Coginio

Coginio: Casgliad o ryseitiau / Cooking: A collection of recipes

Yma ar parallel.cymru dyn ni wedi casglu ryseitiau a syniadau ar un dudalen gan sawl awdur sy wedi sgrifennu llyfrau coginio Cymraeg, yn ogystal â thai bwyta a chaffis sydd yn defnyddio'r iaith. Mae pob un yn ddwyieithog, fydd yn caniatáu i chi dicio'r cynhwysion, diweddaru maint y cynhwysion yn seiliedig ar faint rydych chi'n coginio ar ei gyfer, ac mae pob un yn dangos y lefel anhawster, ac amserau paratoi a choginio. Mae pob rysáit yn cynnwys dolenni i wefan y cogydd/cwmni.

Mae pob eitem yn addas i lysieuwyr, a nodir y rhai sy'n addas ar gyfer feganiaid, a dych chu'n gallu prynu'r rhan fwyaf o'r cynhwysion mewn siopau lleol a marchnadoedd er mwyn hybu economi Cymru.

Hoffech chi gyfrannu rysáit? Dywedwch wrthon ni!

Here on parallel.cymru we have collated recipes and ideas onto one page from several Welsh-speaking cookbook authors, restaurants and cafes. Each is bilingual, allows you to tick off the ingredients, update the quantity of ingredients based on how many you are cooking for, and shows the level of difficulty, and preparation and cooking times. Each recipe also contains links to the chef/company's web presence.

All items are suitable for vegetarians, and those that are suitable for vegans are noted, and most ingredients can be bought from local shops and markets in order to boost the Welsh economy.

Would you like to contribute a recipe? Let us know!

Blodfresych wedi’i ffrio / Kentucky Fried Cauliflower (KFC)By Sarah PhilpottMae hwn yn rhyfeddol o hawdd i’w wneud (ond byddwch yn barod i wneud llanast wrth ffrio) ac mae’n defnyddio’r un cymysgedd o sbeisys sydd yn cael ei ddefnyddio gan KFC. Wrth falu’r flaxseed, byddwch yn creu rhywbeth sydd yn helpu clymu’r cytew sbeislyd at y blodfresych. Mae hwn yn ddifrifol o dda a gwerth y llanast. This is surprisingly easy to make (although expect a bit of mess when you’re frying) and uses most of the ‘secret’ spice blend used by KFC. By grounding the flaxseed, you create an egg-like binder which makes the spicy coating stick to the cauliflower. Seriously good and definitely worth the mess.
Caserol gnau gastan a tomato heulsych / Chestnut and sundried tomato casseroleBy Sarah PhilpottY caserol cysurlon yma yn ffordd dda i ddefnyddio unrhyw gnau gastan sydd ar ôl o’r Dolig, neu gallwch ddefnyddio dau dun o wygbys yn lle. This comforting casserole is a great way to use up chestnuts left over from Christmas. If you can’t find chestnuts (or don’t like nuts), use two cans of chickpeas instead.
Crempogau afal a llus / Apple and blueberry pancakesBy Elliw GwawrMae crempogau’n fwyd delfrydol ar gyfer plant bach sy’n dechrau bwydo eu hunain. Mae crempogau bach fel hyn yn rhewi’n dda, felly gwnewch fwy na sydd angen pan fydd gennych amser. Maen nhw’n dadmer yn gyflym, neu os ydych chi ar frys mawr gallwch eu taro yn y meicrodon neu’r tostiwr. Pancakes are an ideal food for small children who are beginning to feed themselves. Small pancakes like this freeze well, so when you have time make more than you need. They thaw quickly, or if you are in a great hurry you can put them in the microwave or the toaster.
Focaccia Ffres / Fresh FocacciaBy Gethin SherringtonYn y rysáit yma, mi fydda i’n dangos i chi sut i wneud focaccia, yn defnyddio go-to-recipe toes fi. Mae’r rysáit toes yma’n un dwi’n ei ddefnyddio ar gyfer bob dim, o bitsas i frechdanau, ond fel cyflwyniad i bobi bara, does dim byd gwell na focaccia ffres, yn morio mewn olew olewydd. In this recipe, I will show you how to make focaccia, using my go-to-recipe for dough. This dough recipe is one that I use for everything, from pizzas to sandwiches, but as an introduction to baking bread, there is nothing better than fresh focaccia, awash with olve oil.
Moussaka heb gig / Meatless moussakaBy Sarah PhilpottMae’r clasur Groegaidd yn apelio ar hafnos neu ar noswaith wyntog a gwlyb. Gyda chymysgedd ffacbys blasus a saws béchamel llyfn, coeliwch chi ddim ei fod yn figan. This Greek classic goes down well on a balmy summer’s evening or on a wet and windy night. With a rich lentil base and creamy béchamel sauce, you’d never guess that it’s vegan.
Mousse siocled / Chocolate mousseBy Sarah PhilpottMelysfwyd syml sydd yn gallu cael ei wneud yn gyflym a’i adael i setio yn yr oergell tra bod chi’n bwyta swper. Mae’r dŵr gwygbys, neu aquafaba, yn actio mewn ffordd tebyg i wyn ŵy ac yn creu mousse ysgafn a llyfn. This simple sweet treat can be made quickly and left to set in the fridge while you’re eating dinner. The surprise ingredient here is chickpea water, also known as aquafaba, which acts in the same way as egg whites and gives you a light and fluffy mousse.
MuhammaraBy Sarah PhilpottMae’r rysáit traddodiadol ar gyfer muhammara yn defnyddio pupur Aleppo, ond mae naddion neu powdr tsili hefyd yn gweithio – ac os na ddewch chi o hyd i driagl pomgranad yn y siopau, gallwch ddefnyddio surop masarn a finegr balsamaidd yn lle. Gallwch fwynhau’r muhammara gyda sawl fath o fwyd: ar basta, bara, tatws pobi a salad, ac mae’n hyfryd i fwyta gyda brecinio. The traditional recipe for muhammara uses Aleppo pepper, but chilli flakes (or powder) is just fine – and if you can’t find pomegranate molasses, you can substitute it with maple syrup and balsamic vinegar. This stuff is pretty versatile: you can spoon it onto pasta, bread, baked potatoes and salads, and it’s a great addition to brunch.
Orzo gyda chorbwmpen a phys gyda dresin lemon a phersli / Orzo with courgette and peas with a lemon and parsley dressingBy Sarah PhilpottMae’r blasau yn y salad yma yn fendigedig diolch i’r dresin lemwn a phersli. Mae’r pys a’r gwygbys yn llawn protein felly mae’n salad maethlon hefyd. Gallwch brynu orzo mewn llawer o archfarchnadoedd mawr ond os nad oes peth o gwmpas, defnyddiwch quinoa, couscous neu reis brown – cofiwch i goginio yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn. The flavours in this salad verge on the sublime, thanks to a silky lemon and parsley dressing. The peas and chickpeas are full of protein so it’s a sustaining salad, too. You can buy orzo in most large supermarkets but if you can’t find it, quinoa, couscous or brown rice will work just as well – just adjust your cooking time.
Pasta pys a ffa dringo gyda phesto / Pea and runner bean pasta with pestoBy Sarah PhilpottGallwch goginio’r rysáit yma mewn un badell ac mae’n ffordd hynod o dda i ddefnyddio llysiau hafol. Defnyddiwch pa bynnag lysiau sydd gennych chi – bydd corbwmpenni yn gweithio hefyd. This one-pot pasta recipe is a great way to cook seasonal summer veg. Use whatever vegetables you have to hand though – courgettes would work pretty well with this, too.
Salad ‘bwytewch eich gwyrddion’ / ‘Eat your greens’ saladBy Sarah PhilpottDyma ffordd dda i ddefnyddio pa bynnag llysiau gwyrdd tymhorol. Mae’r grawnwin pinc yn ychwanegu lliw a surni melys sydd yn gwrthgyferbynnu’r dresin hufennog. This is a great way to use whatever green vegetables are in season. The pink grapefruit adds a splash of colour and some sweet sharpness which sets off the creamy dressing.
Saws Tapenade / Tapenade SauceBy Gethin SherringtonCyfri’r dyddiau i’ch gwyliau nesaf yn y Med? Wel, mae gennyf i rywbeth bach i’ch cario chi drwy’r misoedd oer yma. Beth ydw i wedi bod yn chwarae efo’n ddiweddar, yw’r saws Canoldirol gorau sydd yna: Tapenade. Counting the days to your next holiday in the Med? Well, I have something to help you carry on through the cold months here. What I've been playing with lately is the best Mediterranean sauce ever: Tapenade.
Stiw ffa du, corn melys a chnau coco / Black bean, sweetcorn and coconut stewBy Sarah PhilpottMae’r stiw yma yn berffaith ar ôl diwrnod hir yn y gwaith. Mae ffa du yn llawn sinc a gwrthocsidyddion a bydd y protein a’r ffibr yn cadw chi’n llawn. Mae’r blas sbeislyd yn cael ei lleddfu gan yr hufen cnau coco a chynhwysyn anarferol, banana. This satisfying stew is just the tonic after a long day at the office. Black beans are full of zinc and antioxidants and the protein and fibre will keep you full. The spiciness is tempered by the coconut cream and my special secret ingredient, banana.
Stiw gwrd, gwygbys ac olewydd gyda harissa / Squash, chickpea and olive stew with harissaBy Sarah PhilpottMae hwn yn reit addas ar gyfer amser yma’r flwyddyn wrth i’r tywydd droi’n oer a gyda’r nosweithiau hir a phenderfynais ychwanegu pwmpen a gwrd hydrefol i’r rysáit. Mae harissa ar werth mewn llawer o archfarchnadoedd mawr ac mewn siopau ethnig, ond gallwch ddefnyddio llwy de yr un o paprica melys a mwg. This is a seriously good stew and so easy to make. It’s just what’s needed on these longer nights and as it’s autumn, I added some seasonal squash and pumpkin. You can find harissa at most larger supermarkets or international stores but if you can’t track it down, try using a teaspoon each of smoked and sweet paprika.
Tacos gyda jackfruit wedi’i dynnu / Tacos with pulled jackfruitBy Sarah PhilpottMae’r tacos yma yn flasus tu hwnt ac yn hawdd i’w gwneud hefyd. Gallwch ddod o hyd i jackfruit mewn siopau bwyd rhyngwladol, ond gallwch ddefnyddio ‘refried beans’ neu gwygbys yn lle – ond bydd angen i chi eu stwnsio. These tacos are deliciously moreish and easy to make, too. You should be able to find jackfruit in international food shops, but if you come away empty-handed you can use refried beans, or even chickpeas – just mash them up a bit first.
‘God’s butter’: Pâst pys ac afocado / Pea and avocado spreadBy Sarah PhilpottAfocado ar dost gyda gwahaniaeth. Mae hwn yn llawn o flasau ffres a fydd yn rhoi digon o egni ar gyfer y diwrnod. Mae’r pys yn ffordd dda i fwyta protein peth cyntaf yn y bore hefyd. This little twist on your average avocado on toast is full of fresh flavours, which will pep you up nicely for the day ahead. The peas are a great way to get some protein first thing, too.

Sarah Philpott The Occasional Vegan


Elliw Gwawr- Blasus


Artsiniaeth: Edrych dd-ŵy-waith ar wyau

Y diweddaraf oddi wrth Resources