Wicipedia logo

Wikimedian Jason Evans: Sut mae’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cydweithio gyda Wicipedia / How the National Library of Wales partners with Wikipedia

Nid yn unig y mae Jason Evans yn meddu ar y teitl swyddi gorau yng Nghymru (Wikimedian), mae’n dod i ofalu am gangen yr iaith Gymraeg o’r encyclopedia Wicipedia. Yma, mae’n dweud wrthon ni am y prosiect a sut y gallu unrhyw un cyfrannu.

Not only does Jason Evans have the coolest job title in Wales (Wikimedian), he gets to look after the Welsh-language branch of the online encyclopedia Wikipedia.  Here, he tells us about the project and how anyone can contribute.

Mae Wicipedia yn un o wefannau mwyaf poblogaidd y byd ac os ydym yn onest, rydym ni i gyd wedi dibynnu arno o bryd i’w gilydd. Weithiau rydym yn ei ddefnyddio i ateb cwestiynau dibwys, i ddarganfod beth yw gwerth ein hoff seleb, neu i gael gwybod mwy am ein hoff fand. Fodd bynnag, mae Wicipedia hefyd yn arf pwerus ar gyfer plant sy’n gweithio ar eu prosiect hanes, neu i bobl sy’n chwilio am fwy o wybodaeth am eu cyflwr meddygol neu’r cyffuriau y maent wedi’u rhagnodi. Nod Wicipedia yw rhoi gwybodaeth inni am bopeth o werth yn y byd. Gyda 5.5 miliwn o erthyglau Saesneg, mae’n fan cychwyn da!

Fodd bynnag, mae Wicipedia hefyd ar gael mewn cannoedd o ieithoedd eraill, gan gynnwys Cymraeg! Mae cannoedd o wirfoddolwyr Cymraeg brwdfrydig wedi gweithio’n ddiflino ers dros ddegawd i helpu i greu dros 90,000 o erthyglau Cymraeg.

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cydnabod bod y modd y mae pobl yn cael mynediad at wybodaeth yn newid. I rai, ni wnaiff unrhyw beth guro taith i’r llyfrgell, ond mae llawer ohonom bellach yn adictiaid gwybodaeth. Rydym yn crefu gwybodaeth ac rydym am ei gael yn syth, felly rydyn ni’n mynd at Google, ac fel arfer mae Google yn ein pwyntio’n syth at Wicipedia.

Felly ychydig o flynyddoedd yn ôl penderfynodd y Llyfrgell Genedlaethol i ddechrau gweithio gyda Wicipedia. Os mai ar Wicipedia mae pobol yn cael gwybodaeth, yna dylen ni helpu i’w wneud yn well! Nawr, mae cyfrannu at Wicipedia yn rhan o strategaeth hirdymor y Llyfrgell ac maent yn cyflogi rhywun (fi!) yn llawn amser i gydlynu eu hymdrechion. Felly, sut mae’n gweithio?

Wel, yn gyntaf, rydym yn rhannu miloedd o’n delweddau digidol gyda Wicipedia. Mae hyn yn golygu eu rhyddhau ar drwydded agored fel y gall unrhyw un eu defnyddio at unrhyw bwrpas. Mae hyn yn golygu bod gan bobl sy’n ysgrifennu erthyglau Wicipedia gyflenwad gwych o ddelweddau sy’n ymwneud â Chymru y gallant eu hychwanegu at erthyglau Wicipedia, ac mae’n golygu bod pobl ledled y byd yn gallu gweld ein delweddau – mae dros 300 miliwn wedi eu gweld hyd yn hyn!

Yn ail, rydym ni’n helpu pobl i gyfrannu at Wicipedia. Rydym yn rhedeg gweithdai a digwyddiadau yn y llyfrgell a ledled Cymru. Rydym yn gweithio gyda phrifysgolion, ysgolion a grwpiau cymunedol i ddangos i bobl pa mor hawdd yw cyfrannu at Wicipedia. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau thematig o’r enw ‘Golygathonau’ lle mae pobl yn dod at ei gilydd i wella’r cynnwys ar bwnc penodol megis yr Ail Ryfel Byd, Cerddoriaeth Bop neu Rygbi. Mae gennym, hyd yn oed, dîm o wirfoddolwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol sy’n treulio ychydig oriau, unwaith neu ddwywaith yr wythnos, yn ysgrifennu erthyglau ar gyfer Wicipedia gan ddefnyddio gwybodaeth o gasgliadau a gwefannau’r llyfrgell.

Gall unrhyw un glicio ‘golygu’ ar erthygl Wicipedia a dechrau gwneud gwelliannau, neu hyd yn oed ysgrifennu erthyglau hollol newydd, a dim ond cwpl o ganllawiau syml sydd angen eu dilyn:
• Mae Wici yn wyddoniadur felly dylech ysgrifennu am bobol a phethau nodedig yn unig.
• Dylai erthyglau fod yn ddiduedd gan gadw at y ffeithiau.
• Ysgrifennwch yn eich geiriau eich hun – peidiwch byth â llên-ladrad gwaith eraill.
• Cofiwch ychwanegu cyfeiriadau i ddangos o ble ddaeth eich gwybodaeth.
• Does dim rhaid iddo fod yn berffaith! Mae yna gymuned o wirfoddolwyr yno i helpu.

Gall gwybodaeth ar gyfer ysgrifennu erthyglau Wicipedia ddod o unrhyw le cyn belled â’i fod yn cael ei ystyried yn ddibynadwy. Er enghraifft, mae llyfrau, cylchgronau a’r prif gyfryngau yn gyffredinol yn cael eu hystyried yn ffynonellau gwybodaeth dda. Os ydych yn ofalus, mae digon o wybodaeth ddibynadwy ar-lein y dyddiau yma. Er enghraifft, bydd gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei hystyried yn ddibynadwy ar gyfer gwybodaeth am hen lawysgrifau yn ei chasgliadau, a byddai gwefannau’r GIG yn ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy am faterion iechyd. Ond efallai y byddai’n well peidio â dibynnu ar flog personol, cyfryngau cymdeithasol neu hyd yn oed y Daily Mail!

Gyda Llywodraeth Cymru yn anelu at gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, mae cael mwy o Gymraeg ar y we yn hanfodol. Os nad oes gan y genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg yr un lefel o fynediad at wybodaeth ar-lein â siaradwyr Saesneg, yn syml byddant yn newid i’r Saesneg a bydd y Gymraeg yn troi yn iaith analog. Dyna pam mae’r Llyfrgell Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Menter Iaith ac eraill yn gweithio’n galed i wella cynnwys Wicipedia Cymru.

Ond cofiwch, pŵer y bobl sydd yn cadw Wicipedia i fynd. Felly beth am ysgrifennu erthyglau ar Wicipedia am bethau sydd o ddiddordeb i chi? neu yn syml beth am gyfieithu erthygl Saesneg ar Wicipedia? Gadewch i ni weld os y gallwn ni daro 100,000 o erthyglau Cymraeg y flwyddyn nesaf!

Pŵer y bobl sydd yn cadw Wicipedia i fynd. Felly beth am ysgrifennu erthyglau ar Wicipedia am bethau sydd o ddiddordeb i chi?

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Mae Wicipedia yn un o wefannau mwyaf poblogaidd y byd ac os ydym yn onest, rydym ni i gyd wedi dibynnu arno o bryd i'w gilydd. Weithiau rydym yn ei ddefnyddio i ateb cwestiynau dibwys, i ddarganfod beth yw gwerth ein hoff seleb, neu i gael gwybod mwy am ein hoff fand. Fodd bynnag, mae Wicipedia hefyd yn arf pwerus ar gyfer plant sy'n gweithio ar eu prosiect hanes, neu i bobl sy’n chwilio am fwy o wybodaeth am eu cyflwr meddygol neu'r cyffuriau y maent wedi'u rhagnodi. Nod Wicipedia yw rhoi gwybodaeth inni am bopeth o werth yn y byd. Gyda 5.5 miliwn o erthyglau Saesneg, mae’n fan cychwyn da!Wikipedia is one of the most visited websites in the world and, lets face it, we have all relied on it from time to time. Sometimes we use it to answer trivial questions, to find out how much our favourite celeb is worth, or to find out more about our favourite band. However, Wikipedia is also a powerful tool for children working on their history project, or for people desperate for more information about their medical condition or the drugs they have just been prescribed. Wiki aims to provide us with information about everything of note that this world has to offer. With 5.5 million English language articles it is off to a good start.
Fodd bynnag, mae Wicipedia hefyd ar gael mewn cannoedd o ieithoedd eraill, gan gynnwys Cymraeg! Mae cannoedd o wirfoddolwyr Cymraeg brwdfrydig wedi gweithio'n ddiflino ers dros ddegawd i helpu i greu dros 90,000 o erthyglau Cymraeg.However Wikipedia is also available in hundreds of other languages, including Welsh! Hundreds of enthusiastic Welsh speaking volunteers have worked tirelessly for over a decade to help create over 90,000 Welsh language articles.
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cydnabod bod y modd y mae pobl yn cael mynediad at wybodaeth yn newid. I rai, ni wnaiff unrhyw beth guro taith i'r llyfrgell, ond mae llawer ohonom bellach yn adictiaid gwybodaeth. Rydym yn crefu gwybodaeth ac rydym am ei gael yn syth, felly rydyn ni'n mynd at Google, ac fel arfer mae Google yn ein pwyntio'n syth at Wicipedia. The National Library of Wales has recognised that the way people access information is changing. For some, nothing will ever beat a trip to the library but many of us are now information junkies. We crave information and we want it instantly, so we go to Google, and Google usually points us straight at Wikipedia.
Felly ychydig o flynyddoedd yn ôl penderfynodd y Llyfrgell Genedlaethol i ddechrau gweithio gyda Wicipedia. Os mai ar Wicipedia mae pobol yn cael gwybodaeth, yna dylen ni helpu i'w wneud yn well! Nawr, mae cyfrannu at Wicipedia yn rhan o strategaeth hirdymor y Llyfrgell ac maent yn cyflogi rhywun (fi!) yn llawn amser i gydlynu eu hymdrechion. Felly, sut mae'n gweithio?So a couple of years ago the National Library decided it would start working with Wikipedia. If this is where people get their information, let’s help to make it better! Now, contributing to Wikipedia is part of the Library’s long term strategy and they employ someone (me!) full time to coordinate their efforts. So, how does it work?
Wel, yn gyntaf, rydym yn rhannu miloedd o'n delweddau digidol gyda Wicipedia. Mae hyn yn golygu eu rhyddhau ar drwydded agored fel y gall unrhyw un eu defnyddio at unrhyw bwrpas. Mae hyn yn golygu bod gan bobl sy'n ysgrifennu erthyglau Wicipedia gyflenwad gwych o ddelweddau sy'n ymwneud â Chymru y gallant eu hychwanegu at erthyglau Wicipedia, ac mae'n golygu bod pobl ledled y byd yn gallu gweld ein delweddau - mae dros 300 miliwn wedi eu gweld hyd yn hyn!Well, firstly, we share thousands of our digital images with Wikipedia. This means releasing them on an open licence so that anyone can use them for whatever they like. This means people writing Wikipedia articles have a great supply of images relating to Wales that they can add to Wikipedia articles, and it means that people all over the world get to see our images – over 300 million have seen them so far!
Yn ail, rydym ni'n helpu pobl i gyfrannu at Wicipedia. Rydym yn rhedeg gweithdai a digwyddiadau yn y llyfrgell a ledled Cymru. Rydym yn gweithio gyda phrifysgolion, ysgolion a grwpiau cymunedol i ddangos i bobl pa mor hawdd yw cyfrannu at Wicipedia. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau thematig o’r enw ‘Golygathonau' lle mae pobl yn dod at ei gilydd i wella'r cynnwys ar bwnc penodol megis yr Ail Ryfel Byd, Cerddoriaeth Bop neu Rygbi. Mae gennym, hyd yn oed, dîm o wirfoddolwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol sy’n treulio ychydig oriau, unwaith neu ddwywaith yr wythnos, yn ysgrifennu erthyglau ar gyfer Wicipedia gan ddefnyddio gwybodaeth o gasgliadau a gwefannau'r llyfrgell.Secondly, we help people contribute to Wikipedia. We run workshops and events at the library and all over Wales. We work with universities, schools and community groups to show people how easy it is to contribute to Wikipedia. We run themed Edit-a-thons where people get together to improve content on a particular subject like WWII, Pop Music or Rugby. We even have a team of volunteers based at the National Library who come in once or twice a week and spend a few hours writing articles for Wikipedia using information from the library’s collection and websites.
Gall unrhyw un glicio 'golygu' ar erthygl Wicipedia a dechrau gwneud gwelliannau, neu hyd yn oed ysgrifennu erthyglau hollol newydd, a dim ond cwpl o ganllawiau syml sydd angen eu dilyn:
• Mae Wici yn wyddoniadur felly dylech ysgrifennu am bobol a phethau nodedig yn unig.
• Dylai erthyglau fod yn ddiduedd gan gadw at y ffeithiau.
• Ysgrifennwch yn eich geiriau eich hun - peidiwch byth â llên-ladrad gwaith eraill.
• Cofiwch ychwanegu cyfeiriadau i ddangos o ble ddaeth eich gwybodaeth.
• Does dim rhaid iddo fod yn berffaith! Mae yna gymuned o wirfoddolwyr yno i helpu.
Anyone can click ‘edit’ on a Wikipedia article and start making improvements, or even writing entirely new articles, and there are just a few simple guidelines:
• It is an encyclopaedia so you should only write about someone or something notable.
• Articles should be impartial and stick to the facts.
• Always write in your own words - Never plagiarise the work of others.
• Always add citations to show where your information came from.
• It doesn’t have to be perfect! There is a community of volunteers there to help.
Gall gwybodaeth ar gyfer ysgrifennu erthyglau Wicipedia ddod o unrhyw le cyn belled â'i fod yn cael ei ystyried yn ddibynadwy. Er enghraifft, mae llyfrau, cylchgronau a’r prif gyfryngau yn gyffredinol yn cael eu hystyried yn ffynonellau gwybodaeth dda. Os ydych yn ofalus, mae digon o wybodaeth ddibynadwy ar-lein y dyddiau yma. Er enghraifft, bydd gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei hystyried yn ddibynadwy ar gyfer gwybodaeth am hen lawysgrifau yn ei chasgliadau, a byddai gwefannau'r GIG yn ffynhonnell wybodaeth ddibynadwy am faterion iechyd. Ond efallai y byddai'n well peidio â dibynnu ar flog personol, cyfryngau cymdeithasol neu hyd yn oed y Daily Mail!Information for writing Wikipedia articles can come from anywhere as long as it is considered reliable. For example, books, magazines, journals and the main stream media are generally considered good sources of information. As long as you are careful there is plenty of reliable information online these days. For example, The National Library of Wales website would be considered reliable for information about old manuscripts in its collection, and the NHS websites would be a reliable source of information about health issues. But it might be best not to rely on a personal blog, social media or even the Daily Mail!
Gyda Llywodraeth Cymru yn anelu at gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, mae cael mwy o Gymraeg ar y we yn hanfodol. Os nad oes gan y genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg yr un lefel o fynediad at wybodaeth ar-lein â siaradwyr Saesneg, yn syml byddant yn newid i'r Saesneg a bydd y Gymraeg yn troi yn iaith analog. Dyna pam mae'r Llyfrgell Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Menter Iaith ac eraill yn gweithio'n galed i wella cynnwys Wicipedia Cymru.With the Welsh government aiming to increase the number of Welsh speakers to a million by 2050, getting more Welsh on the internet is crucial. If the next generation of Welsh speakers do not have the same level of access to information online as English speakers, they will simply switch to English and Welsh will become an analogue language. That is why the National Library, the Welsh Government, Menter Iaith and others are working hard to improve the Welsh Wikipedia.
Ond cofiwch, pŵer y bobl sydd yn cadw Wicipedia i fynd. Felly beth am ysgrifennu erthyglau ar Wicipedia am bethau sydd o ddiddordeb i chi? neu yn syml beth am gyfieithu erthygl Saesneg ar Wicipedia? Gadewch i ni weld os y gallwn ni daro 100,000 o erthyglau Cymraeg y flwyddyn nesaf!But remember, it’s people power that keeps Wikipedia going. So why not write articles on Wicipedia about things that interest you? or simply translate an English Wikipedia article? Let’s see if we can hit 100,000 Welsh articles next year!
Am ragor o wybodaeth ar sut i gyfrannu at Wicipedia, gwelwch: https://cy.wikipedia.org/wiki/Wicipedia:CymorthFor more information about contributing to Wikipedia see: https://en.wikipedia.org/wiki/Help:Menu/Editing_Wikipedia

cy.wikipedia.org/wiki/Hafan Wici_LLGC / Wiki_NLW

Wicipedia's Jason Evans presenting at a CILIP conferenceWicimedia Wicipopup with Huw Stephens

Jason Evans cyflwyno yn cynhadledd CILIP.
Jason Evans presenting at a CILIP conference.

Huw Stephens yn golygu Wicipedia fel rhan o Olygathon Wicipop yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Huw Stephens editing Wikipedia as part of a Wicipop edit-a-thon at the National Library.

Wicimedia Editathon about Rugby in the Millennium StadiumWicimedia Editathon- Library staff attending a Wiki Workshop as part of their work.

Golygydd ifanc yn gwella erthyglau am Rygbi yn Stadiwm y Mileniwm.
A young editor working to improve articles about Rugby in the Millennium Stadium.

Staff y Llyfrgell yn mynychu gweithdy Wiki fel rhan o'u gwaith.
Library staff attending a Wiki Workshop as part of their work.

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Articles