Rhiannon Art Cymru

Rhiannon Roberts: Peintio Cymru mewn lliwiau newydd / Painting Wales in new colours

Mae Rhiannon Roberts yn creu lluniau dyfrlliw, sydd yn cael eu troi i mewn i cardiau, costeri, matiau bwrdd, printiadau, byrddau gwydr. Yma, mae hi’n esbonio mwy am eu gyrfa ac ysbrydoliaeth.

Rhiannon Roberts creates original watercolours which are turned into work into various products such as cards, coasters, placemats, prints and glass boards. Here, she explains more about her career and inspirations.

Ers yn ferch fach, roeddwn i wastad yn hoff iawn o gelf ac o fod yn greadigol. Astudiais Gelf i Lefel A, ond wedyn penderfynais astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl graddio yn 2010, symudais adref i Geredigion i roi cynnig ar fod yn arlunydd llawn amser!

Roedd hi’n anodd dechrau adeiladu busnes gelf heb unrhyw brofiad blaenorol. Dwi’n cofio eistedd yn fy stiwdio yng Nghiliau Aeron yn peintio a chysylltu ag orielau a siopau lleol i geisio gwerthu fy ngwaith. Wedyn roedd angen chwilio am gwmnïau argraffu er mwyn troi’r gwaith gwreiddiol yn gynhyrchion amrywiol. Amser anodd, ond cyffrous iawn oedd y cyfnod hwn.

Yn 2012 penderfynais fentro nôl i Gaerdydd i geisio cyflawni fy mreuddwyd o fod yn arlunydd. Dechreuodd Rhiannon Art tyfu ac ehangu, ac erbyn heddiw mae’r busnes yn llwyddiannus iawn, er bod llawer gen i i’w ddysgu o hyd!

Ar hyn o bryd dwi’n brysur iawn yn peintio cynlluniau gwreiddiol dyfrlliw ac acrylig newydd, gweithio ar ddatblygu’r wefan, gwerthu fy ngwaith mewn ffeiriau amrywiol yn ogystal â gweithio gyda phlant mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru.

Mae’n bleser cael llenwi bywydau pobl â lliw tra hefyd yn ceisio ysbrydoli cenhedlaeth newydd o artistiaid ifanc. Yn ddiweddar, enillais deitl ‘Person Twristiaeth Ifanc De Ddwyrain Cymru 2018’ ac rwy’n falch iawn o fedru rhoi Cymru ar y map drwy ail-greu holl olygfeydd ysblennydd Cymru mewn ffordd fywiog, lliwgar a phositif.

Dwi’n caru lliw ac yn cael fy nenu at unrhywbeth llachar. Mae’r ffaith i mi dyfu fyny ger Aberaeron, ymhlith y tai lliwgar a’r cychod, yn sicr wedi fy ysbrydoli i beintio mewn dull lliwgar, lledrithiol a hapus

Erbyn heddiw, dwi’n gwerthu cynhyrchion amrywiol megis costeri, matiau bwrdd, printiadau, jig-sôs, cardiau, mygiau, ffedogau a llawer mwy. Mae pobl yn prynu dros y wefan ac mae fy ngwaith yn cael ei bostio i bob cwr o’r byd.

Dwi’n falch iawn o’r hyn rwyf wedi ei gyflawni hyd yn hyn. Bwriad Rhiannon Art yw creu darluniau a delweddau o Gymru sy’n adlewyrchu prydferthwch y wlad, yn ogystal â cheisio ysbrydoli pobl i fod yn hapus a phositif drwy fy nefnydd o liwiau llachar.

Rwy’n falch iawn o fedru rhoi Cymru ar y map drwy ail-greu holl olygfeydd ysblennydd Cymru mewn ffordd fywiog, lliwgar a phositif.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Ers yn ferch fach, roeddwn i wastad yn hoff iawn o gelf ac o fod yn greadigol. Astudiais Gelf i Lefel A, ond wedyn penderfynais astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl graddio yn 2010, symudais adref i Geredigion i roi cynnig ar fod yn arlunydd llawn amser!Ever since I was a small girl, I have always been very fond of art and of being creative. I studied Art at A Level, but then decided to study Psychology at Cardiff University. After graduating in 2010, I moved back home to Cardiganshire to have a go at being a full-time artist!
Roedd hi’n anodd dechrau adeiladu busnes gelf heb unrhyw brofiad blaenorol. Dwi’n cofio eistedd yn fy stiwdio yng Nghiliau Aeron yn peintio a chysylltu ag orielau a siopau lleol i geisio gwerthu fy ngwaith. Wedyn roedd angen chwilio am gwmnïau argraffu er mwyn troi’r gwaith gwreiddiol yn gynhyrchion amrywiol. Amser anodd, ond cyffrous iawn oedd y cyfnod hwn.Starting to build up an art business without any previous experience was not easy. I remember sitting in my studio in Ciliau Aeron painting and contacting galleries and local shops in an attempt to sell my work. Then I had to look for printing companies to turn the original work into various products for sale. A difficult time, but that was a very exciting period!
Yn 2012 penderfynais fentro nôl i Gaerdydd i geisio cyflawni fy mreuddwyd o fod yn arlunydd. Dechreuodd Rhiannon Art tyfu ac ehangu, ac erbyn heddiw mae’r busnes yn llwyddiannus iawn, er bod llawer gen i i’w ddysgu o hyd!In 2012 I decided to venture back to Cardiff in an attempt to fulfil my dream of being an artist. Rhiannon Art began to grow and expand, and as of today the business is very successful, although I still have a great deal to learn!
Ar hyn o bryd dwi’n brysur iawn yn peintio cynlluniau gwreiddiol dyfrlliw ac acrylig newydd, gweithio ar ddatblygu’r wefan, gwerthu fy ngwaith mewn ffeiriau amrywiol yn ogystal â gweithio gyda phlant mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru.At present I am very busy painting original new watercolours and acrylics, working on the development of my website, and selling my work at various craft fairs, as well as working with children in schools across the whole of Wales.
Mae’n bleser cael llenwi bywydau pobl â lliw tra hefyd yn ceisio ysbrydoli cenhedlaeth newydd o artistiaid ifanc. Yn ddiweddar, enillais deitl ‘Person Twristiaeth Ifanc De Ddwyrain Cymru 2018’ ac rwy’n falch iawn o fedru rhoi Cymru ar y map drwy ail-greu holl olygfeydd ysblennydd Cymru mewn ffordd fywiog, lliwgar a phositif.It is a pleasure to get to fill people’s lives with colour while at the same time trying to inspire a new generation of young artists. Lately, I won the title ‘South-East Wales Tourism Young Person 2018’ and I am very proud of being able to put Wales on the map through recreating all the magnificent scenery of Wales in a lively, colourful and positive way.
Dwi’n caru lliw ac yn cael fy nenu at unrhywbeth llachar. Mae’r ffaith i mi dyfu fyny ger Aberaeron, ymhlith y tai lliwgar a’r cychod, yn sicr wedi fy ysbrydoli i beintio mewn dull lliwgar, lledrithiol a hapusI love colour and am attracted to anything bright. The fact that I grew up in Aberaeron, among the colourful houses and boats, has certainly inspired me to paint in a style full of colour, enchantment and happiness.
Erbyn heddiw, dwi’n gwerthu cynhyrchion amrywiol megis costeri, matiau bwrdd, printiadau, jig-sôs, cardiau, mygiau, ffedogau a llawer mwy. Mae pobl yn prynu dros y wefan ac mae fy ngwaith yn cael ei bostio i bob cwr o’r byd.At the present time, I am selling various products like coasters, placemats, prints, jigsaws, cards, mugs, aprons and much more. People buy over the web and my work gets posted to every corner of the world.
Dwi’n falch iawn o’r hyn rwyf wedi ei gyflawni hyd yn hyn. Bwriad Rhiannon Art yw creu darluniau a delweddau o Gymru sy’n adlewyrchu prydferthwch y wlad, yn ogystal â cheisio ysbrydoli pobl i fod yn hapus a phositif drwy fy nefnydd o liwiau llachar.I am very proud of what I have accomplished to date. The aim of Rhiannon Art is to create pictures and images of Wales which reflect the beauty of the country, as well as trying to inspire people to be happy and positive with my use of bright colours.
Rhiannon Art Enfys the SnowdogRhiannon Art 4
Rhiannon Art WorkshopRhiannon Art Tea towels

rhiannonart.co.uk   Rhiannon_Art   rhiannonartltd

Rhiannon Art Caerdydd Magical City

“Cardiff- Magical City”

 

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Informal