Heiddwen Tomos Esgyrn

Heiddwen Tomos: Ysgrifennu’r nofel newydd / Writing the new novel: Esgyrn

Daeth y nofel Esgyrn yn ail yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Caerdydd 2018. Mae’r stori yn sôn am berthynas tad-cu a’i ddau ŵyr– Twm yn 16 oed a Berwyn yn iau, ac yma mae Heiddwen yn esbonio mwy…

The novel Esgyrn came second in the Daniel Owen Memorial Prize at the Cardiff Bay National Eisteddfod 2018. The story talks about the relationship between a grandfather and his two grandchildren- Twm who is 16 and Berwyn who is younger and in a wheelchair, and here Heiddwen explains more…

Mae Esgyrn yn nofel am berthyn. Hon yw fy ail nofel ac ar ôl ysgrifennu Dŵr yn yr Afon, a gafodd ei chyhoeddi yn 2017 gan Gomer, roedd rhaid mynd ati i ysgrifennu nofel newydd. Rwyf wrth fy modd yn clustfeinio a darllen pobol. Fel sbardun cychwynnol i’r nofel hon fe ges sgwrs gyda fy Nhad yng nghyfraith. Mae gan bob un ohonom ryw stori ddifyr a chornel o’r stori honno yw sail y nofel hon. (Ond, gwell peidio dweud gormod wrtho am hynny rhag ofn iddo fynnu ‘cut o’r profits…’).

Ysgrifennais y nofel mewn rhyw 3 mis gan ail ymweld â hi am gyfnod wedi hynny. Mae’r teip o gymeriadau sydd ynddi yn rhai rwy’n gyfarwydd iawn â nhw, er wrth gwrs mae modd pesgi ambell un a gwanhau ambell un arall. Rwy’n athrawes ers rhyw ugain mlynedd yn addysgu Drama a Saesneg, ac mae cael bod yng nghanol bwrlwm plant yn ysbrydoliaeth ynddo ei hunan.

Lleolwyd Esgyrn ar fferm, ac fel merch a gwraig i ffermwr mae iaith y tir yn rhan o’m hanian. Mae’r dafodiaith yn allweddol hefyd, gan ei bod yn rhoi llais go iawn i’r cymeriadau. Mae elfennau o’r nofel yn dywyll ac elfennau eraill yn ddoniol. Fel hynny rwy’n gweld bywyd.

Mae dau frawd yn dod i fyw gyda’i Tad cu, ac wrth i’r nofel ddatblygu maent yn dod i adnabod ei gilydd, yn yr un modd y down ninnau i’w hadnabod nhw. Mae’r brawd lleiaf, Berwyn mewn cadair olwyn ac yn methu gwneud dim dros ei hunan. Yn y cyfnod pan ysgrifennais Esgyrn roeddwn ynghlwm wrth ail ddrafftio Milwr yn y Meddwl, ac roedd y prif gymeriad yno mewn cadair olwyn hefyd. Roedd hyn o safbwynt datblygu cymeriad yn newid pob dim. Mae rhyw ddibyniaeth a thristwch imi wrth gymharu’r cymeriad cyn ac ar ôl dyfodiad y gadair olwyn.

Mae brawd fy nhad, Wncwl Handel, hefyd mewn cadair olwyn ac yn cael ei fwydo a’i newid gan eraill ers ei eni. Llynedd, fel teulu fe ddathlon ei ben blwydd yn 60 oed. Mae’n siŵr bod hyn yn yr is ymwybod yn rhywle wedi dylanwadu ar gymeriad Berwyn.

Pam yr enw Esgyrn? Mae esgyrn yn torri, fel rhai Berwyn, mae esgyrn hefyd yn bethau sy’n parhau yn y pridd wedi i’r cnawd bydru. Mae esgyrn yn symbol o farwolaeth a chyfrinachau. Pydri mae’r cnawd ond yn aml mae esgyrn yn aros. Mae elfennau o hynny mewn sawl cymeriad. Mae perthynas ambell un yn pydru, ond mae dal asgwrn y berthynas ar ôl.

Fe ddaeth y nofel hon yn ail am y Gwobr Goffa Daniel Owen 2018. Tri beirniad oedd wrthi yn tafoli; roedd dwy wedi ei mwynhau yn fawr. Rwy’n mawr obeithio bydd y darllenwyr yn feirniaid teg ac yn ei mwynhau hefyd.

Mae gan bob un ohonom ryw stori ddifyr a chornel o’r stori honno yw sail y nofel hon.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Mae Esgyrn yn nofel am berthyn. Hon yw fy ail nofel ac ar ôl ysgrifennu Dŵr yn yr Afon, a gafodd ei chyhoeddi yn 2017 gan Gomer, roedd rhaid mynd ati i ysgrifennu nofel newydd. Rwyf wrth fy modd yn clustfeinio a darllen pobol. Fel sbardun cychwynnol i’r nofel hon fe ges sgwrs gyda fy Nhad yng nghyfraith. Mae gan bob un ohonom ryw stori ddifyr a chornel o’r stori honno yw sail y nofel hon. (Ond, gwell peidio dweud gormod wrtho am hynny rhag ofn iddo fynnu ‘cut o’r profits...’)Esgyrn (Bones) is a novel about belonging. It is my second novel and after writing Dŵr yn yr Afon (Water in the river), which was published by Gomer in 2017, I set about writing a new novel. I am in my element eavesdropping on people and reading them. The initial stimulus for this novel came from a conversation with my father-in-law. Every one of us has some interesting story to tell, and part of his story is the foundation of this novel. (But, better not say too much about this just in case he wants a cut of the profits.)
Ysgrifennais y nofel mewn rhyw 3 mis gan ail ymweld â hi am gyfnod wedi hynny. Mae’r teip o gymeriadau sydd ynddi yn rhai rwy’n gyfarwydd iawn â nhw, er wrth gwrs mae modd pesgi ambell un a gwanhau ambell un arall. Rwy’n athrawes ers rhyw ugain mlynedd yn addysgu Drama a Saesneg, ac mae cael bod yng nghanol bwrlwm plant yn ysbrydoliaeth ynddo ei hunan. I wrote the novel in three months, revisiting it for a time after that. The kind of characters in it are ones that I am very familiar with, although some are fattened up while others are slimmed down. I have been a teacher for some twenty years, teaching Drama and English, and being in the middle of children's hurly-burly is inspiration in itself.
Lleolwyd Esgyrn ar fferm, ac fel merch a gwraig i ffermwr mae iaith y tir yn rhan o’m hanian. Mae’r dafodiaith yn allweddol hefyd, gan ei bod yn rhoi llais go iawn i’r cymeriadau. Mae elfennau o’r nofel yn dywyll ac elfennau eraill yn ddoniol. Fel hynny rwy’n gweld bywyd. Esgyrn is set on a farm, and as the daughter and wife of a farmer the language of the soil comes naturally to me. The dialect is a key element too, as it gives a proper voice to the characters. Some elements of the novel are dark and others are humorous. That is how I see life.
Mae dau frawd yn dod i fyw gyda’i Tad cu, ac wrth i’r nofel ddatblygu maent yn dod i adnabod ei gilydd, yn yr un modd y down ninnau i’w hadnabod nhw. Mae’r brawd lleiaf, Berwyn mewn cadair olwyn ac yn methu gwneud dim dros ei hunan. Yn y cyfnod pan ysgrifennais Esgyrn roeddwn ynghlwm wrth ail ddrafftio Milwr yn y Meddwl, ac roedd y prif gymeriad yno mewn cadair olwyn hefyd. Roedd hyn o safbwynt datblygu cymeriad yn newid pob dim. Mae rhyw ddibyniaeth a thristwch imi wrth gymharu’r cymeriad cyn ac ar ôl dyfodiad y gadair olwyn.Two brothers come to live with their grandfather, and as the novel un-folds they get to know one another, in the same way we get to know them. The younger brother, Berwyn, is in a wheelchair and can do nothing for himself. At the time when I wrote Esgyrn I was in the middle of redrafting 'Milwr yn y Meddwl', and the main character there was also in a wheelchair. From the point of view of developing a character this changed everything. For me there was some dependency and sadness comparing the character before and after the arrival of the wheelchair.
Mae brawd fy nhad, Wncwl Handel, hefyd mewn cadair olwyn ac yn cael ei fwydo a’i newid gan eraill ers ei eni. Llynedd, fel teulu fe ddathlon ei ben blwydd yn 60 oed. Mae’n siŵr bod hyn yn yr is ymwybod yn rhywle wedi dylanwadu ar gymeriad Berwyn. My father's brother, Uncle Handel, is also in a wheelchair and has been dependent on others since birth. Last year as a family we celebrated his 60th birthday. I am sure that this was somewhere in my subconscious influencing the character of Berwyn.
Pam yr enw Esgyrn? Mae esgyrn yn torri, fel rhai Berwyn, mae esgyrn hefyd yn bethau sy’n parhau yn y pridd wedi i’r cnawd bydru. Mae esgyrn yn symbol o farwolaeth a chyfrinachau. Pydri mae’r cnawd ond yn aml mae esgyrn yn aros. Mae elfennau o hynny mewn sawl cymeriad. Mae perthynas ambell un yn pydru, ond mae dal asgwrn y berthynas ar ôl.Why the name Esgryn? Bones break, like Berwyn's, bones are also things that survive in the soil after the flesh decays. Bones symbolise death and secrets. The flesh decays but often the bones remain. There are elements of this in many characters. Some relationships may decay, but the bones of the relationship are left behind.
Fe ddaeth y nofel hon yn ail am y Gwobr Goffa Daniel Owen 2018. Tri beirniad oedd wrthi yn tafoli; roedd dwy wedi ei mwynhau yn fawr. Rwy’n mawr obeithio bydd y darllenwyr yn feirniaid teg ac yn ei mwynhau hefyd.The novel was runner-up for the Daniel Owen Memorial Prize in 2018. It was judged by three judges; two had enjoyed it greatly. I am very much hoping that the readers will be fair judges and enjoy it too.

ylolfa.com/cynnyrch/9781784616656/esgyrn / HeiddwenT

Heiddwen Tomos Esgyrn

 

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Awduron: Sut a Pham Ysgrifennais