Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal swyddfeydd mewn 16 o leoliadau ledled y byd, ac maent yn gyfrifol am fasnach a buddsoddi, cysylltiadau llywodraeth, twristiaeth, diwylliant ac addysg. Ond beth maent yn ei wneud o ddydd i ddydd? Yma, Shelly Hughes, Rheolwr Materion Allanol, yn ein tywys trwy eu gwaith…
The Welsh Government maintains offices in 16 locations around the world, and are responsible for trade and investment, government relations, tourism, culture and education. But what do they do on a day-to-day basis? Here Shelley Hughes, External Affairs Manager, takes us through their work…
Ni sydd eisoes yn gwybod mor wych yw Cymru, ond rydym ni am i weddill y byd sylweddoli hyn hefyd! | We already know how great Wales is, but we want the rest of the world to know too! |
Mae gan Lywodraeth Cymru swyddfeydd rhyngwladol dros y byd, yn canolbwyntio ar fasnach a buddsoddiad ar gyfer Cymru’n bennaf. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o’n gwaith dramor yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ynghylch Cymru fel safle i wneud busnes ynddi. Rydym ni’n gweithio hefyd i ddod â swyddi ac â buddsoddiad tymor hir i Gymru. Mae gennym swyddfeydd yn Siapan, India, Tsieina, Gwlad Belg, Iwerddon, ac yn yr Emiradau Arabaidd Unedig. Mae ein pencadlys yng ngogledd America yn Washington DC, ac mae’n gofalu am yr holl Unol Daleithiau a Canada. | The Welsh Government has international offices across the world, mainly focused on trade and investment for Wales. This means that most of our work overseas focusses on raising awareness of Wales as a place to do business, and also working to bring jobs and long-term investment to Wales. We have offices in Japan, India, China, Belgium, Ireland, and United Arab Emirates. Our office for North America is headquartered in Washington DC and covers all of the United States and Canada. |
Mae ein tîm ni wedi’u gwasgaru, gyda chynrychiolwyr yn gweithio yn Washington DC, Efrog Newydd, Chicago, Atlanta, a San Francisco. Yn ogystal â gweithio gyda’n gilydd, rydym ni’n gweithio’n agos gydag Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU, fel y gallwn gynrychioli lles Cymru fel rhan o gyd-destun mwyaf y DU. | We are a dispersed team, with a presence in Washington DC, New York, Chicago, Atlanta, and San Francisco. As well as working with one another, we work closely with UK Government’s Department of International Trade so we can represent Wales’ interest, as part of the bigger UK context. |
Ar ben hynny, mae ein tîm ni’n amrywiaethol ac yn cynnwys aelodau sy’n dod o wahanol wledydd ac yn siarad gydag acenion gwahanol. Yn wir, fe fyddwch chi’n hiraethu am Gymru o glywed Gareth Morgan, ein pennaeth yng ngogledd America, yn siarad yn y Gymraeg â chydweithwyr yn ôl yn y famwlad, heb os nac oni bai! | As well as a dispersed team, we are a diverse team; a mixture of nationalities and accents. However, hearing Gareth Morgan, Head of North America conversing in Welsh with colleagues back home in Wales certainly does always give you that niggle of ‘hiraeth!’ |
Mae Cymru’n denu buddsoddiad mewn busnes o bedwar ban byd. Er enghraifft, mae gan gwmnïau mawr o’r UD fel GE Raytheon a General Dynamics ganolfan yng Nghymru. Rydym ni hefyd yn tyfu sgiliau mewn meysydd newydd a datblygedig o waith fel technoleg ariannol (fintech) a lled-ddargludyddion cyfansawdd. | Wales attracts business investment from around the world. For example, major US companies such as GE Raytheon and General Dynamics have a base in Wales. We are also building skills in new and advanced areas of work such as financial technology (fintech) and compound semiconductors. |
Yn ogystal â gweithio i hybu masnach a buddsoddiad ar gyfer Cymru, mae’r tîm yng ngogledd America’n gweithio hefyd i ddod â Chymru ag America at ei gilydd. Gŵyl Dewi Sant yw ein digwyddiad pwysicaf bob blwyddyn, ac mae’n gyfle ardderchog ar gyfer amlygu diwylliant cyfoethog ac amrywiol Cymru i America. Rydym ni’n gweithio ar bethau o bob math, er enghraifft, cefnogi teithiau gan Ymweliadau, cysylltu â’n cefnogwyr ar Capitol Hill, a chynnal digwyddiadau sy’n anelu at hybu Cymru. Pan fydd rhagor o bobl yn gwybod am Gymru, ac yn ymddiddori ynddi, wedyn fe fydd ein proffil rhyngwladol yn codi. A dyna fydd yn dod â rhagor o gyfleoedd ar gyfer Cymru. | As well as working to boost trade and investment for Wales, the North America team also work to bring Wales and America together. St. David’s Day is our biggest event of the year and a great opportunity to highlight the rich and varied culture of Wales to America. We work on anything from supporting visits from Ministers, liaising with our supporters on Capitol Hill to holding functions with a goal of promoting Wales. The more people who know about and are interested in Wales, the higher our international profile becomes, which brings more opportunities for Wales. |
Mae gennym ni lawer o brifysgolion ardderchog yng Nghymru. Felly rydym ni’n cydweithio â Phrifysgolion Cymru i amlygu mai dewis cryf o ran addysg uwch yw Cymru ar gyfer myfyrwyr sy’n dod oddi tramor i astudio yma. Trwy hyn, cynyddu a wna’r nifer o bobl dra addysgedig a thra medrus sy’n byw yng Nghymru – yn enwedig os byddan nhw eisiau aros yma ar ôl iddyn nhw orffen astudio! | We have many great universities in Wales, so we work with Universities Wales to highlight Wales as a strong choice for higher education for overseas students to come study in Wales. This will increase the number of high educated, skilled people living in Wales – particularly if they want to stick around after studying! |
Mewn gwirionedd, ym Mawrth 2018, cwrddodd Prif Weinidog Cymru â Hillary Clinton yn Ninas Efrog Newydd i drafod menter ar gyfer y radd o Ddoethur mewn Athroniaeth mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe a Llywodraeth Cymru, a fydd yn hybu cyfnewid myfyrwyr rhwng Cymru a’r UD, trwy Ysgol y Gyfraith Rodham Clinton. Ysgolheigion Rodham Clinton fydd enw’r rhaglen. | In fact, in March 2018, the First Minister of Wales met with Hillary Clinton in New York City to discuss a PhD initiative in partnership with Swansea University and Welsh Government, to promote a Wales / US student exchange, through the Rodham Clinton School of Law. This programme will be named the Rodham Clinton Scholars. |
Ymhellach, llawer o Americanwyr Cymreig sy eisiau helpu i hybu eu mamwlad yn yr UD. Mae sawl grŵp o Gymry wedi’u gwasgaru sy’n hybu diwylliant ac etifeddiaeth Gymreig drwy gydol America. Mae gan lawer o’r grwpiau hyn, yn cynnwys y Washington Welsh, grwpiau iaith neilltuol, hyd yn oed, lle gall pobl ddysgu ac ymarfer y Gymraeg. Llawer o Americanwyr sy’n arddel llinach Gymreig, felly yn llythrennol mae Cymru yng ngwaed llawer o Americanwyr! | There are also many Welsh Americans who want to help promote their home country in the US. There are various Welsh diaspora groups to promote Welsh culture and heritage across America. Many of these groups, including the Washington Welsh, even have Welsh language groups where people can learn and practice Cymraeg. Many Americans claim Welsh ancestry, so Wales is literally in the blood of many Americans! |
Wedi dweud hynny, mae’n ymddangos bod llawer o ddinasyddion Washington DC yn gyfarwydd â Chymru. Yn aml byddan nhw’n ymateb pan fyddan nhw wedi clywed sôn am Gymru, gan gymeradwyo Gareth Bale a ‘soccer’ Prydeinig! | That being said, many citizens of Washington DC, seem familiar with Wales and will often respond to hearing Wales mentioned with enthused commendations on Gareth Bale and UK ‘soccer’! |
Sefydliadau annibynnol sy’n cefnogi’r iaith a diwylliant Cymru yng Ngogledd America
Independent organisations that support Welsh language and culture in North America
Mae llawer o bobl a grwpiau yng Ngogledd America sydd yn cefnogi Cymraeg a diwylliant Cymreig; dyma rai, yn drefn y wyddor.
There are lots of people and groups in North America that support the Welsh language and culture; here are some, in alphabetical order.
AmeriCymru
Cwrs, siop a newyddion / Course, shop and news.
Cymdeithas Madog / Welsh Studies Institute in North America Inc
Cwrs, siop a newyddion / Course, shop and news.
New York Welsh / Cymry Efrog Newydd
Cyfarfodydd misol a gweithgareddau yn Nhinas Efrog Newydd / Monthly meet ups and activities in New York City.
Ninnau
Papur Cymry Gogledd America / The North American Welsh Newspaper.
North American Festival of Wales
The largest gathering of the Welsh, descendants, and friends in North America, celebrated annually over Labor Day weekend.
Washington Welsh
Cymuned a gweithgareddau / Community and events.