Lynda Pritchard Newcombe- A Taste of Cornish

Lynda Pritchard Newcombe- Blas ar Gernyweg / A Taste of the Cornish language

Mae'r iaith Gernyweg yn gyfnither i'r Gymraeg, ac er mai dim ond tua 3,000 o siaradwyr sydd yn ei defnyddio'n rheolaidd, mae llawer o oedolion yn ei dysgu hi. Mae hyn hefyd yn creu mwy o ddiddordeb mewn  hunaniaeth Cernyweg. Aeth Lynda Pritchard Newcombe, awdur Speak Welsh Outside Class, i gael blas...

The Cornish language is a cousin of Welsh, and despite only around 3,000 speakers there are many adults learning it. This is also creating more interest in Cornish self-identity. Lynda Pritchard Newcombe, author of Speak Welsh Outside Class, went to get a taste...

 

Tyfodd fy niddordeb yn yr iaith Gernyweg ar ôl i mi asesu dysgwyr Cymraeg oedd yn siaradwyr Cernyweg pan ro’n i’n gweithio i’r Brifysgol Agored yn 2010. Gwnaeth y siaradwyr Cernyweg yn dda iawn ar y cwrs.

Yn ddiweddar penderfynais i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am iaith ein cyfnither. Llogais i fwthyn bach ym mhrifddinas hen bethau, Lostwithiel, yn agos iawn at dŷ Julie Tamblin er mwyn i fi mynychu un o’i chyrsiau pedair awr yn ogystal â fforio’r ardal leol.

Mae Julie wedi bod yn dysgu’r iaith Gernyweg am dros deg ar hugain mlynedd ac mae hi’n dal i ddysgu. Mae ei gwreiddiau Cernyweg ar ochr ei thad hi ac mae ei diddordeb yn yr iaith yn rhan annatod o faterion hunaniaeth. Prif waith Julie yw dysgu Ffrangeg, Eidaleg a Saesneg ond Cernyweg mae hi’n mwynhau dysgu fwyaf.

Mae’n bosib rhannu cryn dipyn o wybodaeth mewn pedair awr er iddo helpu bod pedair awr Julie wedi ymestyn bron i bump! Roedd te hufen Cernyweg blasus iawn hanner ffordd trwy’r sesiwn yn helpu'r ‘celloedd llwyd bach’ i ganolbwyntio.

Dysgais i am sefyllfa’r iaith dros y canrifoedd a derbyniais i flas o lenyddiaeth Cernyw pan darllennodd Julie i fi yn Gernyweg, Saesneg a thafodiaith Gernyweg. Clywais i hefyd wers ar podcast i ddechreuwyr gan y canwr opera, Dan Prohaska. Roedd mam Dan yn dod o Gernyw.

Mae’r Gymraeg a Chernyweg yn berthnasau agos oherwydd gyda Llydaweg maen nhw’n perthyn i’r adran Frythonaidd o’r teulu Celteg. Mae’r ieithoedd yn rhannu llawer o eirfa er y gall gwahaniaethau mewn sillafu ac ynganiad guddio’r tebygrwydd. Mae gramadeg yn debyg hefyd i ryw raddau er bod y Gernyweg yn defnyddio rhai cystrawennau sy ddim yn cael eu defnyddio ar lafar yn yr iaith Gymraeg. Ac wrth gwrs fel y byddech chi’n disgwyl mae’r treigladau annwyl yn ymddangos. Pwy fyddai eisiau bod hebddyn nhw?!

Amcangyfrifwyd bod 3,000 o siaradwyr yr iaith Gernyweg, ac y mae 2,000 ohonynt yn hawlio eu bod yn rhugl, yn ôl arolwg a gomisiynwyd gan brosiect Strategaeth Iaith Cernyweg yn 2008. Dywedodd 14% o boblogaeth Cernyw bod hunaniaeth Cernyweg gyda nhw ac mae 557 o bobl yn Lloegr a Chymru wedi dweud taw Cernyweg yw ei brif iaith, 464 yng Nghernyw a ‘r gweddill mewn mannau eraill. Ar ro’ch chi’n meddwl bod Cymraeg yn brwydro i oroesi!

Ond mae siaradwyr Cernyweg yn bositif. “Dyn ni’n brwydro ond mae gobaith gyda ni,” dywedodd Julie.

Mae’r twrist yng Nghernyw yn dysgu bod Dolly Pentreath a bu farw yn Mousehole yn 1777 oedd y siaradwr Cernyweg monoglot olaf a bod yr iaith Cernyweg wedi marw yn y deunawfed ganrif a chafodd ei hadfywio ddechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd y diwygiad hwn wedi digwydd yn bennaf oherwydd gwaith Henry a Katherine Jenner a Robert Morton Nance a chafodd ei eni yng Nghaerdydd i rieni Cernyweg yn 1873. A.S.D. Smith (Caradar), Sais a dysgodd Cymraeg a daeth yn fardd Cymraeg oedd yn gymorth gyda’i lyfrau i ddysgwyr.

Ond mae Julie yn egluro bod yna rhai sy’n credu na fu farw Cernyweg erioed. Roedd yr iaith yn aml ar wefusau’r pysgotwyr pan ro’n nhw rhifo eu dalfa. Ac mae rhai pobl fel Richard Gendall, arbenigwr yn yr iaith Gernyweg a bu farw yn 2017 yn 93 oed yn cofio clywed yr iaith o’u cyndadau. Dysgodd Richard yr iaith o’i fam-gu pan oedd e’n bedair oed. Mae Julie yn llawn gobaith am ddyfodol yr iaith.

Beth yw’r rhesymau tu ôl i obeithiau Julie am ddyfodol Cernyweg?

Yn ystod y flwyddyn 2000 cafodd Cernyweg ei hadnabod fel iaith leiafrifol yn yr Undeb Ewropeaidd a dros y ddau ddegawd diwethaf mae ymwybyddiaeth yn gyffredinol am fodolaeth yr iaith wedi tyfu. Mae arwyddion yn Gernyweg yn cynyddu yn ogystal â defnydd yr iaith ym myd busnes gyda’r iaith yn ymddangos weithiau ar faniau.

Mae blogiau a thrydarau yn cynnwys yr iaith Gernyweg ac mae darllediadau radio yn yr iaith. Mae Pellwolok an Gernewegva yn cynhyrchu fideos ar-lein yn yr iaith Gernyweg a lansiodd dau episod o’r sioe sgwrsio gyntaf, Jaqi ha Jerry yn Ionawr 2019.

Mae nifer y dysgwyr, gan gynnwys plant, wedi cynyddu yng Nghernyw a thu hwnt ac mae hyd yn oed yn bosibl dysgu Cernyweg yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae yna fwy o bobl sydd a chrap ar yr iaith nag oedd flynyddoedd yn ôl a chynnydd yn y rhai sydd â diddordeb mewn diwylliant a llenyddiaeth Cernyweg.

Mae digon o lenyddiaeth ar gael i siaradwyr a dysgwyr o Gernyw eu mwynhau. Er enghraifft, mae Alan Kent, bardd, dramodydd a nofelydd wedi cynorthwyo hybu Eingl-Gernyweg gyda’i allbwn toreithiog. Ac mae Neil Kennedy, sy wedi bod yn flaenweithgar yn hybu Cernyweg am ddegawdau wedi cyfieithu llyfrau i blant yn Gernyweg. Mae Tim Saunders, sy’n byw yng Nghaerdydd yn un o’r beirdd blaenllaw yn ysgrifennu yn Gernyweg heddiw. Mae ei ferch y gantores, Gwenno, sy’n siarad Cernyweg yn rhugl wedi cynhyrchu albwm, Le Kov, yn Gernyweg yn gyfan gwbl.

Yn wahanol i'r ieithoedd Celtaidd eraill, ni chafodd y Beibl cyfan ei gyfieithu i Gernyweg ond cyhoeddwyd cyfieithiad o'r Testament Newydd gan Nicholas Williams yn 2002 ac ers 2016 mae'r Testament Newydd a'r Salmau wedi'u cyhoeddi gan y Gymdeithas Feiblaidd.

Fodd bynnag, mae ‘na rhai pethau gallai rhwystro dyfodol yr iaith a hynny yw’r anghytundeb rhwng siaradwyr ynglŷn ag yngau ac ynglŷn â sillafu’r iaith a pha fersiwn o’r iaith i ddefnyddio heddiw.

Mae tair fersiwn Gernyweg yn cael eu hybu ar hyn o bryd.

1) Unified Cornish. Mae hyn yn seiliedig ar Gernyweg pan roedd e’n ffynnu fel iaith fyw yn y bedwaredd ac yn y bymthegfed ganrif. Gosodwyd y sylfeini gan Henry Jenner (1848-1934), a chyhoeddwyd Handbook of the Cornish Language yn 1904, yn adeiladu ar waith Robert Morton Nance (1872-1959) a ysgrifennodd Cornish for All a chyhoeddwyd yn 1929 a Cornish-English Dictionary chyhoeddwyd yn 1938. Mae cymdeithas eu hun gan hyrwyddwyr y fersiwn hon Agan Tavas (Ein Hiaith).

2) Common Cornish. Yn y 1980au dyfeisiwyd system ddiwygiedig ar gyfer sillafu Cernyweg gan ddefnyddio model cyfrifiadurol. Roedd y system hon yn seiliedig ar ddull ffonemig yn bennaf oherwydd ymdrechion yr eigionegydd, Dr Ken George o Brifysgol Caerwysg. Galwyd yn wreiddiol Phonemic Cornish, ond bellach yn Gomin neu Kemmyn, Cernyweg, ac fe'i mabwysiadwyd gan Fwrdd yr Iaith Gernyweg fel y fersiwn "swyddogol" yn 1987.

3) Modern Cornish. Mae’r fersiwn hon yn mynd yn ôl i fwriad gwreiddiol Henry Jenner sef yn defnyddio’r Gernyweg oedd yn cael ei siarad yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r deunawfed ganrif pan roedd y fersiwn hon yn fyw yng Ngorllewin Cernyw. Mae Modern Cornish, neu Kernuak, yn cael ei galw Traditional Cornish weithiau, oherwydd bod y term modern braidd yn od am iaith yr honnir iddi farw tua dau gant o flynyddoedd yn ôl. Mae Cyngor Cernyweg ei hun gan y fersiwn hon.

“Ni all unrhyw un ohonon ni wybod a oes y Gernyweg go iawn gyda ni. Rhaid i ni fod yn ostyngedig.”
Julie Tamblin

Fersiwn dwyieithog / Bilingual version

Tyfodd fy niddordeb yn yr iaith Gernyweg ar ôl i mi asesu dysgwyr Cymraeg oedd yn siaradwyr Cernyweg pan ro’n i’n gweithio i’r Brifysgol Agored yn 2010. Gwnaeth y siaradwyr Cernyweg yn dda iawn ar y cwrs.My interest in Cornish grew after I assessed some Welsh learners who were Cornish speakers when I worked for the Open University in 2010. The Cornish speakers did really well on the course.
Yn ddiweddar penderfynais i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am iaith ein cyfnither. Llogais i fwthyn bach ym mhrifddinas hen bethau, Lostwithiel, yn agos iawn at dŷ Julie Tamblin er mwyn i fi mynychu un o’i chyrsiau pedair awr yn ogystal â fforio’r ardal leol. Recently I decided to find out more about our Cornish cousin. I rented a small cottage for five nights in the antiques capital of Cornwall, Lostwithiel, a stone’s throw from Julie Tamblin’s home so that I could attend one of her four hour courses as well as explore the local area.
Mae Julie wedi bod yn dysgu’r iaith Gernyweg am dros deg ar hugain mlynedd ac mae hi’n dal i ddysgu. Mae ei gwreiddiau Cernyweg ar ochr ei thad hi ac mae ei diddordeb yn yr iaith yn rhan annatod o faterion hunaniaeth. Prif waith Julie yw dysgu Ffrangeg, Eidaleg a Saesneg ond Cernyweg mae hi’n mwynhau dysgu fwyaf. Julie has been involved with the language for over thirty years but views herself as a learner still. On her father’s side her roots are Cornish and her interest in language is inextricably entwined with identity issues. Julie’s main work background is teaching French, Italian and English but her first love is teaching Cornish.
Mae’n bosib rhannu cryn dipyn o wybodaeth mewn pedair awr er iddo helpu bod pedair awr Julie wedi ymestyn bron i bump! Roedd te hufen Cernyweg blasus iawn hanner ffordd trwy’r sesiwn yn helpu'r ‘celloedd llwyd bach’ i ganolbwyntio. A staggering amount of information can be imparted in four hours, though it did help that Julie’s four hours grew to almost five! A scrumptious Cornish cream tea half way though the session helped the ‘little grey cells’ to stay focussed.
Dysgais i am sefyllfa’r iaith dros y canrifoedd a derbyniais i flas o lenyddiaeth Cernyw pan darllennodd Julie i fi yn Gernyweg, Saesneg a thafodiaith Gernyweg. Clywais i hefyd wers ar podcast i ddechreuwyr gan y canwr opera, Dan Prohaska. Roedd mam Dan yn dod o Gernyw.I learned of the fortunes of the language over the centuries and received a taste of some of the literature of Cornwall which Julie read to me in Cornish, English and Cornish Dialect. I listened to a beginner’s lesson on podcast by the opera singer, Dan Prohaska, whose mother was Cornish.
Mae’r Gymraeg a Chernyweg yn berthnasau agos oherwydd gyda Llydaweg maen nhw’n perthyn i’r adran Frythonaidd o’r teulu Celteg. Mae’r ieithoedd yn rhannu llawer o eirfa er y gall gwahaniaethau mewn sillafu ac ynganiad guddio’r tebygrwydd. Mae gramadeg yn debyg hefyd i ryw raddau er bod y Gernyweg yn defnyddio rhai cystrawennau sy ddim yn cael eu defnyddio ar lafar yn yr iaith Gymraeg. Ac wrth gwrs fel y byddech chi’n disgwyl mae’r treigladau annwyl yn ymddangos. Pwy fyddai eisiau bod hebddyn nhw?! Welsh and Cornish are quite close relatives as, with their Breton cousin, they belong to the Brythonic branch of the Celtic language family. There is much shared vocabulary though differences in spelling and pronunciation may hide similarities. Grammar too is similar although Cornish uses some structures no longer used in colloquial Welsh. And of course as you’d expect there are the joys of mutations. Who would want to be without them?!
Amcangyfrifwyd bod 3,000 o siaradwyr yr iaith Gernyweg, ac y mae 2,000 ohonynt yn hawlio eu bod yn rhugl, yn ôl arolwg a gomisiynwyd gan brosiect Strategaeth Iaith Cernyweg yn 2008. Dywedodd 14% o boblogaeth Cernyw bod hunaniaeth Cernyweg gyda nhw ac mae 557 o bobl yn Lloegr a Chymru wedi dweud taw Cernyweg yw ei brif iaith, 464 yng Nghernyw a ‘r gweddill mewn mannau eraill. Ar ro’ch chi’n meddwl bod Cymraeg yn brwydro i oroesi!There are an estimated 3,000 speakers of Cornish, 2,000 of whom claim fluency, according to a survey commissioned by the Cornish Language Strategy project in 2008. 14% of the total population of Cornwall stated in the 2011 Census that they have Cornish national identity and 557 people in England and Wales declared Cornish as their main language: 464 in Cornwall, and the rest elsewhere. And you thought Welsh was fighting for survival!
Ond mae siaradwyr Cernyweg yn bositif. “Dyn ni’n brwydro ond mae gobaith gyda ni,” dywedodd Julie. Cornish speakers, though, are positive, “We struggle but we have hope,” says Julie.
Mae’r twrist yng Nghernyw yn dysgu bod Dolly Pentreath a bu farw yn Mousehole yn 1777 oedd y siaradwr Cernyweg monoglot olaf a bod yr iaith Cernyweg wedi marw yn y deunawfed ganrif a chafodd ei hadfywio ddechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd y diwygiad hwn wedi digwydd yn bennaf oherwydd gwaith Henry a Katherine Jenner a Robert Morton Nance a chafodd ei eni yng Nghaerdydd i rieni Cernyweg yn 1873. A.S.D. Smith (Caradar), Sais a dysgodd Cymraeg a daeth yn fardd Cymraeg oedd yn gymorth gyda’i lyfrau i ddysgwyr. The Cornish tourist learns that Dolly Pentreath who died in Mousehole in 1777 was the last monoglot Cornish speaker and that the Cornish language died in the eighteenth century to be revived again in the early twentieth century. This revival was mainly due to the work of Henry and Katherine Jenner and Robert Morton Nance who was born to Cornish parents in Cardiff in 1873. A.S.D. Smith (Caradar), an Englishman who learned Welsh and became a Welsh bard, also contributed to the turning of the tide with his books for learners.
Ond mae Julie yn egluro bod yna rhai sy’n credu na fu farw Cernyweg erioed. Roedd yr iaith yn aml ar wefusau’r pysgotwyr pan ro’n nhw rhifo eu dalfa. Ac mae rhai pobl fel Richard Gendall, arbenigwr yn yr iaith Gernyweg a bu farw yn 2017 yn 93 oed yn cofio clywed yr iaith o’u cyndadau. Dysgodd Richard yr iaith o’i fam-gu pan oedd e’n bedair oed. Mae Julie yn llawn gobaith am ddyfodol yr iaith. But Julie explains that there are those who believe that Cornish never really died. It was often on the lips of Cornish fishermen when counting their catch and there are those such as the Cornish poet and language enthusiast, Richard Gendall, who died in 2017 at the age of 93 who recalled hearing Cornish from their forebears. Richard learned Cornish from his grandmother when he was four. Julie is full of hope for Cornish’s future.
Beth yw’r rhesymau tu ôl i obeithiau Julie am ddyfodol Cernyweg? So what are the reasons behind Julie’s hopes for the future of Kernewek?
Yn ystod y flwyddyn 2000 cafodd Cernyweg ei hadnabod fel iaith leiafrifol yn yr Undeb Ewropeaidd a dros y ddau ddegawd diwethaf mae ymwybyddiaeth yn gyffredinol am fodolaeth yr iaith wedi tyfu. Mae arwyddion yn Gernyweg yn cynyddu yn ogystal â defnydd yr iaith ym myd busnes gyda’r iaith yn ymddangos weithiau ar faniau. In the year 2000 Cornish was recognised as a minority language by the EU and over the last two decades there has been a greater awareness generally of the existence of the language. Cornish signage is on the increase as is the use of Cornish in the business world with the language appearing occasionally on vans.
Mae blogiau a thrydarau yn cynnwys yr iaith Gernyweg ac mae darllediadau radio yn yr iaith. Mae Pellwolok an Gernewegva yn cynhyrchu fideos ar-lein yn yr iaith Gernyweg a lansiodd dau episod o’r sioe sgwrsio gyntaf, Jaqi ha Jerry yn Ionawr 2019.Blogs and tweets include Cornish language comments and there are radio broadcasts in the language. Pellwolok an Gernewegva produces on-line videos in the Cornish language and two pilot episodes of the first Cornish language TV chat show Jaqi ha Jerry were launched in January 2019.
Mae nifer y dysgwyr, gan gynnwys plant, wedi cynyddu yng Nghernyw a thu hwnt ac mae hyd yn oed yn bosibl dysgu Cernyweg yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae yna fwy o bobl sydd a chrap ar yr iaith nag oedd flynyddoedd yn ôl a chynnydd yn y rhai sydd â diddordeb mewn diwylliant a llenyddiaeth Cernyweg. The numbers of learners, including children, have increased in Cornwall and beyond and it’s even possible to learn Cornish in the House of Commons. There are more people with a smattering of the language than there were years ago and an increase in those with an interest in Cornish culture and literature.
Mae digon o lenyddiaeth ar gael i siaradwyr a dysgwyr o Gernyw eu mwynhau. Er enghraifft, mae Alan Kent, bardd, dramodydd a nofelydd wedi cynorthwyo hybu Eingl-Gernyweg gyda’i allbwn toreithiog. Ac mae Neil Kennedy, sy wedi bod yn flaenweithgar yn hybu Cernyweg am ddegawdau wedi cyfieithu llyfrau i blant yn Gernyweg. Mae Tim Saunders, sy’n byw yng Nghaerdydd yn un o’r beirdd blaenllaw yn ysgrifennu yn Gernyweg heddiw. Mae ei ferch y gantores, Gwenno, sy’n siarad Cernyweg yn rhugl wedi cynhyrchu albwm, Le Kov, yn Gernyweg yn gyfan gwbl. There is ample literature for Cornish speakers and learners to enjoy. For instance, Alan Kent, a Cornish poet, dramatist and novelist has helped promote Anglo-Cornish writing with his prolific output. And Neil Kennedy, proactive in promoting Cornish for decades has translated material for children into Cornish. Tim Saunders, based in Cardiff is one of the leading poets writing in the Cornish language today. His daughter the singer Gwenno, a fluent Cornish speaker, has released an album, Le Kov, entirely in Cornish.
Yn wahanol i'r ieithoedd Celtaidd eraill, ni chafodd y Beibl cyfan ei gyfieithu i Gernyweg ond cyhoeddwyd cyfieithiad o'r Testament Newydd gan Nicholas Williams yn 2002 ac ers 2016 mae'r Testament Newydd a'r Salmau wedi'u cyhoeddi gan y Gymdeithas Feiblaidd.Unlike the other Celtic languages, the whole Bible has never been translated into Cornish but a translation of the New Testament by Nicholas Williams was published in 2002 and since 2016 the New Testament and Psalms have been published by the Bible Society.
Fodd bynnag, mae ‘na rhai pethau gallai rhwystro dyfodol yr iaith a hynny yw’r anghytundeb rhwng siaradwyr ynglŷn ag yngau ac ynglŷn â sillafu’r iaith a pha fersiwn o’r iaith i ddefnyddio heddiw. However, there are things that can hinder the future development of the language and that is the disagreement among speakers on the pronunciation and spelling of the language and which version of the language to use today.
Mae tair fersiwn Gernyweg yn cael eu hybu ar hyn o bryd. There are three versions of Cornish being promoted and taught at present.
1) Unified Cornish. Mae hyn yn seiliedig ar Gernyweg pan roedd e’n ffynnu fel iaith fyw yn y bedwaredd ac yn y bymthegfed ganrif. Gosodwyd y sylfeini gan Henry Jenner (1848-1934), a chyhoeddwyd Handbook of the Cornish Language yn 1904, yn adeiladu ar waith Robert Morton Nance (1872-1959) a ysgrifennodd Cornish for All a chyhoeddwyd yn 1929 a Cornish-English Dictionary chyhoeddwyd yn 1938. Mae cymdeithas eu hun gan hyrwyddwyr y fersiwn hon Agan Tavas (Ein Hiaith).1) Unified Cornish. This is based on Cornish when it when it was prospering as a living language in the fourteenth and fifteenth centuries. The foundations were laid by Henry Jenner (1848-1934), who published Handbook of the Cornish Language in 1904, building upon the work of Robert Morton Nance (1872-1959) who wrote Cornish for All which was published in 1929 and Cornish-English Dictionary published in 1938. Advocates of this version have their own society Agan Tavas (Our Language).
2) Common Cornish. Yn y 1980au dyfeisiwyd system ddiwygiedig ar gyfer sillafu Cernyweg gan ddefnyddio model cyfrifiadurol. Roedd y system hon yn seiliedig ar ddull ffonemig yn bennaf oherwydd ymdrechion yr eigionegydd, Dr Ken George o Brifysgol Caerwysg. Galwyd yn wreiddiol Phonemic Cornish, ond bellach yn Gomin neu Kemmyn, Cernyweg, ac fe'i mabwysiadwyd gan Fwrdd yr Iaith Gernyweg fel y fersiwn "swyddogol" yn 1987.2) Common Cornish. In the 1980s a revised system for spelling Cornish was devised using a computer model. This system was based on a phonemic approach largely due to the efforts of the oceanographer, Dr Ken George of Exeter University. Originally called Phonemic Cornish, it is now known as Common or Kemmyn, Cornish, and was adopted by the Cornish Language Board as the "official" version in 1987.
3) Modern Cornish. Mae’r fersiwn hon yn mynd yn ôl i fwriad gwreiddiol Henry Jenner sef yn defnyddio’r Gernyweg oedd yn cael ei siarad yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r deunawfed ganrif pan roedd y fersiwn hon yn fyw yng Ngorllewin Cernyw. Mae Modern Cornish, neu Kernuak, yn cael ei galw Traditional Cornish weithiau, oherwydd bod y term modern braidd yn od am iaith yr honnir iddi farw tua dau gant o flynyddoedd yn ôl. Mae Cyngor Cernyweg ei hun gan y fersiwn hon. 3) Modern Cornish. This version is a return to Henry Jenner's original intention of basing Cornish on the period when it was last used in the Seventeenth and Eighteenth Centuries in West Cornwall. Modern Cornish, or Kernuak, is sometimes referred to as Traditional Cornish, as the term "Modern" is rather odd for a language which allegedly died out about two hundred years ago. This version has its own Cornish Language Council.
“Ni all unrhyw un ohonon ni wybod a oes y Gernyweg go iawn gyda ni. Rhaid i ni fod yn ostyngedig.”
Julie Tamblin
“None of us can know if we have the real Cornish. We must be humble.”
Julie Tamblin
CernywegCymraegSaesneg
Lowena dhughHelo Hello
AnowrHwyl fawrGoodbye
Duw gena wheiBendith Duw arnat tiGod Bless you
Terebo nessaTan y tro nesaTill next time
Dha weles en sconGwela i ti yn fuanSee you soon
Nadelik LowenNadolig LlawenHappy Christmas

Dywediadau yn y Gernyweg / Cornish Sayings:

CernywegCymraegSaesneg
Den heb tavas, agollos y tirMae dyn heb iaith yn colli ei dirA man without a language loses his land
En hav per co gwavYn yr haf meddwl am y gaeafIn Summer think of Winter

Mae Julie yn cynnig gwely a brecwast yn ei thŷ hi am bris rhesymol / Julie offers reasonably priced bed and breakfast at her home:

learncornishincornwall.co.uk


Rhagor o wybodaeth / More information:

cornwall.gov.uk/cornishlanguage

cornwall.gov.uk/intelligence

agantavas.com

coe.int/minorities

moderncornish.net

cornwall.gov.uk/leisure-and-culture/the-cornish-language/cornish-language/cornish-language-office

biblesociety.org.uk/what-we-do/england-and-wales/projekt-an-bibel-kernewek

kw.wikipedia.org/wiki/Kernow

Ellis, Peter Berresford (1974)  The Cornish Language and its Literature, Routledge Kegan Paul, London Boston. 

Ellis, Peter Berresford (1998) The Story of the Cornish Language, Tor Mark Press, Truro.

Kennedy, N. & Kent, A.M. (2016) Cornish Solidarity: Using Culture to Strengthen Communities, Cathair na Mart: Evertype.

Kent, A.M. & Caeles, G. (2011) The Beast of Bodmin Moor: Best Goon Brèn, Cathair na Mart: Evertype.

Saunders, T. (2006)  Nothing Broken: Recent Poetry in Cornish, Francis Boutle, London.

Smith, A.S.D.  (Caradar) (1972) Cornish Simplified - Short Lessons for Self-Tuition: Punctuation/ Grammar/ Exercises  Dyllansow Truran, Redruth.

Weatherhill, Craig (2018) The Promontory People, Francis Boutle, London.

CD Crowdy Crawn, a collection of songs and prose in the Cornish Language, Brenda Wooton and Richard Gendall.

CD Le Kov – Solo album in Cornish by Gwenno Saunders.

Dosbarthiadau / Classes:

kernewegva.com/deskikernowek.html

moderncornish.net/notes_for_beginners.html

saysomethingin.com/cornish/course1/intro

Lynda Pritchard Newcome- A Taste of Cornish 2

CornwallKernowMappa


Lynda Newcombe- Speak Welsh Outside Class

Lynda Newcombe Hanes y Wlpan

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol