Mae Sara yn dod o'r Wladfa, ac wedi astudio MA yn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, ond erbyn hyn yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn canolbwyntio ar ffilmiau, rhaglenni dogfen a llenyddiaeth am Batagonia, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dyma bwt yn Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg ar gyfer canu gyda Côr Dre yng Nghaernarfon ac ymweld ag Almaen...
Sara is from Patagonia, and has studied an MA in Welsh and Celtic Studies at Cardiff University, but now is a researcher at Bangor University and is focussing on films, documentary programmes and literature about Patagonia, in Welsh and English. Here is a trilingaul item about singing with Côr Dre in Caernarfon and visiting Germany...
Me mudé a Bangor en octubre del 2018 y no pasó mucho tiempo antes de que mi amiga Gwawr me invitara a cantar en Côr Dre, un coro de Caernarfon. Al principio no estaba muy segura de ir, había pasado mucho tiempo de mis años en Côr Glesni, el coro de niños que dirigía Sylvia Baldor en Cwm Hyfryd. | Symudais i Fangor ym mis Hydref 2018, ac yn fuan ces i wahoddiad gan fy ffrind Gwawr i ymuno â Chôr Dre yng Nghaernarfon. Doeddwn i ddim yn siŵr ar y dechrau gan nad oeddwn i wedi canu mewn côr ers fy mlynyddoedd ifanc yng Nghôr Glesni yng Nghwm Hyfryd, y Wladfa, dan arweiniad Sylvia Baldor. | I moved to Bangor in October 2018, and I was soon invited by my friend Gwawr to join Côr Dre in Caernarfon. I wasn't sure at first as I hadn't been in a choir since my childhood at Côr Glesni, led by Sylvia Baldor in Cwm Hyfryd, y Wladfa. |
Ahora me alegra haberme animado porque me divierto mucho en los ensayos de los jueves en el vestri de la capilla Salem y cada vez que subimos al escenario. Sin embargo lo que no esperaba en absoluto era la oportunidad que se presentó de conocer Alemania gracias al viaje que organizaron Siân Wheway, la directora de Côr Dre, y la infatigable comisión del coro. | Nawr rwy'n falch iawn fy mod wedi mentro - rwyf wedi bod yn cael llawer o hwyl pob nos Iau wrth ymarfer yn festri Capel Salem a phob tro ry’n ni wedi bod ar y llwyfan. Ond yr hyn nad oeddwn i’n disgwyl o gwbl oedd cael y cyfle i fynd i’r Almaen am y tro cyntaf, diolch i’r trip a drefnwyd gan y cyfarwyddwr Siân Wheway a phwyllgor gweithgar y côr. | Now I'm glad I ventured, I have loads of fun every Thursday in the practice in Capel Salem’s vestry, just as every time we’ve been on stage. But what I didn't expect at all was to have the opportunity to go to Germany for the first time thanks to the trip organized by the director, Siân Wheway, and the choir's hard-working committee. |
Salimos en colectivo el viernes 24 de mayo a la noche, y luego de cruzar el Eurotúnel a las 4.30 llegamos a Kronenburg a media mañana. Allí probamos una sopa de verduras deliciosa y la primera pinta del viaje. A la tarde tuvo lugar nuestro primer concierto en Haus für Lehrerfortbildung junto con una banda de vientos y un coro del lugar. | Fe gychwynom nos Wener y 24ain o Fai ar y bws, ac ar ôl croesi’r Eurotunnel tua 4.30 y.b. cyrhaeddom Kronenburg yn y bore. Yno cawsom gawl llysiau bendigedig a pheint cynta’r daith. Yn y p’nawn cafodd ein cyngerdd cyntaf ei gynnal yn Haus für Lehrerfortbildung, ynghyd â chôr a band pres lleol. | The bus started Friday night 24th May, and after crossing the Eurotunnel around 4.30 am we arrived at Kronenburg in the morning. There we had some wonderful vegetable soup and the first pint of the trip. In the afternoon our first concert was held in Haus für Lehrerfortbildung, along with a choir and a brass band from Kronenburg. |
La mañana siguiente tuvimos que madrugar porque a las 11.30 nos esperaban en Saulheim, donde cantaríamos con Chor iNCognito Saulheim en la iglesia Evangelische Kirche. Disfrutamos tanto la música local como la comida, porque al finalizar la presentación nos ofrecieron una mesa llena de delicias caseras. Tan deliciosas como el vino que probamos esa tarde en Laufenselden luego del concierto en la iglesia St. Philipus und Jakobus Laufenselden. Allí también participó un coro de Laufenselden y su directora, Viola, cantó Llongau Caernarfon mientras nosotros acompañábamos en el estribillo. | Y bore wedyn roedd yn rhaid i ni godi'n gynnar, oherwydd am 11:30 roeddem i fod yn Saulheim, lle roedd Chor iNCognito Saulheim yn canu hefo ni yn yr Evangelische Kirche. Yno, fe wnaethon ni fwynhau'r gerddoriaeth leol cymaint a'r bwyd a gawson ni ar ôl canu, sef bwrdd llawn bwyd cartref Almaeneg hynod flasus! Mor flasus â'r gwin gwyn y gwnaethom roi cynnig arno yn Laufenselden yn y p’nawn ar ôl y gyngerdd yn eglwys St. Philipus und Jakobus Laufenselden. Yno cymerodd Côr Laufenselden hefyd ran, ac mi ganodd Viola, eu cyfarwyddwr, Llongau Caernarfon, gyda ninnau’n ymuno yn y cytgan. | The next morning we had to get up early because at 11:30 we were to be at Saulheim, where the iNCognito Saulheim Chorus would also sing at Evangelische Kirche church. There we enjoyed the local music as well as the food - after the concert we had a table full of German homemade food, it was so tasty! As tasty as the white wine we tried at Laufenselden in the afternoon after the concert in St. Philipus und Jakobus Laufenselden church. The Laufenselden Choir also took part, and Viola, its director, sang Llongau Caernarfon while we joined in the chorus. |
El lunes, nuestro último día, visitamos Schloss Vollrads, uno de los viñedos más antiguos de la zona de Rheingau. Comimos los espárragos de temporada y bebimos su reconocido vino blanco. Nuestro último concierto fue esa noche en el restaurante y cervecería Mainlust, en Frankfurt. Esta vez fue Louie, el anfitrión, quien cantó Calon Lân, y otra vez nos unimos en el estribillo. | Ar ddydd Llun, ein diwrnod olaf yn yr Almaen, buom yn ymweld â Schloss Vollrads, hen winllan yn ardal Rheingau, lle cawsom flasu'r asbaragws tymhorol ac yfed eu gwin gwyn lleol. Y noson honno cynhaliwyd ein cyngerdd olaf ym mwyty a bragdy Mainlust yn Frankfurt, ac y tro hwn Louie, perchennog y lle, ganodd Calon Lân a ninnau’n ymuno unwaith eto yn y cytgan. | On Monday, our last day in Germany, we visited Schloss Vollrads, an old vineyard in the Rheingau area. There we tried the seasonal asparagus and their white wine. That evening we held our last concert at Mainlust, a restaurant and brewery in Frankfurt, and this time it was Louie, the owner, who sang Calon Lân and once again we joined in the chorus. |
Todos en Alemania fueron muy generosos y amables, y apreciaron especialmente nuestro repertorio completamente en galés (excepto por Baba Yetu, una canción en suajili). Presentamos canciones folklóricas como Y Deryn Pur y Marwnad yr Ehedydd, clásicas como Ave María y Ubi Caritas, pop como Gorwedd Gyda’i Nerth, tradicionales como Pantyfedwen y Tangnefeddwyr, e incluso gospel como O Hapus Ddydd. | Buodd pawb yn yr Almaen yn groesawgar a charedig iawn, ac yn gwerthfawrogi ein repertoire cyfan gwbl Gymraeg (heblaw am Baba Yetu, sef cân yn Swahili). Roedd ‘na ganeuon gwerinol fel Y Deryn Pur a Marwnad yr Eheddyd, clasurol fel Ave Maria ac Ubi Caritas, pop fel Gorwedd Gyda’i Nerth, traddodiadol fel Pantyfedwen a Tangnefeddwyr, a gospel hyd yn oed, fel O Hapus Ddydd. | Everyone in Germany was very welcoming and kind, and appreciated our entire repertoire in Welsh (apart from Baba Yetu in Swahili). We sang folk songs such as Y Deryn Pur and Marwnad yr Ehedydd, classical like Ave Maria and Ubi Caritas, pop like Gorwedd Gyda’i Nerth, traditional like Pantyfedwen and Tangnefeddwyr and even gospel like O Hapus Ddydd. |
Tuvimos el privilegio de tener a Máth Roberts al piano, a Dafydd M. Roberts con varios instrumentos, y a la solista mezzo-soprano Erin Fflur. También fue fundamental la presencia de Manon quien presentó al coro en cada uno de los eventos y explicó al público el contenido de las canciones. Era muy divertido ver sus caras cada vez que llegaba a Rhyfeddod, una canción que habla de ¡una serpiente que empuña una pistola y una gallina que despelleja a un gato! | Cawsom y fraint o gael Máth Roberts yn cyfeilio ar y biano, Dafydd M. Roberts yn ein cefnogi gyda gwahanol offerynau, a’r unawdydd mezzo-soprano Erin Fflur yn cyd-ganu hefo ni. Yn hanfodol hefyd buodd bresenoldeb Manon a weithiodd yn galed i’n cyflwyno yn Almaeneg ac esbonio cynnwys y caneuon i’r gynulleidfa. Roedd yn ddoniol gweld eu hwynebau bob tro roedd hi’n cyflwyno Rhyfeddod - mae’n sôn am neidr sy’n handlo gwn ac iâr sy’n blingo gath! | We had the privilege of having Máth Roberts accompanying in the piano, Dafydd M. Roberts with various instruments, and the mezzo-soprano soloist Erin Fflur. Manon's presence was essential as well, she introduced us and explained the content of each song to the audience in German before each performance. It was funny to see their faces every time she got to Rhyfeddod - it’s about a snake that handles a gun and a hen that flays a cat! |
Lo bueno dura poco, dicen, y nuestro colectivo partió de regreso temprano el martes 28. Para ser honesta, atravesar Europa por tierra resultó eterno, pero aunque llegamos a la una de la madrugada del día siguiente cada hora valió la pena jugando a adivinar personajes, al UNO, a juegos de cartas o a cualquier cosa que estuviera a mano para matar el tiempo. Por último, como bonus a la música y la diversión del viaje, mi vocabulario en alemán se ha ampliado. Judit, una amiga de Munich con quien comparto casa, aprueba tanto ein bier, bitte? como dankeschön. | Rhaid i bopeth da ddod i ben, fel mae nhw’n dweud, a chychwynodd y bws nôl ar yr 28ain. I fod yn onest buodd yn ddydd Mawrth hir iawn, wrth groesi Ewrop a chyrraedd adre am un y bore y diwrnod wedyn. Ond roedd y daith yn werth chweil bob awr o chwarae ‘pwy wyt ti’, UNO, gemau cardiau neu beth bynnag oedd wrth law i basio'r amser. Ac yn olaf fel bonws i’r canu a’r hwyl i gyd rwyf wedi ehangu fy ngeirfa yn Almaeneg - mae Judit, fy nghyd-letywr o München, yn cymeradwyo ein bier, bitte? a dankeschön. | All good things must come to an end, as they say, and the bus began the journey back to Wales on the 28th. To be honest it was a very long Tuesday crossing Europe and arriving home at one in the morning the next day, but the trip was worth every hour of playing ‘who are you’, UNO, card games or whatever was at hand to pass the time. Finally, as a bonus to the singing and all the fun, I've also expanded my vocabulary in German - Judit, my housemate from Munich, approves both ein bier, bitte? and dankeschön. |