarnau mesuradwy lai a llai. Dyma’r ddameg ar sut i fynd ati i fwyta eliffant pe bai raid (ei dorri’n ddarnau mân a’u bwyta fesul un).

Ond wrth wneud hyn yr ydym yn colli golwg ar sut y mae’r cyfan yn perthyn i’w gilydd. Dameg y gath sydd ei angen arnom yn awr, sef: ‘Os wyt ti’n dyrannu cath er mwyn cael gwybod sut mae cath yn gweithio rwyt ti’n bennu lan gyda chath sydd ddim yn gweithio.’ ‘Cath sydd ddim yn gweithio’ yw ein byd a’n cymdeithas ar hyn o bryd.

Mae’r llyfr yn ymwneud â phob math o feysydd yn dechrau gyda Pa beth yw dyn? ac yn mynd yn ei flaen i ystyried Elyrch duon, Sêr-ddewiniaeth a fi; Effaith blasebo, Cyfrinach ceir Toyota; Sut i droi dŵr yn hufen, Gorsaf Fysiau Helsinki, Dedwyddwch; Amser; Ourobouros, a Duw. Ond dim ond y patrymau yr wyf fi’n eu hadnabod yw’r rhain. Pa batrymau newydd welwch chi tybed?

Mae’r llygaid yn derbyn data neu wybodaeth mewn dau ddimensiwn a gyda chymorth y synhwyrau yn eu troi mewn i’r darlun tri dimensiwn yr ydym yn ei ‘weld’.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Man cychwyn y llyfr hwn yw’r gosodiad: ‘Mae popeth rwyt ti’n ei feddwl – yn anghywir!’
The starting point of this book is the statement: ‘Everything you think – is wrong!’
Mae’r sylw yn codi wrth i arbenigwyr ddeall yn well sut mae’r ymennydd dynol yn gweithio.This comment has come up as experts try to understand better how the human brain works.
Yn syml gellir ystyried fod yr ymennydd yn gweithio mewn dwy ffordd: Simply put, we can consider that the brain works in two ways:
1. Mae un ffordd yn gyfrifol am ein meddyliau, ein teimladau a’n hatgofion 1. One way is responsible for our thoughts, our feelings, and our memories
2. Mae’r ffordd arall yn rheoli ein system nerfol a gweithrediad y corff - curiad y galon, yr ysgyfaint a symudiad ein dwylo a’n traed. 2. The other way controls our nervous system and the functioning of the body – the heartbeat, the lungs and movements of our hands and feet.
Erbyn hyn mae arbenigwyr yn gwybod cyn lleied o wir reolaeth sydd gennym dros weithgarwch ein hymennydd. Nid ydym yn gallu rheoli ein meddyliau na’n teimladau, na chwaith curiad y galon nag ymatebion greddfol ein cyhyrau.By now experts know how little true control we have over the activities of our brains. We can’t control our thoughts or our feelings, nor our heartbeat, nor our involuntary muscular responses.
Y syndod mwyaf i mi oedd deall nad ydym yn ‘gweld’ dim byd. Mae’r llygaid yn derbyn data neu wybodaeth mewn dau ddimensiwn a gyda chymorth y synhwyrau yn eu troi mewn i’r darlun tri dimensiwn yr ydym yn ei ‘weld’.The biggest surprise for me was understanding that we don’t ‘see’ anything. The eyes receive data or information in two dimensions and with the help of the senses, turn this into a three-dimensional picture that we ‘see’.
Y ffordd y mae’n gwneud hyn yw trwy adnabod patrymau. Unwaith mae ein hymennydd wedi adnabod patrwm mae’n gallu anwybyddu’r holl ddata eraill sy’n ei gyrraedd drwy’r llygaid a chanolbwyntio ar yr un patrwm mae’n adnabod.The way this happens is through pattern-recognition. Once our brain has recognised a pattern it can ignore all the other data which reach it through the eyes and concentrate on the one pattern it recognises.
Y gallu i adnabod patrymau (neu’r newid sy’n digwydd i batrwm arferol) sy’n gyfrifol am bron y cyfan o’n gwybodaeth feddyliol. Y ‘gwirionedd’ yw’r ffordd yr ydym yn edrych yn ôl at y gorffennol er mwyn adnabod patrymau ac egluro’r patrymau sydd y tu ôl i bob peth. It is the ability to recognise patterns (or changes in usual patterns) which is responsible for almost all of our mental information. The ‘truth’ is the way we look back at the past in order to recognise patterns and clarify the patterns that underly every thing.
Mae’r gwyddonydd ar y llaw arall yn defnyddio’i allu i adnabod patrymau newydd sy’n seiliedig ar eu harsylwi a’u mesur. Yr enw ar batrwm newydd gwyddonol yw ‘damcaniaeth’.Scientists on the other hand use their ability to recognise new patterns based on observing and measuring them. The name for a new scientific pattern is a ‘hypothesis’.
Mae ‘gwyddonwyr’ yn gallu bod yn ddilornus o ‘wirioneddau’ nad oes iddyn nhw unrhyw sylfaen mewn mesuriadau a thystiolaeth wrthrychol. Mae credinwyr gwirioneddau traddodiadol (ni!) yn gwrthod derbyn damcaniaethau gwyddonol sy’n groes i’r ‘gwirioneddau’ yr ydym yn eu hadnabod - gwirioneddau fel bod y byd yn grwn ac yn troelli, neu yn fwy diweddar fod mater (gan ein cynnwys ni ein hunain) wedi’i wneud o egni.'Scientists’ can be scornful about ‘truths’ that don’t have any foundation in measurements and objective evidence. Believers in traditional truths (us!) are forced to accept scientific hypotheses that go against the ‘truths’ we recognise – truths like the fact that the world is round and spinning, or more recently that matter (including us ourselves) is made of energy.
Problem sy’n perthyn i’r ddwy ffordd yma o edrych ar y byd yw eu bod ond yn ystyried un patrwm allan o’r holl batrymau sy’n bosibl.A problem that pertains to both these ways of looking at the world is that they only consider one pattern out of all the possible patterns.
Rhaid cydnabod bod rhai o’r patrymau a adnabuwyd yn llawer mwy defnyddiol na’i gilydd ac yn ein cynorthwyo ni ar ein taith drwy fywyd - fel y mae map neu lywiwr lloeren yn ein cynorthwyo i gyrraedd yn ddiogel o A – B, o gofio nad yw na fap na llywiwr lloeren ddim byd yn debyg i’r Ddaear, y belen sy’n troelli 1,000 o filltiroedd yr awr.We have to acknowledge that some of the patterns we recognise are much more useful than others and help us on our journey through life – as with a map or sat-nav helps us to get safely from A – B, remembering that neither a map nor a sat-nav is anything like the Earth, the sphere that’s spinning at 1,000 miles an hour.
Fel gyda ‘map’ y mae gofyn cofnodi’r newidiadau sy’n digwydd i batrymau yn nhirlun ein bywydau, neu y byddwn yn colli’r ffordd.Like with a ‘map’ it’s important to record the changes that occur to the patterns in the landscape of our lives, or we’ll lose the way.
Y patrwm fel yr wyf i’n ei adnabod allan o hyn rwyf wedi’i gasglu, yw ein bod yn ceisio deall y byd a’i bethau drwy ei ddadansoddi, a’u torri’n ddarnau mesuradwy lai a llai. Dyma’r ddameg ar sut i fynd ati i fwyta eliffant pe bai raid (ei dorri’n ddarnau mân a’u bwyta fesul un).The pattern, such as I’ve recognised it out of what I’ve got to grips with, is that we try to understand the world and the things in it by analysing it, and cutting things up into smaller and smaller measurable chunks. Remember the advice about how to go about eating an elephant if you have to (by cutting it into tiny pieces and eating them one by one).
Ond wrth wneud hyn yr ydym yn colli golwg ar sut y mae’r cyfan yn perthyn i’w gilydd. Dameg y gath sydd ei angen arnom yn awr, sef:But by doing this we lose sight of how everything connects together. It’s now we need to consider the Tale of the cat, namely:
‘Os wyt ti’n dyrannu cath er mwyn cael gwybod sut mae cath yn gweithio rwyt ti’n bennu lan gyda chath sydd ddim yn gweithio.’ ‘If you’re dissecting a cat to find out how a cat works, you’ll end up with a cat that doesn’t work.’
‘Cath sydd ddim yn gweithio’ yw ein byd a’n cymdeithas ar hyn o bryd.‘A cat that doesn’t work’ is our world and our society at the present time.
Mae’r llyfr yn ymwneud â phob math o feysydd yn dechrau gyda Pa beth yw dyn? ac yn mynd yn ei flaen i ystyried Elyrch duon, Sêr-ddewiniaeth a fi; Effaith blasebo, Cyfrinach ceir Toyota; Sut i droi dŵr yn hufen, Gorsaf Fysiau Helsinki, Dedwyddwch; Amser; Ourobouros, a Duw. Ond dim ond y patrymau yr wyf fi’n eu hadnabod yw’r rhain. Pa batrymau newydd welwch chi tybed?The book is concerned with all kinds of topics beginning with What is a human being? and going on to consider Black swans, Astrology and Me; the Placebo effect, the Secret of Toyota cars; How to turn water into cream, Helsinki Bus Station, Happiness; Time; the Ourobouros, and God. But these are only the patterns I recognise. What new patterns will you see, I wonder?

 

ylolfa.com/cynnyrch/9781784615703/amhos!b / YLolfa

D. Geraint Lewis- Amhosib

 

Llwytho i Lawr fel PDF


D Geraint Lewis Y Geiriadurwr

Geraint Lewis DIY Welsh

Y diweddaraf oddi wrth Authors: How and Why I Wrote