New York Welsh main image

Wales Around the World: New York Welsh

Pobl o Gymru sy wedi adleoli i bedwar ban y byd, ac mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu denu tuag at Ddinas Efrog Newydd, sy'n lle hwyliog ac amlgenhedlig yn wir. Yma, mae sefydlwyr New York Welsh, Gwilym Roberts-Harry a Rhodri Morgan, yn dweud eu stori am sut maen nhw'n cadw'r hwyl yn fyw yn y ddinas dyw byth yn cysgu...

There are people from Wales who have relocated across the world, and many have been drawn to the lively and cosmopolitan New York City. Here, the founders of New York Welsh, Gwilym Roberts-Harry and Rhodri Morgan tell their story of how they keep the hwyl alive in the city that never sleeps...

Sefydlwyd Cymry Efrog Newydd yn ystod gwanwyn 2017 gan Rhodri Morgan (Criccieth), Marc Walby (Pont-y-pŵl), Ty Francis MBE (Dinbych-y-pysgod), Sioned Morgan (Caernarfon) a Gwilym Roberts-Harry (Caerfyrddin). Fe'i sefydlwyd gyda thri phrif amcan mewn golwg.

  • Yn gyntaf, cefnogi'r gymuned Gymreig sy'n byw yn Efrog Newydd a’r rhai sydd â chysylltiad â Chymru.
  • Yn ail, dathlu straeon o lwyddiant Cymreig yn Efrog Newydd, ac ysbrydoli a chreu straeon newydd.
  • Yn drydydd, helpu pobl Americanaidd-Gymreig i gysylltu â diwylliant eu treftadaeth hynafol.

Cyn creu Cymry Efrog Newydd, byddai’r gymuned Gymreig yn dod ynghyd trwy grŵp Facebook a drefnwyd gan Catrin Brace. O'r cychwyn, cafodd Cymry Efrog Newydd gartref ar gyfer digwyddiadau arbennig mewn bwyty Cymreig yn ardal Brooklyn, sef Cantre’r Gwaelod, wedi’i enwi wrth gwrs ar ôl y deyrnas enwog a ddiflannodd dan ddŵr. Cynhaliodd y perchnogion, Illtyd a Dominic Barrett (Aberdaugleddau), ynghyd â Chymry Efrog Newydd, lu o nosweithiau ysblennydd lle byddai pobl fel Matthew Rhys ac Erin Richards yn sefyll ar y bar ac yn perfformio barddoniaeth Dylan Thomas.

Roedd Cantre’r Gwaelod hefyd yn gartref i wersi Cymraeg poblogaidd iawn a gynhaliwyd yn rhad ac am ddim gan yr athrawes Kate Phillips. Cyn i'r bwyty gau yn 2018, gwelwyd torfeydd o 70 a mwy o Gymry yn sefyll ochr yn ochr, gyda bowlenni o gawl bwyd môr blasus yn eu dwylo, yn gwylio Pencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad ac yn bloeddio canu Hen Wlad Fy Nhadau!

Roedd cau'r Sunken Hundred yn ergyd sylweddol, ond gellir clywed clychau Cantre’r Gwaelod o hyd yn The Liberty NYC, cartref newydd cymuned Cymry Efrog Newydd. Mae’r perchennog, Glenn Treacher (Hwlffordd), bellach yn cydweithio â chyd-sylfaenwyr Cymry Efrog Newydd i gynnal cyfarfodydd misol rheolaidd sy'n helpu'r rhwydwaith i ddatblygu'n gymdeithasol ac yn broffesiynol. Mae Cymry Efrog Newydd wedi cydweithio ar ddigwyddiadau arbennig gyda Llywodraeth Cymru yng Ngogledd America, Undeb Rygbi Cymru, BAFTA Cymru, Rough Trade Records, a Distinguished Concerts International yn Neuadd Carnegie.

Yn 2018, lansiodd Cymry Efrog Newydd ei bodlediad ei hun i roi golwg ar fywydau’r bobl yn ein cymuned a’r hyn maent wedi’i gyflawni. Dan arweiniad Gideon Jensen (Abertawe) a Richard Swain (Ystrad Mynach), mae pob pennod yn cynnwys gwestai gwahanol a'i stori unigryw. Mae gwesteion hyd yma yn cynnwys dylunwyr ffasiwn ar gyfer pobl ag anableddau sydd wedi arddangos gwaith yn y MoMA, cyfarwyddwyr Gŵyl Ffilm TriBeCa, dramodwyr a sêr roc! Mae podlediad newydd yn cael ei ryddhau bob pythefnos ar iTunes, Google Play a Stitcher. Gellir ei weld drwy'r wefan hefyd!

Erbyn hyn, mae ein cymuned wedi tyfu i 500 o aelodau gweithredol, a diolch i lwyfannau fel LinkedIn, Instagram a Twitter mae mwy a mwy o bobl yn cael eu denu a’u cynnwys. Bydd y gymuned yn datblygu ymhellach wrth i ni barhau i weithio gyda'r bobl wych yn Llywodraeth Cymru yng Ngogledd America, Global Welsh, Cymry Washington DC, a Cymry LA. Mae 2019 wedi bod yn arbennig o gyffrous yn dilyn ail-lansiad Wythnos Cymru yn Efrog Newydd gan Ty Francis MBE, a ddatblygwyd ac a redwyd am y tro cyntaf drwy Swyddfa Ryngwladol Llywodraeth Cymru yn Efrog Newydd rhwng 2003 a 2013.

Bydd pobl yn dod i Efrog Newydd i gael blas ar ddiwylliannau newydd. Mae’r un peth yn wir amdanom ninnau, ond ein nod yw darparu darn bach o Gymru i’n haelodau. Mae croeso i unrhyw un ymuno, mae aelodaeth am ddim!

Mae croeso i unrhyw un ymuno, mae aelodaeth am ddim!

New York Welsh image 2

Fersiwn dwyieithog / Bilingual version

Sefydlwyd Cymry Efrog Newydd yn ystod gwanwyn 2017 gan Rhodri Morgan (Criccieth), Marc Walby (Pont-y-pŵl), Ty Francis MBE (Dinbych-y-pysgod), Sioned Morgan (Caernarfon) a Gwilym Roberts-Harry (Caerfyrddin). Fe'i sefydlwyd gyda thri phrif amcan mewn golwg.

  • Yn gyntaf, cefnogi'r gymuned Gymreig sy'n byw yn Efrog Newydd a’r rhai sydd â chysylltiad â Chymru.

  • Yn ail, dathlu straeon o lwyddiant Cymreig yn Efrog Newydd, ac ysbrydoli a chreu straeon newydd.

  • Yn drydydd, helpu pobl Americanaidd-Gymreig i gysylltu â diwylliant eu treftadaeth hynafol.

New York Welsh was co-founded in the spring of 2017 by Rhodri Morgan (Cricieth), Marc Walby (Pontypool), Ty Francis MBE (Tenby), Sioned Morgan (Cricieth) and Gwilym Roberts-Harry (Carmarthen). It was established with three main objectives in mind.

  • First, to support the Welsh community living in New York and those that have an affinity with Wales.

  • Second, to celebrate Welsh success stories in New York while inspiring the creation of new ones.

  • Third, to help American-Welsh people engage with the culture of their ancestral heritage.

Cyn creu Cymry Efrog Newydd, byddai’r gymuned Gymreig yn dod ynghyd trwy grŵp Facebook a drefnwyd gan Catrin Brace. O'r cychwyn, cafodd Cymry Efrog Newydd gartref ar gyfer digwyddiadau arbennig mewn bwyty Cymreig yn ardal Brooklyn, sef Cantre’r Gwaelod, wedi’i enwi wrth gwrs ar ôl y deyrnas enwog a ddiflannodd dan ddŵr. Cynhaliodd y perchnogion, Illtyd a Dominic Barrett (Aberdaugleddau), ynghyd â Chymry Efrog Newydd, lu o nosweithiau ysblennydd lle byddai pobl fel Matthew Rhys ac Erin Richards yn sefyll ar y bar ac yn perfformio barddoniaeth Dylan Thomas. Before creating the New York Welsh, the Welsh community would come together through a Facebook group organised by Catrin Brace. From the outset, New York Welsh found a home for special events at the Sunken Hundred, a Brooklyn-based Welsh restaurant named after the legendary ancient sunken kingdom. The owners, Illtyd and Dominic Barrett (Milford Haven), in collaboration with New York Welsh, hosted a raft of spectacular nights where the likes of Matthew Rhys and Erin Richards would stand on the bar and perform Dylan Thomas poetry.
Roedd Cantre’r Gwaelod hefyd yn gartref i wersi Cymraeg poblogaidd iawn a gynhaliwyd yn rhad ac am ddim gan yr athrawes Kate Phillips. Cyn i'r bwyty gau yn 2018, gwelwyd torfeydd o 70 a mwy o Gymry yn sefyll ochr yn ochr, gyda bowlenni o gawl bwyd môr blasus yn eu dwylo, yn gwylio Pencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad ac yn bloeddio canu Hen Wlad Fy Nhadau!The Sunken Hundred was also home to free Welsh lessons taught by Professor Kate Phillips, which were very popular among the New York Welsh community. Before the restaurant’s closure in 2018 it saw crowds of 70 or more Welsh people stood side-by-side, with bowls of delicious seafood cawl in hand, singing Hen Wlad Fy Nhadau, and watching the Six Nations Rugby Championship unfold.
Roedd cau'r Sunken Hundred yn ergyd sylweddol, ond gellir clywed clychau Cantre’r Gwaelod o hyd yn The Liberty NYC, cartref newydd cymuned Cymry Efrog Newydd. Mae’r perchennog, Glenn Treacher (Hwlffordd), bellach yn cydweithio â chyd-sylfaenwyr Cymry Efrog Newydd i gynnal cyfarfodydd misol rheolaidd sy'n helpu'r rhwydwaith i ddatblygu'n gymdeithasol ac yn broffesiynol. Mae Cymry Efrog Newydd wedi cydweithio ar ddigwyddiadau arbennig gyda Llywodraeth Cymru yng Ngogledd America, Undeb Rygbi Cymru, BAFTA Cymru, Rough Trade Records, a Distinguished Concerts International yn Neuadd Carnegie.The closure of the Sunken Hundred was a significant blow but the bells of the Sunken Hundred can still be heard at The Liberty NYC, the new home of the New York Welsh community. Its owner, Glenn Treacher (Haverfordwest), now collaborates with the New York Welsh co-founders to host regular monthly meet ups which help the Welsh network develop both socially and professionally. New York Welsh has collaborated on special events with the Welsh Government in North America, the Welsh Rugby Union, BAFTA Cymru, Rough Trade Records, and Distinguished Concerts International based at Carnegie Hall.
Yn 2018, lansiodd Cymry Efrog Newydd ei bodlediad ei hun i roi golwg ar fywydau’r bobl yn ein cymuned a’r hyn maent wedi’i gyflawni. Dan arweiniad Gideon Jensen (Abertawe) a Richard Swain (Ystrad Mynach), mae pob pennod yn cynnwys gwestai gwahanol a'i stori unigryw. Mae gwesteion hyd yma yn cynnwys dylunwyr ffasiwn ar gyfer pobl ag anableddau sydd wedi arddangos gwaith yn y MoMA, cyfarwyddwyr Gŵyl Ffilm TriBeCa, dramodwyr a sêr roc! Mae podlediad newydd yn cael ei ryddhau bob pythefnos ar iTunes, Google Play a Stitcher. Gellir ei weld drwy'r wefan hefyd!In 2018, New York Welsh launched its own podcast to provide a window into the lives and achievements of Welsh people in New York. Hosted by Gideon Jensen (Swansea) and Richard Swain (Ystrad Mynach), each episode features a different guest and their unique story. Guests to date include fashion designers for persons with disabilities who have had work exhibited at the MoMA, TriBeCa Film Festival directors, playwrights, and rock stars! A new podcast is released every fortnight on iTunes, Google Play and Stitcher. It can be accessed through the website too!
Erbyn hyn, mae ein cymuned wedi tyfu i 500 o aelodau gweithredol, a diolch i lwyfannau fel LinkedIn, Instagram a Twitter mae mwy a mwy o bobl yn cael eu denu a’u cynnwys. Bydd y gymuned yn datblygu ymhellach wrth i ni barhau i weithio gyda'r bobl wych yn Llywodraeth Cymru yng Ngogledd America, Global Welsh, Cymry Washington DC, a Cymry LA. Mae 2019 wedi bod yn arbennig o gyffrous yn dilyn ail-lansiad Wythnos Cymru yn Efrog Newydd gan Ty Francis MBE, a ddatblygwyd ac a redwyd am y tro cyntaf drwy Swyddfa Ryngwladol Llywodraeth Cymru yn Efrog Newydd rhwng 2003 a 2013.Our community has now grown to 500 active members, and a whole lot more connected through our LinkedIn, Instagram and Twitter platforms. The community will develop further as we continue to work together with the wonderful people at the Welsh Government in North America, Global Welsh, Washington DC Welsh and LA Welsh. 2019 has been particularly exciting following the re-launch of Wales Week in New York by Ty Francis MBE, which was first developed and run through the Welsh Government's International Office in New York between 2003 and 2013.
Bydd pobl yn dod i Efrog Newydd i gael blas ar ddiwylliannau newydd. Mae’r un peth yn wir amdanom ninnau, ond ein nod yw darparu darn bach o Gymru i’n haelodau. Mae croeso i unrhyw un ymuno, mae aelodaeth am ddim!People come to New York to experience new cultures. We’re no different but we'll be here to provide some home comforts as and when our members need them. Anyone is welcome to join, membership is free!

 

Y diweddaraf oddi wrth Informal