Sion Hughes Y Milwr Coll prif ddelwedd

Siôn Hughes: Ysgrifennu’r nofel newydd / Writing the new novel: Y Milwr Coll

Wedi cael eu gosod yn Ynys Môn, mae nofel newydd Siôn Hughes yn stori am y Rhyfel Mawr. Yn y cyfuniad crefftus hwn o nofel ddirgelwch a nofel hanesyddol, cawn ein harwain i rannu bywydau teulu dosbarth canol un o blastai Môn rhwng 1915 ac 1938. Yma, mae’n siarad am ei ysbordolaeth- ei deulu…

Set in Anglesey, the new novel by Siôn Hughes creates a story about the First World War. In this skilful combination of mystery novels and novels, we will be guided to share the lives of the middle class family of one of Anglesey’s mansions between 1915 and 1938. Here, he speaks about his inspiration- his family…

Pan roeddwn yn fachgen dwi’n cofio fy nhaid yn dweud ei fod o’n ddyn lwcus iawn. Roedd o’n rhy ifanc i ymladd yn y rhyfel Byd Cyntaf ac yn rhy hen i ymladd yn yr Ail Ryfel Byd. Dyna oedd sefyllfa ffodus pob bachgen a aned rhwng 1899 a 1910. Roedd Taid yn mwynhau adrodd hanes ei blentyndod ond mi arhosodd un stori yn fy mhen yn fwy na’r lleill.

Roedd hi’n 1915, mi oedd fy Nhaid yn sefyll yn sgwâr Llangefni ar ddiwrnod marchnad ac yn cofio John Williams Brynsiencyn, y pregethwr enwog, yn sefyll mewn car open top. Roedd o’n smocio sigâr a phregethu am y rhyfel a cheisio perswadio’r bechgyn lleol i ymuno a’r fyddin. Mi oedd Taid yn cofio sawl bachgen yn ysgrifennu eu henwau yn y llyfr enlistio. Yn 1919, roedd enwau’r union fechgyn hynny a welodd y diwrnod hwnnw yn ôl yn y sgwâr – ond y tro hwn, enwau ar y cof golofn oeddynt.

Gwnaeth y stori yma gryn argraff arnaf a gyda’r olygfa hon mae fy nofel yn cychwyn.

Nofel hanesyddol gyda dirgelwch yn ei chanol yw Y Milwr Coll – mae hi wedi ei gosod yn Sir Fôn ond mae hi’n gwibio i sawl lle arall. Mae’r arddull yn syml a’r stori yn gyrru mynd o’r cychwyn. Mae hi’n nofel ar gyfer darllenydd sydd yn mwynhau dirgelwch a sawl tro annisgwyl. Mae fy arddull yn hynod weledol – dwi’n dychmygu fy mod yno gyda’r cymeriadau ac yna dwi’n disgrifio’r hyn dwi’n weld.

Yng nghanol y nofel rydym yn neidio ugain mlynedd ac yn ail afael yn y stori ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd. Braf oedd clywed John Ogwen yn ei galw hi’n nofel ‘hynod ddarllenadwy a gafaelgar’.

Dwi’n mwynhau ysgrifennu nofelau sydd wedi eu gosod yn yr ugeinfed ganrif achos fy mod yn teimlo’n agos at y ganrif honno. Mae hi’n ganrif sydd hefyd yn cynnwys y ddau beth mwyaf erchyll yn hanes dynoliaeth sef dau Ryfel Byd.

Pan oedd fy Mam yn fyw roedd hi’n arfer cynnal bore goffi i ddysgwyr yn ei chartref yn Llanfairpwll. Yn ôl Mam roedd ei dosbarth o ddysgwyr wedi mwynhau fy nofelau achos doedd dim angen geiriadur arnynt wrth eu darllen. Roeddwn yn falch fod fy nofelau wedi apelio at ddysgwyr.

Gobeithio y caiff Y Milwr Coll yr un derbyniad.

Nofel hanesyddol gyda dirgelwch yn ei chanol yw Y Milwr Coll – mae hi wedi ei gosod yn Sir Fôn ond mae hi’n gwibio i sawl lle arall.

Fersiwn dwyieithog / Bilingual version

Pan roeddwn yn fachgen dwi’n cofio fy nhaid yn dweud ei fod o’n ddyn lwcus iawn. Roedd o’n rhy ifanc i ymladd yn y rhyfel Byd Cyntaf ac yn rhy hen i ymladd yn yr Ail Ryfel Byd. Dyna oedd sefyllfa ffodus pob bachgen a aned rhwng 1899 a 1910. Roedd Taid yn mwynhau adrodd hanes ei blentyndod ond mi arhosodd un stori yn fy mhen yn fwy na’r lleill.When I was a boy I remember my grandfather saying that he was a very lucky man. He was too young to fight in the First World War and too old to fight in the Second World War. That was the fortunate situation of every boy born between 1899 and 1910. Grandfather enjoyed telling stories of his childhood, but one story stayed in my mind more than the others.
Roedd hi’n 1915, mi oedd fy Nhaid yn sefyll yn sgwâr Llangefni ar ddiwrnod marchnad ac yn cofio John Williams Brynsiencyn, y pregethwr enwog, yn sefyll mewn car open top. Roedd o'n smocio sigâr a phregethu am y rhyfel a cheisio perswadio’r bechgyn lleol i ymuno a’r fyddin. Mi oedd Taid yn cofio sawl bachgen yn ysgrifennu eu henwau yn y llyfr enlistio. Yn 1919, roedd enwau'r union fechgyn hynny a welodd y diwrnod hwnnw yn ôl yn y sgwâr – ond y tro hwn, enwau ar y cof golofn oeddynt.It was in 1915, my grandfather was standing in the square at Llangefni on market day and remembers John Williams Brynsiencyn, the famous preacher, standing in an open top car. He was smoking a cigar and preaching about the war and trying to persuade the local boys to join the army. Grandfather remembers many boys writing their names in the enlistment book. In 1919, the names of those same boys that he saw that day were back in the square again – but this time, they were names on the war memorial.
Gwnaeth y stori yma gryn argraff arnaf a gyda’r olygfa hon mae fy nofel yn cychwyn. This story made a great impression on me and it is with this scene that my novel begins.
Nofel hanesyddol gyda dirgelwch yn ei chanol yw Y Milwr Coll – mae hi wedi ei gosod yn Sir Fôn ond mae hi’n gwibio i sawl lle arall. Mae’r arddull yn syml a’r stori yn gyrru mynd o’r cychwyn. Mae hi’n nofel ar gyfer darllenydd sydd yn mwynhau dirgelwch a sawl tro annisgwyl. Mae fy arddull yn hynod weledol – dwi’n dychmygu fy mod yno gyda’r cymeriadau ac yna dwi’n disgrifio’r hyn dwi’n weld.Y Milwr Coll (The Lost Soldier) is a historical novel with a mystery at its heart – it is set in Anglesey but travels around to many other places. The style is simple and the story moves rapidly from the start. It is a novel for readers who enjoy a mystery and some unexpected turns. My style is highly visual – I imagine myself there with the characters and then I write down what I see.
Yng nghanol y nofel rydym yn neidio ugain mlynedd ac yn ail afael yn y stori ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd. Braf oedd clywed John Ogwen yn ei galw hi’n nofel 'hynod ddarllenadwy a gafaelgar'.In the middle of the novel we jump twenty years and take up the story again at the onset of the Second World War. It was great to hear John Ogwen call it 'an outstandingly readable and gripping novel'.
Dwi’n mwynhau ysgrifennu nofelau sydd wedi eu gosod yn yr ugeinfed ganrif achos fy mod yn teimlo’n agos at y ganrif honno. Mae hi’n ganrif sydd hefyd yn cynnwys y ddau beth mwyaf erchyll yn hanes dynoliaeth sef dau Ryfel Byd.I enjoy writing novels set in the twentieth century because I feel close to that century. It is also a century that contains the two most terrible things in human history, that is, two World Wars.
Pan oedd fy Mam yn fyw roedd hi’n arfer cynnal bore goffi i ddysgwyr yn ei chartref yn Llanfairpwll. Yn ôl Mam roedd ei dosbarth o ddysgwyr wedi mwynhau fy nofelau achos doedd dim angen geiriadur arnynt wrth eu darllen. Roeddwn yn falch fod fy nofelau wedi apelio at ddysgwyr. When my mother was alive she used to hold a coffee morning for learners in her home in Llanfairpwll. According to Mum her class enjoyed my novels because there was no need for a dictionary when reading them. I was very pleased that my novels had appealed to learners.
Gobeithio y caiff Y Milwr Coll yr un derbyniad.I hope Y Milwr Coll will get the same reception.

Sion Hughes Y Milwr Coll lluniau

gomer.co.uk/y-milwr-coll.html / GwasgGomerPress

Sion Hughes Y Milwr Coll

 

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Informal