David Callander Gwenffrewi Capel Gwenffrewi

David Callander: Dilyn Ôl-Traed Gwenffrewi – Golygu’r Seintiau / After Winefride – Editing the Saints

Mae Cymru’n arbennig o gyfoethog o ran ei seintiau; ceir toreth o enwau lleoedd yn llawn sancteiddrwydd ym mhob rhan o fap Cymru. Ac mae’r seintiau wedi dylanwadu’n fawr ar lenyddiaeth hefyd, yn yr Oesoedd Canol ac mewn cyfnodau mwy modern. Roedd traddodiadau’r seintiau yn ddylanwad pwysig ar ysgrifennwyr megis Saunders Lewis, er enghraifft. Dyma David Callander, ymchwilydd ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn ceisio ôl-rhain hanes un ohonynt…

Wales is particularly blessed with saints; any part of the map of Wales will yield an abundance of place-names brimming with sanctity. And the saints have had a major literary impact as well, both in the medieval period and in more modern times, where saints’ traditions were an important influence on writers like Saunders Lewis. Here David Callander, a researcher at Cambridge University, attempts to trace one of them…

Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Caergrawnt a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth yn creu golygiadau newydd o fucheddau Lladin canoloesol seintiau Cymru. Mae hyn yn dilyn prosiect arall i olygu’r bucheddau Cymraeg Canol. Rwy’n gweithio ar y prosiect Lladin fel ymchwiliwr ôl-ddoethurol.Currently, the University of Cambridge and the Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies at Aberystwyth are re-editing the medieval Latin lives of the Welsh saints, following a project to edit the Lives written in Medieval Welsh. I am a post-doctoral researcher on the Latin project.
Roedd bucheddau’r seintiau (mae buchedd yn air arbennig am hanes bywyd sant) yn genre hynod boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Yn aml, cawsant eu cyfansoddi er mwyn cryfhau hawliau a breintiau eglwysi penodol.Saints’ lives were a very popular genre of literature in the Middle Ages, often being composed to support the claims of churches to particular lands or privileges.
Un o’r pethau gorau am weithio i brosiect Vitae Sanctorum Cambriae yw cael y cyfle i olygu bucheddau Lladin Gwenffrewi. Dyma santes sy’n croesi ffiniau, fel mae ei henw Saesneg, Winefride, yn tystio.One of the best things about working for the Vitae Sanctorum Cambriae has been having the chance to edit the Latin lives of the border-crossing saint Winefride/Gwenffrewi.
Pwy oedd Gwenffrewi?Who was Winefride?
Cyflwynir Gwenffrewi fel santes o’r seithfed ganrif a oedd yn byw yn ardal Treffynnon, bellach yn Sir y Fflint. Serch hynny, mae’r dystiolaeth am seintiau Cymru fel arfer yn llawer diweddarach na chyfnod eu bywydau, ac felly nid yw’r hanes a roir yn ddibynadwy. Yn wir, does dim llawer o dystiolaeth o gwbl am gwlt Gwenffrewi cyn y 12fed ganrif.Winefride is presented as a seventh-century saint, living in what is now Flintshire in the area of Holywell. However, as with most Welsh saints, the sources for her are much later than the time when she was alive, and so are not reliable evidence for the period of her life. Indeed, there is very little evidence for the cult of Winefride before the twelfth century.
Yn hanner cyntaf y ganrif honno, cyfansoddwyd dwy fuchedd Ladin Gwenffrewi. Mae un ohonynt yn fer a dienw, ac yn cynnwys rhestr hirfaith o wyrthiau a gyflawnwyd o gwmpas Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon. Mae’r llall yn llawer hwy ac yn gynnyrch Robert, brior amleiriog abaty Amwythig. Cyfansoddodd ef y fuchedd rhwng 1138 a 1142. Gwenffrewi yw’r unig un o santesau Cymru sydd â dwy fuchedd ganoloesol.In the first half of that century, two Latin lives of Winefride were composed. One is short, anonymous, and contains a long list of miracles at Winefride’s Well at Holywell. The other is far longer, and was composed by the verbose Robert, prior of Shrewsbury, between 1138 and 1142. Winefride is the only Welsh female saint to have two medieval Lives.
Mae’r fuchedd gan Robert Amwythig yn arbennig o ddiddorol, gan ei bod yn cynnwys disgrifiad o fel yr aeth Robert ac eraill i fedd Gwenffrewi yng Ngwytherin (bellach yn Sir Conwy) tua’r flwyddyn 1137. Wedi datgladdu eu hesgyrn, aethant yn ôl i Amwythig gyda nhw, er gwaethaf cryn wrthwynebiad gan bobl leol. Mae’r nofel A Morbid Taste for Bones gan Ellis Peters (gyda’r Brawd Cadfael yn serennu) yn addasiad modern enwog o’r digwyddiadau hyn.Robert’s Life is especially interesting, as it contains an account of how Robert and others went to Winefride’s burial place at Gwytherin (in Conwy) in around 1137 and dug her bones up and took them back with them to Shrewsbury, despite considerable local opposition. A prominent modern adaptation of this is the Brother Cadfael novel A Morbid Taste for Bones by Ellis Peters.
Cyfieithwyd buchedd Robert i Gymraeg Canol a Saesneg Canol, a’i haddasu ar gyfer y gwahanol gynulleidfaoedd, erbyn y 15fed ganrif fan pellaf. Mae nifer o fanylion yn wahanol yn y ddwy fuchedd, ond maen nhw’n adrodd yr un stori yn y bôn. Mae’n debyg i’r ddwy fuchedd dynnu ar fuchedd Ladin goll sant Beuno (mae ei fuchedd Cymraeg Canol ar glawr), a oedd yn cynnwys Gwenffrewi fel cymeriad.Robert of Shrewsbury’s Life was also translated and adapted into Medieval Welsh and Medieval English, and adapted to suit various audiences, by the fifteenth century at the latest. The Lives differ in many details but tell the same basic story, and probably both drew upon a lost Latin Life of Beuno, in which Winefride featured as a character.
Stori GwenffrewiWinefride’s Story
A hithau’n blentyn, mae Gwenffrewi’n cael ei dysgu gan Feuno (sant pwysig yng ngogledd Cymru), ac yn penderfynu dilyn y bywyd crefyddol. Un diwrnod, tra bo’i rhieni hi’n gwrando ar yr offeren, dyma Garadog, fab i frenin, yn dod i dŷ Gwenffrewi ac yn mynnu ei phriodi. Mae Gwenffrewi’n llwyddo i ddianc ac yn rhedeg i’r eglwys sy’n agos i’w thŷ. Ond, ar ôl sylweddoli bod Gwenffrewi wedi rhedeg i ffwrdd, mae Caradog yn rhuthro ar ei hôl ar gefn ceffyl. Wrth iddi bron â chyrraed trothwy’r eglwys, mae Caradog yn dal lan gyda hi ac yn torri ei phen.As a child, Winefride is taught by St Beuno (a major saint in North Wales), and decides to follow the holy life. One day, while her parents are at Mass, Caradog, the son of a king, comes to Winefride’s house and demands to marry her. Winefride manages to escape and runs to the church by her house, but Caradog realises she has run away, and charges after her on horseback. Just as she is about to reach the church, Caradog cuts off her head.
Ar yr un pryd â hyn roedd sant Beuno yn yr eglwys yn dweud yr offeren. Daeth tu allan a thoddi Caradog yn y man a’r lle. Gan godi pen a chorff Gwenffrewi, mae’n erfyn ar i Dduw ei hatgyfodi, ac mae Duw yn cyflawni hyn.St Beuno is saying Mass at the church at the same time. He comes outside and melts Caradog into the ground. Picking up Winefride’s body and head, he prays for God to resurrect her, which God does.
Wedi hyn, mae Gwenffrewi’n byw bywyd sanctaidd fel lleian. Yn y fuchedd ddienw, mae hi’n mynd i Rufain ar bererindod. Ym muchedd Robert, mae hi’n mynd ymhellach i mewn i Gymru, gan fynd heibio i Fodfari a Henllan cyn ei marw ar ôl cyfnod hwy yng Ngwytherin. Mae’r ddwy fuchedd yn cytuno iddi farw yng Ngwytherin.After this, Winefride leads a holy life as a nun. In the anonymous Life, she goes on pilgrimage to Rome. In Robert’s Life, she heads deeper into Wales, going through Bodfari and Henllan before dying at Gwytherin, where she also dies in the anonymous Life.

David Callander Gwenffrewi Map

Map o leoedd pwysig ym mucheddau Gwenffrewi.Map of significant places in Winefride’s lives.
Barnais ei fod yn hen bryd imi fynd fy hunan a chymryd cipolwg ar y safleoedd a gysylltir gyda Gwenffrewi. (Yn anffodus, doedd dim modd i mi gyrraedd Rhufain, ond euthum heibio’r Rhyl ar y ffordd nôl.)I decided it was high time for me to take a look at the sites associated with Winefride for myself. (Sadly I didn’t manage to make it to Rome, but I did pop by Rhyl on the way back).
Dilyn Ôl-Traed GwenffrewiIn Winefride’s Footsteps
TreffynnonHolywell
Rhedodd o’r ddaear hoywdeg,
Rho Duw o chwŷl, rhadau chweg.
Cywydd dienw i ffynnon GwenffrewiAnonymous cywydd to Winefride’s well

David Callander Gwenffrewi Treffynnon

Dyma’r brif safle yng nghwlt Gwenffrewi, yn awr ac yn yr Oesoedd Canol. Llwyddodd i oroesi’r diwygiad Protestannaidd ac yn wir ffynnu hyd y dydd heddiw. This is the main site of devotion to Winefride, both now and in the Middle Ages. It survived the Reformation and somehow managed to thrive up to the modern day.
Roedd cyflenwad anferth o ddŵr yn arfer dod i mewn i’r ffynnon o ffynhonnell naturiol, ond cafodd hyn ei symud gan waith diwydiannol yn y cyfnod modern, ac mae’r dŵr bellach yn dod o ffynhonnell gyhoeddus. Lleolir y gysegr ar lethr y bryn. Ym muchedd Robert Amwythig, mae pen Gwenffrewi’n rholio lawr y bryn i mewn i’r eglwys, gan beri cryn arswyd i’r plwyfolion. The well used to be supplied with a huge amount of water from a natural source, but this was disturbed by industrial work in modern times, and the water now comes from a public source. The shrine is situated on a slope. In Robert’s Life, Winefride’s head actually rolls down the hill into the church, to the horror of the parishoners.

David Callander Gwenffrewi Capel Gwenffrewi

Yn syth uwchben y ffynnon mae’r capel canoloesol a gysegrir i Wenffrewi yn goroesi.Immediately above the well survives the medieval chapel dedicated to Winefride.

David Callander Gwenffrewi Capel Gwenffrewi

Capel GwenffrewiWinefride’s Chapel
Cyflawnwyd llawer o waith adeiladu ar y safle hon tua diwedd yr Oesoedd Canol gan Thomas Pennant, abad abaty Dinas Basing gerllaw (sy’n werth ei weld hefyd!). Dathlwyd hyn gan y beirdd, gan gynnwys Tudur Aled, a ganodd gywydd i Wenffrewi a’i ffynnon.There was much work undertaken at this site at the close of the Middle Ages by Thomas Pennant, abbot of the nearby Basingwerk Abbey (also worth a visit!) This was celebrated by a number of Welsh poets of the time, including Tudur Aled, who composed a cywydd to Gwenfrewy and her well.
BodfariBodfari
Dyma oedd arhosfan gyntaf Gwenffrewi ar ei thaith, yn ôl buchedd Robert.This is Winefride’s first stop on the journey, according to Robert’s Life.

David Callander Gwenffrewi Bodfari

Mae Gwenffrewi’n cael ei chyfarwyddo gan neges o’r nefoedd i gwrdd â Sant Diheufyr ym Mhodfari. Yn fuan wedyn, mae yntau’n cael gorchymyn gan Dduw i anfon Gwenffrewi ymlaen i Henllan. Arhosiad byr oedd Bodfari, felly.Winefride is told by a divine message to meet St Diheufyr at Bodfari. He is soon urged by a divine message to send Winefride to Henllan, so Bodfari was only a quick stop.
HenllanHenllan
Mae eglwys Henllan yn ddiddorol am fod ei thŵr (sydd bellach, ymddengys, yn stordy i ysgubau) ar wahân i gorff yr eglwys.The church at Henllan is interesting in that the tower (now seemingly used as an elaborate broom-cupboard) is separated from the body of the church.

David Callander Gwenffrewi Henllan

Yn Henllan, yn ôl Robert Amwythig, mae Gwenffrewi’n cwrdd â sant Sadwrn. Mae e’n ei derbyn hi’n garedig, ac eto nid yw’n gwastraffu dim amser cyn ei hanfon ymlaen i Wytherin.At Henllan, so Robert of Shrewsbury tells us, Winefride meets St Sadwrn, who apparently receives her in a kindly manner, although he wastes no time in sending her on to Gwytherin.
GwytherinGwytherin
Yng Ngwytherin, mae Gwenffrewi’n cwrdd â sant Eleri, ac yn hwyrach ymlaen yn gofalu am gwfaint o leianod. Fan hyn mae Gwenffrewi’n marw, am yr ail dro a’r tro olaf.At Gwytherin, Winefride meets St Eleri, and later leads a community of nuns. It is here that Winefride dies for the second and final time.

David Callander Gwenffrewi Gwytherin

Cerrig arysgrifenedig yng Ngwytherin (ceir arysgrif o’r chweched ganrif ar un ohonynt!)Inscribed Stones at Gwytherin (one contains a sixth-century inscription!)
Mae Robert yn cynnig rhagor o fanylion am Wytherin sy’n ymwneud â’i daith yno i gymryd esgyrn Gwenffrewi i ffwrdd. Mae’n nodi bod dwy fynwent yno: un ar gyfer y seintiau, ac un ar gyfer y rhai sy’n marw yn awr.Robert provides more details about Gwytherin from his travels there to take Winefride’s bones away. He notes that there were two cemeteries: one for saints, and one for those who die now.
Cae gwag yw un o’r rhain (mynwent y seintiau) bellach, ond tybir ei bod unwaith wedi cynnwys capel Gwenffrewi (a ddymchwelwyd yn y 18fed ganrif).One of these (the saints’ graveyard) is now an empty field, but is thought to have contained Winefride’s chapel (demolished in the eighteenth century).

David Callander Gwenffrewi Gwytherin

Gwytherin, heb os, oedd y lleoliad tawelaf ar y daith. Caewyd yr eglwys yn 2005. Wedi hyn, symudwyd ei thrysorau pwysicaf i Dreffynnon. Yn ôl y nodiadau Saesneg ar bwys y drws, mae hi bellach yn stiwdio ar gyfer priodasau. Efallai y dylwn fod wedi bennu’r daith yn Amwythig, ond ni allwn wneud hynny.Gwytherin was certainly the quietest of all the locations on the journey. The church itself closed in 2005. After this, its most important remaining artefacts were moved to Holywell. It is now a wedding studio. Perhaps I should have ended the pilgrimage by travelling to Shrewsbury but I could not bring myself to it.

Roedd bucheddau’r seintiau (mae buchedd yn air arbennig am hanes bywyd sant) yn genre hynod boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Yn aml, cawsant eu cyfansoddi er mwyn cryfhau hawliau a breintiau eglwysi penodol.

asnc.cam.ac.uk   Department_ASNC

wales.ac.uk/cy/YGanolfanGeltaidd/CyflwyniadGanolfan.aspx

 

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Addysgwyr yn Esbonio