Huw Dylan Owen- Gai Toms

Gai Toms a’r Banditos: Orig- Adolygiad gan Huw Dylan Owen

Wyt ti'n hoffi pêl-droed neu reslo? Neu gerddoriaeth? Dyma adolygiad o albwm newydd Gai Toms - gwrando (a darllen!) hanfodol!

Do you like football or wrestling? Or music? Here's a review of Gai Toms' new album - essential listening! (and reading!)

Prin yw albymau cysyniadol yn y Gymraeg. Bu’r Bardd Anfarwol gan y Gentle Good ychydig flynyddoedd yn ôl, Y Dydd Olaf gan Gwenno, Diwrnod i’r Brenin gan Geraint Jarman, ac heb anghofio ail hanner M.O.M. gan Eliffant nôl yn 1979. Wrth i ni lawr-lwytho mwy a mwy o gerddoriaeth mae tueddiad i wrando ar ganeuon unigol y dyddiau hyn yn hytrach nag albwm ar ei hyd, ond i werthfawrogi hon yn iawn mae angen gwrando arni o’r dechrau i’r diwedd.

Mae Gai Toms gyda’i albwm newydd, Orig, wedi llwyddo i greu albwm gysyniadol wych.

Mae’n rhannu hanes bywyd Orig Williams, y Cymro balch, y pel-droediwr, y reslar, a’r asiant wreslo merched, o’i ddyddiau cynnar ger y Migneint, i’w gyfnod yn y fyddin, at chwarae pêl-droed (a’i ffug-enw ‘Tarw Nefyn’), at ymladd mewn bwth ymladd y ffair, ac ymlaen i fod yn El-Bandito, y reslar o Gymro. Mae gwrando ar yr albwm fel gwylio ffilm a’r hanes yn datblygu o gân i gân.

Aeth Gai ati i greu ar gyfer yr hanes ac mae’r caneuon i gyd yn dilyn steil yr oes a’r sefyllfa. Felly cawn biano honci tonc a hwyl ar Reu Reu Reu/Tarw Nefyn, seiniau band pres y ffair ar Bwth Mickey Kiely, a rhyw naws gwerin/Pogues ar Y Cylch Sgŵar. Mae’r nawsau amrywiol yn gweddu i’r dim, gyda’r faled Marwnad y Pehalwan yn hoe yng nghanol bywyd yr albwm.

Ar y diwedd un cawn lais Orig ei hun yn galw “Cymru Am Byth!” cyn i ni gael trymped Mecsicanaidd unig yn canu Marwnad yr Ehedydd.

Felly, dyma gyfanwaith ac efallai yn uchafbwynt ar waith Gai Toms hyd yma. Mae’n sicr yn sefyll ochr yn ochr â’r Eira Mawr o 2006. Ond mae mwy! Dyma un o’r achlysuron hynny lle mae prynu’r CD yn well na lawrlwytho gan fod y cyfan yn ychwanegu at y profiad. Cawn luniau o’r reslar yn ymaflyd codwm, un o Gai yn dynwared Orig (byddai’n gwneud ymladdwr da mae’n siŵr!) ac yn ein herio am ffeit, a chawn lyfryn o’r geiriau ac ychydig o’r hanes. Cawn hefyd wybod mai Tara Bethan (merch Orig) sy’n canu llais cefndir ac mai clwb pêl-droed Nantlle Vale yw’r côr!

Albwm i godi hwyl, i godi hiraeth, i arwain drwy hanes bywyd. Uffar o hanes, uffar o albwm. Gwrando hanfodol.

Fersiwn dwyieithog / Bilingual version

Prin yw albymau cysyniadol yn y Gymraeg. Bu’r Bardd Anfarwol gan y Gentle Good ychydig flynyddoedd yn ôl, Y Dydd Olaf gan Gwenno, Diwrnod i’r Brenin gan Geraint Jarman, ac heb anghofio ail hanner M.O.M. gan Eliffant nôl yn 1979. Wrth i ni lawr-lwytho mwy a mwy o gerddoriaeth mae tueddiad i wrando ar ganeuon unigol y dyddiau hyn yn hytrach nag albwm ar ei hyd, ond i werthfawrogi hon yn iawn mae angen gwrando arni o’r dechrau i’r diwedd.Welsh language concept albums are rare. The Gentle Good released Y Bardd Anfarwol a few years ago, Gwenno’s Y Dydd Olaf, Diwrnod i’r Brenin by Geraint Jarman, not to forget the second half of M.O.M. by Eliffant back in 1979. As we download more and more music there’s a tendency to listen to single songs these days rather than listening to the whole album, but to appreciate this one properly one needs to listen from start to finish.
Mae Gai Toms gyda’i albwm newydd, Orig, wedi llwyddo i greu albwm gysyniadol wych.Gai Toms, with his new album, Orig, has managed to create a brilliant concept album.
Mae’n rhannu hanes bywyd Orig Williams, y Cymro balch, y pel-droediwr, y reslar, a’r asiant wreslo merched, o’i ddyddiau cynnar ger y Migneint, i’w gyfnod yn y fyddin, at chwarae pêl-droed (a’i ffug-enw ‘Tarw Nefyn’), at ymladd mewn bwth ymladd y ffair, ac ymlaen i fod yn El-Bandito, y reslar o Gymro. Mae gwrando ar yr albwm fel gwylio ffilm a’r hanes yn datblygu o gân i gân.He shares with the listener Orig Williams’ life story, the proud Welshman, the footballer, the wrestler, the female wrestling agent, from his early days near the Migneint, to his period in the army, to playing football (with the nickname ‘Tarw Nefyn’ [The Bull of Nefyn]), to fighting in fairground fighting booths, and onward to being El-Bandito, the Welsh wrestler. Listening to the album is like watching a film with the history developing from song to song.
Aeth Gai ati i greu ar gyfer yr hanes ac mae’r caneuon i gyd yn dilyn steil yr oes a’r sefyllfa. Felly cawn biano honci tonc a hwyl ar Reu Reu Reu/Tarw Nefyn, seiniau band pres y ffair ar Bwth Mickey Kiely, a rhyw naws gwerin/Pogues ar Y Cylch Sgŵar. Mae’r nawsau amrywiol yn gweddu i’r dim, gyda’r faled Marwnad y Pehalwan yn hoe yng nghanol bywyd yr albwm.Gai created for the history and the songs all follow the style of the time and situation. Therefore, we have honky-tonk piano and fun on Reu Reu Reu/Tarw Nefyn, the fairground’s brass band on Bwth Mickey Kiely, and a folk/Pogues feeling to Y Cylch Sgwâr. The different ambience to each song fits nicely, with the ballad Marwnad y Pehalwan giving a break halfway through this lively album.
Ar y diwedd un cawn lais Orig ei hun yn galw “Cymru Am Byth!” cyn i ni gael trymped Mecsicanaidd unig yn canu Marwnad yr Ehedydd.Towards the end we here Orig himself calling “Cymru am Byth!” [Wales Forever!] before we have a Mexican style trumpet solo playing the folk song Marwnad yr Ehedydd.
Felly, dyma gyfanwaith ac efallai yn uchafbwynt ar waith Gai Toms hyd yma. Mae’n sicr yn sefyll ochr yn ochr â’r Eira Mawr o 2006. Ond mae mwy! Dyma un o’r achlysuron hynny lle mae prynu’r CD yn well na lawrlwytho gan fod y cyfan yn ychwanegu at y profiad. Cawn luniau o’r reslar yn ymaflyd codwm, un o Gai yn dynwared Orig (byddai’n gwneud ymladdwr da mae’n siŵr!) ac yn ein herio am ffeit, a chawn lyfryn o’r geiriau ac ychydig o’r hanes. Cawn hefyd wybod mai Tara Bethan (merch Orig) sy’n canu llais cefndir ac mai clwb pêl-droed Nantlle Vale yw’r côr!So, here’s a fully rounded album which may be Gai Toms’ best work to date. It certainly sits next to Yr Eira Mawr of 2006. But there’s more! Here’s one of those situations where purchasing the actual CD is better than downloading as it adds to the experience. We have photos of the wrestler fighting, one of Gai imitating Orig (he’d make a good wrestler I reckon!) spoiling for a scrap, and we have a booklet of words and some history. We also find out that Tara Bethan (Orig’s daughter) sings backing vocals and that the choir is Nantlle Vale football club!
Albwm i godi hwyl, i godi hiraeth, i arwain drwy hanes bywyd. Uffar o hanes, uffar o albwm. Gwrando hanfodol.An album of fun, and of ‘hiraeth’, to lead us through a life story. Hell of a story, hell of an album. Essential listening.

 

sainwales.com/cy/store/sain/sain-scd28091 sainrecords / gaitoms

Gai Toms ag Orig Williams


Huw Dylan Owen yw awdur y llyfr Sesiwn yng Nghymru, sydd yn gyfrol o ysgrifau difyr ac unigryw ar fyd sesiynau gwerin yng Nghymru.

Huw Dylan Owen is the author of the book Sesiwn yng Nghymru, which is an entertaining and unique collection of articles dealing with the folk sessions in Wales.

Sesiynau gwerin misol yn Abertawe: Monthly folk sessions in Swansea: cyrfe

 

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol